top of page
IMG_E2905.JPG

Cefnogaeth Teuluol

Family Support

Yn yr ysgol rydyn ni'n cynnig cefnogaeth i rieni gyda llawer o bethau gan gynnwys llenwi ffurflenni a mynediad at banciau bwyd. Rydyn ni'n cydweithio gyda 'Families First' er mwyn cefnogi teuluoedd. Cysylltwch gyda'r ysgol i drafod unrhyw pryderon sydd gennych a gwnawn ein gorau glas i'ch helpu.

At school we offer parents support in many ways including filling in forms and access to food banks. We work with Families First to support families. Please contact the school to discuss any concerns you may have and we will do our utmost to help.

Samaritans

Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn bobl gyffredin o bob cefndir sy’n deall bod yna weithiau bethau na allwch chi siarad amdanyn nhw gyda’r bobl o’ch cwmpas ac yn aml iawn, gyda pheth amser a gofod, bod pobl yn gallu dod o hyd i’w hateb eu hunain ynddynt eu hunain. Mae tua chwe chant o wirfoddolwyr y Samariaid ledled Cymru. Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn ymateb i alwadau am help bob dydd o'r wythnos dros y ffôn, e-bost, neges destun ac yn bersonol.

Samaritans volunteers are ordinary people from all walks of life who understand that there are sometimes things that you just cannot talk about to the people around you and that very often, with some time and space, people are able to find their own solution within themselves. There are around six hundred Samaritans volunteers across Wales. These volunteers respond to calls for help every day of the week via telephone, e-mail, text and in person.

Ffôn / Phone:  116 123

(24 awr y dydd / 24 hours a day)

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Live Fear Free Helpline

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau. Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

If you, a family member a friend, or someone you are concerned about  has experienced domestic abuse or sexual violence, you can contact the Live Fear Free Helpline 24 hours a day 7 days a week, for free advice and support or to talk through your options.

Get in touch with Live Fear Free advisors free of charge by phone, online chat, text or email.

Ffôn / Phone: 0808 80 10 800

(8.00am-2.00am & 8.00pm-2.00am pob dydd / every day)

Mind Cymru

Mae Mind Cymru yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Maent yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.

Mind Cymru provide advice and support to empower anyone experiencing a mental health problem. They campaign to improve services, raise awareness and promote understanding.

Ffôn / Phone:  0300 123 3393

(24 awr y dydd / 24 hours a day)

Childline

Mae Childline yma i helpu unrhyw un o dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw fater maen nhw’n mynd drwyddo. Gallwch chi siarad am unrhyw beth. P’un a yw’n rhywbeth mawr neu fach, mae cwnselwyr sydd wedi’u hyfforddi’n uwch yma i’ch cefnogi.

Childline is here to help anyone under 19 in the UK with any issue they’re going through. You can talk about anything. Whether it’s something big or small, htier trained counsellors are here to support you.

Ffôn / Phone: 0800 1111

(24 awr y dydd / 24 hours a day)

Cymorth i Fenywod Cyfannol

Cyfannol Women's Aid

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn elusen leol annibynnol sydd wedi’i lleoli ym Mhont-y-pŵl, y Fenni, Glynebwy a Chasnewydd, sy’n darparu gwasanaethau a chymorth ledled Gwent i bobl sy’n profi unrhyw fath o Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig neu Drais Rhywiol.

Cyfannol Women’s Aid is an independent local charity based in Pontypool, Abergavenny, Ebbw Vale and Newport, which provides services and support throughout Gwent to people experiencing any form of Violence Against Women, Domestic Abuse or Sexual Violence. 

Ffôn / Phone: 01495 742061

(24 awr y dydd / 24 hours a day)

Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol

Eastern Valley Foodbank

Mae’r banc bwyd yn brosiect a sefydlwyd gan eglwysi lleol a grwpiau cymunedol, yn gweithio gyda’i gilydd i atal newyn yn ein ardal leol.

The foodbank is a project founded by local churches and community groups, working together towards stopping hunger in our local area.

Ffôn / Phone: 01495 760605

Cefnogaeth Alcohol

Alcohol Support

There are many different agencies that support with alcohol dependency. Follow the link below to find out more.

Mae yna lawer o wahanol asiantaethau sy'n cefnogi dibyniaeth ar alcohol. Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy.

https://www.nhs.uk/live-well/alcohol-support/

Ysgol Panteg, Heol Yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH
01495 762581
office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
www.ysgolpanteg.cymru

bottom of page