top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 17.06.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,


Mae'n ddydd Gwener eto! Am wythnos brysur a llawn dop rydym wedi ei chael yn Ysgol Panteg.


Ffair Haf!

Yn agosau'n gyflym mae ein ffair Haf! Rydyn ni mor gyffrous am hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw i gefnogi oherwydd mae pob ceiniog o elw yn mynd at helpu profiadau dysgu ein plant. Ond, hefyd, dewch i fwynhau amser gyda'ch gilydd!



Clwb yr Urdd Heno

Fel teuluoedd, eisoes yn ymwybodol o ebost Hannah, does dim Clwb Chwaraeon yr Urdd heno.


Gymnasteg Daisy

Hoffem longyfarch Daisy ym Mlwyddyn 4 ar ei llwyddiant dros y penwythnos. Cymerodd Daisy ran mewn cystadleuaeth Gymnasteg yng Ngerddi Sophia ac enillodd ddwy fedal efydd, dwy fedal aur a phencampwr cyffredinol ar gyfer ei grŵp oedran. Ffantastig!


Cerddoriaeth Upbeat

Mae ein plant Blwyddyn 4 a 5 wedi bod yn drymio ddoe! Yn wythnosol, am weddill y tymor, mae'r dosbarthiadau hyn yn dysgu sut i chwarae drymiau Affricanaidd. Roedd hi’n wych eu gweld ein plant yn mwynhau eu hunain gymaint yn ymuno mewn rhythmau a churiadau gyda'u Djembe eu hunain! Cymaint o hwyl wrth ddysgu sgil newydd!



Cystadleuaeth Pêl-Droed Wythnos nesaf

Nos Lun, cafodd plant Blynyddoedd 4, 5 a 6 amser gwych yn chwarae pêl droed yn erbyn ei gilydd i baratoi ar gyfer cystadleuaeth wythnos nesaf. Braf gweld ein plant yn mwynhau’r awyr agored ac yn cystadlu eto! Ewch ati i guro nhw!


Ffotograffau Dosbarth

Ddoe, cawsom ffotograffau dosbarth. Roedd hi'n ddiwrnod mor hyfryd fel y llwyddwyd i gael tynnu ein lluniau y tu allan. Cyn gynted ag y bydd proflenni'n barod, byddwn yn anfon y wybodaeth atoch fel y gallwch brynu'r ffotograffau.


Teithiau yr Wythnos Hon

Yr wythnos hon, mae ein plant Blwyddyn 3 wedi cael amser gwych yn Fferm Gymunedol Greenmeadow yn dysgu llawer o sgiliau gwahanol. Clywaf eu bod yn cael rhostio malws melys dros y tân! Mae ein plant Cam Cynnydd 2 hefyd wedi cael amser gwych yn dysgu am ein hardal leol ar eu taith gerdded camlas! Mae wythnos nesaf yn wythnos dawelach!


Mabolgampau

Oherwydd newid dyddiad yn mabolgampau Ysgol Gwynllyw, rydym wedi gorfod addasu ein Mabolgampau ar gyfer Blwyddyn 6. Nid oes unrhyw newid i rieni unrhyw grwpiau blwyddyn eraill. Gweler isod y rhestr o ddiwrnodau mabolgampau yn llawn.


Mae mabolgampau Gwynllyw, ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6, bellach yn rhedeg ar y 29ain o Fehefin o 12:30yp. Sy'n golygu y byddwn yn cynnal mabolgampau Blwyddyn 6 ar ddydd Gwener 1af o Orffennaf yn unol â'r tabl isod. Rydym wedi trefnu bws i fynd â’r plant i Gwynllyw. Gofynna Gwynllyw yn garedig i chi gyrraedd yr ysgol rhwng 15:30 a 16:00 i gasglu eich plentyn, bydd cyfle wedyn i fynd ar daith o amgylch yr ysgol a bydd cyflwyniad yn y neuadd am 17:00. Bydd angen pecyn bwyd ar y plant.


(Gwelir yr ebost am mwy o wybodaeth)


Cornel y Llywodraethwyr

Yn y fwletinau nesaf, rydyn ni'n mynd i rannu ychydig gyda chi am ein llywodraethwyr fel eich bod chi'n gwybod pwy ydyn nhw a rhywfaint o'u cefndir. Heddiw, rydym yn dechrau gydag un o’n llywodraethwyr cymunedol, Melissa Garrett.


