top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 28.10.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Bore Coffi MacMillan a Chyfnewid Gwisg Ysgol

Am fore ffantastig! Rydym mor falch bod cymaint o deuluoedd a ffrindiau ein hysgol wedi llwyddo i gyrraedd ein Bore Coffi MacMillan a’n Cyfnewid Gwisg. Codwyd £854.53 tuag at y gwaith anhygoel mae MacMillan yn ei wneud. Cymorth Canser Macmillan yw un o’r elusennau mwyaf ym Mhrydain ac mae’n darparu gofal iechyd arbenigol, gwybodaeth a chymorth ariannol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Mae hefyd yn edrych ar yr effaith gymdeithasol, emosiynol ac ymarferol y gall canser ei chael, ac yn ymgyrchu am well gofal canser. Nod Cymorth Canser Macmillan yw cyrraedd a gwella bywydau pawb sydd â chanser yn y DU; a, heddiw, mae Teulu Panteg wedi helpu i tuag at hyn! Diolch i’r rhai ag oedd yn gorfod aros – heddiw yn ystod yr amser daeth cannoedd ar ganoedd o bobl!


Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth â chacen, coginiodd gacen, neu roddodd arian. Hoffwn ddiolch yn fawr i’n plant Blwyddyn 6 a’r Eco Bwyllgor a weithiodd mor galed i helpu y bore ma!


Mae cacennau siop heb eu hagor wedi cael eu cludo i’r banc bwyd lleol ac mae llawer o gacennau cwpan wedi’u dosbarthu i gartrefi’r henoed lleol.


Llongyfarchiadau i enillwyr ein cystadlaethau cacennau! Gwaith gwych!


Yn ennill y gystadleuaeth am y cacennau blasu gorau oedd:

-Lle cyntaf: Pip Sweet Roberts

-Ail le: Jonah and Ben Redwood

-Trydydd lle: Daisy Horseman


Yn ennill y gystadleuaeth am y cacennau a gyflwynwyd orau oedd:

-Lle cyntaf: Oliver and James Rees

-Ail le: Jack Phillips

-Trydydd lle: Reggie Easen

PAWB

Cystadleuaeth Darllen Hanner Tymor

Dros hanner tymor, rydym yn mynd i fod yn cynnal cystadleuaeth darllen. Mae'r gystadleuaeth yn syml - ac yn wirion! Rydyn ni eisiau i blant anfon lluniau ohonyn nhw eu hunain yn darllen yn y lleoedd mwyaf anarferol! Gallwch anfon eich lluniau drwy e-bostio cystadleuaeth@ysgolpanteg.cymru. Peidiwch ag anghofio cynnwys enw eich plentyn a'i ddosbarth! Rhaid iddynt fod i mewn erbyn 12pm ar ddydd Mawrth, 8fed o Dachwedd. Ein prif ferched a phrif fechgyn fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth. Y gwobrau yw:

-Gwobr Gyntaf: Taleb o £20

-Ail Wobr: Taleb o £10

-Trydedd Wobr: Taleb o £5

Felly, gadewch i ni fod yn greadigol!!!


PAWB

Sesiynau Diogelwch Rhyngrwyd i Deuluoedd

Ar ôl hanner tymor, rydym yn bwriadu cynnal dwy noson wybodaeth i deuluoedd ynglŷn â diogelwch rhyngrwyd. Bydd hyn yn cyd-fynd yn rhannol â'n Hwythnos Gwrth-fwlio.


Felly, ar ddydd Llun 14eg o Dachwedd am 4:30, byddwn yn cynnal noson wybodaeth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch rhyngrwyd i ddisgyblion iau (Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1). Bydd hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar gydbwysedd, lles, preifatrwydd a diogelwch. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i gefnogi diogelwch ar-lein eich plentyn.


Yna, ar ddydd Mercher 16eg o Dachwedd am 4:30, byddwn yn cynnal noson wybodaeth i deuluoedd â phlant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6. Bydd y noson hon yn canolbwyntio’n bennaf ar gydbwysedd y cyfryngau, lles, preifatrwydd a diogelwch, ôl troed digidol, seiberfwlio, perthnasoedd ar-lein a llythrennedd digidol.


Rydym yn eich annog i gofrestru drwy ddilyn y ddolen hon:


BLYNYDDOEDD 1,2 & 3

Clwb Drama a Pherfformio

Ynghyd â Menter Iaith, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn parhau â’n Clwb Drama a Pherfformio ar ôl Ysgol o ddydd Mercher, 16eg o Dachwedd 2022. Cynhelir y Clwb o 3:15pm-4:30pm, bob prynhawn Mercher tan 14/12/2022. Mae’r clwb yn addas ar gyfer plant Blynyddoedd 1, 2 a 3. Pwrpas y clwb yw hybu a chynnig cyfle i blant ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn gweithgareddau hwyliog, tu allan i oriau ysgol. Mae cofrestru ar-lein yn rhad ac am ddim ond bydd Menter Iaith yn cysylltu drwy e-bost er mwyn trefnu cyfraniad o £2 y sesiwn ymlaen llaw (5 sesiwn = £10).


