top of page
IMG_2855.JPG

Y Cwricwlwm a Dysgu

The Curriculum and Learning

Cyflwyniad

Introduction

Ein bwriad yn Ysgol Panteg yw datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol ac felly byddwn yn dilyn egwyddorion dysgu ac addysgu fel y maent yn cael ei diffinio yn y ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a ‘Chwricwlwm i Gymru’. Byddwn yn cyflwyno cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol er mwyn datblygu’r disgyblion yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus. Sail y cwricwlwm yw datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd – Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Mae’r rhain yn gwau i mewn ac yn rhedeg ar draws meysydd y cwricwlwm - ein nod yn syml yw darparu cyfleoedd cyfoethog a bythgofiadwy er mwyn sbarduno dychymyg pob un plentyn, gyda’r parodrwydd i herio gyda syniadau a geirfa, a chyd-destunau atyniadol.


At Ysgol Panteg we aim to develop independent and confident learners. We follow the principles for learning and teaching as defined in the document ‘Successful Futures’ and ‘Curriculum for Wales’. The school offers a wide ranging, balanced, relevant and differentiated curriculum. The aim is to foster ambitious and capable learners, enterprising and creative contributors, ethical and informed citizens and healthy and confident individuals. The curriculum is based on the development of cross curricular skills - Literacy, Numeracy and Digital Competency. These skills are developed across the areas of learning from Nursery to Year 6. Our aim is to provide rich and memorable learning experiences which will ignite the imagination of every child, with the readiness to use challenging ideas and vocabulary, and attractive contexts for learning.

Welsh Flag.jpg

Yr Iaith Gymraeg

The Welsh Language

Mae Ysgol Panteg yn ysgol gynradd Gymraeg ddynodedig. Addysgir pob pwnc trwy gyfrwng Cymraeg ar wahân i Saesneg, a addysgir yng Nghyfnod Allweddol 2. Ni addysgir Saesneg yn y Cyfnod Sylfaen. Anogir pob plentyn i ddefnyddio'r Gymraeg ar bob amser tra ar safle’r ysgol ac o fanteisio ar bob cyfle i’w ddefnyddio yn y gymuned ehangach.


Ysgol Panteg is a designated Welsh medium primary school. All subjects are taught through the medium of Welsh apart from English, which is taught in Key Stage 2. English is not taught in the Foundation Phase. All children are encouraged to use the Welsh language at all times whilst in school and take advantage of speaking the language at every opportunity in the wider community.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Areas of Learning and Experience

Mae’r cwricwlwm ar gyfer plant o 3 i 16 oed yn gosod y paramedrau ar gyfer pob ‘Maes Dysgu a Phrofiad’. Y rhain yw:


· Celfyddydau mynegiannol

· Iechyd a lles

· Dyniaethau

· Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu

· Mathemateg a rhifedd

· Gwyddoniaeth a thechnoleg


Bydd pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cynnwys dimensiwn Cymreig, lle bo’n briodol, yn ogystal â phersbectif rhyngwladol a phersbectif y Deyrnas Unedig. Blynyddoedd cynnar plentyn sydd yn ffurfio sail ei ddatblygiad yn y dyfodol. Yn y blynyddoedd cynnar, hyn cawn y cyfle i ehangu agwedd yr holl blant tuag at ddysgu ac i roi cychwyn da iddynt ar eu taith i fod yn ‘ddysgwyr gydol oes’, sy’n allweddol at lwyddiant pob plentyn.

Byddwn yn dysgu’r holl fesydd dysgu drwy gyd-destunau dysgu traws-gwricwlwaidd.


The curriculum for children from the ages 3 to 16 years old, sets the parameters for each ‘Area of Learning and Experience’. These area are:

 

· Expressive arts

· Health and well-being

· Humanities

· Languages, literacy and communication

· Mathematics and numeracy

· Science and technology

 

Each ‘Area of Learning and Experience’ includes, where appropriate, a Welsh dimension as well as an international and UK perspective. The early years of a child’s life form the basis for their future development. It is during the early years that we have the opportunity to enhance each child’s disposition to learning and to start them on the road to being ‘lifelong learners’, which is key to success for all children. We teach the above areas through cross-curricular contexts.

Cyfathrebu Gwybodaeth ar Ddysgu

Communicating Information about Learning

Ar ddechrau pob tymor, byddwn yn eich hysbysu o'n cyd-destun ar gyfer dysgu a gweithgareddau am y cyfnod hwnnw. Os ewch chi ar wyliau neu os oes gennych chi ddathliad arbennig yn y teulu, peidiwch ag anghofio anfon ffotograffau neu arteffactau i'r ysgol. Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod beth mae'ch plentyn yn ei wneud y tu allan i'r ysgol.


