SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Prynhawn da pawb!
Gobeithio eich bod i gyd wedi cael wythnos hanner tymor dda. Mae hanner tymor eithaf byr o’n blaenau wrth i ni weithio hyd at wyliau’r Pasg.
PAWB
Rhai Dyddiadau Allweddol ar gyfer Eich Calendr
-Dydd Gwener, 1af o Fawrth - Dydd Gŵyl Dewi ac Eisteddfod Ysgol - Anogir plant i ddod mewn gwisg Gymreig y diwrnod hwn a byddwn yn cynnal ein heisteddfod ysgol y diwrnod hwnnw.
-Dydd Sadwrn, 2ail o Fawrth - Eisteddfod yr Urdd - Byddwch yn gwybod yn barod os yw eich plentyn yn cymryd rhan yn y cystadlaethau ar ôl ein cystadlaethau mewnol cyn hanner tymor. Mae hyn yn dechrau am 9:00yb ac yn digwydd yn ein hysgol ni.
-Dydd Sadwrn, 2il o Fawrth - Twmpath y CRhA (mwy o wybodaeth isod)
-Dydd Gwener, 7fed o Fawrth - Diwrnod y Llyfr
DERBYNIAD
Adolygiad Mynediad Ysgol
Bydd Tîm Nyrsio Ysgolion y GIG yn mynychu’r ysgol ar yr 11eg a’r 12fed o Fawrth i gwblhau rhai archwiliadau iechyd ar ein plant Derbyn. Byddant yn edrych ar gallu gweld a thwf y plant. Gelwir hyn yn Adolygiad Mynediad i'r Ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad, cyflawni ffurflen optio allan ac i weld y polisi preifatrwydd ewch i: https://abuhb.nhs.wales/hospitals/childrens-healthcare-services/school-nursing/school-entry-review/ neu https://bipab.gig.cymru/ysbytai/gwasanaethau-gofal-iechyd-plant/nyrsio-ysgol/adolygiad-wrth-ddechraur-ysgol/
Mae tîm nyrsio’r ysgolion wrth law i ateb unrhyw un o’ch cwestiynau. Gellir eu cyrraedd trwy ffonio 01633 431685.
BLWYDDYN 6
Gwersyll Mawr Blynyddol - Nodyn Atgoffa
Fel rydych chi’n gwybod, rydym wedi trefnu ein sleepover mawr blynyddol ar gyfer Blwyddyn 6 a fydd yn digwydd dros dri diwrnod (Dydd Mercher, 10fed o Ebrill i Ddydd Gwener, 12fed o Ebrill). Yn ystod y cyfnod hwn, bydd llawer o weithgareddau gan gynnwys ymweld â’r Celtic Manor i gymryd rhan mewn gweithgareddau coedwig (fel rhaffau uchel, saethyddiaeth a rhwydi coedwig), rafftio dŵr gwyn, bowlio, ymweld â’r theatr, trampolinio a llawer mwy.
Cost yr holl ddigwyddiadau a bwyd hyn fydd £130. (Sydd yn llai na hanner pris Llangrannog). Bydd angen blaendal na ellir ei ad-dalu o £30 erbyn dydd Iau, 29 Chwefror am 9am. Ar ôl yr amser hwnnw ni fyddwn yn gallu ychwanegu plant ar y daith hon oherwydd bod rhaid rhoi rhifau i lawer o’r gweithgareddau a thalu ymlaen llaw. Fe fydd gostyngiad o 10% ar gyfer disgyblion sy’n derbyn Grant Datblygu Disgybl.
Bydd y gweddill angen ei dalu erbyn dydd Mercher, 3ydd o Ebrill - wythnos cyn i’r digwyddiad.
Mewngofnodwch i Civica Pay er mwyn cadw lle i’ch plentyn. Os ydych yn cael anhawster talu am hyn, oherwydd problemau technegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros nes daw'r dyddiad o gwmpas!
PAWB
Twmpath - Atgoffa
Peidiwch ag anghofio bod ar nos Sadwrn 2 Mawrth bod Twmpath yn yr ysgol. Rydym yn gyffrous iawn bod y band o’r rhaglen deledu ‘Gavin and Stacey’ (Pluck & Squeeze) wedi’u bwcio ar gyfer y noson. Dyma gyfle gwych am hwyl i'r teulu!
