SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Prynhawn da pawb! Allwn ni ddim credu ei bod hi bron yn hanner tymor! Mae’n rhaid bod hwn yn un o’r byrraf a gawsom erioed!
PAWB
Canu yn y Cartref Ymddeol
Ddoe aeth rhai o’n plant Blwyddyn 4 ag ychydig bach o heulwen i mewn i Gartref Ymddeol Sunnybank trwy fynd i ganu i’r preswylwyr. Da iawn, Blwyddyn 4!
BLWYDDYN 4, 5 a 6
Prynhawn Coffi - Nodyn Atgoffa
Mae ein plant Cam Cynnydd 3 wedi bod yn gwneud rhai astudiaethau busnes a gwaith entrepreneuriaeth yn astudio elw a cholled a marchnata. O ganlyniad, hoffent wahodd aelodau’r teulu i brynhawn agored yn neuadd yr ysgol lle byddant yn gweini coffi a chacen ac yn dysgu ychydig o Gymraeg! Bydd hyn yn digwydd o 1:45pm tan 3:00pm ar y dydd Gwener nesaf (9fed o Chwefror)! Edrychaf ymlaen at eich gweld chi yno!
PAWB
Twmpath - Atgoffa
Peidiwch ag anghofio bod ar nos Sadwrn 2 Mawrth bod Twmpath yn yr ysgol. Rydym yn gyffrous iawn bod y band o’r rhaglen deledu ‘Gavin and Stacey’ (Pluck & Squeeze) wedi’u bwcio ar gyfer y noson. Dyma gyfle gwych am hwyl i'r teulu!
Bydd y Twmpath (fel dawns sgubor) rhwng 6 ac 8pm. Bydd cawl a rholyn yn gynwysedig yn y pris. Mae'r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad arall sydd wedi'i gynllunio i godi arian ar gyfer offer chwarae newydd i'r plant. Felly, mae'n £5 y pen neu £20 am uned deuluol (rhieni a phlant). Plis rhannwch hwn gyda neiniau a theidiau hefyd!
Mae gennym ni uchafswm o 75 o leoedd ar gyfer y digwyddiad hwn. Felly, y cyntaf i'r felin yw hi! Dyma'r ddolen archebu:
DERBYN I FLWYDDYN 6
Sesiwn Hwyl Hanner Tymor gyda Menter Iaith - Nodyn Atgoffa
Ar Ddydd Iau, 15/02/2023 rhwng 10yb a 12yp, ymunwch â Menter Iaith Ysgol Panteg dros yr Hanner Tymor am fore llawn hwyl yn neuadd yr ysgol gyda’r nod o hybu’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth. Bydd llawer i'w wneud gan gynnwys Celf a Chrefft a llawer o gemau. Mae hwn yn addas ar gyfer plant dros 5 oed. Mae niferoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle cyn gynted â phosibl. Nid oes tâl cofrestru ar-lein ond bydd y bore yn costio £3, a bydd Menter Iaith yn cysylltu drwy e-bost gydag anfoneb a manylion sut i dalu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: post@menterbgtm.cymru.
Dilynwch y ddolen hon i archebu!
OEDRAN 6-11
Gweithgareddau Chwaraeon Hanner Tymor yr Urdd
Ar Ddydd Gwener, 16eg o Chwefror (yn ystod hanner tymor) rhwng 10yb a 12yp, mae’r Urdd a Bron Afon yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu bore o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i blant 6-11 oed.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/multi-sports-ages-6-11-tickets-813981880717?aff=ebdsoporgprofile
OEDRAN 4-7
Sesiwn Gymnasteg Hanner Tymor yr Urdd
Ar Ddydd Gwener, 16eg o Chwefror (yn ystod hanner tymor) rhwng 1pm a 3pm, mae’r Urdd a Bron Afon yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu sesiwn gymnasteg yn yr ysgol. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i blant 4-7 oed.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon:
DERBYN I FLWYDDYN 2
Clwb Gymnasteg Wythnosol
Bydd yr Urdd yn dechrau eu clwb gymnasteg yn ôl i fyny ar ddydd Mercher rhwng 4:45 a 5:30. Bydd y clwb hwn yn cael ei redeg ar gyfer plant Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Bydd y clwb yn rhedeg am 4 wythnos i ddechrau (yn cychwyn ar yr 21ain o Chwefror) ac os oes digon o ddiddordeb bydd yr Urdd yn edrych ar ymestyn. Cost y cwrs cychwynnol hwn yw £14 sy'n daladwy'n uniongyrchol i'r Urdd wrth archebu.