Fy enw i yw Melissa Garrett, rwy’n 41 oed ac rwyf wedi bod yn Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Panteg ers Ebrill 2020. Mae gennyf dri o blant o fewn yr ysgol ym mlynyddoedd pedwar, dau ac yn Derbyn. Symudodd fy nheulu i Gymru o Loegr yn 2017 felly yn anffodus nid wyf yn siaradwr Cymraeg eto er bod hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei ddysgu pan fydd amser a fy nghof yn caniatáu. Fodd bynnag, rwyf wedi codi cryn dipyn o eiriau gan fy hynaf ac yn ceisio eu defnyddio pan allaf. Rwy'n gweithio fel gweinyddwr yn y Llynges Frenhinol ac ar hyn o bryd rwy'n cael fy lleoli tan fis Tachwedd yn Ynysoedd y Falkland, yn colli fy nheulu a'r haf ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd ar gyfer gwyliau. Y tu allan i'r gwaith rwy'n mwynhau gwneud celf diemwnt a dawnsio i gerddoriaeth cawslyd gyda fy mhlant.

Hetiau, Poteli Dŵr a Bloc Haul

Diolch yn fawr iawn am anfon eich plant i mewn heddiw gyda hetiau, poteli dŵr a gwisgo eli haul. Yn y gwres hwn, mae mor bwysig cadw plant yn ddiogel fel hyn. Mae rhai o'n plant wedi dod ag eli haul i mewn heb amddiffyniad SPF. Mae fferyllfeydd fel arfer yn argymell amddiffyniad SPF 50 i blant. Mae eli haul yn gynnyrch gwahanol iawn sy'n annog croen i liw haul a gall gyflymu'r broses losgi.

 

Good morning!


It’s Friday again! What a busy and packed week we’ve had at Ysgol Panteg.


Summer Fair!

Fast approaching is our Summer fair! We are so excited for this! Please make sure you come along to support because every penny of profit goes to helping our children’s learning experiences. But, also, come to enjoy time together!

Urdd Club Tonight

As families are already aware from Hannah's email, there is no Urdd Sports Club this evening.


Daisy's Gymnastics

We’d like to congratulate Daisy in Year 4 for her success over the weekend. She took part in a Gymnastics competition at Sophia Gardens and won two bronze medals, two golds and overall champion for her age group. Fantastic!


Upbeat Music

Our Year 4 and 5 children were drumming yesterday! Weekly, for the rest of the term, these classes are learning how to play African drumming. It was so fantastic to see them enjoying themselves so much joining in rhythms and beats with their own Djembe! So much fun, while learning a new skill!

Next Week's Football Competition

Monday night, children from Years 4, 5 and 6 had a great time playing football against one another to prepare for a competition next week. It’s so good to see our children enjoying the outdoors and competing again! Go get 'em!

Class Photographs

Yesterday, we had class photographs. It was such a lovely day that we managed to get our photographs taken outside. As soon as proofs are ready, we will send you the information so that you can purchase the photographs.


This Week’s Trips

This week, our Year 3 children have had a great time at Greenmeadow Community Farm learning lots of different skills. I hear they got to roast marshmallows over the fire! Our Progress Step 2 children have also had a great time learning about our local area on their canal walk! Next week is a quieter week!


Sports Days

Due to a change of date at Ysgol Gwynllyw, we have had to make an adjustment to our planned Sports Day for Year 6. There is no change for the parents of any other year groups. Please find below the list of sports days in full.


Gwynllyw’s sports day, for Year 6 pupils, now runs on the 29th of June from 12:30pm. Which means we will hold a Year 6 sports day on Friday 1st of July as per the table below. We have arranged a bus to take the children to Gwynllyw. Gwynllyw kindly ask that you arrive at school between 15:30 and 16:00 to collect your child, there will then be an opportunity to go on a tour of the school and there will be a presentation in the hall at 17:00. The children will need a packed lunch.


(Please see email for more information)


Governor Corner

For the next few bulletins, we are going to share with you a little about our governors so that you know who they are and some of their background. Today, we start with one of our community governors, Melissa Garrett.


My name is Melissa Garrett, I am 41 and I have been a Community Governor at Ysgol Panteg since April 2020. I have three children within the school in years four, two and in Derbyn. My family moved to Wales from England in 2017 so sadly I am not yet a Welsh speaker although this is something I wish to learn when time and my memory allows. I have however picked up a fair amount of words from my eldest and try to use them when i can. I work as an administrator in the Royal Navy and I am currently deployed until November in the Falkland Islands, missing my family and the summer and looking forward to my return for some much needed leave. Outside of work I enjoy doing diamond art and dancing to cheesy music with my children.

Hats, Water Bottles and Sunblock

Thank you so much for sending your children in today with hats, water bottles and wearing sunblock cream. In this heat, it is so important to keep children safe in this way. A few of our children have brought in suntanning lotion without SPF protection. Pharmacies normally recommend SPF 50 protection for children. Suntanning lotion is a very different product which encourages skin to tan and can speed up the burning process.

82 views0 comments

Commentaires


bottom of page