top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 22.03.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Gobeithio eich bod yn cael wythnos dda hyd yn hyn!



Nodyn i'ch Atgoffa i Fwcio Gofal Plant y Pasg

Yn fy mwletin dydd Gwener, soniais am y cynnig gofal plant sy’n cael ei redeg gan yr Urdd a Menter Iaith. Dyma'r dolenni eto! Bwciwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi!


Boreau Hwyl Menter Iaith, 10:00yb-12:00yp. Cost £3.

Dydd Mawrth 12fed, dydd Mercher 13eg a dydd Iau 14eg o Ebrill

O 5 oed.


Dyddiau Hwyl Pasg yr Urdd, 9:00yb-3:00yp. Cost £19 y dydd.

Dydd Llun 11eg, dydd Mercher 20fed, dydd Iau 21ain a dydd Gwener 22ain o Ebrill

O 6 oed.


Diwrnodau Hyfforddiant i Ddod

Cofiwch, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bod gennym ddiwrnodau hyfforddi ar y gweill:

-Dydd Gwener, Ebrill 8fed

-Dydd Llun Ebrill 25ain

-Dydd Mawrth Ebrill 26ain

Felly, ar y dyddiau hyn, ni fydd ysgol i blant.


Castell Fonmon

Mae ein Blwyddyn 1 i Flwyddyn 3 yn cynnal cyfres o ymweliadau addysgol i Gastell Ffonmon. Mae hwn yn ddiwrnod allan gwych gyda llawer o bethau hwyliog i'w gwneud a'u gweld gan gynnwys deinosoriaid gwir i raddfa a llwybrau antur. Os yw'ch plentyn yn un o'r dosbarthiadau hyn, cofiwch fynd ymlaen i CivicaPay i dalu am yr ymweliad. Os ydych chi'n cael trafferth talu am y daith oherwydd materion technegol neu resymau eraill, cysylltwch â ni heddiw.


Ein Taith Blwyddyn 6 i Langrannog

Mae teuluoedd ein disgyblion Blwyddyn 6 eisoes wedi cael gwybod, ond mae ein taith breswyl i Langrannog wedi ei ganslo oherwydd bod y safle bellach yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ffoaduriaid o’r Wcrain. Rydym yn deall cymaint y mae ein plant wedi colli allan dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly, rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflinedig i aildrefnu’r ymweliad hwn â rhywbeth cystal. Bydd mwy o fanylion yn dilyn pan fyddwn wedi gwneud trefniadau terfynol.


COVID-19

Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae'n ymddangos ein bod ni'n cael achosion o COVID-19 yn ailymddangos. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd bod achosion yn Nhorfaen wedi cynyddu gan 89%. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch beidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol os oes ganddo un neu fwy o'r symptomau canlynol:

-tymheredd uchel – mae hyn yn golygu eu bod yn teimlo'n boeth i gyffwrdd ar eu brest neu eu cefn

-peswch newydd, parhaus - mae hyn yn golygu peswch llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o achosion o beswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)

- colled neu newid i'w synnwyr arogli neu flas - mae hyn yn golygu eu bod wedi sylwi na allant arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i normal.


Adrodd Absenoldebau

Cofiwch rhoi wybod i ni am absenoldeb ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb eich plentyn. Gofynnwn yn garedig i chi ffonio a dilyn y system awtomataidd neu anfon e-bost at y swyddfa cyn 9am. Mae hyn yn ein harbed rhag gorfod gwneud llawer o alwadau ffôn bob dydd. I ni, mae’n fater diogelu plant pan nad ydym yn gwybod ble mae plentyn.


Anelwn at bresenoldeb 100% fel y senario achos gorau. Fodd bynnag, rydym yn deall bod plant yn sâl ac yn yr amseroedd digynsail hyn yn gorfod ynysu i wella ar ôl COVID-19 a chadw eraill yn ddiogel. Mae ein presenoldeb, fel ysgol, ar hyn o bryd yn 92.8%. Mewn amgylchiadau arferol, rydym yn priodoli i bolisi ‘Anelu am 95%’ Torfaen. Yn adroddiad eich plentyn, sydd i’w ddosbarthu ddydd Iau, fe welwch gopi o dystysgrif cofrestru eich plentyn yn amlinellu ei bresenoldeb hyd yma eleni.


