top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 05.05.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Waw! Pa mor gyflym mae wythnos pedwar diwrnod yn mynd! Mae fel petai wedi mynd heibio mewn corwynt! Peidiwch ag anghofio nad oes ysgol ar ddydd Llun oherwydd Gŵyl y Banc.


PAWB

Gwobr Athroniaeth i Blant

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod ein hysgol wedi ennill gwobr am ein hymrwymiad i annog meddwl beirniadol a phlant i drafod. Cawsom ein hasesu ar gyfer Gwobr Efydd Athroniaeth i Blant a phasiwyd yn hawdd! Mae'r Wobr Efydd ar gyfer ysgolion sydd wedi ymrwymo i P4C fel addysgeg ysgol gyfan. Mae yna feini prawf helaeth sy'n asesu ein hymgyrch i baratoi plant i fod yn feddylwyr annibynnol ar gyfer y dyfodol. Rydym eisoes yn cyflawni elfennau o'r wobr arian a byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn y flwyddyn nesaf nid am dystysgrif neu fathodyn - ond oherwydd ei fod yn gwneud gwahaniaeth i addysg ein plant. Eleni, mae meddwl yn feirniadol ac Athroniaeth i Blant wedi bod ar ein cynllun datblygu ysgol. Ymlaen a ni i’r Wobr Arian!


BLWYDDYN 6

Pontio i Wynllyw

Ddoe, aeth llawer o’n dosbarth Blwyddyn 6 i Gwynllyw ar gyfer eu diwrnod pontio. Daethant yn ôl yn gwenu ac yn llawn cyffro. Roedd hynny'n hyfryd i'w weld!


I’r rhai oedd yn cynrychioli ein hysgol ni ddoe yn y twrnament rygbi, dwi wedi dilyn I fyny gyda Gwynllyw am ddyddiad er mwyn iddyn nhw gael yr un profiadau. Cyn gynted ag y byddaf yn gwybod y dyddiad hwnnw, byddaf yn rhoi gwybod ichi a byddwn yn trefnu'r cludiant. Mae yna ysgolion eraill yn yr un cwch.


Mae Gwynllyw hefyd wedi gorfod newid dyddiad eu mabolgampau Blwyddyn 6. Rydym yn disgwyl iddo fod ar y 27ain o Fehefin nawr nid yr 28ain. Unwaith eto, cyn gynted ag y caiff hyn ei gadarnhau, byddaf yn rhoi gwybod ichi a byddwn yn trefnu cludiant.

TÎM RYGBI

Da iawn!

Ddoe, aeth nifer o’n tîm rygbi i gymryd rhan yn nhwrnamaint rygbi’r Urdd ym Medwas. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd. Maent bob amser yn trio eu gorau glas. Dyna'r peth pwysicaf i mi oherwydd mae'n dangos penderfyniad a gwaith tîm ond mae hefyd yn dangos i'n plant actio ein gwerthoedd o fod yn uchelgeisiol ac angerddol.

PAWB

Hyfforddiant Hwyrnos

Ddydd Mercher, roedd yn anrhydedd cael Nina Jackson i arwain ein staff ar hyfforddiant lles a seicoleg. Dysgon ni gymaint. Roedd yn arbennig clywed y staff yn chwerthin cymaint ac yn meddwl yn wirioneddol am yr effaith rydym ni fel oedolion yn ei gael ar les plant. Ar ddiwedd ein hyfforddiant, buom yn trafod beth yw’r peth pwysicaf i ni fel staff: yr ateb oedd un gair – gofal. Rwyf mor falch o'n staff a gwn eich bod chithau hefyd.

PAWB

Penodi Ein Harweinydd Cam Cynnydd 3 Newydd

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Mrs. Kaysha Wulder wedi ymgeisio ac wedi llwyddo i gael ei phenodi fel ein harweinydd Cam Cynnydd. Fe fydd hi’n cymryd yr awenau oddi wrth Mr. Dafydd Evans wrth iddo symud i Ysgol Bryn Onnen fel eu dirprwy bennaeth ym mis Medi.


