top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 23.04.2024 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Annwyl Deuluoedd, 

 

BLWYDDYN 4

Hysbysiad Ymlaen Llaw i Langrannog - Nodyn Atgoffa

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bob blwyddyn, rydym yn trefnu trip preswyl penwythnos ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 5. Bydd ein disgyblion Blwyddyn 4 yn cael y cyfle i fynd rhwng dydd Gwener, 4ydd o Hydref a dydd Sul, 6ed o Hydref.

 

Mae Llangrannog yn gyfle gwych i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwahanol na fyddent efallai wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o sgïo, dringo mynyddoedd, marchogaeth, saethyddiaeth, rhaffau uchel, a go certi i enwi dim ond rhai!

 

Gwyddom fod hyn nifer o fisoedd i ffwrdd, ond gwyddom y gall y teithiau hyn fod yn ddrud. Felly, rydym yn agor clwb cynilo ar Civica Pay. Mae hyn yn golygu y gall teuluoedd ychwanegu ychydig o arian bob mis i dalu costau'r daith.

 

Cyfanswm cost y daith (gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd a’r holl weithgareddau) yw £168. Mae gostyngiad o 10% ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn Grant Datblygu Disgyblion.

 

Bydd angen blaendal na ellir ei ad-dalu o £30 erbyn dydd Gwener, 10fed o Fai. Bydd hyn yn sicrhau lle eich plentyn. Yna gallwch chi ychwanegu arian at y cyfrif bob mis neu ar amseroedd sy'n cyd-fynd â threuliau eich teulu.

 

Bydd rhaid bod wedi talu’r taliad terfynol erbyn dydd Gwener, 6ed o Fedi am 10yb.

 


BLWYDDYN 3

Taith i Fae Caerdydd - Nodyn Atgoffa

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, pan fydd ein plant Blwyddyn 3 ym Mlwyddyn 4, byddant yn cael eu gwahodd i fynd ar eu harhosiad dros nos cyntaf gyda’r ysgol. Y dyddiadau arfaethedig ar gyfer hyn yw dydd Iau, 21 Tachwedd i ddydd Gwener, 22 Tachwedd. Dyma ddau ddiwrnod llawn gweithgareddau lle nad yw’r plant yn stopio! O grwydro’r bae ar gwch cyflym, i fowlio…o fynd i’r Senedd i gael disgo…mae’r plant wrth eu bodd â’u hamser gyda ni.

 

Mae gennym glwb cynilo oherwydd cost y daith yw £90 (gyda gostyngiad o 10% i’r rhai sy’n derbyn Grant Datblygu Disgyblion).

 

Os byddwch yn mewngofnodi i Civica Pay, byddwch yn gallu ychwanegu arian drwy gydol y flwyddyn. Gofynnwn yn garedig i’r blaendal na ellir ei ad-dalu o £30 gael ei dalu erbyn dydd Gwener, 3ydd o Fai. Yna, y gweddill erbyn dydd Gwener 25ain o Hydref.


 

PAWB

Newidiadau i Drefniadau Casglu

Rydym yn cael nifer cynyddol o newidiadau munud olaf i drefniadau casglu fel pobl yn ffonio i newid os yw eu plentyn yn mynd ar y bws ac ati. Rydym yn deall yn iawn y gall fod problemau traffig neu ymrwymiadau gwaith sy'n ei gwneud yn ofynnol i deuluoedd newid trefniadau codi eu plant. Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi sylwi ar fwy o bobl yn ffonio am 3 neu'n hwyrach. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ni gael negeseuon i athrawon dosbarth. Gofynnwn yn garedig i chi ffonio neu e-bostio’r swyddfa (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) cyn 2pm i’n helpu. Rydym yn diolch i chi am eich cydweithrediad ymlaen llaw.

 


PAWB

Swydd Wag Athro

Mae ein hysgol lwyddiannus yn chwilio am athrawes weithgar ac egnïol i weithio fel rhan o dîm ymroddedig o staff, i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol ac i fod yn athro brwdfrydig ac ysbrydoledig. Ydych chi'n adnabod unrhyw un?