Adroddiadau Ysgol

Ddydd Iau, yr wythnos hon bydd adroddiadau ysgol llawn yn cael eu dosbarthu i blant. Mae wedi bod yn bleser darllen yr adroddiadau a gweld y cynnydd y mae ein plant yn ei wneud.


Bydd amlen yr adroddiad yn cynnwys:

-Llythyr eglurhaol oddi wrthyf fy hun. Darllenwch hwn oherwydd ei fod yn rhoi dealltwriaeth i deuluoedd o sut mae'r adroddiad yn gweithio.

-Yr adroddiad ei hun sydd wedi ei rannu yn ddwy adran: sylwadau personol a fy sylwadau llawysgrifen fy hun. Yna, mae’n cynnwys gwybodaeth asesu ffeithiol am gynnydd a thargedau datblygu eich plentyn.

-Cofnod presenoldeb eich plentyn (sy’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i’w ddarparu i chi yn rheolaidd).


Y rheswm pam ein bod yn anfon yr adroddiad allan ychydig wythnosau cyn y Pasg yw felly, os oes gennych unrhyw bryderon neu os nad ydych yn deall rhywbeth yn yr adroddiad, gallwch trefni sgwrs wyneb yn wyneb neu dros y ffôn gydag athro/awes eich plentyn cyn y gwyliau.


Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwybod eich bod wedi derbyn a darllen yr adroddiad. Felly, anfonwch y slip dychwelyd yn ôl atom fel ein bod yn gwybod ei fod wedi cyrraedd yn ddiogel.


Yn ein Meithrinfa, byddwn wedi darparu adroddiadau ar gyfer pob plentyn 4 oed a hŷn. O ran ein plant sy’n ‘codi’n dair’, nid ydym wedi ysgrifennu adroddiad ar eu cyfer eto oherwydd mai dim ond am gyfnod byr iawn y maent wedi bod gyda ni. Fodd bynnag, fel ysgol, mae gennym bolisi drws agored. Bydd Miss Browning yn fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi i weld sut maen nhw’n setlo i mewn. Gyda llaw, rydyn ni’n gyffrous iawn i gael ychydig mwy o blant ‘codi’n dair’ ar ôl y Pasg.


Mae deinameg teuluoedd yn newid, rydym yn deall hynny ac rydym am fod yn gefnogol i'n holl deuluoedd. Felly, os yw eich trefniadau teuluol wedi newid, rydym yn fwy na pharod i anfon ail gopïau o adroddiadau i rieni. Rhowch wybod i ni a byddwn yn trefnu hyn i chi.


Yn nhymor yr Haf, cewch gyfle unwaith eto i gwrdd â’ch athro dosbarth ar gyfer ‘Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion’ a chyn diwedd y flwyddyn byddwch eto’n derbyn adroddiad cynnydd interim. Mae hyn i gyd yn rhan o'n hymrwymiad i chi fel teuluoedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn. Yn Ysgol Panteg, mae gennym 6 phwynt ffurfiol y flwyddyn rydym yn gwneud hyn sy'n ddwbl y 3 phwynt ffurfiol arferol y mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn eu cynnig. Mae’r pwyntiau ffurfiol hyn yn cynnwys ‘Cyfarfod Cynnydd a Lles Disgyblion’ bob tymor a thri adroddiad.


 

I hope that you are having a good week so far!



Reminder to Book Easter Childcare

In Friday’s bulletin, I mentioned about the childcare offer run by the Urdd and by Menter Iaith. Here are the links again! Get in early to avoid disappointment!


Menter Iaith Fun Mornings, 10:00am-12:00pm. Cost £3.

Tuesday 12th, Wednesday 13th and Thursday 14th of April

From age 5.


Urdd Easter Fun Days, 9:00am-3:00pm. Cost £19 a day.

