top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 19.05.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Cystadleuaeth Poster Diogelwch Haul - Nodyn Atgoffa

Er mwyn annog ein plant i feddwl am ddiogelwch haul rydym am arddangos posteri o amgylch yr ysgol ac ym mhob dosbarth. Rydym yn annog plant i ddylunio a chyflwyno poster! Dylai ceisiadau fod i mewn erbyn dydd Mawrth, 23ain o Fai a chyhoeddir yr enillwyr yr un diwrnod i'r plant ac yn y bwletin.


Ar ddydd Mawrth cyhoeddais fod gwobr gyntaf, ail a thrydedd wobr. Fodd bynnag, oherwydd caredigrwydd un o'n teidiau, mae dwy o bob gwobr bellach! Bydd y ddau boster gorau yn derbyn cerdyn rhodd o £15, y ddau eiliaid yn derbyn gwobr o gerdyn anrheg o £10 a'r ddau trydydd yn derbyn gwobr o gerdyn anrheg o £5.


Dylai posteri fod yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. Dylent fod yn A4 o ran maint a gallwch ddefnyddio'r ddalen a ddarperir os dymunwch.

PAWB

Bore Coffi

Mae ein dosbarthiadau Blwyddyn 5 yn mynd i fod yn cynnal bore coffi dydd Gwener nesaf (26ain o Fai) rhwng 9.15 a 11.15. Maent yn gyffrous i drefnu hyn. Y pwrpas yw iddynt drefnu, gwasanaethu ac ymarfer eu trafodaeth. Felly, galwch heibio wythnos nesaf, byddai'n hyfryd eich gweld!

MEITHRIN A DERBYN

Trip Diwedd Tymor i Cheeky Monkeys

Fel y cyhoeddwyd ddydd Mawrth, mae ein taith Meithrin a Derbyn i Cheeky Monkey’s bellach yn fyw ar Civica Pay.


-Bydd ein Meithrinfa Fore yn mynd dydd Mawrth, Mehefin 13eg rhwng 9:30yb – 12yp

-Bydd ein Meithrinfa Prynhawn yn mynd dydd Mawrth, Mehefin 13eg rhwng 12:30pm – 3pm

-Bydd ein Dosbarthiadau Derbyn (Tŷ Coch a Glas Coed) yn mynd dydd Mawrth, 20fed Mehefin.


Am resymau diogelwch teithio, rydym yn gofyn i blant meithrin gael eu gollwng a’u casglu o Cheeky Monkeys. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod y plant yn gallu gwneud y mwyaf o’u sesiynau yn Cheeky Monkeys. O ganlyniad, gwyddom fod gan rai teuluoedd blant mewn grwpiau blwyddyn eraill. Felly, ar ddydd Mawrth, 13eg o Fehefin, byddwn yn darparu rhywfaint o ofal plant ychwanegol i'r teuluoedd hynny fydd yn gorfod gollwng ac yna mynd i Cheeky Monkeys yn y bore (byddwn yn agor am 8.30 i'r teuluoedd hyn). Byddwn hefyd yn cadw plant ar ôl tan 4.00pm os ydych yn codi o Cheeky Monkeys. Bydd hyn yn golygu y gallwch deithio'n ddiogel a pheidio â rhuthro o un lle i'r llall yn ystod oriau prysur. Bydd hefyd yn gymorth i reoli traffig ein meysydd parcio ar gyfer y diwrnod hwnnw. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud, os oes angen y cyfleuster hwn arnoch, yw cysylltu ag athro eich plentyn trwy ClassDojo i drefnu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Bydd y dosbarth derbyn yn teithio ar y bws i Cheeky Monkeys, yn gadael yr ysgol am 9:15yb ac yn dychwelyd i’r ysgol mewn pryd ar gyfer cinio.


I wneud y mwyaf o'r cyfle gwych y gall y plant wisgo eu gwisg ymarfer corff ar y diwrnod, bydd gennym ddefnydd unigryw o'r cyfleuster felly rydym yn gyffrous i'r plant allu gadael eu gwallt i lawr!


Cost y daith fydd £5 y plentyn, a bydd yn daladwy trwy Civica Pay. Os ydych yn derbyn Grant Datblygu Disgyblion, y pris fydd £4.50. Os cewch unrhyw drafferth talu am y daith (megis amgylchiadau technegol neu deuluol) cysylltwch â mi neu Mrs Tudball cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau ymlaen.


Mae'r ysgol yn sybsideiddio cost y bws i'n plant Derbyn er tegwch.