Dilynwch y ddolen hon er mwyn bwcio lle eich plentyn: https://pantegclwbdrama.eventbrite.co.uk

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â sioned@menterbgtm.cymru


PAWB

Lluniau Unigol a Brodyr a Chwiorydd

Mae hwn yn rhybudd ymlaen llaw bod gennym ni Tempest Photography yn dod i mewn ddydd Mawrth, 15fed o Dachwedd, 2022 i dynnu lluniau unigol a ffotograffau o frodyr a chwiorydd. Bydd mwy o fanylion yn dilyn ar sut y bydd hyn yn gweithio a'r agweddau ymarferol.


BLWYDDYN 5

Trip i Amgueddfa'r Aifft, Abertawe

Ein thema ar gyfer tymor yr Hydref yw ‘Pyramidiau a Gwareiddiad Hynafol!’. Byddwn yn astudio elfennau o Wareiddiad Hynafol yr Aifft, gan gynnwys astudio wahanol Pharo, Duwiau Hynafol, Mymeiddiad a llawer mwy! Ar gyfer ein diwrnod ‘sbardun’, byddwn yn mynd ar daith i Amgueddfa’r Aifft yn Abertawe Ddydd Mawrth, 22ain o Dachwedd, 2022. Rhoddir hyn y cyfle i blant gael cipolwg ar fywyd yn ystod yr adeg diddorol o hanes ac eu hysbrydoli iddynt ddysgu mwy am y gwareiddiad hynafol anhygoel hon.


Mae hyn yn sicrhau bod Blwyddyn 5 yn cael tegwch gan fod Blwyddyn 4 a 6 wedi ymweld efo'r amgueddfa yn barod.


Ar Civica Pay, mae angen y taliad o £10 (sy’n cynnwys mynediad i’r safle a costiau cludiant) arnom erbyn 16/11/2022 er mwyn sicrhau lle ar y trip. Bydd gostyngiad o 10% ar gyfer yr unigolion hynny sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Sylwch: ni allwn gymryd fwy o enwau ar ôl y diwrnod hyn oherwydd bod angen rhoi niferoedd pendant i’r amgueddfa. Os ydych yn cael trafferth talu oherwydd anawsterau technolegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.


BLYNYDDOEDD 1, 2 & 3

Y Bachgen Bach Gwyrdd (Profiad Theatr)

Rydym yn cynllunio ymweliad ar gyfer ein Blynyddoedd 1, 2 a 3 i ymweld â theatr y Memo yn y Bari i weld y sioe ‘Y Bachgen Bach Gwyrdd’ Ddydd Iau, 1af o Ragfyr, 2022. Mae'r sioe hon yn ymwneud â dathlu ein bod ni i gyd yn unigryw mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Diolch i waith caled Ms. Phillips sydd wedi gwneud cais am grant i helpu tuag at gostau'r daith hon, mae cost y daith wedi gostwng yn sylweddol. Ar Civica Pay, rydym angen taliad o £9.18 (sy’n cynnwys tocyn eich plentyn a chostau cludiant) erbyn 16/11/2022 er mwyn sicrhau lle ar y daith. Sylwch: ni allwn gymryd mwy o enwau ar ôl y diwrnod hwn oherwydd bydd unrhyw docynnau nas defnyddiwyd yn cael eu rhyddhau i'w gwerthu'n gyffredinol. Os ydych yn cael trafferth talu oherwydd anawsterau technolegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.


BLWYDDYN 6

Trip Llangrannog

Rydym wedi trefnu trip 5 diwrnod ar gyfer ein plant Blwyddyn 6 yn Llangrannog. Rydym mor falch ein bod yn gallu cynnig hyn gan eu bod wedi colli allan ar y profiad hwn oherwydd y pandemig COVID-19. Mae'r daith i'w chynnal o ddydd Llun, 6ed o Chwefror, 2023 tan ddydd Gwener, 10fed o Chwefror, 2023. Nid yw cyfanswm cost y daith (gan gynnwys bwyd, llety, gweithgareddau a thrafnidiaeth) wedi'i gadarnhau eto. Rydyn ni'n rhoi gwybod I chi nawr fel eich bod chi'n dechrau cynilo. Cyn gynted ag y byddwn yn gwybod y pris, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

 

EVERYONE

MacMillan Coffee Morning and School Uniform Exchange

What a fantastic morning! We are so glad that so many families and friends of our school managed to get to our MacMillan Coffee Morning and Uniform Exchange. We raised £854.52 towards the amazing work that Macmillan do. Macmillan Cancer Support is one of the largest British charities and provides specialist health care, information and financial support to people affected by cancer. It also looks at the social, emotional and practical impact cancer can have, and campaigns for better cancer care. Macmillan Cancer Support's goal is to reach and improve the lives of everyone who has cancer in the UK; and, today, Teulu Panteg (our Panteg Family) has helped do this! Thanks to those who had to wait - today during the time hundreds and hundreds of people came!