Bydd y Twmpath (fel dawns sgubor) rhwng 6 ac 8pm. Bydd cawl a rholyn yn gynwysedig yn y pris. Mae'r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad arall sydd wedi'i gynllunio i godi arian ar gyfer offer chwarae newydd i'r plant. Felly, mae'n £5 y pen neu £20 am uned deuluol (rhieni a phlant). Plis rhannwch hwn gyda neiniau a theidiau hefyd!
Mae gennym ni uchafswm o 75 o leoedd ar gyfer y digwyddiad hwn. Dim ond 18 person sy’n dod ar hyn o bryd! Dyma'r ddolen archebu:
DERBYN I FLWYDDYN 2
Clwb Gymnasteg Wythnosol - Atgof Olaf
Bydd yr Urdd yn dechrau eu clwb gymnasteg yn ôl i fyny ar ddydd Mercher yma rhwng 4:45 a 5:30. Bydd y clwb hwn yn cael ei redeg ar gyfer plant Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Bydd y clwb yn rhedeg am 4 wythnos i ddechrau (yn cychwyn ar yr 21ain o Chwefror) ac os oes digon o ddiddordeb bydd yr Urdd yn edrych ar ymestyn. Cost y cwrs cychwynnol hwn yw £14 sy'n daladwy'n uniongyrchol i'r Urdd wrth archebu. Dim ond 3 sydd wedi arwyddo i fyny hyd yn hyn.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon:
Good afternoon everyone!
I hope that you all had a good half term week. We’ve got quite a short half term ahead of us as we work up to the Easter break.
EVERYONE
Some Key Dates for Your Calendar
-Friday, 1st of March - St David’s Day and School Eisteddfod - Children are encouraged to come in Welsh costume and we will be holding our school Eisteddfod that day.
-Saturday, 2nd of March - Urdd Eisteddfod - You will already know if you child is participating in the competitions after our internal competitions before half term. This starts at 9:00am and is happening at our school.
-Saturday, 2nd of March - PTA Twmpath (more information below)
-Friday, 7th of March - World Book Day
RECEPTION
School Entry Review
The NHS Schools’ Nursing Team will be attending the school on the 11th and 12th of March to complete some health checks on our Reception children. They will be looking at the vision and growth of the children. This is called the School Entry Review (SER). For more information about the SER, an opt out form and to view the privacy policy please visit: https://abuhb.nhs.wales/hospitals/childrens-healthcare-services/school-nursing/school-entry-review/
The schools’ nursing team are on hand to answer any of your questions. They can be reached by phoning 01633 431685.
YEAR 6
The Big Sleepover - Reminder
This is a reminder that we have booked our annual big sleepover for Year 6 that will take place over three days (Wednesday, 10th of April to Friday, 12th of April). During this time, there will be lots of activities including visiting the Celtic Manor to take part in forest activities (such as high ropes, archery and forest nets), white water rafting, bowling, visiting the theatre, trampolining and much more.
The cost of all these events and food will be £130. (Which is less than half the price of Llangrannog). We will require a non-refundable deposit of £30 by Thursday, 29th of February at 9am. After that time we will not be able to add children on to this trip due to the fact that we have to give numbers to a lot of the activities and pay in advance. There will be a 10% reduction for pupils in receipt of the Pupil Development Grant.
The remaining balance will be due by Wednesday, 3rd of April - a week before.
Please log on to Civica Pay in order to reserve your child’s place. If you are having difficulty paying for this, due to technical problems or other reasons, please get in contact with us as soon as possible. Don’t wait until the date comes around!
EVERYONE
Twmpath - Reminder
Don’t forget that on the evening of Saturday 2nd of March we have a Twmpath at school. We are very excited that the band from the TV programme ‘Gavin and Stacey’ (Pluck & Squeeze) has been booked for the evening. This is a fantastic opportunity for family fun!
The Twmpath (like a barn dance) will be between 6 and 8pm. There will be soup and a roll included in the price. This event is another event designed to raise money for new play equipment for the children. Therefore, it is £5 a head or £20 for a family unit (parents and children). Please share this with grandparents too!
We have a maximum of 75 spaces for this event. Only 18 have signed up so far! Here is the booking link:
RECEPTION TO YEAR 2
Weekly Gymnastics Club - Final Reminder
The Urdd will be starting their gymnastics club back up on Wednesday (this week) between 4:45 and 5:30. This club will be run for children in Reception, Year 1 and Year 2. The club will initially run for 4 weeks (starting on the 21st of February) and if there is sufficient interest the Urdd will look at extending. The cost of this initial course is £14 payable directly to the Urdd upon booking. Currently, only 3 have signed up!
Book on now by following this link:
Comments