BLWYDDYN 4

Trip Penwythnos Llangrannog

Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi y bydd ein plant Blwyddyn 4 yn cynnig cyfle i fynychu Llangrannog yn Nhymor yr Hydref (pan fyddant ym Mlwyddyn 5!) Mwynhaodd ein Blwyddyn 5 presennol yn fawr iawn. Rydym yn bwriadu ymweld â Llangrannog yng Ngorllewin Cymru am benwythnos cyffrous o weithgareddau.



Y dyddiadau rydym wedi eu bwcio yw dydd Gwener 6ed o Hydref i ddydd Sul 8fed o Hydref.


Cost y penwythnos fydd £132 am y llety, bwyd a gweithgareddau. Bydd tâl hefyd am y bws. Disgwyliwn i hyn fod tua £30. Fe fydd gosyngiad o 10% ar gyfer teuluoedd sy’n derbyn Grant Datblygu Disgyblion.


Rydyn ni’n rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y gallwn fel y gallwch chi ddechrau cynilo ar gyfer y rite de passage gwerth chweil hon a’r profiad y mae plant yn ei fwynhau’n fawr bob blwyddyn. Fel staff, rydyn ni’n dal i gofio’r amser yr aethon ni i Langrannog!


Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi hwn ar Civica Pay fel bod teuluoedd yn gallu talu'r blaendal a dechrau talu'r gost.


PAWB

Gwyliau a Diwrnodau Hyfforddiant ar gyfer y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Rydym yn hoffi rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi am ddiwrnodau hyfforddi a dyddiadau gwyliau ysgol i'ch helpu chi fel rhieni. Rydyn ni wedi cyhoeddi'r dyddiadau hyn o'r blaen, ond rydyn ni wedi cael ychydig o e-byst yn gofyn i ni amdanyn nhw eto.


Byddwch yn gwybod ein bod yn ceisio ychwanegu ein diwrnodau hyfforddi o amgylch y dyddiadau gwyliau fel y gallwch chi fel teuluoedd weithio gyda'r dyddiadau mewn golwg i gael gwyliau ychydig yn rhatach. Gall olygu ychydig gannoedd o bunnoedd o wahaniaeth! Mae cael ein diwrnodau hyfforddi fel hyn bob amser o fudd i’r staff oherwydd eu bod yn cael eu hadfywio ar ôl gwyliau a gallwn baratoi’n llawn ar gyfer y tymor sydd i ddod!


Dyma ein diwrnodau hyfforddi ar gyfer 2023-2024:

-Dydd Gwener, Medi 1af (cyn i'r plant ddod yn ôl ar ôl gwyliau'r Haf)

-Dydd Llun, 6ed o Dachwedd (Yn syth ar ôl gwyliau hanner tymor mis Hydref)

-Dydd Llun, 8fed o Ionawr a dydd Mawrth, 9fed o Ionawr (Yn syth ar ôl gwyliau'r Nadolig)

-Dydd Llun, 8fed o Ebrill (Yn syth ar ôl gwyliau’r Pasg)

-Dydd Llun, 3ydd o Fehefin (Yn syth ar ôl gwyliau'r Sulgwyn)


(Peidiwch ag anghofio bod gennym ddiwrnod hyfforddi staff eleni ar ddydd Llun, 5ed o Fehefin, 2023).



PAWB

Dyddiadau Tymhorau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024-2025

Mae Torfaen wedi cyhoeddi dyddiadau tymhorau 2024-2025. Felly, nid dyna'r dyddiadau ar gyfer flwyddyn nesaf, ond y flwyddyn ganlynol! Fe welsoch chi nhw yma’n gyntaf!


CARREG LAM

Uchafbwyntiau'r Wythnos

Mae'r tywydd wedi bod yn hyfryd ac mae'r plant wedi gweithio'n galed yn ystod wythnos brysur arall. Mae'r plant wedi mwynhau arbrofi ymhellach gyda geirfa dillad yr wythnos hon. Maent wedi didoli gwisgoedd yn grwpiau sy'n addas ar gyfer tywydd penodol ac wedi esbonio pam hefyd. Roedd dewis gwisg i’n gilydd yn llawer o hwyl ac roedd y sbectol haul yn boblogaidd iawn! Mae’r plant wedi adrodd stori am sut mae’r tywydd am yr wythnos ac maen nhw hefyd wedi cyflwyno i weddill y dosbarth. Roedd cwrdd â Beti Bwt yn Sain Ffagan wedi achosi cyffro enfawr wythnos yma! Dysgon nhw sut roedd pobl yn golchi dillad amser maith yn ôl. Cafodd pawb gyfle i ddefnyddio'r gwahanol offer a dyna sut wnaethon nhw ddarganfod pa mor anodd oedd hi. Gan symud ymlaen i ddiwedd yr wythnos, mwynhaodd y plant arbrofi gyda chynhwysedd a gwrthrychau sy'n arnofio a suddo. I orffen yr wythnos, llwyddodd y plant i orffen ymchwiliad gwyddonol er mwyn darganfod ble fydd y lle gorau i sychu dillad. Mae’r holl weithgareddau hwyliog hyn wedi ehangu geirfa’r plant yn fawr!