I would like to say a big thank you to everyone who brought a cake, cooked a cake, or donated money. I would like to thank our Year 6 children and the Eco Committee who worked so hard to help this morning!


Unopened shop bought cakes have been taken to the local foodbank and many cupcakes have been delivered to the local old peoples’ homes.


Congratulations to the winners of our cake competitions! Great work!


Winning the competition for the best tasting cakes were:

-First Place: Pip Sweet Roberts

-Second Place: Jonah and Ben Redwood

-Third Place: Daisy Horseman


Winning the competition for the best presented cakes were:

-First Place: Oliver and James Rees

-Second Place: Jack Phillips

-Third Place: Reggie Easen

EVERYONE

Half Term Reading Competition

Over half term, we are going to be holding a reading competition. The competition is simple - and silly! We want children to send in photos of themselves reading in the most unusual of places! You can send in your photographs by emailing them to competition@ysgolpanteg.cymru. Don't forget to include your child's name and their class! They must be in by 12pm on Tuesday, 8th of November. Our head girls and head boys will be judging the competition. The prizes are:

-First Prize: £20 voucher

-Second Prize: £10 voucher

-Third Prize: £5 voucher

So, let’s go be creative!!!


EVERYONE

Internet Safety Sessions for Families

After half term, we intend on holding two information evenings for families regarding internet safety. This will partially coincide with our Anti-Bullying Week.


Therefore, on Monday 14th of November at 4:30, we will be holding an information evening primarily focused on internet safety for younger pupils (Nursery, Reception and Year 1). This will primarily focus on balance, wellbeing, privacy and security. It will contain information about practical things you can do to support your child’s online safety.


Then, on Wednesday 16th of November at 4:30, we will be holding an information evening for families with children from Year 2 to Year 6. This evening will be primarily focused on media balance, wellbeing, privacy and security, digital footprint, cyberbullying, online relationships and media literacy.


We encourage you to sign up by following this link:


YEARS 1,2 & 3

Clwb Drama a Pherfformio

Together with Menter Iaith, we are delighted to announce that we are continuing our Drama and Performance After-School Club from Wednesday, 16th of November 2022. The Club will be held from 3:15pm-4:30 pm, every Wednesday afternoon until 14/12/2022. The club is suitable for children is Years 1, 2 and 3. The purpose of the club is to promote and offer children the opportunity to use their Welsh language skills in fun activities, outside school hours. Online registration is free but Menter Iaith will be in touch via email in order to arrange a contribution of £2 per session in advance (5 sessions = £10).


Follow this link to book your child's place: https://pantegclwbdrama.eventbrite.co.uk

For more information please contact sioned@menterbgtm.cymru


EVERYONE

Individual and Sibling Photos

This is advance warning that we have Tempest Photography coming in on Tuesday, 15th of November, 2022 to take individual photographs and photographs of siblings. More details will follow on how this will work and the practicalities.


YEAR 5

Trip to the Egyptian Museum, Swansea

Our theme for the Autumn term is 'Pyramids and Ancient Civilisation!'. We are studying elements of Ancient Egyptian Civilization, including studying different Pharaohs, Ancient Gods, Mummification and much more! For our 'spark' day, we will be going on a trip to the Egyptian Museum in Swansea on Tuesday, 22nd November, 2022. This will give children the opportunity to gain an insight into life during this interesting time in history and inspire them to learn more about this incredible ancient civilization.


This ensures that Year 5 gets fairness as Year 4 and 6 have already visited the museum.


On Civica Pay, we need the payment of £10 (which includes access to the site and transport costs) by 16/11/2022 in order to secure a place on the trip. There will be a 10% reduction for those individuals in receipt of free school meals. Please note: we cannot take more names after this day because the museum needs to be given definite numbers. If you are having trouble paying due to technological difficulties or other reasons, please get in contact with us as soon as possible.


YEARS 1, 2 & 3

Y Bachgen Bach Gwyrdd (Theatre Experience)

We are planning a visit for our Years 1, 2 and 3 to visit the theatre in Barry to see the show Y Bachgen Bach Gwyrdd (The Little Green Boy) on Thursday, 1st of December, 2022. This show is all about celebrating that we are all unique in a fun and exciting way. Thanks to the hard work of Ms. Phillips who has applied for a grant to help towards costs of this trip, the cost of the trip has been reduced significantly. On Civica Pay, we need the payment of £9.18 (which includes your child's ticket and transport costs) by 16/11/2022 in order to secure a place on the trip. Please note: we cannot take more names after this day because any unused tickets will be released for general sale. If you are having trouble paying due to technological difficulties or other reasons, please get in contact with us as soon as possible.


YEAR 6

Llangrannog Trip

We have arranged a 5-day trip for our Year 6 children at Llangrannog. We are so pleased that we can offer this since they have missed out on this experience due to the COVID-19 pandemic. The trip is due to be held on Monday, 6th of February, 2023 until Friday, 10th of February, 2023. The total cost of the trip (including food, accommodation, activities and transport) is yet to be confirmed. We are letting you know that you now so that you begin saving. As soon as we know the price, we will let you know.

84 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page