top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 05.07.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Mabolgampau

Roedd ddoe yn ddiwrnod gwych ar gyfer mabolgampau cyntaf ein plant ieuengaf! Roedd yn wych cael rhieni yn ôl ar gyfer y digwyddiad hwn. Heddiw, mae gennym Gam Cynnydd 2 (Blynyddoedd 1,2 a 3) ac yna Cam Cynnydd 3 (Blynyddoedd 4, 5 a 6) yfory!

Gwasanaeth Ymadawyr Blwyddyn 6

Ar Ddydd Llun, 18fed o Orffennaf, am 2 o’r gloch, rydym yn cynnal gwasanaeth dathlu arbennig ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 6. Gwahoddir rhieni i'r digwyddiad hwn yn unol â'r e-bost blaenorol a anfonwyd at deuluoedd.


Bydd hwn yn gyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hamser yn Ysgol Panteg cyn iddynt symud ymlaen i’w hysgolion uwchradd.


Proffil Llywodraethwyr

Heddiw, rydym yn parhau i ddysgu am ein Bwrdd Llywodraethol. Heddiw, tro Vikki ydy hi!


Fy enw i yw Victoria Horlor-Childs ac rwy’n Rhiant Lywodraethwr yn Ysgol Panteg, gyda phlant ym Mlwyddyn 2.

Mae gen i rôl Llywodraethwyr Cyswllt ar gyfer Diogelu a Lles yn yr ysgol. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â fy rolau y tu allan i'r ysgol. Rwy’n Therapydd Seicolegol o fewn ein Bwrdd Iechyd lleol, wedi fy hyfforddi i weithio gyda phlant mewn therapi chwarae creadigol, a therapi oedolion.

Fy ngweledigaeth yw sicrhau bod Ysgol Panteg yn cynnal safon uchel o ofal a diogelwch i’n holl blant. Yn fy amser hamdden, rwy'n hoffi gwylio unrhyw sioeau Netflix - mae croeso bob amser i argymhellion.

Ffair Haf

Cawsom amser gwych ddydd Sadwrn yn ymuno â'n gilydd ar gyfer ein Ffair Haf! Roedd hi mor wych gweld cymaint ohonoch chi yno! Daeth dros 500 o bobl! Cododd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon dros £1,000 i gefnogi dysgu a phrofiad ysgol ein plant.


Diolch yn arbennig i Kerryanne Windram a drefnodd y stondinau. Diolch i weddill y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon (Catherine Mogg, Hayley Hale and Emma Norman) a wnaeth y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol. Aeth llawer o waith caled i'r digwyddiad hwn a gwn y byddwch yn ymuno â mi i fynegi eich diolch.


Lluniau Dosbarth

Rydym yn dal i aros am wybodaeth gan y cwmni ffotograffiaeth ynghylch prynu ffotograffau. Cyn gynted ag y byddwn yn gwybod sut y gallwch brynu, byddwn yn ei anfon allan mewn e-bost ar wahân.


Twrnamaint Pêl-Rwyd Neithiwr

Cafodd ein tîm pêl-rwyd amser gwych neithiwr yn chwarae twrnamaint gydag Ysgol Gynradd Griffithstown. Enillodd y tîm 5 allan o 6 gêm. Mae eu sgiliau wedi datblygu'n wirioneddol ac maent yn gweithio mor dda fel tîm. Da iawn merched! Rwyf mor falch o'ch holl ymdrechion!


Mrs Lucy Peart

Gyda chalon drom y cyhoeddaf yn swyddogol y bydd Mrs Peart yn symud ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd Mrs Peart yn symud i Ysgol Gymraeg Gwynllyw i weithio. Rydym mor ddiolchgar am bopeth mae Mrs Peart yn ei wneud ar ran ein hysgol a’n plant – a byddwn yn gweld ei cholli’n fawr. Fodd bynnag, gwyddom fod hwn yn newid gwirioneddol gyffrous iddi wrth iddi gychwyn ar gam nesaf ei gyrfa. Er i ni golli Mrs Peart fe fydd hi’n ased arddechog i Wynllyw!


