Bwletin y Pennaeth - 17/11/2026 - The Head's Bulletin
[SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION]

PAWB
ANGEN GWEITHREDU - ATGOF
Bore Gwirfoddoli yn yr Ardal Awyr Agored
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i wella ein hardal awyr agored ar ddydd Iau, 19 Tachwedd 2026, rhwng 9:45yb a 11:45yb. Fel rhan o'n prosiect Cadw Cymru'n Daclus, byddwn yn plannu ac yn datblygu'r ardal er mwyn creu amgylchedd mwy deniadol a chyfeillgar i bawb ei fwynhau. Byddem yn croesawu unrhyw gymorth, boed am y sesiwn gyfan neu ran ohoni. Os oes gennych ferfa olwynion y gallech ei benthyg ar gyfer y bore, byddai hynny'n help mawr wrth symud pridd a phlanhigion yn ystod y sesiwn.
Plis llenwch y ffurflen i adael i ni wybod os fedrwch chi helpu: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSfowDU6zjfwexZnTL3POxRQqelZpJ1vpwbRiYkHHXX7Hy59Yw/viewform
Os oes gennych unrhyw hen offer garddio nad ydych eu hangen mwyach, mae croeso i chi eu dod gyda chi er mwyn iddynt gael eu hailgylchu neu eu rhoi i ddefnydd da.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth wrth ein helpu i wella ein hardal awyr agored a chefnogi ein gwaith gyda phrosiect Cadw Cymru'n Daclus. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno!

PAWB
GWYBODAETH YN UNIG
Plant Mewn Angen 2026
Diolch enfawr i bawb a gefnogodd ein digwyddiad codi arian 'Pyjamas' ar gyfer Plant Mewn Angen! Diolch i'ch haelioni gwych, codwyd swm anhygoel o £291.21 ar gyfer Children in Need. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o blant yn cymryd rhan, yn mwynhau diwrnod cysurus yn eu pyjamas, ac yn helpu i gefnogi achos mor bwysig. Diolch yn fawr iawn i'n holl deuluoedd am eich haelioni a'ch cefnogaeth barhaus!

