SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Eisteddfod
Neithiwr, roeddwn i mor falch o allu cefnogi ein plant yn eu hymdrechion yn yr Eisteddfod Sir. Roedd ein grŵp 'Dawnsio Disgo' yn wych. Roedd yn wych gweld yr egni a roddwyd i hyn a'u brwdfrydedd. Roedden nhw wir yn sêr yn dangos ein gwerthoedd craidd o fod yn uchelgeisiol a chael ein tanio - dwi'n dymuno pe bai cynulleidfa i'w gweld! Mae Miss Parry a Miss Parker yn mynd i ail-ffilmio eu perfformiad oherwydd ychydig o faterion technegol fel y gallwn rannu hyn. Rydyn ni'n disgwyl mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda'r criw yma nawr!
Ddydd Sadwrn, mae gennym ni blant unigol yn perfformio yn yr Eisteddfod Sir. Felly, dymunwn y gorau ac eisiau iddyn nhw wybod bod ganddyn nhw holl Deulu Panteg y tu ôl iddyn nhw.
-Unawd i Flynyddoedd 1 a 2: Mali ac Oscar
-Unawd i Flynyddoedd 3 a 4: Betsan a Sophia
-Unawd i Flynyddoedd 5 a 6: Seren ac Evelyn
-Llefaru i Flynyddoedd 5 a 6: Evelyn a Sophie
Sgiliau Bywyd
Rydyn ni'n mynd i fod yn gweithio gyda'n clwstwr o ysgolion i ddatblygu elfen sgiliau bywyd i'n cwricwlwm o'r Meithrin yr holl ffordd i Flwyddyn 9. Yn Ysgol Panteg, rydyn ni wir yn credu ein bod eisiau i'n plant fod yn gyflawn ac yn gallu i fod yn llwyddiannus yn eu bywyd. Rydym yn datblygu pasbort sgiliau bywyd ar gyfer ein plant ac mae gennym gynlluniau mawr i gyfoethogi profiadau bywyd ysgol y plant. Ond, rydyn ni eisiau gwybod eich syniadau. Rydym eisiau gwybod pa brofiadau dysgu y credwch y dylai ein plant eu cael er mwyn llywio ein cynllunio.
Gall y sgiliau bywyd hyn amrywio o bethau fel gwneud brechdan erbyn Blwyddyn 2, coginio pryd syml erbyn diwedd y cyfnod cynradd, dysgu sut i gyllidebu ar gyfer siop wythnosol, dysgu sut i blannu, gwisgo tei ysgol, ymweld â theatr, ymweld â fferm, dysgu sut i ateb ffôn yn gywir a chymryd rhan mewn codi arian ar gyfer y gymuned leol. Yn wir, mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd.
Felly, rydyn ni wedi sefydlu dull i chi fwydo'ch syniadau i'r cynllunio hwn. Ddydd Gwener nesaf, mae gweithgor yn mynd i ddidoli’r holl syniadau hyn a datblygu rhaglen y gallwn ei hychwanegu at ein cwricwlwm i gyfoethogi sgiliau bywyd ein plant.
Dilynwch y ddolen hon i roi eich barn i ni. Ychwanegwch gyn lleied neu gymaint ag y gallwch chi feddwl amdano!
Clybiau ar ôl Ysgol
Wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi clybiau ar gyfer tymor yr Haf ac yn anfon taflen gofrestru. Ni fydd clybiau yn digwydd yr wythnos gyntaf yn ôl, dyma pryd y byddwn yn gwneud trefniadau terfynol ac yn hysbysu teuluoedd o ddyraniadau clwb. Felly, bydd y clybiau cyntaf yn cychwyn yn ôl ar ddydd Llun, yr 2il o Fai. Mwy o fanylion i ddilyn.
Cymraeg i’r Teulu
Ar ôl peilot llwyddiannus ein sesiynau Cymraeg i’r Teulu sy’n digwydd yn wythnosol, rydyn ni’n dod i ddiwedd 6 wythnos y grŵp yma! Mae plant Meithrin a Derbyn wedi bod yn cyfarfod â’u rhieni i ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd yn ein neuadd ysgol.