PAWB

Grant Datblygu Disgyblion - Nodyn Atgoffa

Peidiwch ag anghofio ein bod wedi anfon ffurflen adref er mwyn i deuluoedd wneud cais am y Grant Datblygu Disgyblion. Mae hyn yn helpu gyda chinio ysgol am ddim, grantiau gwisg ysgol a thripiau yn ogystal â rhoi arian ychwanegol i'r ysgol. Anfonwch y rhain atom cyn gynted â phosibl fel y gallwn eu hanfon i Dorfaen. Rydyn ni'n eu hanfon ddydd Mercher yr wythnos nesaf. Rydym wedi atodi'r ffurflen i'r e-bost hwn eto - os oes angen copi printiedig arall arnoch, rhowch wybod i ni!


BLWYDDYN 4

Drymio Samba

Mwynhaodd ein plant Blwyddyn 4 eu gwers drymio Samba gyntaf yr wythnos hon yn fawr iawn! Braf oedd eu gweld yn llawn brwdfrydedd!

PAWB

Ffotograffau Dosbarth

Rydym yn dal i aros am y wybodaeth i ddweud bod y lluniau dosbarth yn barod. Rydym yn disgwyl y rhain yn ystod yr wythnosau nesaf - byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y cawn y wybodaeth.

PAWB

Dathlu Llwyddiant

Llongyfarchiadau i Hedd Simons a Joshua Evans am gynrychioli Ysgol Panteg yn chwarae rygbi i ranbarth Ysgolion Pontypŵl yn yr Eidal wythnos diwethaf.

 

EVERYONE

Sun Safety Poster Competition - Reminder

To encourage our children to think about sun safety we want to display posters around the school and in each classroom. We are encouraging children to design and submit a poster! Entries should be in by Tuesday, 23rd of May and the winners will be announced that same day to the children and in the bulletin.


On Tuesday I announced that there was a first, second and third prize. However, because of the kindness of one of our grandparents, there are now two of every prize! The two top posters will receive a £15 gift card, the two seconds will receive a prize of a £10 gift card and the two thirds will receive a prize of a £5 gift card.


Posters should be bilingual or in Welsh. They should be A4 in size and you may use the sheet provided if you wish.


Here are some key vocabulary and phrases to help!

Diogelwch = Safety

Haul = Sun

Diogelwch yn yr Haul = Safety in the Sun

Eli Haul = Sun Lotion

Het = Hat

Pelydrau = Rays

Dŵr = Water

Cysgod = Shade

EVERYONE

Coffee Morning

Our Year 5 classes are going to be holding a coffee morning next Friday (26th of May) between 9.15 to 11.15. They are excited to organise this. The purpose is for them to organise, serve and practice their discussion skills. So, drop in next week, it would be lovely to see you!

NURSERY AND RECEPTION

End of Term Trip to Cheeky Monkeys

As was announced on Tuesday, our Nursery and Reception trip to Cheeky Monkey’s is now live on Civica Pay.


-Our Morning Nursery will be going Tuesday, 13th June – 9:30am – 12pm

-Our Afternoon Nursery will be going Tuesday, 13th June – 12:30pm – 3pm

-Our Reception Classes (Tŷ Coch & Glas Coed) will be going on Tuesday, 20th June.


For travel safety reasons, we are asking meithrin children to be dropped off and collected from Cheeky Monkeys. This will also ensure that the children can make the most of their sessions in Cheeky Monkeys. As a result, we know that some families have children in other year groups. So, on Tuesday, 13th of June, we will provide some additional childcare for those families who will have to drop off then go to Cheeky Monkeys in the morning (we will open at 8.30 for these families). We will also keep children behind until 4.00pm if you are picking up from Cheeky Monkeys. This will mean that you can travel safely and not rush from one place to another at peak time. It will also aid our car park traffic management for that day. All you need to do, if you need this facility, is to contact your child’s teacher via ClassDojo to arrange. If you have any queries regarding this please don’t hesitate to contact us.


