top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 09.07.2024 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Annwyl Deuluoedd, 

 

PAWB

Ffair Haf

Diolch i bawb ddaeth i'n Ffair Haf dydd Sadwrn diwethaf! Roedd yn ddiwrnod gwych gyda llawer o bobl, llawer o bethau i'w gwneud a llawer o bethau i'w prynu. Diolch yn fawr iawn i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ac i’w chadeirydd, Cathy, am y gwaith caled a’r ymroddiad a wnaeth y diwrnod hwn yn llwyddiant!

 

Codwyd swm aruthrol o £1,700 yn y ffair a fydd yn mynd tuag at faes chwarae newydd i’r plant. Mae gennym ni ffordd bell i fynd eto i godi arian ar gyfer yr ardal chwarae newydd - felly cadwch olwg am yr hyn sydd i ddod yn y calendr!


 

BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6

Trefniadau ar gyfer Sioe Diwedd Blwyddyn Cam Cynnydd 3

Mae cyffro yn cynyddu ar gyfer ein sioe diwedd blwyddyn ar gyfer Blynyddoedd 4, 5 a 6. Cynhelir y ‘Llew Frenin’, fel y gwyddoch erbyn hyn, yn Theatr Congress. Dyma rai negeseuon pwysig y bydd angen i chi eu gwybod cyn y diwrnod.

 

1. Rydym wedi trefnu pecynnau bwyd i'r plant. Bydd ein ceginau yn waith caled yn paratoi cinio ar gyfer diwrnod ymarfer dydd Llun yn y theatr a diwrnod y sioe ei hun.

2. Mae bysiau wedi eu trefnu yn ôl ac ymlaen i Theatr Congress. Nid yw'r rhain yn gost ychwanegol i deuluoedd gan fod y gwerthiant tocynnau yn helpu tuag at y mathau hyn o gostau.

3. Ar ôl cyngerdd y bore, bydd plant yn aros gyda ni ar ôl i aelodau'r teulu adael. Fodd bynnag, ar ôl cyngerdd y prynhawn gall rhieni fynd â'u plentyn/plant adref. Bydd plant eraill yn dod yn ôl i'r ysgol gyda ni ar y bysiau sydd wedi'u harchebu. Er mwyn sicrhau bod pethau'n ddiogel, bydd gennym gofrestrau a chadw log.

4. Ni all aelodau'r teulu dynnu lluniau na fideos yn y cyngherddau. Mae hyn oherwydd diogelu plant. Fodd bynnag, fel rydym wedi gwneud yn y gorffennol, bydd gennym ffotograffydd swyddogol a fydd yn tynnu lluniau a bydd y rhain yn cael eu hanfon allan cyn gynted â phosibl fel oriel ar ein gwefan. Os ydych wedi datgan yn flaenorol na all eich plentyn gael tynnu lluniau, ac yn dymuno newid hynny, cysylltwch â'r swyddfa cyn diwedd yr wythnos.

 

Yn olaf, mae dros 100 o docynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad! Ewch draw i wefan swyddfa docynnau Theatr Congress ac archebwch le fel y gallwn bacio’r digwyddiad hwn. Bydd angen i chi ddefnyddio’r cod hyrwyddo ‘ypt456’ er mwyn archebu tocynnau.

 


 

BLWYDDYN 6

Seremoni Raddio - Nodyn Atgoffa

Cofiwch, ar Ddydd Iau, 18fed o Orffennaf am 1:45yp, mae gennym ein seremoni raddio Blwyddyn 6.

 

Mwy o wybodaeth a rannwyd yn fy mwletinau blaenorol:

 

PAWB

Clybiau Ysgol

Fel yr arfer, ni fydd clybiau ar ôl ysgol wythnos olaf tymor ag sydd wedi hysbysebu o flaenllaw. Felly, os gwelwch yn dda, trefnwch casglu eich plentyn am 3:15yp-3:35yp.

 

PAWB

Adroddiadau

Heddiw, rydym yn anfon adroddiad diwedd blwyddyn eich plentyn adref. Mae'r adroddiad hwn yn gofnod un dudalen syml sy'n eich helpu i weld yn fras eu cynnydd tuag at eu targedau. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn trwy gydol y flwyddyn.

 

Eleni, fel sy’n arferol, mae teuluoedd wedi cael y cyfle ar gyfer 3 ‘Chyfarfod Cynnydd a Lles Disgyblion’ yn ogystal ag adroddiad interim cyn y Nadolig ac adroddiad llawn cyn y Pasg.