Archebwch nawr trwy ddilyn y ddolen hon:
BLWYDDYN 6
Gwersyll Mawr Blynyddol
Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod wedi trefnu ein sleepover mawr blynyddol ar gyfer Blwyddyn 6 a fydd yn digwydd dros dri diwrnod (Dydd Mercher, 10fed o Ebrill i Ddydd Gwener, 12fed o Ebrill). Yn ystod y cyfnod hwn, bydd llawer o weithgareddau gan gynnwys ymweld â’r Celtic Manor i gymryd rhan mewn gweithgareddau coedwig (fel rhaffau uchel, saethyddiaeth a rhwydi coedwig), rafftio dŵr gwyn, bowlio, ymweld â’r theatr, trampolinio a llawer mwy.
Cost yr holl ddigwyddiadau a bwyd hyn fydd £130. (Sydd yn llai na hanner pris Llangrannog). Bydd angen blaendal na ellir ei ad-dalu o £30 erbyn dydd Iau, 29 Chwefror am 9am. Ar ôl yr amser hwnnw ni fyddwn yn gallu ychwanegu plant ar y daith hon oherwydd bod rhaid rhoi rhifau i lawer o’r gweithgareddau a thalu ymlaen llaw. Fe fydd gostyngiad o 10% ar gyfer disgyblion sy’n derbyn Grant Datblygu Disgybl.
Bydd y gweddill angen ei dalu erbyn dydd Mercher, 3ydd o Ebrill - wythnos cyn i’r digwyddiad.
Mewngofnodwch i Civica Pay er mwyn cadw lle i’ch plentyn. Os ydych yn cael anhawster talu am hyn, oherwydd problemau technegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros nes daw'r dyddiad o gwmpas!
BLWYDDYN 6
Crucial Crew
Mae ein disgyblion Blwyddyn 6 wedi cael gwahoddiad i fynychu prynhawn o weithgareddau yn seiliedig ar ddiogelwch. Mae Crucial Crew wedi'i anelu at blant rhwng 10 ac 11 oed sy'n paratoi i symud i'r ysgol uwchradd ym mis Medi. Bydd Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Torfaen yn cyflwyno sesiynau am bwysigrwydd gwisgo gwregysau diogelwch, ochr yn ochr â chyflwyniadau gan yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Network Rail, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Western Power a’r Fyddin. Bydd hyn yn digwydd ar brynhawn dydd Llun, 26 Chwefror. Nid oes cost sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn a bydd costau'r bws yn cael eu talu gan yr ysgol.
Good afternoon everyone! We can’t believe it is almost half term! This must be one of the shortest we’ve ever had!
EVERYONE
Singing at the Retirement Home
Some of our Year 4 children yesterday brought a little bit of sunshine into Sunnybank Retirement Home by going to sing for the residents. Da iawn, Blwyddyn 4!
YEAR 4, 5 and 6
Coffee Afternoon - Reminder
Our Progress Step 3 children have been doing some business studies and entrepreneurship work studying profit and loss and marketing. As a result, they would like to invite family members to an open afternoon in the school hall where they will be serving coffee and cake and teaching some Welsh! This will take place from 1:45pm until 3:00pm on this coming Friday (9th of February)! I look forward to seeing you there!