At the beginning of each term, we will inform you of our context for learning and activities for that period. If you go on holidays or have a special celebration in the family, please don’t forget to send photographs or artefacts to school. We are interested to know what your child is doing outside school.

Gwaith Cartref 

Homework

Gofynnwn am gydweithrediad rhieni i sicrhau bod unrhyw waith cartref a osodir ar gyfer disgyblion yn cael ei gwblhau a'i drosglwyddo ar y diwrnod dynodedig. Anfonir cyfarwyddiadau llawn a chlir gydag unrhyw waith cartref a osodir er mwyn i rieni roi unrhyw gymorth angenrheidiol i ddisgyblion. Mae gwaith cartref yn amrywio yn dibynnu ar oedran y plant.


We ask for parental co-operation in ensuring that any homework set for pupils is completed and handed in on the day required. Full and clear instructions will be sent with any homework set in order that parents may give pupils any help necessary. Homework varies depending on the age of the children.

IMG_2861.JPG

Gweithdai Rhieni a Phlant

Parent and Child Workshops

Un o brif flaenoriaethau'r ysgol yw sicrhau cysylltiad cryf a diogel rhwng y cartref a'r ysgol. Yn ystod y flwyddyn academaidd, rydym yn cynnal sawl gweithdy sy'n ymwneud ag ystod eang o bynciau (er enghraifft: gwrth-fwlio, presenoldeb, e-ddiogelwch, dulliau darllen a rhifedd). Estynnwn groeso cynnes i bawb a disgwylir cynrychiolaeth gan bob teulu. Mae'r plant wrth eu boddau yn gweld eu rhieni yn yr ysgol ac yn eu hystafelloedd dosbarth!


One of the school’s main priorities is to ensure a strong and secure link between home and school. During the academic year, we hold several workshops relating to a wide range of school related subject matter (for example: anti-bullying, attendance, e-safety, approaches to reading and numeracy). We extend a warm welcome to everybody and expect to have representation from each family, the children thoroughly enjoy seeing parents in school and in their classrooms!

Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

Relationships and Sex Education

Mae deddfwriaeth ddiweddar yn nodi’n glir bod addysg rhyw briodol yn elfen bwysig mewn ysgolion gan fod ganddynt gyfrifoldeb clir i sicrhau bod disgyblion wedi'u paratoi'n iawn ar gyfer bod yn oedolion. Fe’u annogir i roi sylw dyledus i ystyriaeth foesol a gwerth bywyd teuluol (fel rhan o'r Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb). Bydd y Llywodraethwyr, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth, yn pennu dull gweithredu a pholisi cyffredinol ar gynnwys a threfn, ond sydd hefyd yn caniatáu rhyddid i athrawon arfer eu sgiliau proffesiynol wrth gyflawni'r cwricwlwm. Hysbysir rhieni am y cynnwys a gofynnir iddynt am ganiatâd i'w plentyn fynychu’r sesiynau. Bydd aelod benywaidd o staff yn bresennol gydag staff gwrywaidd er mwyn ymateb i unrhyw gwestiynau perthnasol allai godi gyda Blynyddoedd 5 a 6. Bydd yr Awdurdod Iechyd Lleol yn darparu rhywun â chymwysterau addas i siarad â'r merched hŷn ar gais. Gwelwch y Pennaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch yr agwedd yma o waith yr ysgol.

 

Recent legislation makes it clear that appropriate sex education is an important element in schools since they have a clear responsibility to ensure that pupils are properly prepared for adulthood. This will be done in such a manner that the pupils are encouraged to have due regard for moral consideration and the value of family life (as part of the Relationships and Sexuality Education Code). The Governors, in consultation with the Head teacher will determine the school’s over-all approach and general policy on content and organisation, but allow teachers freedom to exercise their professional skills in delivering the curriculum.  A female member of staff will attend to any problems that may arise with Year 5 or 6 pupils. The Local Health Authority will provide a suitably qualified person to talk to the older girls on request.  Please see the Head Teacher if you have any questions or concerns over this aspect of our work in school.

IMG_2882.JPG

Addysg Grefyddol a Gwasanaethau
Religious Education and Assemblies

Mae Addysg Grefyddol yn ofyniad statudol. Mae cynllun gwaith Addysg Grefyddol yr ysgol yn seiliedig ar ganllawiau’r Sir. Bydd y disgyblion yn astudio ac yn trafod amryw gredoau crefyddol yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Cynhelir amseroedd addoli ar y cŷd yn ddyddiol. Mae'r gwasanaethau yn Gristnogol eu natur. Mae gan rieni hawl i dynnu eu plentyn yn ôl o wersi a/neu wasanaethau Addysg Grefyddol. Cysylltwch â'r Pennaeth os ydych chi'n dymuno tynnu'ch plentyn yn ôl o'r gweithgareddau hyn.