Trip Blaenafon

Peidiwch ag anghofio talu am Daith Rheilffordd Blaenafon trwy Civica Pay os yw eich plentyn yn Ngham Cynnydd 2 (Blynyddoedd 1, 2 a 3). Bydd y plant yn mynd wythnos nesaf ar Ddydd Mercher, 13eg o Orffennaf, ac mae angen gwneud trefniadau terfynol.


Gofynnaf yn garedig i chi fewngofnodi i dalu heddiw. Os ydych yn cael anhawster, cysylltwch â ni heddiw.


Nodyn Atgoffa Cyflym

Daw ein blwyddyn ysgol i ben ar ddydd Iau, 21ain o Orffennaf. Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae hyn yn golygu nad oes ysgol ar ddydd Gwener, 22ain Gorffennaf. Rhoddwyd y diwrnod ychwanegol hwn i ni yn lle colli gŵyl banc y Jiwbilî Platinwm gan iddi ddisgyn yng nghanol hanner tymor.

 

Sports Days

Yesterday, was a great day for our youngest children’s first sports day! It was great to have parents back for this event. Today, we have Progress Step 2 (Years 1,2 and 3) followed by Progress Step 3 (Years 4, 5 and 6) tomorrow)!

Year 6 Leavers Assembly

On Monday, 18th of July, at 2pm, we are holding a special celebration assembly for our Year 6 pupils. Parents are invited to this event as per the previous email sent to families.


This will be an opportunity to celebrate their success and time at Ysgol Panteg before they move on to their secondary schools.


Governors’ Profile

We continue today learning about our Governing Body. Today it is Vikki’s turn!


My Name is Victoria Horlor-Childs and I am a Parent Governor at Ysgol Panteg, with Children in Year 2.

I hold Link Governor roles for Safeguarding and Wellbeing within the school. This fits in well with my roles outside of school. I am a Psychological Therapist within our local Health Board, trained to work with children in creative play therapy, and adult therapy.

My vision is to ensure Ysgol Panteg maintains a high standard of care and safety for all our children. In my spare time, I like to binge-watch any Netflix shows - recommendations are always welcome.

Summer Fete

We had a great time on Saturday joining together for our Summer Fete! It was so great to see so many of you there! There were over 500 people who came! The PTA raised over £1,000 to support our children’s learning and school experience.


Thank you especially to Kerryanne Windram who arranged the stalls. Thank you to the rest of the PTA committee (Catherine Mogg, Hayley Hale and Emma Norman) who made this event a huge success. A lot of hard work went into this event and I know that you will join with me in expressing your gratitude.


Class Photos

We are still waiting information from the photography company around purchasing photographs. As soon as we know how you can purchase, we will send it out in an separate email.


Netball Tournament Last Evening

Our netball team had a great time last night playing a tournament with Griffithstown Primary. The team won 5 out of 6 games. Their skills have really developed and they work so well as a team. Da iawn merched! I am so proud of all your efforts!


Mrs Lucy Peart

It is with a heavy heart that I officially announce that Mrs Peart will be moving at the end of the year. Mrs Peart will be moving to Ysgol Gymraeg Gwynllyw to work. We are so grateful for all that Mrs Peart does on behalf of our school and children - and will miss her greatly. However, we know that this is a really exciting change for her as she embarks on the next stage of her career. Our loss is Gwynllyw’s gain!


Blaenavon Trip

Please don’t forget to pay for the Blaenafon Railway Trip via Civica Pay if your child is in Progress Step 2 (Years 1, 2 and 3). The children will be going next week on Wednesday, 13th of July, and we need to be making final arrangements.


I kindly ask that you log in to pay today. If you are having difficulty, please get in contact with us today.


Quick Reminder

Our school year ends on Thursday, 21st of July. As previously announced, this means there is no school on Friday, 22nd of July. This extra day was gifted to us in lieu of missing the Platinum Jubilee bank holiday since it fell in the middle of half term.

102 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page