top of page
IMG_E2886.JPG

Ein Blaenoriaethau Datblygu

Our Development Priorities

Blaenoriaeth 1

Priority 1

Datblygu Sgiliau Meddwl Critigol Plant trwy fewnoli Athroniaeth i Blant ar draws yr ysgol, mireinio ansawdd trafod, a datblygu sgiliau metawybyddol sy’n addas o ran cam nid oedran.

Develop Children’s Critical Thinking Skills by implementing Philosophy for Children across the school, refine the quality of discussion, and developing stage-appropriate metacognitive skills

Fel ysgol, rydym yn anelu at ragoriaeth. Rydym yn cydnabod ein bod ni wedi bod ar daith eleni at wireddu’r freuddwyd hon ond bod camau allweddol sydd nawr angen cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth. Mae datblygu meddwl critigol yn hanfodol at ddatblygu cymuned teuluol, caredig sy’n angerddol ac yn uchelgeisiol. Wrth cyflawni hunan-arfarniadau’r flwyddyn academaidd diwethaf, gwelsom ein fod angen ymhelaethu ar sgiliau meddwl disgyblion yn ogystal â sgiliau metawybyddol. Wrth ddatblygu’r medrau hyn ym mhob agwedd o’r cwricwlwm ac o fewn bywyd yr ysgol fe welwn disgyblion fwyfwy annibynnol ac hyderus. Mae meddwl yn feirniadol yn helpu plant a phobll i ddeall eu hunain yn well, eu cymhellion a'u nodau. Pan allwch chi ddiddwytho gwybodaeth i ddod o hyd i'r rhannau pwysicaf a'u cymhwyso i'ch bywyd, gallwch chi newid eich sefyllfa a hyrwyddo twf personol a hapusrwydd cyffredinol. Mewn oes pan fo gan bobl fwy o fynediad at wybodaeth nag erioed o'r blaen, mae meddylwyr beirniadol yn rhagori ar ymchwil ac yn dod o hyd i'r darnau pwysicaf o wybodaeth sy'n eu gwneud yn wybodus am unrhyw bwnc penodol. Mae gan feddylwyr critigol y gallu cynhenid ​​​​i weld heriau o sawl safbwynt. Mae’r nodweddion hyn yn holl bwysig ym mywyd personol, rhyng-bersonol, y gymuned a bywyd gwaith y dyfodol.

 

As a school, we aim for excellence. We recognize that we have been on a journey this year to make this dream come true but that there are key steps that now need to be taken in order to reach our vision. Developing critical thinking is essential to developing as a kind community and as the reality of a school family that is fired-up and ambitious. When carrying out the self-evaluations of the last academic year, we saw that we needed to expand on pupils' thinking skills as well as their metacognitive skills. When developing these skills in all aspects of the curriculum and within the life of the school, we will see increasingly independent and confident pupils. Critical thinking helps children and adults to better understand themselves, their motivations and goals. When you can distill information to find the most important parts and apply them to your life, you can change your situation and promote personal growth and overall happiness. In an age when people have more access to information than ever before, critical thinkers excel at research and find the most important pieces of information that make them knowledgeable about any given topic. Critical thinkers have the innate ability to see challenges from multiple perspectives. These characteristics are all important in personal, interpersonal, community and future working life.

Blaenoriaeth 2

Priority 2

Gwella Safonau Ysgrifennu ar draws yr Ysgol gan ffocysu ar ddarparu cyfleoedd ysgogiadaol, datblygu cywirdeb gramadegol, a darparu adborth o ansawdd i symud y dysgu ymlaen.

Improve Standards of Writing across the School by focusing on providing stimulating opportunities, developing grammatical correctness, and providing quality feedback to pupils to move the learning forward.

Fel ysgol, rydym yn anelu at ragoriaeth. Rydym yn cydnabod ein bod ni wedi bod ar daith eleni at wireddu’r freuddwyd hon ond bod camau allweddol sydd nawr angen cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth. Mae gwella safonau ysgrifennu ar draws yr ysgol yn ymgorffori ein gwerthoedd a’r pedwar diben o greu dysgwyr uchelgeisiol a dysgwyr gydol oes. Rydym ni, fel ysgol, yn sicrhau bod ein cynllunio effeithiol yn sbarduno ysgrifennu ac yn datblygu dysgwyr angerddol. Wrth ddarparu cyfleoedd ysgogiadol i bob plentyn i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu yn drawgwricwlaidd, fe fyddwn yn sicrhau bod llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd bob plentyn. Wrth anelu am ragoriaeth, fe fyddwn yn sicrhau datblygu cywirdeb gramadegol a darparu adborth o ansawdd a fydd yn symud y dysgu ymlaen. Rydym fel ysgol yn deall pwysigrwydd mynegi ein hunian trwy ieithoedd ac wrth godi safonau ysgrifenedig ein dysgwyr byddwn yn sicrhau dysgwyr hyderus sy’n deall bod ieithwedd yn allweddol i ddeall y byd o’n cwmpas.  