 

Rhaid i ymgeiswyr:

• meddu ar fedrau addysgu effeithiol ac ysbrydoledig

• meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg

• meddu ar sgiliau TGCh rhagorol

• ymrwymo i ddatblygu'r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er lles yr holl ddisgyblion, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant

• dangos ymrwymiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion trwy weithgareddau allgyrsiol

• ymrwymo i sefydlu ethos cadarnhaol sydd wedi'i wreiddio yn yr iaith Gymraeg a'i diwylliant

• yn meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau gwahanol mewn ysgol sy'n datblygu.

 

Ein cenhadaeth ar gyfer Ysgol Panteg yw datblygu ein plant mewn ysgol ddiogel a hapus lle rydym yn cydweithio i greu dinasyddion hyderus i’r dyfodol. Rydym yn falch o osod iaith a hanes Cymru wrth galon ein haddysg drwy gofleidio technolegau newydd a meithrin balchder yn ein cymunedau. Trwy wrando ar blant a chefnogi ein teuluoedd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meithrin amgylchedd parchus lle gallwn ddathlu ein cyflawniadau a chefnogi ein gilydd. Ein nod yw rhoi dechrau cadarnhaol i'w haddysg gydol oes i blant.

 

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

 

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

 

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwysedig i gychwyn ym mis Medi 2024.

 

Dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth:

 

Am fanylion pellach neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr Matthew Williamson-Dicken.

 

Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r ysgol yn y cyfeiriad uchod erbyn dydd Gwener, 3ydd o Fai am 12:00pm.

 

Mae cyfweliadau personol ac arsylwadau gwersi wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos ganlynol.

 


PAWB

Swydd Wag Cynorthwyydd Addysgu

Gwahoddir ceisiadau gan unigolyn brwdfrydig a chydwybodol ar gyfer swydd Cynorthwyydd Dysgu yn Ysgol Panteg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol i roi sylfaen ieithyddol gadarn i’r disgyblion.

 

Gan weithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon a/neu aelodau o dîm arwain yr ysgol, bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus:

• Gweithio gyda thîm o staff ymroddedig a gweithgar.

• Cynorthwyo gyda threfniadaeth gyffredinol yr ystafell ddosbarth a gall gynnwys:

• paratoi'r dosbarth, derbyn disgyblion yn y bore, trefnu a pharatoi deunyddiau, gosod a chlirio offer.

• Cynnal a chadw adnoddau a chyfarpar a ddefnyddir mewn gweithgareddau.

• Darparu cefnogaeth i unigolion a grwpiau o ddisgyblion i sicrhau mynediad i ddysgu.

• Cynorthwyo'r athrawes i werthuso cynnydd disgyblion a chadw cofnodion yn unol â pholisi ac arferion yr ysgol.

• Cynorthwyo a goruchwylio disgyblion ar y buarth a chynnig cefnogaeth i chwarae tu allan i'r dosbarth yn ôl yr angen.

• Darparu cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl yr angen.

 

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Disgwylir y bydd yr holl staff a gwirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd.

 

Oriau: 37 awr yr wythnos - 39 wythnos y flwyddyn

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 9fed o Fai, am 12.00pm.

 

Dilynwch y ddolen hon am fwy o wybodaeth:

 

Am fanylion pellach neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr Matthew Williamson-Dicken.

 


PAWB

Hyfforddiant Diogelu Teulu a Chymuned - Nodyn Atgoffa Terfynol

Yn rheolaidd, mae ein hysgol yn cynnig hyfforddiant diogelu i aelodau'r teulu. Mae unigolion sydd wedi mynychu yn y gorffennol wedi cael yr hyfforddiant hwn yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd ei fod yn cynnwys y mathau o gam-drin, sut i adnabod arwyddion o gam-drin, y protocolau y dylem eu dilyn, sut i wneud atgyfeiriad ac amser ar gyfer trafodaeth.

 

Mae hwn yn agored i bob aelod o'n cymuned Panteg a'n cymuned estynedig.

 

Mae ein sesiwn nesaf heno! (Dydd Mawrth, 23ain o Ebrill) mewn person, yn yr ysgol rhwng 4:30-5:45pm.

 

Rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau ac aelodau o'r teulu.

 

I archebu eich lle, cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:

 

MEITHRIN A DERBYN

Trip i Fferm Cefn Mably - Atgof

Cofiwch y bydd ein Meithrinfa a Derbyn yn mynd ar daith i Fferm Cefn Mably!

 

-Bydd plant Derbyn yn mynd dydd Mawrth, 14eg o Fai.

