top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 17.05.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd i Staff y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Er mwyn rhoi rhybudd i deuluoedd ac er mwyn helpu chi gynllunio eich amser gwyliau, hoffwn eich hysbysu chi am ddyddiadau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Ar hyn o bryd, rydym o dan yr argraff y bydd 5 diwrnod ar gyfer dysgu proffesiynol ein staff y flwyddyn nesaf. Felly, dyrranir y dyddiadau fel a osodir isod:


-Dydd Gwener, 2il o Fedi, 2022 (sy’n meddwl fydd y flwyddyn newydd yn dechrau Ddydd Llun, 4ydd o Fedi, 2022)

-Dydd Llun, 7fed o Dachwedd, 2022 (yn dilyn Gwyliau Hanner Tymor yr Hydref)

-Dydd Llun, 9fed o Ionawr, 2023 & Dydd Mawrth, 10fed o Ionawr, 2023 (yn dilyn Gwyliau’r Nadolig)

-Dydd Llun, 17eg o Ebrill, 2023 (yn dilyn Gwyliau’r Pasg).


Mae hyn yn meddwl, ar y dyddiau hyn ni fydd ysgol ar gyfer ein disgyblion.


Cofiwch hefyd ein bod ni’n gorffen Tymor yr Haf y flwyddyn hon Ddydd Iau, 21ain o Orffennaf, 2022. Mae hyn yn meddwl ni fydd ysgol Ddydd Gwener, 22ain o Orffennaf, 2022, gan ein bod ni wedi penodi hynny fel diwrnod Gwyl y Banc y Jiwbili Platinwm.


Gemau Chwaraeon Cyntaf Ers y Cyfnodau Clo!

Neithiwr, roeddem mor falch o groesawu Ysgol Gynradd New Inn ac Ysgol Gynradd Griffithstown ar gyfer ein gemau chwaraeon go iawn cyntaf yn erbyn ysgolion lleol ers 2020! Rydym mor falch o faint o ymdrech y mae ein tîm yn ei roi i'w hymarfer. Fe enillon ni rai gemau, ond rydym yn falch iawn i New Inn a enillodd y gystadleuaeth!

Gwersyll Mawr Blwyddyn 6

Rydym mor gyffrous bod ein Taith Blwyddyn 6 yn digwydd yr wythnos hon! Ar ôl bod mor ddeallus bod eu taith i Langrannog wedi’i chanslo oherwydd bod y safle’n cael ei ddefnyddio gan ffoaduriaid o’r Wcrain, bydd ein Blwyddyn 6 yn cysgu draw yn yr ysgol ac yn cael amser gwych yn cwblhau cymaint o weithgareddau! Dan ni’n mynd i’r parc trampolîn, i’r theatr i weld ‘Singing in the Rain’ a chael noson pizza. Rydyn ni'n mynd i'r Celtic Manor ar gyfer gweithgareddau rhaffau, saethyddiaeth, aur antur, rhwydi coedwig a gemau laser. Rydyn ni'n mynd i fowlio, yn mynd i Ninja Warrior UK a Rafftio Dŵr Gwyn. Rwy’n siŵr y cânt amser gwych!


Os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau, neu eich bod chi heb dderbyn gwybodaeth ar ffurf cyflwyniad gan Mr. Alexander (a fydd yn arwain y trip), cysylltwch gyda ni heddiw.


Trip Gilwern Blwyddyn 5

Diolch i bawb a ddaeth i’n noson agored ar gyfer trip Gilwern neithiwr. Fel uchod, os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, plis cysylltwch gyda ni!

Mae’r disgyblion wedi derbyn rhestr cit ac atodwn y pwerbwynt yma i’r bwletin.


Gwersylloedd Diwrnod yr Urdd

Mae gwersylloedd diwrnod Aml-Chwaraeon yr Urdd nôl am wyliau’r Sulgwyn, yn ardal Gwent.


Gweler dyddiadau amseroedd a lleoliadau isod:

Y Fenni (Canolfan Hamdden y Fenni) – 30/05/22 (9yb-3yp)

Torfaen (Ysgol Panteg)- 31/05/22 (9yb-3yp)

Casnewydd (Ysgol Gwent Is Coed) 1/06/22 (9.yb-3yp)



Cost diwrnod yw £19.


Swyddi i ddod yn Ysgol Panteg

Ydych chi'n addas ar gyfer un o'r swyddi hyn yn Ysgol Panteg? Gwnewch gais heddiw! Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n addas i weithio yn un o'r rolau hyn? Anogwch nhw i wneud cais!


- Swyddog Cefnogi Ysgol Rhan Amser, Lefel 2 (12.5 awr)


-Cynorthwyydd Addysgu Cynllun Prosiect Blwyddyn Allan


Cyfarfodydd Cynnydd a Lles

Gan ein bod ni bellach yn nhymor yr Haf, rydym unwaith eto yn cynnig y cyfle i chi gwrdd ag athro eich plentyn. Nid yw hwn yn gyfarfod gorfodol, gan y byddwn yn cael adroddiad interim byr, un dudalen unwaith eto cyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rydym wedi neilltuo 3:30pm-5:30pm ar y 6ed a’r 7fed o Fehefin os hoffech gysylltu gydag athro/athrawes eich plentyn, trafod pontio, gofyn cwestiynau am y camau nesaf neu ddim ond cael gwybod am gynnydd eich plentyn ers yr adroddiad a gawsoch cyn y Pasg.