Reception class will be travelling on the bus to Cheeky Monkeys, leaving school at 9:15 am and returning to school in time for lunch.


To make the most of the great opportunity the children can wear their PE kit on the day, we will have exclusive use of the facility so are excited for the children to be able to really let their hair down!


The cost of the trip will be £5 per child, and will be payable through Civica Pay. If you are in receipt of the Pupil Development Grant, the price will be £4.50. If you have any trouble paying for the trip (such as technical or family circumstances) please get in contact with myself or Mrs Tudball as soon as possible so we can discuss the best way forward.


The school is subsidising the cost of the bus for our Reception children for fairness.


YEAR 4

Llangrannog Weekend Trip

We are really excited to announce that our Year 4 children will offered a chance to attend Llangrannog in the Autumn Term (when they are in Year 5!) Our current Year 5 enjoyed it immensely. We plan on visiting Llangrannog in West Wales for an exciting weekend of activities.



The dates that we have booked are Friday 6th of October to Sunday 8th of October.


The cost of the weekend will be £132 for the accommodation, food and activities. There will also be a charge for the bus. We expect this to be in the region of £30. There will be a 10% discount for families in receipt of the government’s Pupil Development Grant.


We’re letting you know as soon as we can so that you can begin to save for this truly worthwhile rite of passage and experience that children thoroughly enjoy every year. As staff, we still remember the time that we went to Llangrannog!


Over the next few weeks, we will put this on Civica Pay so that families can pay the deposit and begin chipping away at the cost.


EVERYONE

Holidays and Training Days for the Next Academic Year

We like to give you advance warning of training days and school holiday dates to help you as parents. We’ve previously announced these dates, but have had a few emails asking us for them again.


You will know that we try to add our training days around the holiday dates so that you as families can work with the dates in mind to get slightly cheaper holidays. It can mean a few hundred pound difference! Having our training days this way always benefits the staff because they are refreshed after a break and we can fully prepare for the term ahead!


Here are our training days for 2023-2024:

-Friday, 1st September (before the children come back after the Summer holidays)

-Monday, 6th of November (Straight after the October Half Term break)

-Monday, 8th of January & Tuesday, 9th of January (Straight after the Christmas break)

-Monday, 8th of April (Straight after the Easter break)

-Monday, 3rd of June (Straight after the Whitsun break)


(Don’t forget that we have a staff training day this year on Monday, 5th of June, 2023).


EVERYONE

Term Dates for Academic Year 2024-2025

Torfaen have announced the term dates for 2024-2025. So, that is not next year, but the year after! You saw it here first!


CARREG LAM

Highlights of the Week

The weather it has been lovely and the children have worked hard during another busy week. The children have enjoyed experimenting further with clothes vocabulary this week. They have sorted outfits into groups that are suitable for specific weather and also explained why. Choosing an outfit for each other was lots of fun and the sunglasses were very popular! The children have told a story about how the weather is for the week and they have also presented to the rest of the class. Meeting Beti Bwt in St Fagans caused huge excitement this week! They learned how people washed clothes a long time ago. Everyone had a chance to use the different tools and that's how they found out how difficult it was. Moving on to the end of the week, the children enjoyed experimenting with capacity and objects that float and sink. To finish the week, the children managed to finish a scientific investigation in order to find out where the best place to dry clothes will be. All of these fun activities have really expanded the children’s vocabulary!


EVERYONE

Pupil Development Grant - Reminder

Don’t forget that we sent home a form in order for families to apply for the Pupil Development Grant. This helps with Free School Meals, Uniform and Trip Grants as well as giving the school extra money. Get these to us as quick as possible so that we can send off to Torfaen. We are sending them on Wednesday next week. We’ve attached the form to this email again - should you need another printed copy, let us know!


YEAR 4

Samba Drumming

Our Year 4 children thoroughly enjoyed their first Samba drumming lesson this week! It was great to see them so enthused!


EVERYONE

Class Photographs

We are still awaiting the information to say that the class photos are ready. We are expecting these in the next few weeks - we will let you know as soon as we get the information.


EVERYONE

Achievement

Congratulations to Hedd Simons and Joshua Evans on representing Ysgol Panteg, playing rugby for Pontypool Schools District Rugby in Italy last week.

65 views0 comments

留言


bottom of page