As a school, we aim for excellence. We recognise that we have been on a journey this year to make this more of a reality but that there are key steps that now need to be taken in order to reach our vision. Improving writing standards across the school incorporates our values ​​and the four purposes of creating ambitious learners and lifelong learners. We, as a school, ensure that our effective planning stimulates writing and develops fired-up learners. By providing stimulating opportunities for all children to develop their writing skills across the curriculum, we will ensure that literature fires the imagination and inspires the creativity of all children. In aiming for excellence, we will ensure the development of grammatical accuracy and provide quality feedback that will move learning forward. As a school we understand the importance of expressing ourselves through languages ​​and by raising the written standards of our learners we will ensure confident learners who understand that language is key to understanding the world around us.

IMG_2901.JPG

Blaenoriaeth 3

Priority 3

Cryfhau Gweithdrefnau Asesu drwy fewnoli system dracio gydweithredol newydd sy’n llywio cymorth a darpariaeth briodol, drwy ymgorffori cymorth ymyrraeth dysgu ychwanegol ymhellach, a thrwy gyflymu’r dysgu ar ôl y pandemig.

Strengthen Assessment Procedures by implementing a new collaborative tracking system that informs appropriate support and provision, by further embedding additional learning intervention support, and by accelerating learning post-pandemic.

Fel ysgol, rydym yn anelu at ragoriaeth. Rydym yn cydnabod ein bod ni wedi bod ar daith eleni i wireddu’r freuddwyd hon ond bod camau allweddol sydd nawr angen cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth. Mae ein Pedwar Panteg wrth wraidd popeth rydym wedi gweithredu yn ein hysgol a bydd hyn yn parhau wrth i ni fewnoli systemau sydd yn datlbygu ac yn annog datblygiad ein disgyblion i gyd. Mae ein gwerth o fod yn deuluol wedi bod yn sylfaen i ddatblygiad ein gweithdrefnau Anghenion Dysgu Ychwanegol a sicrhau addysg gynhwysol. Byddwn yn adeiladu ar hyn i ddarparu ymhellach awyrgylch sydd yn sicrhau datblygiad pob plentyn i wireddu eu llawn potensial ac yn sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n bwysig ac yn ddiogel i gael eu herio i wneud hynny. Rydym yn garedig ac wedi datblygu system cefnogol sydd yn gwerthfawrogi unigolion ac yn rhoi pwyslais ar lais y disgybl wrth i ni gydweithio fel tîm o’u cwmpas; mi fydd hyn yn parhau wrth i ni gryfhau ein systemau asesu ymhellach. Rydym yn dîm angerddol sydd yn frwd i ddarparu system sydd yn annog datblygiad dysgwyr i fod yn gyfranwyr mentrus ac yn uchelgeisiol. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydym am sicrhau bod ymyrraeth cyflymu cynnydd wrth wraidd ein blaenoriaethau.

As a school, we aim for excellence. We recognise that we have been on a journey this year to make this more of a reality but that there are key steps that now need to be taken in order to reach our vision.  Our Pedwar Panteg are at the heart of everything we have implemented in our school and this will continue as we implement systems that develop and encourage the development of all our pupils. Our value of being family has been the foundation for the development of our Additional Learning Needs procedures and ensuring inclusive education. We will build on this to further provide an atmosphere that ensures the development of each child to realise their full potential and ensures that they feel important and safe to be challenged to do so. We are kind and so have developed a supportive system that values ​​individuals and places emphasis on the pupil's voice as we work together as a team around them; this will continue as we further strengthen our assessment systems. We are a fired-up team that is keen to provide a system that encourages the development of learners to be enterprising and ambitious contributors. As we emerge from the pandemic, we want to ensure that intervention to accelerate progress is at the heart of our priorities.

IMG_2892.JPG

Blaenoriaeth 4

Priority 4

Ehangu Ymhellach Cwricwlwm ein Hysgol trwy wella addysgu a chyfleoedd dysgu yn ymwneud â'r Celfyddydau Mynegiannol a sgiliau bywyd annibynnol.

Further Broaden Our School Curriculum by enhancing teaching and learning opportunities around the Expressive Arts and independent life skills.

Fel ysgol, rydym yn anelu at ragoriaeth. Rydym yn cydnabod ein bod ni wedi bod ar daith eleni i wireddu’r breuddwyd hyn ond bod camau allweddol sydd nawr angen cymryd  er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth. Rydym yn cydnabod bod angen i’n dysgwyr fod yn unigolion uchelgeisiol sydd wedi yn angerddol ac sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Rydym hefyd yn cydnabod bod cwricwlwm iach yn eang a chytbwys sydd wedyn yn caniatáu i bawb ffynnu. Fel ysgol, gwyddom fod y Celfyddydau Mynegiannol yr un mor hanfodol â meysydd dysgu academaidd traddodiadol. Y llynedd, fe ddechreuon ni gynllunio cynnwys ein cwricwlwm o ddifrif ac ehangu ystod ein addysgu a dysgu. Dangosodd ein hunanarfarniad mai blaenoriaeth oedd ehangu ein cwricwlwm ysgol ymhellach i ddarparu darpariaeth gyfoethog lle caiff dysgwyr eu hannog i ehangu eu gwerthfawrogiad a’u dawn greadigol ynghyd â’u sgiliau artistig a pherfformio. Trwy ddarparu cyfleoedd i archwilio meddwl yn ogystal â mireinio a chyfleu syniadau’n greadigol, byddwn yn hyrwyddo ac yn galluogi datblygiad cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod ar gyfer pob cefndir. Bydd hyn yn ein helpu i baratoi plant ar gyfer holl heriau bywyd, addysgu sgiliau datrys problemau creadigol, datblygu gwerthfawrogiad o wahaniaethau yn ein teulu ac adeiladu creadigrwydd.