PAWB

Diwrnod Ffotograffau Dosbarth - Nodyn Atgoffa

Dim ond nodyn byr yw hwn i atgoffa pob teulu mai dydd Iau nesaf, 11eg o Fai yw ein diwrnod ffotograffau dosbarth. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n mynd ar drip ac ein dosbarthiadau Meithrin – rydym wedi trefnu’r amseroedd fel nad ydynt yn colli allan.

BLYNYDDOEDD 1, 2 A 3

Trip Pwll Mawr - ATGOF

Peidiwch ag anghofio bod gennym ni ein teithiau Cam Cynnydd 2 i Big Pit yr wythnos nesaf:

• Blwyddyn 2 yn mynd ar ddydd Mawrth 9fed o Fai;

• Blwyddyn 1 ar ddydd Mercher 10fed o Fai;

• Blwyddyn 3 ar ddydd Iau yr 11eg o Fai.

Fe fyddech chi’n gweld bod newid I ddyddiadau Blwyddyn 1 a 3 fan hyn – mae hyn oherwydd camgymeriad gan Big Pit. (Maent wedi bwcio gormod o ysgolion mewn ar gyfer y taith dan ddaear!)


PAWB

Dydd y Coroni

Heddiw, rydyn ni wedi cael diwrnod da yn rhyngweithio gyda syniadau am y coroni ac yn gwneud llawer o dasgau diddorol. Ar draws yr ysgol mae yna wefr go iawn wedi bod! Rydyn ni wedi cael llawer o hwyl ac roedd y plant yn cymryd rhan wirioneddol yn y tasgau. Rydym wedi ymarfer sgiliau bywyd, wedi ymgysylltu â’r digwyddiad hanesyddol trwy ein Mathemateg, wedi cynnal ymchwiliad Athroniaeth i Blant i frenhiniaeth yn yr 21ain ganrif. Rydyn ni wedi cael arbrofion gwyddoniaeth yn ymwneud â gwneud jeli a choron yn cynnwys cymesuredd. Edrychon ni ar hanes tywysogion Cymru dros y canrifoedd. Ac, dim ond detholiad bach yw hwn o'r pethau sydd wedi digwydd heddiw! Coginiodd ein cegin ginio arbennig i'r plant.

PAWB

Adborth ar ôl Cyfarfod Grŵp Ffocws Rhieni

Diolch i’r grŵp bach o rieni a wirfoddolodd i ymgysylltu â ni o ran sut rydym yn adrodd ar gynnydd eich plentyn. Cafwyd llawer o sylwadau cadarnhaol ac rydym wedi gwrando ar sylwadau a byddwn yn gwneud newidiadau i’n prosesau yn unol â’r argymhellion a ddeilliodd o’r sesiwn hon. Yn bersonol, roedd yn ddefnyddiol iawn i mi ac rwyf wedi ymrwymo i wneud hyn o leiaf bob tymor fel y gallwn wella’n barhaus drwy gydweithio.

MEITHRIN

Sesiwn Dod i'ch Adnabod - ATGOF TERFYNOL

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y byddwn yn cynnal sesiwn 'dod i'ch adnabod' byr. Cyfnod byr yw hwn - yn syth ar ôl ein hamser codi yn y prynhawn er mwyn i deuluoedd ddod i adnabod ei gilydd. Nid oes cyflwyniad ffurfiol na dim byd felly. Mae hwn yn amser lle gall teuluoedd ddod i adnabod ei gilydd ychydig ac i chi ddod i adnabod y staff. Bydd cacen! Rydym yn bwriadu cynnal y digwyddiad hwn ddydd Mawrth, 9 Mai am 3pm. Mae hwn ar agor i unrhyw deuluoedd Meithrin - hyd yn oed os ydych wedi bod i un o'r blaen neu wedi bod gyda ni ers peth amser.


PAWB

Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgybl Ychwanegol Dewisol - ATGOF TERFYNOL

Fel rhan o’n hymrwymiad i gadw mewn cysylltiad agos â chi fel teuluoedd am gynnydd a lles eich plentyn, rydym wedi amserlennu ‘Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion’ dewisol ar gyfer dydd Mawrth, 9fed o Fai a dydd Mercher, 10fed o Fai ar ôl ysgol. Drwy gydol y flwyddyn, rydych eisoes wedi mynychu dau o’r cyfarfodydd hyn ac wedi derbyn adroddiad interim ym mis Rhagfyr ac adroddiad llawn eich plentyn ar ddiwedd mis Mawrth. Felly, os hoffech gwrdd ag athro eich plentyn i drafod unrhyw bryderon neu gofyn cwestiynau rydym wedi neilltuo peth amser i chi gyfarfod. I drefnu cyfarfod, galwad ffôn neu alwad fideo, cysylltwch â'ch athro dosbarth trwy ClassDojo.