-Bydd plant Meithrin Bore yn mynd dydd Mercher, 8fed o Fai. Mae hwn yn daith diwrnod cyfan sy'n golygu y bydd angen i'r plant fod yn yr ysgol am 9.00am a byddant yn dychwelyd erbyn 3:15pm. Ar gyfer plant Meithrin Bore ni fydd ysgol ar ddydd Iau, 9fed o Fai a fydd yn caniatáu i ni fynd â’n plant Meithrin Prynhawn ar eu taith.

-Bydd plant Meithrin Prynhawn yn mynd dydd Iau, 9fed o Fai. Unwaith eto, mae hwn yn daith diwrnod cyfan sy'n golygu y bydd angen i'r plant fod yn yr ysgol am 9.00am ac yn dychwelyd erbyn 3:15pm. Ar gyfer plant Meithrin Prynhawn, ni fydd ysgol ar ddydd Mercher, 8fed o Fai a fydd yn caniatáu i ni fynd â’n plant Meithrin Bore ar eu taith.

 

Darperir cinio ar gyfer y daith hon yn rhad ac am ddim i blant Derbyn. Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn y Feithrin, bydd angen pecyn cinio arno gan y teulu.

 

Cost y daith hon yw £12 y plentyn. Bydd gostyngiad o 10% i'r rhai sy'n derbyn Grant Datblygu Disgyblion. Y dyddiad cau ar gyfer talu yw dydd Mercher, 1af o Fai am 10am.

 

Mewngofnodwch i CivicaPay (https://bit.ly/Civicatorfaen) i dalu. Os ydych chi'n cael trafferth talu, naill ai'n dechnegol neu fel arall, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

 


 

 

YEAR 4

Advanced Notice for Llangrannog - Reminder

As previously announced, every year, we organise a weekend residential trip for our Year 5 pupils. Our Year 4 pupils will be given the opportunity to go between Friday, 4th of October and Sunday, 6th of October.

 

Llangrannog is a fantastic opportunity for children to engage in a range of different activities that they might not have tried before. Activities range from skiing, mountain climbing, horse riding, archery, high ropes, and go karts to name but a few!

 

We know that this is a number of months away, but we know that these trips can be expensive. So, we’re opening a savings club on Civica Pay. This means that families can add a little money each month to cover the costs of the trip.

 

The total cost of the trip (including transport, food and all activities) is £168. There is a 10% reduction for families in receipt of Pupil Development Grant.

 

We will need a non-refundable deposit of £30 by Friday, 10th of May. This will secure your child’s place. Then you can add money to the account each month or at timings that fits with your family’s expenses.

 

The final payment will have to have been paid by Friday, 6th of September at 10am.


 

YEAR 3

Cardiff Bay Trip - Reminder

As previously announced, when our Year 3 children are in Year 4, they will be invited to go on their first overnight stay with the school. The planned dates for this is Thursday, 21st of November to Friday, 22nd of November. This is an action packed two days where the children don’t stop! From exploring the bae on speed boat, to bowling… from going to the Senedd to having by a disco… the children absolutely love their time with us.

 

We have a savings club because the cost of the trip is £90 (with a 10% discount for those receiving Pupil Development Grant).

 

If you log on to Civica Pay, you will be able to add money throughout the year. We are kindly asking for the non-refundable deposit of £30 to be paid by the Friday, 3rd of May. Then, the remainder by Friday 25th of October.

 


EVERYONE

Changes of Pick Up Arrangements

We are getting an increased number of last minute changes to pick up arrangements such as people ringing in to change if their child is going on the bus etc. We completely understand that there can be traffic issues or work commitments that require families to change their child’s pick up arrangements. However, over the recent weeks we’ve noticed a greater amount of people phoning in at a 3 or later. This makes it very hard for us to get messages to class teachers. We kindly ask that you ring or email the office (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) before 2pm to help us. We thank you for your cooperation in advance.

 

 

EVERYONE

Teacher Vacancy

Our successful school is looking for an active and energetic teacher to work as part of a dedicated team of staff, to contribute to the extra-curricular life of the school and to be an enthusiastic and inspirational teacher. Do you know anyone?

