SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
YMGEISWYR
Eisteddfod yr Urdd
Ddydd Sadwrn, mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yma yn Ysgol Panteg. Mae angen i'r plant sy'n perfformio fod yn yr ysgol erbyn 8:45am i ddechrau am 9am. Bydd rhagbrofion yn gyntaf cyn symud ymlaen i berfformiadau prif lwyfan.
PAWB
Dydd Gwyl Dewi
Dydd Gwener yma, 1af o Fawrth, yw Dydd Gŵyl Dewi ac mae gennym ni lawer ar y gweill. O weithgareddau dosbarth i Eisteddfod ysgol. Gwahoddir plant i ddod mewn gwisg Gymreig, gwisg rygbi neu bêl-droed, rhywbeth coch neu wisgo cennin pedr neu genhinen. Edrychwn ymlaen at ddiwrnod da o weithgareddau cyffrous!
BLWYDDYN 6
Criw Hanfodol
Ddoe, cymerodd ein Blwyddyn 6 gam pwysig iawn ar eu taith bontio i’r ysgol uwchradd. Mynychodd y plant weithdai a gwersi yn canolbwyntio ar uwchradd.
Cyflwynodd Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Torfaen sesiynau am bwysigrwydd gwisgo gwregysau diogelwch, ochr yn ochr â chyflwyniadau gan yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Network Rail, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Western Power a’r Fyddin.
Mae Criw Hanfodol yn ddigwyddiad blynyddol hanfodol ac yn boblogaidd iawn gydag ysgolion a phartneriaid. Mae’n rhoi cyfle i sefydliadau gyrraedd nifer enfawr o blant dros ychydig wythnosau i gyflwyno negeseuon hynod bwysig. Mae sesiynau Criw Hanfodol i gyd wedi'u cynllunio i roi gwybodaeth hanfodol i blant am eu diogelwch a'u cyfrifoldebau wrth iddynt symud ymlaen i'r ysgol gyfun a dod yn oedolion ifanc.
PAWB
Diwrnod y Llyfr
Bydd ein dathliad o Ddiwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu wythnos nesaf. Mae angen ymddiheuro am gamgymeriad teipio yn fy mwletin yr wythnos diwethaf. Yn Ysgol Panteg, bydd hyn yn digwydd dydd Gwener nesaf, 8fed o Fawrth. Mae hyn ychydig yn wahanol i ysgolion eraill - ond wedi ei newid er mwyn i'n holl blant allu cymryd rhan. Fydden ni byth eisiau gadael pobl allan!
Rydym wedi gweld rhai syniadau gwych ar-lein ar gyfer Diwrnod y Llyfr - mae rhai ysgolion yn gwneud gwisgoedd a digwyddiadau gwisgo lan tra bod rhai yn gwneud diwrnodau pyjamas. Yn Ysgol Panteg, rydyn ni’n mynd i roi’r opsiwn i deuluoedd os ydyn nhw’n dymuno i’w plentyn ddod wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr neu mewn dillad cyfforddus gyda llyfr i’w ddarllen. Eich dewis chi fel teuluoedd fydd hyn – dwi’n gwybod bod rhai teuluoedd wedi bod yn gweithio ar eu gwisgoedd ers tro a rhai plant ddim eisiau gwisgo lan. Felly, mae'r opsiwn yno fel bod hwn yn wirioneddol yn ddiwrnod i bawb ddathlu llenyddiaeth.
PAWB
Twmpath
Dyma nodyn i'ch atgoffa bod twmpath y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi'i ganslo. Ni fydd hyn yn digwydd nos Sadwrn mwyach oherwydd niferoedd cofrestru isel. Os ydych wedi talu am hyn, mae'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn trefnu ad-daliadau.
PAWB
Adroddiadau Llawn
Cyn y Pasg, bydd teuluoedd yn cael adroddiad llawn ar gyfer eu plentyn. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu gwybodaeth am ddatblygiad personol a chymdeithasol y plant, eu datblygiad o fewn maes annibyniaeth yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth pwnc-benodol. Mae llawer o ysgolion yn darparu’r adroddiadau hyn ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, ond yn Ysgol Panteg, rydym yn darparu’r rhain cyn y Pasg bob blwyddyn gan roi tymor cyfan i ni weithio gyda chi ar dargedau eich plentyn. Mae hyn i gyd yn rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn.