Blwyddyn 1,2, 3 a 4

Clwb Urdd - Dydd Gwener

Dylai'r plant hynny sydd wedi ymuno â Chlwb Multi Chwaraeon URDD fod wedi cael neges yn nodi nad oes clwb yr wythnos hon na'r wythnos nesaf.


PAWB

Criced Cymru

Ar ddydd Mercher gaethon ni ymweliad hyfryd o Lucy sy'n gweithio gyda Chriced Cymru. Dosbarthiadau o Flwyddyn 1 hyd at 6 sydd wedi derbyn y cyfle i ymgymryd gweithdy llawn hwyl a sbri er mwyn dysgu sgiliau newydd!

CARREG LAM

Diweddariad Wythnosol

Mae ein thema ‘Y caffi’ wedi annog trafodaeth frwdfrydig yr wythnos hon. Mae’r plant wedi dangos hyder wrth fynegi barn am fwyd maen nhw’n hoffi a dim yn hoffi, a chafodd y plant cyfle i greu creu cebabs ffrwythau hefyd. Roedd y plant wedi mwynhau'r cyfrifoldeb o dorri'r ffrwyth eu hun ac mae rhai wedi blasu ffrwyth newydd hefyd! Da iawn chi! Ar ôl gweithio’n galed yn dysgu am yr holl fwyd a diod sydd ar gael mewn caffi, aeth y plant i’r dref i ymweld â chaffi. Cafon nhw'r cyfle i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg i archebu diod a dysgodd y plant geirfa Cymraeg i’r cyhoedd hefyd. Da iawn plant Carreg Lam am ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gymuned! Roedd creu pitsa yn hwylus iawn. Mae’r plant i gyd wrth ei boddau gyda phitsa. Dysgon nhw nifer o ferfau newydd wrth goginio a dewision nhw nifer o gynhwysion gwahanol i roi ar ben y pitsa. I orffen yr wythnos mae'r plant wedi mwynhau dilyn rysáit a mesur y cynhwysion yn ofalus er mwyn creu diodydd blasus. Am wythnos prysur tu hwnt!


 

Wow! How quickly does a four-day week go! It seems to have passed in a whirlwind! Don’t forget there is no school on Monday due to the Bank Holiday.


EVERYONE

Philosophy for Children Award

I am really proud to announce that our school has won an award for our commitment to encouraging critical thinking and children discussing. We were assessed for the Philosophy for Children Bronze Award and passed with flying colours. The Bronze Award is for schools which have made a commitment to P4C as a whole school pedagogy. There is an extensive criteria which assesses our drive to prepare children to be independent thinkers of the future. We are already fulfilling elements of the silver award and will continue to pursue this next year not for a certificate or badge - but because it makes a difference to the education of our children. This year, critical thinking and Philosophy for Children has been on our school development plan. Onwards and upwards to Silver!


YEAR 6

Gwynllyw Transition

Yesterday, many of our Year 6 class attended Gwynllyw for their transition day. They came back smiling and full of excitement. That was amazing to see!


For those who were representing our school yesterday in the rugby tournament, I’ve chased for a date so that they have the same experiences. As soon as I know that date, I will let you know and we will arrange the transport. There are other schools in the same boat.


Gwynllyw have also had to change the date of their Year 6 sports day. We are expecting it to be on the 27th of June now not the 28th. Again, as soon as this is confirmed, I will let you know and we will organise transport.

RUGBY TEAM

Well Done!

Yesterday, many of our rugby team went to take part in the Urdd’s Rugby Tournament in Bedwas. We are so proud of all of them. They always give it their all. That for me is the most important thing because it shows determination and teamwork but it also shows our children acting out our values of being ambitious and fired-up.

EVERYONE

Twilight Training

On Wednesday, it was an honour to have Nina Jackson lead our staff on wellbeing and psychology training. We learned so much. It was special to hear the staff laughing so much and really thinking about the impact we as adults have on children's wellbeing. At the end of our training, we discussed what is the most important thing for us as staff: the answer was one word - care. I am so proud of our staff and I know you are too.