PAWB
GWYBODAETH YN UNIG
Wythnos Gwrth-fwlio – ‘Torri’r Distawrwydd’
Ddoe, dechreuon ni ein gweithgareddau i nodi Wythnos Gwrth-fwlio, gyda thema eleni, ‘Torri’r Distawrwydd’, wrth wraidd ein gwaith. Trwy gydol yr wythnos, rydym yn annog ein plant i feddwl yn ofalus am yr hyn y mae’n ei olygu i siarad allan, i gefnogi ei gilydd, ac i gydnabod na ddylai neb byth deimlo bod rhaid iddynt ddelio â bwlio, angharedigrwydd neu bryderon ar eu pen eu hunain.
Dechreuodd ein gwaith ddoe drwy gyflwyno’r thema a chael sgyrsiau am pam y gall fod yn anodd weithiau i siarad pan fydd rhywbeth o’i le. I blant, nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth rywun am rywbeth sydd wedi digwydd. Efallai y byddant yn poeni am yr hyn a fydd yn digwydd nesaf, yn meddwl tybed a yw eu pryder yn ddigon pwysig i’w rannu, neu’n ansicr pwy y dylent droi atynt. Yr wythnos hon, rydym yn atgyfnerthu neges syml iawn: os yw rhywbeth yn eich poeni, yn eich cynhyrfu neu’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.
Rydym am i bob plentyn ddeall bod eu llais yn cyfrif a bod pobl yn gwrando arnynt. Trwy gydol Wythnos Gwrth-fwlio, byddwn yn parhau i siarad am yr oedolion y gallwn ymddiried ynddynt o’n cwmpas – yn yr ysgol ac yn y cartref – ac yn atgoffa plant bod gofyn am gymorth yn beth cadarnhaol a dewr i’w wneud.
Rhan bwysig o ‘Torri’r Distawrwydd’ yw helpu plant i ddeall y gwahaniaeth rhwng ‘chwipio chwedlau’ (cyhuddo eraill yn ddiangen) a siarad allan oherwydd bod angen cymorth ar rywun. Rydym am i blant deimlo’n hyderus wrth ddweud wrth oedolyn pan fydd rhywbeth wedi digwydd iddynt hwy, ond hefyd pan fyddant yn gweld rhywbeth yn digwydd i rywun arall. Mae gofalu am ein gilydd yn golygu sylwi pan nad yw pethau’n iawn, a chael yr hyder i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Wrth gwrs, dim ond un rhan o’r neges yw siarad allan. Mae ‘Torri’r Distawrwydd’ hefyd yn gofyn i ni feddwl sut rydym yn ymateb pan fydd rhywun yn dewis dweud rhywbeth wrthym. Mae gwrando’n ofalus, cymryd pryderon o ddifrif, a dangos caredigrwydd i gyd yn helpu i greu amgylchedd lle mae plant yn teimlo’n ddigon diogel i siarad.
Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn adeiladu ar y gwaith rydym yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo caredigrwydd, parch a pherthnasoedd cadarnhaol ar draws ein cymuned ysgol. Mae'r wythnos yn rhoi cyfle i ni roi'r negeseuon pwysig hyn yn y canolbwynt, ac i atgoffa pob plentyn bod ganddynt rôl i'w chwarae wrth wneud ein hysgol yn lle diogel a chroesawgar i bawb.
Byddem yn annog teuluoedd i barhau â'r sgyrsiau hyn gartref yr wythnos hon hefyd. Gall gofyn i blant â phwy y byddent yn siarad pe bai rhywbeth yn eu poeni, neu drafod beth y gallent ei wneud pe baent yn gweld rhywun arall yn cael ei drin yn angharedig, helpu i atgyfnerthu'r hyn rydym yn ei drafod yn yr ysgol.
Wrth i ni barhau â'n gweithgareddau yn ystod yr wythnos, mae ein neges yn parhau i fod yn glir: nid oes rhaid i chi aros yn ddistaw. Siaradwch, gofynnwch am gymorth a gofalwch am eich gilydd. Gyda'n gilydd, gallwn 'Torri'r Distawrwydd'.

PAWB
ANGEN GWEITHREDU CHWIM
Digwyddiadau'r Nadolig – Peidiwch ag Anghofio!
Dim ond nodyn atgoffa i gwblhau eich archebion a'ch taliadau ar gyfer y Nadolig drwy ParentPay.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer sioe'r Nadolig, partïon pysgod a sglodion i Flwyddyn 4–6, a'r pantomeim i Flwyddyn 2–6.
Y dyddiad cau yw'r 29ain o Dachwedd; ar ôl y dyddiad hwn, byddwn yn rhyddhau tocynnau i deuluoedd eraill eu prynu.
Edrychwch hefyd ar galendr y Nadolig fel na fyddwch yn colli unrhyw un o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn ystod cyfnod y Nadolig.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu'r Nadolig gyda'n gilydd!

Cysylltiadau pwysig a all fod o ddefnydd i chi:
Samaritans: 116 123 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Wales Domestic Abuse Helpline: 0808 80 10 800 (8.00am-2.00pm & 8.00pm-2.00am pob dydd / every day).
Mind Cymru: 0300 123 3393
Childline: 0800 1111 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Women’s Aid: 01495 742061 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Eastern Valley Food Bank: 01495 760605
EVERYONE
ACTION REQUIRED - REMINDER
Outdoor Area Volunteer Morning
We are looking for volunteers to help improve our outdoor area on Thursday 19 November 2026, from 9:45am to 11:45am. As part of our Keep Wales Tidy project, we will be planting and developing the area to create a more attractive and welcoming environment for everyone to enjoy. We would welcome any help, whether for the whole session or just part of it. If you have a wheelbarrow that you could lend for the morning, it would be a great help with moving soil and plants during the session.
Please fill this form to let us know if you can help: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSfowDU6zjfwexZnTL3POxRQqelZpJ1vpwbRiYkHHXX7Hy59Yw/viewform
If you have any old gardening tools that you no longer need, please feel free to bring them along so they can be recycled or put to good use.
Thank you for your support in helping us improve our outdoor area and support our Keep Wales Tidy project. We look forward to seeing you there!