 

Religious Education is a statutory requirement. The school’s Religious Education scheme of work is based on the County’s guidelines. The pupils will study and discuss various religious beliefs during their time in the school. A collective act of worship is held daily. The assemblies are broadly Christian in nature. Parents have the right to withdraw their child from Religious Education lessons and/or assemblies.

Gweithgareddau All-Gyrsiol

Extra-Curricular Activities

Trefnir clybiau ar ôl ysgol yn wythnosol - bydd gwybodaeth am glybiau gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd yn cael ei dosbarthu’n dymhorol.

 

After school clubs are organised on a weekly basis - information on clubs including dates and times will be distributed on a termly basis.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Additional Learning Needs

Mae cynllunio gofalus o gwricwlwm gwahaniaethol yn sicrhau bod pob disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gweddu orau i'w allu. Mae monitro cynnydd y disgyblion yn rheolaidd yn galluogi athrawon i gynllunio gweithgareddau priodol. Bydd gweithgareddau a gynlluniwyd yn cefnogi rhai disgyblion ac yn ymestyn eraill er mwyn i bawb gyflawni eu potensial llawn. Ar adegau, bydd rhai disgyblion yn wynebu problemau mwy sylweddol, lle bydd angen help ychwanegol. Os oes angen cymorth ychwanegol, bydd yr ysgol yn cysylltu â'r rhieni trwy alwad ffôn neu lythyr, gan eu gwahodd i drafod darpariaeth ychwanegol gyda'r pennaeth a chydlynydd yr ysgol (Mrs. K. Wulder / Miss Bethan Jones). 

 

The careful planning of a differentiated curriculum ensures that each pupil takes part in activities best suited to his/her ability. Regular monitoring of the pupils’ progress enables teachers to plan appropriate activities. Planned activities will support some pupils and will stretch others in order that all achieve their full potential. At times, some pupils will face more significant problems, where extra help will be required. If extra support is needed, the school will contact the parents by telephone call or letter, inviting them to discuss the provision of additional lessons with the head teacher and the co-ordinator (Mrs. K. Wulder / Miss Bethan Jones). 

Cyfraniadau Ariannol

Financial Contributions

Er mwyn cyfoethogi’r cwricwlwm ac ymestyn profiadau’r disgyblion, mae’r ysgol yn trefnu nifer o ymweliadau ac yn gwahodd ymwelwyr i’r ysgol. Bydd yr ysgol yn gofyn i rieni a gwarcheidwaid am gyfraniad tuag at gost unrhyw ymweliad neu ymwelydd. Nid yw'r ysgol yn gwneud elw wrth ofyn am gyfraniadau gan rieni a gwarcheidwaid. Os bydd unrhyw riant yn cael anhawster i wneud cyfraniad ariannol ni fydd y disgybl yn cael ei dynnu o'r gweithgaredd a drefnwyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys cyrsiau preswyl a gwersi offerynnol. Bydd unrhyw gyfarfod ariannol rhwng rhiant a Phrifathro yn cael ei ystyried yn gyfrinachol. Gellir defnyddio arian cronfa ysgol i sicrhau mynediad cyfartal i'r holl ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau. Fodd bynnag, os nad oes gan yr ysgol ddigon o arian i wneud cyfraniad digonol efallai y bydd yn rhaid gohirio'r gweithgaredd a gynlluniwyd.


In order to enrich the curriculum and to extend the pupils’ experiences the school organises a number of visits and invites visitors to the school. The school will ask parents and guardians for a contribution towards the cost of any visit or visitor. The school does not make a profit when asking for contributions from parents and guardians. If any parent has difficulty in making a financial contribution, the pupil will not be withdrawn from the activity arranged. However, this excludes residential courses and instrumental lessons. Any financial meeting between parent and Head teacher will be regarded as confidential. School fund money may be used to ensure equal access for all pupils to take part in activities. However, if the school has insufficient funds to make an adequate contribution the planned activity may have to be cancelled.

Gwersi Offerynnol

Instrumental Lessons

Cynigwn wersi offerynnol i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol Dau. Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim yna bydd gwersi ar gael am bris gostyngedig. Gallwn gynnig gwersi llinynnau, chwythbrennau a phres drwy ein partneriaeth gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent.


We offer instrumental lessons to all pupils in Key Stage Two. If you are eligible for Free School Meals then lessons will be available at a discounted rate. We can offer strings, Woodwind and brass lessons though our partnership with Gwent Music Service.

Ysgol Panteg, Heol Yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH
01495 762581
office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
www.ysgolpanteg.cymru

bottom of page