EVERYONE
Twmpath - Reminder
Don’t forget that on the evening of Saturday 2nd of March we have a Twmpath at school. We are very excited that the band from the TV programme ‘Gavin and Stacey’ (Pluck & Squeeze) has been booked for the evening. This is a fantastic opportunity for family fun!
The Twmpath (like a barn dance) will be between 6 and 8pm. There will be soup and a roll included in the price. This event is another event designed to raise money for new play equipment for the children. Therefore, it is £5 a head or £20 for a family unit (parents and children). Please share this with grandparents too!
We have a maximum of 75 spaces for this event. So, it is first come, first served! Here is the booking link:
RECEPTION TO YEAR 6
Half Term Fun Session with Menter Iaith - Reminder
On Thursday, 15/02/2023 between 10am and 12pm, join Menter Iaith at Ysgol Panteg over the Half Term for a morning full of fun in the school hall aimed at promoting the use of the Welsh language outside the classroom. There will be lots to do including Arts and Crafts and lots of games. This is suitable for children over 5 years old. Numbers are limited so please book your place ASAP. There is no online registration fee, however, the morning will cost £3, and Menter Iaith will be in contact via e-mail with an invoice and details of how to pay. For more info please contact: post@menterbgtm.cymru.
Follow this link to book!
Ages 6-11
Urdd Half Term Sports Activity
On Friday, 16th of February (during half term) between 10am and 12pm, the Urdd and Bron Afon are working in partnership in order to provide a sports activity morning at the school. This is a free event for children aged 6-11.
Book on now by following this link: https://www.eventbrite.co.uk/e/multi-sports-ages-6-11-tickets-813981880717?aff=ebdsoporgprofile
AGES 4-7
Urdd Half Term Gymnastics Session
On Friday, 16th of February (during half term) between 1pm and 3pm, the Urdd and Bron Afon are working in partnership in order to provide a gymnastics session at the school. This is a free event for children aged 4-7.
Book on now by following this link:
RECEPTION TO YEAR 2
Weekly Gymnastics Club
The Urdd will be starting their gymnastics club back up on Wednesdays between 4:45 and 5:30. This club will be run for children in Reception, Year 1 and Year 2. The club will initially run for 4 weeks (starting on the 21st of February) and if there is sufficient interest the Urdd will look at extending. The cost of this initial course is £14 payable directly to the Urdd upon booking.
Book on now by following this link:
YEAR 6
Annual Big Sleepover
We are very excited to announce that we have booked our annual big sleepover for Year 6 that will take place over three days (Wednesday, 10th of April to Friday, 12th of April). During this time, there will be lots of activities including visiting the Celtic Manor to take part in forest activities (such as high ropes, archery and forest nets), white water rafting, bowling, visiting the theatre, trampolining and much more.
The cost of all these events and food will be £130. (Which is less than half the price of Llangrannog). We will require a non-refundable deposit of £30 by Thursday, 29th of February at 9am. After that time we will not be able to add children on to this trip due to the fact that we have to give numbers to a lot of the activities and pay in advance. There will be a 10% reduction for pupils in receipt of the Pupil Development Grant.
The remaining balance will be due by Wednesday, 3rd of April - a week before.
Please log on to Civica Pay in order to reserve your child’s place. If you are having difficulty paying for this, due to technical problems or other reasons, please get in contact with us as soon as possible. Don’t wait until the date comes around!
YEAR 6
Crucial Crew
Our Year 6 pupils have been invited to attend an afternoon of activities based on safety. Crucial Crew are aimed at children aged between 10 and 11 who are preparing to move to secondary school in September. Torfaen Council’s Road Safety Officer will deliver sessions about the importance of wearing seatbelts, alongside presentations from the RNLI, South Wales Fire and rescue, Network Rail, the Food Standards Agency, Western Power and the Army. This will take place on the afternoon of Monday, 26th of February. This is no cost associated with this activity and the bus costs will be covered by the school.
Comments