O’r adborth a gefais, mae wedi bod yn hynod fuddiol! Fel ysgol, diolchwn i Mrs. Redwood am gynllunio a chynnal y sesiynau hyn mor wych.
Rydym yn edrych i gael ein grŵp nesaf yn dechrau gyda ni ar ôl y Pasg am 6 wythnos. Cynhelir y sesiwn gyntaf ar ddydd Mawrth, 3ydd o Fai am 9.15am a bydd yn para 45 munud. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon!
Dyddiau Pwysig
-7fed o Ebrill – Cystadleuaeth Boned Pasg
-8fed o Ebrill – Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd
-25fed o Ebrill - Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd
-26fed o Ebrill - Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd
Y Disgybl Cyfrinachol
Os gallwch chi gofio, cyn y Nadolig, fe wnes i rannu gyda chi rai o'r pethau gwych a doniol a ddywedodd ein plant am ein staff. Pan fyddaf i a fy nhîm yn treulio amser yn arsylwi gwersi, yn darparu adborth adeiladol ac yn cefnogi datblygiad staff, un o'r pethau allweddol yw siarad â phlant am yr hyn y maent yn ei deimlo. Maen nhw'n onest ac maen nhw mor ofalgar. Dwi’n casglu rhai o’r pytiau o bethau maen nhw’n dweud – yn enwedig y rhai doniol i’w rhannu gyda’r staff. Heddiw, rydw i’n mynd i rannu gyda chi, rhai o’r pethau ‘Disgybl Cudd’ maen nhw wedi’u dweud a byddaf yn rhannu mwy gyda chi wythnos nesaf!
Miss Harley, Dosbarth Derbyn: “Rwy’n hoffi Miss Harley. Rwy’n hapus bod hi nôl. Mae hi’n hoffi fi. Ni yn neud lots o gwaith a fi’n ga-chi darllen! Wanna see?”
Miss O'Sullivan, Blwyddyn 3: “Rwy’n hoffi Miss O’Sullivan. Mae hi wedi helpu fi lots. Rwy’n gwybod bod fi’n gwneud yn dda oherwydd mae hi’n dweud llawer.”
Miss Williams, Dosbarth Derbyn: “Miss (Rhian) Williams yn neis. When I be good she gives me big ffumbs up! When I be bad, she sits me down and talks to me.”
Mrs Wallis-Evans, Blwyddyn 3: “Mae Mrs Evans yn neis. Ni wedi gwneud lots o waith a fi’n gwybod lots nawr. ‘Sbecially am y cerrig i gyd!”
Mr. Rainsbury, Blwyddyn 5: “Mae Mr Rainsbury yn athro da iawn. Rwy’n gwybod sut i wneud pethau pan mae e yn dysgu ni. Fel heddiw, ni’n dysgu rhywbeth newydd.”
Miss Jones, Blwyddyn 1: “Mae Miss Jones wedi setlo mewn yn neis. She’s gwahanol to Mrs Johnson. I like both of them much.”
Mrs Williams, Lles: “Mrs Williams yn helpu fe setlo lawr. Weithiau rwy yn teimlo’n sgwigli – wedyn rwy’n teimlo’n gwell ar ôl siarad gyda hi.”
Miss Rogers, Meithrin: “Miss Rogers is Miss Browning’s little elf. I’m mammy’s elf. I help her do the stuff in the house.”
Mrs. Johnson, Blwyddyn 1: “Mae Mrs Johnson wedi gadael nawr i gael ei baby! Fi eisiau gweld y baby! ‘Ope it’s a boy, mind.”
Eisteddfod
Last night, I was so proud to be able to support our children in their efforts at the County Eisteddfod. Our 'Disco Dancing' group were fantastic. It was so great to witness the energy they put into this and their enthusiasm. They truly were stars showing our core values of being ambitious and being fired-up - I just wish they had had an audience to see them! Miss Parry and Miss Parker are going to refilm their performance due to a few technical issues so that we can share this. We expect to be going off to the National Eisteddfod with this group now!