Monday 11th, Wednesday 20th, Thursday 21st and Friday 22nd of April

From age 6.


Upcoming Training Days

Remember, as previously announced, that we have training days coming up:

-Friday, 8th April

-Monday 25th April

-Tuesday 26th April

Therefore, on these days, there will be no school for children.


Fonmon Castle

Our Year 1 to Year 3 have a series of educational visits booked to Fonmon Castle. This is a fantastic day out with lots of fun things to do and see, including true-to-scale dinosaurs and adventure trails. If your child is in one of these classes, remember to go on to Civica pay and reserve a place by paying for the visit. If you are having trouble paying for the trip due to technical issues or other reasons, contact us today.


Our Year 6 Trip to Llangrannog

Families of our Year 6 pupils have already been made aware, but our residential trip to Llangrannog has been cancelled due to the site now being used to house Ukrainian refugees. We understand how much our children have missed out over the last few years, therefore, we have been working tirelessly to replace this visit with something just as good. More details will follow when we have finalised arrangements.


COVID-19

Over the past few days, we seem to be having a re-emergence of COVID-19 cases. Last week, it was announced that cases in Torfaen increased by 89%. Please be vigilant and remember not to send you child into school if they have one or more of the following symptoms:

-a high temperature – this means they feel hot to touch on their chest or back

-a new, continuous cough – this means coughing a lot for more than an hour, or 3 or more coughing episodes in 24 hours (if you usually have a cough, it may be worse than usual)

-a loss or change to their sense of smell or taste – this means they’ve noticed they cannot smell or taste anything, or things smell or taste different to normal.


Reporting Absences

Please remember to call in on the first day of your child’s absence. We kindly ask that you ring and follow the automated system or email the office before 9am. This saves us from having to make many phone calls every day. For us, it is a child safeguarding issue when we do not know where a child is.


We aim for 100% attendance as the best case scenario. However, we understand that children are ill and in these unprecedented times have to isolate to recover from COVID-19 and keep others safe. Our attendance, as a school, is currently 92.8%. In normal circumstances, we ascribe to Torfaen’s ‘Strive for 95%’ policy. In your child’s report, due to be given out on Thursday, you will find a copy of your child’s registration certificate outlining their attendance so far this year.


School Reports

On Thursday this week, full school reports will be handed out to children. It has been a pleasure to read the reports and see the progress our children are making.


The report envelope will contain:

-A cover letter from myself. Please do read this because it gives families an understanding of how the report works.

-The report itself which is split into two sections: personal comments and my own handwritten comments. Then, it contains factual assessment information about your child’s progress and development targets.

-Your child’s attendance record (which is a legal duty for us to provide to you at regular intervals).


The reason we are sending the report out a few weeks before Easter is so that, if you have any concerns or don’t understand something in the report, you can book an in-person or telephone conversation with your child’s teacher before the holiday.


It is very important that we know that you have received and read the report. Therefore, please do send the return slip back to us so we know that it has arrived safely.


In our Nursery, we will have provided reports for all children who are 4 and above. As for our ‘rising 3’ children, we haven’t written a report for them yet due to the fact that they have only been with us for a very short amount of time. However, as a school, we have an open door policy. Miss Browning will be more than happy to have a conversation with you to see how they are settling in. Incidentally, we are very excited to be having a few more ‘rising 3’ children after Easter.


Families dynamics change, we understand that and we want to be supportive to all our families. Therefore, if your family arrangements have changed, we are more than willing to send out second copies of reports to parents. Just let us know and we will arrange this for you.


In the Summer term, you will once again have the opportunity to meet with your class teacher for ‘Pupil Progress and Wellbeing Meetings’ and before the end of the year you will again receive an interim progress report. This is all part of our commitment to you as families to keep you up to date with the progress of your child. At Ysgol Panteg, we have 6 formal points a year we do this which is double the normal 3 check-in points that most schools offer. These formal points contain a termly ‘Pupil Progress and Wellbeing Meeting’ and three reports.

54 views0 comments

Comentários


bottom of page