 

Applicants must:

• have effective and inspiring teaching skills

• have excellent communication skills in both English and Welsh

• have excellent ICT skills

• be committed to developing the school into a successful learning community for the benefit of all pupils, with the emphasis on excellence and inclusion

• demonstrate a commitment to supporting pupils' linguistic and cultural development through extra-curricular activities

• be committed to establishing a positive ethos rooted in the Welsh language and culture

• have the necessary flexibility to undertake different duties in a developing school.

 

Our mission for Ysgol Panteg is to develop our children in a safe and happy school where we work together to create confident citizens for the future. We are proud to place the language and history of Wales at the heart of our education by embracing new technologies and fostering pride in our communities. By listening to children and supporting our families, the successful applicant will foster a respectful environment where we can celebrate our achievements and support one another. We aim to give children a positive start to their lifelong education.

 

Under the Education (Wales) Act 2014, all School Learning Support Workers will need to be registered with the Education Workforce Council (EWC).

 

This post is subject to an Enhanced Disclosure and Barring Service (DBS) Check.

 

Applications are invited from qualified teachers for a September 2024 start.

 

Follow this link for more information:

 

For further details or for an informal discussion please contact the Head, Dr. Matthew Williamson-Dicken.

 

Completed application forms should be sent to the school at the above address by Friday, 3rd of May at 12:00pm.

 

In-person interviews and lesson observations are planned for the following week.


 

EVERYONE

Teaching Assistant Vacancy

Applications are invited from an enthusiastic and conscientious individual for a Teaching Assistant position at Ysgol Panteg. The ability to speak Welsh fluently is essential to provide a solid linguistic foundation for the pupils.

 

Working under the direction and guidance of teachers and / or members of the school leadership team, there will be an opportunity for the successful candidate to:

• Work with a team of dedicated and hardworking staff.

• Assist in the general organisation of the classroom and may include:

• preparing the classroom, receiving pupils in the morning, organising and preparing materials, setting up and clearing equipment.

• Maintenance of resources and equipment used in activities.

• Provide support to individuals and groups of pupils to ensure access to learning.

• Assist the teacher in evaluating pupils' progress and record keeping in accordance with school policy and practices.

• Assist and supervise pupils in the playground and offer support for play outside the classroom as needed.

• Provide basic first aid as needed.

 

The school is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people. It is expected that all staff and volunteers will share this commitment. The successful applicant will be subject to an enhanced Disclosure and Barring Services check.

 

Hours: 37 hours per week - 39 weeks a year

 

Closing date for applications: Thursday, 9th of May, at 12.00pm.

 

Follow this link for more information:

 

For further details or for an informal discussion please contact the Head, Dr. Matthew Williamson-Dicken.

 


EVERYONE

Family and Community Safeguarding Training - Final Reminder

At regular intervals, our school offers safeguarding training for family members. Individuals who have attended in the past have found this training particularly helpful because it covers the types of abuse, how to spot signs of abuse, the protocols that we should follow, how to make a referral and time for discussion.

 

This is open to all members of our Panteg community and our extended community.

 

Our next session is tonight! (Tuesday, 23rd of April) in person, at the school between 4:30-5:45pm.

 

Please share this information with friends and family members.

 

To book your space, please sign up using the following link:

 

NURSERY AND RECEPTION

Trip to Cefn Mably Farm - Reminder

Please remember that our Nursery and Reception will be going on a trip to Cefn Mably Farm!

 

-Reception children will be going on Tuesday, 14th of May.

-Morning Nursery children will be going on Wednesday, 8th of May. This is a whole day trip which means the children will need to be at school for 9.00am and will return by 3:15pm. For Morning Nursery children there will be no school on Thursday, 9th of May which will allow us to take our Afternoon Nursery children on their trip.

-Afternoon Nursery children will be going on Thursday, 9th of May. Again, this is a whole day trip which means the children will need to be at school for 9.00am and will return by 3:15pm. For Afternoon Nursery children, there will be no school on Wednesday, 8th of May which will allow us to take our Morning Nursery children on their trip.

 

Lunches will be provided for this trip free of charge for Reception children. However, if your child is in Nursery, they will need a packed lunch provided by the family.

 

The cost of this trip is £12 per child. There will be a 10% discount for those in receipt of Pupil Development Grant. Closing date for payment is Wednesday, 1st of May at 10am.

 

Please log into CivicaPay (https://bit.ly/Civicatorfaen) to pay. If you are having trouble paying, either technical or otherwise, please get in contact with us as soon as possible.



78 views0 comments
bottom of page