Er mwyn trefnu sgwrs ffôn neu gyfarfod Timau Microsoft gydag athro eich plentyn, llenwch y ffurflen hon isod. Y cyntaf i’r felin caiff falu! Dyddiad cau bwcio fydd Ddydd Llun, 23ain o Fai am 12:00yp.



Atgof am Fabolgampau’r Ysgol

Fel y gyhoeddwyd yn flaenorol, rydym yn gyffrous unwaith eto i hysbysebu y byddwn yn cynnal mabolgampau y gall rhieni eu mynychu! Dyma ddyddiadau eich dyddiadur. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn nes at yr amser. Gan y gall y digwyddiadau hyn ddibynnu ar y tywydd, dyma'r dyddiadau a roddir ar gyfer ein dyddiad arfaethedig a'r dyddiadau wrth gefn. Rydyn ni'n rhoi'r dyddiadau hyn i chi nawr rhag ofn y byddwch chi'n dymuno archebu amser i ffwrdd o'r gwaith i fynychu. (Gwelir y dyddiadau yn y ebost)

 

Staff Training Days for Staff of the Next Academic Year

To give families enough warning and to help you plan your holiday time, I would like to inform you of our staff training dates for the next academic year. We are currently aware that there will be 5 days for the professional learning for our staff next year. Therefore, the dates will be allocated as set out below:


-Friday, 2nd of September, 2022 (which means the new academic year will start for children on Monday, 4th September, 2022)

-Monday, 7th of November, 2022 (following the Autumn Half Term Holidays)

-Monday, 9th of January, 2023 & Tuesday, 10th of January, 2023 (following the Christmas Holidays)

-Monday, 17th of April, 2023 (following the Easter Holidays).


This means, on these days there will be no school for our pupils.


Also keep in mind that we are ending the Summer Term this year on Thursday, 21st of July, 2022. This means that there will be no school on Friday, 22nd of July, 2022, as we have appointed that as the Platinum Jubilee Bank Holiday.


First Sports Fixtures Since Lockdown!

Last night, we were so pleased to welcome New Inn Primary and Griffithstown Primary School for our first real sports fixtures against local schools since 2020! We are so proud of how much effort our team puts into their practice. We won some games, but we are really pleased for New Inn who won the competition!





Year 6 Big Sleepover

We are so excited that our Year 6 Trip is happening this week! After being so understanding their Llangrannog trip was cancelled due to the site being used by Ukrainian refugees, our Year 6 will be sleeping over at school and having a fantastic time completing so many activities! Over the next three days we are going to the trampoline park, to the theatre to see ‘Singing in the Rain’ and having a pizza night. On day two we are going to the Celtic Manor for rope activities, archery, adventure gold, forest nets and laser games. Finally, day three we are going bowling, going to Ninja Warrior UK and White Water Rafting. I’m sure that they will have a fantastic time!


Year 5 Gilwern Trip

Thank you to everyone who attended our open evening for the Gilwern trip last night. As above, if you have any questions, please contact us!

The pupils have received a kit list and we attach last night’s presentation to this bulletin.


Urdd Multi-Sports Days

Urdd multi-sport activity day are back for the Whitsun week in the Gwent area.


See timetable and locations below:

Abergavenny (Abergavenny Leisure Center) - 30/05/22 (9 am-3pm)

Torfaen (Ysgol Panteg) - 31/05/22 (9 am-3pm)

Newport (Ysgol Gwent Is Coed) 1/06/22 (9.am-3pm)


To register to attend one of these sports activity days, follow this link:


The cost of a day is £19.


Upcoming Jobs at Ysgol Panteg

Are you suitable for one of these jobs at Ysgol Panteg? Apply today! Do you know someone who would be suitable to work in one of these roles? Urge them to apply!


-NEW!!! Part Time School Support Officer, Level 2 (12.5 hours per week)


-Gap Year Teaching Assistant


Pupil Progress and Wellbeing Meetings

Now that we are in the Summer term, we are once again offering you the opportunity to meet with your child’s teacher. This is not a compulsory meeting, since we will be having short, one page interim report once again before the end of the year. However, we have allocated 3:30pm-5:30pm on the 6th and 7th of June if you would like to touch base with your child’s teacher, discuss transition, ask questions about next steps or simply find out about your child’s progress since the report before Easter.


In order to book a telephone conversation or Microsoft Teams meeting with your child’s teacher, simply fill out this form below. First come first served with regards to time slots! The booking deadline will be Monday, May 23rd at 12:00pm.



Reminders Sports Days

As previously announced, we are excited once again to advertise that we will be holding sports days which can be attended by parents! Here are the dates for your diary. More information will be released closer to the time. Since these events can be weather dependent, below find dates given for our intended date and back up dates. We are giving these dates to you now in case you wish to book time off work to attend. (Please see dates in the email or contact the office for more information)

75 views0 comments

Komentarze


bottom of page