Ar y hyn o bryd, hoffem wybod am unrhyw deuluoedd y mae eu hamgylchiadau wedi newid a byddai angen mwy nag un copi o adroddiad eu plentyn arnynt. Rydym yn darparu copïau i'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant. Rhowch wybod i'ch athro dosbarth, trwy ClassDojo os oes angen ail gopi arnoch.
PAWB
Rôl Goruchwylydd Canol Dydd
Rydym yn chwilio am un aelod o staff i ymuno â thîm sy’n gyfrifol am oruchwylio disgyblion Ysgol Panteg yn ystod yr awr ginio. Rydym yn chwilio am fodelau rôl brwdfrydig, caredig a chadarnhaol i ofalu am ein dysgwyr a sicrhau eu diogelwch a chynnal ein hethos Cymreig cyfeillgar. Post i ddechrau cyn gynted â phosibl.
Ydych chi'n berffaith am y rôl? Neu ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n berffaith ar gyfer y rôl?
CONTESTANTS
Urdd Eisteddfod
On Saturday, the Urdd Eisteddfod is being held here at Ysgol Panteg. The children who are performing need to be at school by 8:45am for a 9am start. There will be prelims first before moving on to main stage performances.
EVERYONE
St David’s Day
This Friday, 1st of March, is St. David’s Day and we have lots planned. From classroom activities to a school Eisteddfod. Children are invited to come in Welsh costume, rugby or football kit, something red or simply wear a daffodil or leek. We look forward to a good day of exciting activities!
YEAR 6
Crucial Crew
Yesterday, our Year 6 took a very important step on their transition journey to secondary school. The children attended workshops and lessons focusing on secondary.
Torfaen Council’s Road Safety Officer delivered sessions about the importance of wearing seatbelts, alongside presentations from the RNLI, South Wales Fire and rescue, Network Rail, the Food Standards Agency, Western Power and the Army.
Crucial Crew is a vital yearly event and is very popular with schools and partners. It gives organisations the opportunity to reach a huge number of children over a few weeks to deliver incredibly important messages. Crucial Crew sessions are all designed to give children vital information for their safety and responsibilities as they move on to comprehensive school and become young adults.
EVERYONE
World Book Day
Our celebration of World Book Day will be celebrated next week. I need to apologise for a typographical error in my bulletin last week. At Ysgol Panteg, this will take place next Friday, 8th of March. This is slightly different to other schools - but has been changed in order that all our children can take part. We’d never want to leave people out!
We’ve seen online some great ideas for World Book Day - some schools are doing costumes and dress up events whilst some are doing pyjama days. At Ysgol Panteg, we are going to give the option to families whether they wish for their child to come dressed as a character from a book or in comfy clothes with a book to read. This will be your choice as families - I know some families have been working on their outfits for some time and some children don’t want to dress up. So, the option is there so that this truly is a day for everyone to celebrate literature.
EVERYONE
Twmpath
This is just a reminder that the planned PTA twmpath has been cancelled. This will no longer take place on Saturday evening due to low sign up numbers. If you have paid for this, the PTA are organising refunds.
EVERYONE
Full Reports
Before Easter, families will be provided with a full report for their child. This report will outline information on the children’s personal and social development, their development within the field of independence as well as subject specific skills and knowledge. Many schools provide these reports at the end of the academic year, but at Ysgol Panteg, we provide these before Easter each year giving us a whole term to work with you on your child’s targets. This is all part of our commitment to keep you up to date with your child’s progress.
At this stage, we would like to know of any families whose circumstances have changed and they would require more than one copy of their child’s report. We provide copies to those who have parental responsibility. Please let your class teacher know, via ClassDojo if you require a second copy.
EVERYONE
Midday Supervisor Role
We are looking for one member of staff to join a team responsible for supervising pupils at Ysgol Panteg during the lunchtime. We are looking for enthusiastic, kind and positive role models to care for our learners and ensure their safety and maintain our friendly Welsh ethos. Post to start as soon as possible.
Do you fit the bill? Or do you know someone who would be perfect for the role?
Коментарі