 

Amgaeir copi o dystysgrif presenoldeb eich plentyn gydag adroddiad eich plentyn. Mae hyn yn rhoi trosolwg i chi o bresenoldeb eich plentyn yn yr ysgol. Y ganran yw'r amser y maent wedi bod yn gorfforol yn yr ysgol. Ein nod yw y bydd pob plentyn yn yr ysgol i fyny o 95% yn unol â pholisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am adroddiad eich plentyn neu dystysgrif presenoldeb, anfonwch neges at athro eich plentyn trwy ClassDojo.


 

PAWB

Staff sy'n Gadael

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, rydym yn drist ei bod yn bryd ffarwelio â rhai o’n staff ffyddlon. Bydd Miss Angharad Browning a Mr Robert Vaughan yn ein gadael ar ddiwedd y flwyddyn ysgol. Mae'r ddau aelod yma o staff yn uchel eu parch ac wedi cefnogi ein plant dros y blynyddoedd.

 

Rydych hefyd yn ymwybodol o’m gohebiaeth flaenorol fod Mr Tom Rainsbury yn mynd i fod yn Brifathro yn Ysgol Penalltau.

 

Dymunwn bob llwyddiant i'r staff hyn wrth iddynt symud i rolau newydd.


 

 

EVERYONE

Summer Fair

Thank you to everyone who came to our Summer Fair this past Saturday! It was a great day with lots of people, lots of things to do and lots of things to buy. A huge thanks goes to the PTA and to its chairperson, Cathy, for the hard work and dedication that made this day a success!

 

A whopping £1,700 was raised at the fair that will be going towards a new play area for the children. We’ve got a long way to go yet in raising money for the new play area - so keep a look out for what comes next in the calendar!


 

YEARS 4, 5 AND 6

Arrangements for Progress Step 3’s End of Year Show

Excitement is building for our end of year show for Years 4, 5 and 6. The ‘Lion King’ will be held, as you know by now at the Congress Theatre. Here are some important messages that you will need to know before the day.

 

1. We have organised packed lunches for the children. Our kitchens will be hard at work preparing lunches for both Monday’s rehearsal day at the theatre and the day of the show itself.

2. Buses have been organised back and forth to the Congress Theatre. These are at no additional cost to families since the ticket sales are helping towards these types of costs.

3. After the morning concert, children will remain with us after family members have left. However, after the afternoon concert parents can take their child(ren) home. Other children will come back to school with us on the buses booked. In order to make sure things safe, we will have registers and keep a log.

4. No photographs or videos can be taken by family members at the concerts. This is due to child safeguarding. However, as we have done in the past, we will have an official photographer who will take photographs and these will be send out as soon as possible as a gallery on our website. If you have previously stated that your child cannot have photographs taken, and wish to change that, please contact the office before the end of the week.

 

Lastly, there are over 100 tickets left for the event! Please head over to the Congress Theatre’s box office website and book so that we can pack out this event. You will need to use the promotional code ‘ypt456’ in order to book tickets.

 



YEAR 6

Graduation Ceremony - Reminder

Remember that on Thursday, 18th of July at 1:45pm, we have our Year 6 graduation ceremony.

 

More information shared in my previous bulletins:

  

EVERYONE

School Clubs

As usual, there will be no after school clubs the last week of term as advertised previously. Therefore, please arrange to collect your child at 3:15pm-3:35pm.

 

EVERYONE

Reports

Today, we are sending home your child’s end of year report. This report is a simple one-page check-in that helps you see at a glance their progress towards their targets. This is part of our commitment to keep you up to date with your child’s progress throughout the year.

 

This year, as is our norm, families have been provided with the opportunity for 3 ‘Pupil Progress and Wellbeing Meetings’ as well as an interim report before Christmas and a full report before Easter.

 

Enclosed with your child’s report is a copy of your child’s attendance certificate. This gives you an overview of your child’s attendance in school. The percentage is the time they have physically been in school. Our aim is that every child will be in school upwards of 95% as per Torfaen County Borough Council’s policy.

 

Should you have any questions or concerns about your child’s report or attendance certificate, please message your child’s teacher via ClassDojo.


 

EVERYONE

Staff Leavers

At the end of this academic year, we are saddened that it is time to say goodbye to some of our loyal staff. Miss Angharad Browning and Mr Robert Vaughan will be leaving us at the end of the school year. Both of these members of staff are hugely respected and have supported our children over the years.

 

You are also aware from my previous correspondence that Mr Tom Rainsbury is going to be a Headteacher at Ysgol Penalltau.

 

We wish these staff all the success as they move to new roles.



96 views0 comments

Comments


bottom of page