SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
PAWB
Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion - Galwad Olaf
Diolch i bawb sydd wedi cofrestru ar gyfer ein cyfarfod cynnydd disgyblion a dweud wrthym pa amseroedd rydych ar gael. Mae'r linc yn cau ar ddiwedd y dydd heddiw (31ain o Ionawr). Felly, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, llenwch y ddolen isod i rannu pa amseroedd rydych chi ar gael. Bydd staff yr ysgol wedyn mewn cysylltiad er mwyn cadarnhau amser mwy pendant. Mae slotiau amseroedd poblogaidd yn gyfyngedig - felly bwciwch heddiw! Peidiwch â'i adael tan y penwythnos!
Cynhelir y cyfarfodydd ar ddydd Llun 6ed, dydd Mawrth 7fed a dydd Mercher 8fed o Chwefror ar ôl ysgol. Rydym yn disgwyl y bydd pob teulu yn mynychu'r cyfarfodydd hyn (naill ai'n bersonol neu'n rhithiol). Byddwn yn rhoi'r llyfrau plant allan i chi edrych drwyddynt hefyd.
BLYNYDDOEDD 1 I 6
Gwersylloedd Aml Chwaraeon Hanner Tymor Chwefror
Mewn partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal diwrnodau hwyliog yn Ysgol Panteg ar gyfer helpu i hyrwyddo ffyrdd iach, egnïol o fyw a chefnogi teuluoedd sydd angen gofal plant hanner tymor. Yn Ysgol Panteg, bydd yr Urdd yn cynnal gweithgareddau ar ddau ddiwrnod (dydd Llun 20fed Chwefror a dydd Iau 23ain o Chwefror). Mae yna leoliadau eraill hefyd y byddech chi efallai am eu defnyddio ar ddiwrnodau eraill - fel Ysgol Gymraeg Ifor Hael a Chanolfan Chwaraeon Cymunedol Crickhowell. Dyma'r ddolen i arwyddo!
DERBYN
Noson Dod i’ch Nabod
Ddydd Iau, 16eg o Chwefror, am 3:30 (ar ôl amser casglu’r prynhawn) hoffem gwahodd deuluoedd plant y Derbyn i digwyddiad dod ynghyd i holl rieni’r dosbarth derbyn er mwyn i chi ddod i adnabod eich gilydd. Gall rhieni fod yn gymorth i’w gilydd yn ystod gyrfa ysgol plentyn. Felly, os oes gennych chi blentyn yn un o’n dosbarthiadau Derbyn, boed yn newydd neu wedi bod gyda ni ers peth amser yn ein Meithrin, dewch draw am gacen a dewch i adnabod teuluoedd eraill! Rhowch wybod i ni os ydych yn dod trwy lenwi'r ddolen hon fel ein bod yn gwybod faint o gacen i fynd i mewn!
PAWB
Cnau a Chynnyrch Cnau
Ers y Nadolig, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy’n dod â chynnyrch sy’n cynnwys cnau i mewn. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn eithaf diniwed, fel bariau byrbrydau/nutella. Cofiwch fod gennym nifer o blant ag alergeddau cnau difrifol iawn ar y safle ar draws ein grwpiau oedran. Gall alergeddau cnau fod yn hynod o gryf ac i rai o'n plant gall arogl yr awyr neu gyffwrdd â llaw rhywun sydd wedi cyffwrdd neu fwyta cynnyrch sy'n cynnwys cnau arwain at anaffylacsis sy'n peryglu bywyd. Helpwch ni i ofalu am bob un o’n teulu Panteg drwy wirio cynhwysion eitemau cyn iddynt gael eu hanfon fel byrbrydau neu o fewn bocsys bwyd plant.
PAWB
Ras am Fywyd
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein digwyddiad Ras am Fywyd sydd i’w gynnal ddydd Gwener nesaf (10fed o Chwefror) fel rhan o’n ‘teimlo’n dda yn Chwefror’. Erbyn dydd Mawrth nesaf, byddwn yn gwybod os yw'r tywydd i fod yn ddigon da i ni allu cynnal y digwyddiad - felly, byddaf yn rhoi gwybod i chi os ydym yn glynu at 10/01/2023 neu'n ei wthio yn ôl i un o'n dyddiau wrth-gefn.
Rydym yn cael ein calonogi gan y nifer o blant sy'n casglu noddwyr ar gyfer y digwyddiad. Os gallwch, rydym yn eich annog i gael noddwyr i godi arian ar gyfer Ymchwil Cancr DU. Ond, fel yr eglurwyd yn flaenorol, peidiwch â theimlo dan rwymedigaeth os yw hyn yn rhywbeth na allwch ei wneud ar hyn o bryd.