EVERYONE
INFORMATION ONLY
Children in Need 2026
A huge thank you to everyone who supported our Children in Need Pyjama Fundraiser! Thanks to your fantastic generosity, we raised an amazing £291.21 for Children in Need. It was lovely to see so many children joining in, enjoying a cosy day in their pyjamas and helping to support such an important cause. Diolch yn fawr iawn to all our families for your continued generosity and support!

EVERYONE
IMPORTANT INFORMATION
Anti-Bullying Week – ‘Break the Silence’
Yesterday, we began our activities to mark Anti-Bullying Week, with this year’s theme, ‘Break the Silence’, at the heart of our work. Throughout the week, we are encouraging our children to think carefully about what it means to speak out, to support one another and to recognise that nobody should ever feel that they have to deal with bullying, unkindness or worries on their own.
Our work began on yesterday by introducing the theme and having conversations about why it can sometimes be difficult to speak up when something is wrong. For children, telling somebody about something that has happened is not always easy. They may worry about what will happen next, wonder whether their concern is important enough to share, or be unsure about who they should approach. This week, we are reinforcing a very simple message: if something is worrying you, upsetting you or making you feel uncomfortable, speak to someone you trust.
We want every child to understand that their voice matters and that they will be listened to. Throughout Anti-Bullying Week, we will continue to talk about the trusted adults around us, both in school and at home, and remind children that asking for help is a positive and courageous thing to do.
An important part of ‘Break the Silence’ is also helping children to understand the difference between ‘telling tales’ and speaking up because somebody needs help. We want children to feel confident about telling an adult when something has happened to them, but also when they see something happening to somebody else. Looking after one another means recognising when something is not right and having the confidence to do something about it.
Of course, speaking out is only one part of the message. ‘Break the Silence’ also asks us to think about how we respond when somebody chooses to tell us something. Listening carefully, taking concerns seriously and showing kindness all help to create an environment in which children feel safe enough to talk.
Anti-Bullying Week builds upon the work we do throughout the year to promote kindness, respect and positive relationships across our school community. The week gives us an opportunity to bring these important messages to the forefront and to remind every child that they have a role to play in making our school a safe and welcoming place for everyone.
We would encourage families to continue these conversations at home this week too. Simply asking children who they would speak to if something was worrying them, or talking about what they might do if they saw somebody else being treated unkindly, can help reinforce what we are discussing in school.
As we continue our activities during the week, our message remains clear: you do not have to stay silent. Speak out, ask for help and look out for one another. Together, we can ‘Break the Silence’.

EVERYONE
IMMEDIATE ACTION REQUIRED
Christmas Events – Don’t Forget!
Just a reminder to complete your Christmas bookings and payments on ParentPay.
Bookings are currently open for Christmas show tickets, the Years 4–6 fish and chip parties, and the Years 2–6 pantomime.
The closing date is 29th of November, after this point we will be releasing tickets for ther families to purchase.
Please also check the Christmas calendar so you don’t miss any of the events taking place over the festive period.
We’re really looking forward to celebrating Christmas together!

Important contact details that could be of use to you:
Samaritans: 116 123 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Wales Domestic Abuse Helpline: 0808 80 10 800 (8.00am-2.00pm & 8.00pm-2.00am pob dydd / every day).
Mind Cymru: 0300 123 3393
Childline: 0800 1111 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Women’s Aid: 01495 742061 (24 awr y dydd / 24 hours a day)
Eastern Valley Food Bank: 01495 760605





Comments