top of page
IMG_E2905.JPG

Hawliau Plant
Children's Rights

Mae gweledigaeth a gwerthoedd ein hysgol yn ganolog i bwysigrwydd trin ein gilydd fel y byddem am gael ein trin ein hunain, gyda pharch ac urddas, gan sicrhau bod pob person yn cael ei werthfawrogi. Dyma un o’r rhesymau pam mae gwaith UNICEF ac Ysgolion sy’n Parchu Hawliau mor arwyddocaol i ni. Rydym yn hynod falch o fod yn ysgol sy'n Parchu Hawliau ac o fod wedi cyrraedd y Gwobr Efydd Parchu Hawliau.

Our school's vision and values have at their heart the importance of treating each other as we would want to be treated ourselves, with respect and dignity, making sure that each person is valued. This is one of the reasons why the work of UNICEF and Rights Respecting Schools is so significant to us. We are incredibly proud to be a Rights Respecting school and of having achieved the Bronze Rights Respecting Award.

Beth yw Ysgol sy'n Parchu Hawliau?

What is a Rights Respecting School?

Mae Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DU (RRSA) yn seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb, urddas, parch, peidio â gwahaniaethu a chyfranogiad. Mae’r RRSA yn ceisio gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth galon ethos a diwylliant ysgol i wella llesiant a datblygu doniau a galluoedd pob plentyn i’w llawn botensial. Mae ysgol sy’n parchu hawliau yn gymuned lle mae hawliau plant yn cael eu dysgu, eu haddysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu hamddiffyn a’u hyrwyddo. Mae pobl ifanc a chymuned yr ysgol yn dysgu am hawliau plant trwy eu rhoi ar waith bob dydd. Teimlwn ei bod yn bwysig pan fydd plant yn dysgu am eu hawliau ei bod yn bwysig bod cysylltiadau dyfnach hefyd yn cael eu gwneud yn eu dealltwriaeth o natur hawliau.

The UNICEF UK Rights Respecting Schools Award (RRSA) is based on principles of equality, dignity, respect, non-discrimination and participation. The RRSA seeks to put the UN Convention on the Rights of the Child at the heart of a school’s ethos and culture to improve well-being and develop every child’s talents and abilities to their full potential. A rights-respecting school is a community where children’s rights are learned, taught, practised, respected, protected and promoted. Young people and the school community learn about children’s rights by putting them into practice every day. We feel it is important that when children learn about their rights it is important that deeper connections are also made in their understanding about the nature of rights.
 

Y Wyddor Hawliau | The Rights Alphabet

ABCDE of UNICEF Rights.png
Beth yw Hawliau'r Plentyn UNICEF?
What are the UNICEF Children's Rights?
Convention Poster (English).jpg

Dilynwch y linc canlynol i wefan Comisynydd Plant Cymru er mwyn gweld mwy o wybodaeth.

Follow this link to the website of Wales' Children Commissioner for more information.

Pedair Safon | Four Standards

Mae’n ofynnol i Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF y DU weithredu pedair safon sy’n seiliedig ar dystiolaeth:
-Mae gwerthoedd parchu hawliau yn sail i arweinyddiaeth a rheolaeth.
-Mae cymuned yr ysgol gyfan yn dysgu am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
-Mae gan yr ysgol ethos sy'n parchu hawliau.
-Plant yn cael eu grymuso i ddod yn ddinasyddion gweithgar ac yn ddysgwyr.

I gael gwybod mwy ewch i’r wefan hon: https://www.unicef.org.uk/rights-respecting-schools/

UNICEF UK Rights Respecting Schools are required to implement four evidence-based standards:
-Rights-respecting values underpin leadership and management.
-The whole school community learns about the UN Convention on the Rights of the Child.
-The school has a rights-respecting ethos.
-Children are empowered to become active citizens and learners.

To find out more visit this website: https://www.unicef.org.uk/rights-respecting-schools/

Ysgol Panteg, Heol Yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH
01495 762581
office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
www.ysgolpanteg.cymru

bottom of page