EVERYONE

Appointment of Our New Progress Step 3 Leader

We are excited to announce that Mrs. Kaysha Wulder applied and was successful in being appointed as our leader of Progress Step 3 taking over from Mr. Dafydd Evans as he moves to Ysgol Bryn Onnen as their deputy headteacher in September.


EVERYONE

Class Photograph Day - Reminder

This is just a short note to remind all families that our class photograph day is next Thursday, 11th of May. This includes children who are going on a trip and our Nursery classes - we’ve organised the timings so they don’t miss out.

YEARS 1, 2 AND 3

Big Pit Trip - REMINDER

Please don’t forget that we have our Progress Step 2 trips to Big Pit coming up next week:

• Year 2 will be going on Tuesday 9th of May;

• Year 1 on Wednesday 10th of May;

• Year 3 on Thursday the 11th of May.

You would see that there is a change to the Year 1 and 3 dates here - this is due to a mistake by Big Pit. (They have booked too many schools in for the underground trip!)


EVERYONE

Coronation Day

Today, we’ve had a good day interacting with ideas about the coronation and doing lots of interesting tasks. Throughout the school there has been a real buzz! We’ve had lots of fun and children were really engaged in the tasks. We have practiced life skills, engaged with the historic event through our Mathematics, held a Philosophy for Children inquiry into monarchy in the 21st century. We’ve had science experiments involving jelly and crown making involving symmetry. We looked at the history of Welsh princes across the ages. And, this is just a small selection of the things that have gone on today! Our kitchen cooked up a special lunch for the children.

EVERYONE

Feedback After Parent Focus Group Meeting

Thank you to the small group of parents who volunteered to engage with us with regards to how we report on your child’s progress. There was lots of positive comments and we’ve listened to comments and will make tweaks to our processes in line with the recommendations that came out of this session. I personally found it very useful and I am committed to doing this at least termly so that we can continually improve by working together.

NURSERY

Getting to Know You Session - FINAL REMINDER

We are really excited to announce that we will be holding a short 'getting to know you' session. This is a short time - straight after our afternoon pick up time so that families can get to know each other. There is no formal presentation or anything like that. This is a time where families can get to know each other a little and for you to get to know the staff. There will be cake! We plan on holding this event on Tuesday, 9th of May at 3pm. This is open for any Nursery families - even if you have been to one before or have been with us for some time.


EVERYONE

Optional Extra Pupil Progress and Wellbeing Meetings - FINAL REMINDER

As part of our commitment to keeping in close contact with you as families about the progress and wellbeing of your child, we have scheduled optional 'Pupil Progress and Wellbeing Meetings' for Tuesday, 9th of May and Wednesday, 10th of May after school. Throughout the year, you have already attended two of these meetings and received an interim report in December and your child's full report at the end of March. Therefore, if you would like to meet with your child's teacher to discuss any concerns or just to touch base we have set aside some time for you to meet. To arrange a meeting, phone call or video call, please contact your class teacher through ClassDojo.


Year 1,2, 3 and 4

Urdd Club – Fridays

Those children who have signed up to the Urdd Multi Sports Club should have had a message stating that there is no club this week or next week.


EVERYONE

Cricket Wales

On Wednesday, we had a visit from Lucy at Cricket Wales. Classes from Year 1 to 6 all received the opportunity to partake in workshops full of fun and games to learn new skills!

CARREG LAM

Weekly Update

Our theme 'The Café' has encouraged this week's enthusiastic discussion. The children have shown confidence in expressing opinions about food they like and don't like, and the children also had the opportunity to create fruit kebabs. The children enjoyed the responsibility of cutting the fruit themselves and some have tasted new fruits too! Well done everyone! After working hard learning about all the food and drink available in a café, the children went to town to visit a café. They had the opportunity to use their Welsh language skills to order a drink and the children also taught Welsh vocabulary to some members of the public. Well done Carreg Lam's children for using the Welsh language in the community! Creating a pizza was very convenient. All the children love pizza. To finish the week, the children have enjoyed following a recipe and carefully measuring the ingredients to create delicious drinks. What a very busy week!




93 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page