On Saturday, we have individual children performing in the County Eisteddfod. So, we wish them all the best and want then to know that they have the whole of the Panteg Family behind them.
-Solo for Years 1 and 2: Mali and Oscar
-Solo for Years 3 and 4: Betsan and Sophia
-Solo for Years 5 and 6: Seren and Evelyn
-Recitation for Years 5 and 6: Evelyn and Sophie
Life Skills
We are going to be working with our cluster of schools to develop a life skills element to our curriculum from Nursery all the way to Year 9. At Ysgol Panteg, we truly believe that we want our children to be well-rounded and to be able to be successful in their life. As such, we are developing a life skills passport for our children and have big plans to enhance the children’s school life experiences. But, we want to know your ideas. We want to know what learning experiences you think our children should have in order to inform our planning.
These life skills can range from things such as making a sandwich by Year 2, cooking a simple meal by the end of primary, learn how to budget for a weekly shop, learn how to plant, putting on a school tie, visiting a theatre, visiting a farm, learning how to answer a phone correctly and engaging in fundraising for the local community. Indeed, the possibilities are endless.
So, we’ve set up a method for you to feed in your ideas into this planning. Next Friday, a working party is going to sort through all of these ideas and develop a programme that we can add to our curriculum to enrichen our children’s life skills.
Follow this link to give us your views. Add as little or as many as you can think of!
After-School Clubs
Next week, we will be announcing clubs for the Summer term and sending a sign up sheet. Clubs will not happen the first week back, this is when we will make final arrangements and inform families of club allocations. So, the first clubs will start back on Monday, 2nd of May. More details to follow.
Cymraeg i’r Teulu
After the successful pilot of our Welsh for the family sessions that happen on a weekly basis, we are coming to the end of this group’s 6 weeks! Nursery and Reception children have been meeting with their parents to learn Welsh together in our school hall.
From the feedback I’ve received, it has been extremely beneficial! As a school, we thank Mrs. Redwood for planning and running these sessions so wonderfully.
We are looking to have our next group (nursery and reception parents) starting with us after Easter for 6 weeks. The first session will be held on Tuesday, 3rd of May at 9.15am and will last 45 mins. Sign up using this link!
Important Dates
-7th April - Easter Bonnet Competition
-8th April - Staff Training Day
-25th April - Staff Training Day
-26th April - Staff Training Day
The Secret Pupil
If you can remember, before Christmas, I shared with you some of the wonderful and funny things our children said about our staff. When I and my team are spending time observing lessons, providing constructive feedback and supporting staff development, one of the key things is to talk to children about what they feel. They are honest and they are so caring. I collect some of the snippets of things they say - especially the funny ones to share with the staff. Today, I am going to share with you some of the ‘Secret Pupil’ things they’ve said and I will share more with you next week!
Miss Harley, Recpetion Class: “I like Miss Harley. I’m happy that she is back. She likes me. We do a lot of work and I can read! Wanna see?”
Miss O'Sullivan, Year 3: “I like Miss O’Sullivan. She has helped me lots. I know I’m doing good because she tells me a lot.”
Miss Williams, Reception Class: “Miss (Rhian) Williams is nice. When I be good she gives me big ffumbs up! When I be bad, she sits me down and talks to me.”
Mrs Wallis-Evans, Year 3: “Mrs Evans is nice. We do a lot of work and I know lots now. ‘Sbecially about all the different rocks!”
Mr. Rainsbury, Year 5: “Mr Rainsbury is a good teacher. I understand how to do things when he teaches us. Like today, we learnt something new.”
Miss Jones, Year 1: “Miss Jones is settling in well. She’s different to Mrs Johnson. I like both of them much.”
Mrs Williams, Wellbeing: “Mrs Williams helps me settle down. Sometimes I feel a bit sgwigli – but after I’ve spoken to her I feel a lot better.”
Miss Rogers, Nursery: “Miss Rogers is Miss Browning’s little elf. I’m mammy’s elf. I help her do the stuff in the house.”
Mrs. Johnson, Year 1: “Mrs Johnson has left us now I have her baby! I want to see the baby! ‘Ope it’s a boy, mind.”
Comments