As a school, we aim for excellence. We recognise that we have been on a journey this year to make this more of a reality but that there are key steps that now need to be taken in order to reach our vision. We recognise our learners need to be ambitious individuals who are fired up and ready to learn throughout their lives. We also recognise that a healthy curriculum is broad and balanced which then allows everyone to thrive.  As a school, we know that the Expressive Arts are just as essential as traditional academic areas of learning. Last year, we began planning the content of our curriculum in earnest and broadening the scope of teaching and learning. Our self-evaluation showed that a priority was further broadening our school curriculum to provide enriched provision where learners are encouraged to expand their creative appreciation and talent along with their artistic and performance skills. Through providing opportunities to explore thinking as well as refining and communicateing ideas creatively, we will promote and enable the development of enterprising, creative contributors who are ready for all walks of life. This will help us prepare children for all the challenges of life, teach creative problem solving skills, develop appreciation for differences within our school family and build creativity.

Blaenoriaeth 5

Priority 5

Gwella Llais y Disgybl yn Ysgol Panteg trwy gryfhau lles disgyblion, sefydlu Senedd Disgyblion, a chanolbwyntio ar Hawliau’r Plentyn UNICEF.

Improve Pupil Voice at Ysgol Panteg by strengthening pupil wellbeing, and establishing a Pupil Parliament, focusing on the UNICEF Rights of the Child.

Fel ysgol, rydym yn anelu at ragoriaeth. Rydym yn cydnabod ein bod ni wedi bod ar daith eleni at wireddu’r freuddwyd hon ond bod camau allweddol sydd nawr angen cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth. Rydym yn cydnabod bod prosesau llais y disgybl cadarn, rheolaidd ac effeithiol yn hanfodol i ddisgyblion deimlo ymdeimlad o berthyn a'u bod yn rhan wirioneddol annatod o deulu Ysgol Panteg. Nodwyd ein hunanarfarniad lais y disgybl fel blaenoriaeth trwy sicrhau ein bod fel cymuned ysgol yn cynnig ymreolaeth a pherchnogaeth o’r gwricwlwm a'r hamgylchedd i ein disgyblion. O ganlyniad, bydd ein plant yn angerddol ac yn ymwneud yn llawn â bywyd ysgol wrth arddangos yr uchelgais i gyrraedd eu potensial llawn. Bydd disgyblion yn datblygu perthnasoedd cryf rhyngddynt eu hunain a staff. Byddwn yn sicrhau cyfathrebu cadarnhaol parhaus rhwng disgyblion a'r ysgol a fydd hyn yn ei dro yn darparu'r amodau cywir i'r ysgol ddod yn gymuned ddysgu effeithiol. Mae yna cysylltiad cynhenid ​​rhwng lles disgyblion a llais disgyblion. Trwy wrando ar ddysgwyr a chanolbwyntio ar hawliau'r plentyn byddwn yn deall yn llawn sut i gefnogi lles ein plant trwy sicrhau mewnbwn gan y myfyrwyr eu hunain. Er mwyn cadarnhau ymhellach sut rydym yn ystyried ac yn cefnogi anghenion lles yr holl ddisgyblion, byddwn yn sicrhau asesu, monitro a gwerthuso'r ddarpariaeth llesiant yn effeithiol ar draws yr ysgol.


As a school, we aim for excellence. We recognise that we have been on a journey this year to make this more of a reality but that there are key steps that now need to be taken in order to reach our vision. We recognise that robust, regular and effective pupil voice processes are essential for pupils to feel a sense of belonging and that they are a true integral part of the Ysgol Panteg family.  Our self-evaluation noted pupil voice as a priority to ensure that as a school community we offer our pupils autonomy and ownership of their learning, curriculum and environment. As a result, our children will be fired up and fully engaged in school life while displaying the ambition to reach their full potential. Pupils will develop strong relationships between themselves, staff and the wider community. We will ensure continuous positive communication between pupils and staff which will in turn provide the right conditions for the school to become a more effective learning community. Pupil wellbeing and pupil voice are intrinsically linked. By listening to learners and focusing on the rights of the child, we will understand fully how to best support our children’s wellbeing by ensuring input from pupils themselves. To further solidify how we consider and support the wellbeing needs of all pupils we will effectively assess, monitor and evaluate the wellbeing provision across the school.

Ysgol Panteg, Heol Yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH
01495 762581
office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
www.ysgolpanteg.cymru

bottom of page