PAWB
Teimlo'n Dda yn Chwefror
Ar ôl prysurdeb y Nadolig, gall mis Chwefror fod yn fis anodd iawn i lawer o bobl. Gall ymddangos yn fis tywyll o hyd a gwyddom y gall ymddangos yn bell tan ddyddiau heulog yr Haf. Yn Ysgol Panteg, gyda staff, disgyblion a theuluoedd, rydym yn hyrwyddo ‘teimlo’n dda yn Chwefror’. Dyma fis i ganolbwyntio ar hunanofal. Dyma rai awgrymiadau syml o bethau y gallech chi eu gwneud i helpu mis Chwefror eleni:
1. Cymerwch amser y tu allan bob dydd i sylwi ar y newid yn y tymhorau. Sylwch ar y bylbiau'n dod i fyny, y golau'n newid, y blagur dail ar y coed.
2. Symudwch eich corff bob dydd. Gallai fod yn daith gerdded, yn ymestyn, yn ddawns, yn rhedeg, yn feicio. Rhywbeth sy'n gwneud i'r cymalau symud a chalon bwmpio. Os ydych chi'n sownd gartref, triwch ychydig o sgwatiau tra bod y tegell yn berwi neu fynd i fyny ac i lawr y grisiau ychydig o weithiau - mae hyn yn ddechrau gwych.
3. Hydradwch. Mae mor syml ac mor effeithiol fel ei bod yn hawdd anghofio. Cymerwch wydraid o ddŵr wrth y gwely i'w yfed cyn gynted ag y byddwch yn deffro. Llenwch wydr neu botel fawr â dŵr pan fyddwch chi'n eistedd i lawr i'r gwaith.
4. Sylwch ar eich ystum a siâp eich corff. Eisteddwch yn dal, codwch eich pen ac edrychwch o gwmpas wrth i chi gerdded. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i sut rydych chi'n teimlo.
5. Ychwanegwch faeth. Rhowch gynnig ar un bwyd gwahanol bob wythnos. Neu geisiwch gael mwy na’ch ‘5 y dydd’ o ffrwythau a llysiau. Rhowch gynnig ar rysáit newydd llawn llysiau.
6. Gorffwyswch mwy. Rhowch amser gwely penodol i chi'ch hun. Gosodwch y wifi i ddiffodd am 10pm fel na allwch chi wylio cyfres Netflix arall mewn pyliau. Crewch patrwm amser gwely dda.
7. Canfodwch lawenydd yn y pethau bychain. Ceisiwch ddarganfod beth sy'n gwneud i chi chwerthin neu beth sy'n eich llenwi â hapusrwydd. Dewch o hyd i jôc newydd i'w dweud wrth ffrind, mwynhewch baned cyntaf y dydd, dechrewch lyfr nodiadau newydd, neu ail-ddarllenwch lyfr poblogaidd.
8. Gwerthfawrogwch eich hun. O ddifrif. Rydych chi'n anhygoel. Edrychwch arnat ti dy hun! Edrychwch ar eich traed a'ch coesau sy'n eich cario o gwmpas trwy'r dydd. Eich breichiau a'ch dwylo sy'n gwneud yr holl dasgau pwysig hynny trwy'r dydd. Eich llygaid yn darllen y testun hwn ar hyn o bryd. Am gorff anhygoel iawn sydd gennych chi. Dangoswch rywfaint o werthfawrogiad a chariad iddo.
9. Dangoswch ddiolchgarwch. Rwy’n siŵr eich bod wedi clywed hyn o’r blaen ond mae diolch yn arf pwerus ar gyfer ein lles. Cyn i mi godi, rwy'n hoffi gorwedd yn y gwely a meddwl am dri pheth rwy'n ddiolchgar amdanynt cyn i mi godi. Mae ei ysgrifennu i lawr yn fwy pwerus. Ysgrifennwch nodyn ddiolchgar eich at rywun sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich bywyd neu fywyd eich plentyn.
10. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Triwch gael yr ymennydd i danio mewn ffyrdd newydd. Dysgwch sgil newydd, rhowch gynnig ar rysáit newydd, benthyg sglefrolwyr am fach o hwyl, dewch o hyd i fideo ‘sut i’ ar hap ar YouTube. Mae fy ffrind wedi dechrau chwarae gitar fel hyn ac yn ei chael yn therapiwtig iawn!
Peidiwch â'i wneud yn anodd i chi'ch hun. Gall un neu bob un o'r pethau hyn helpu i wella'ch teimlad o fod yn dda. Ond bydd angen i chi ddod o hyd i'r ffordd iawn, un sy'n addas i chi a'ch bywyd ar hyn o bryd.
EVERYONE
Pupil Progress and Wellbeing Meetings - Last Call
Thank you to all who have signed up to our pupil progress meeting and told us of what times you are available. The link closes at end of day today (31st of January). So, if you haven’t already, please fill out the link below to share what times you are available. School staff will then be in contact in order to confirm a more definite time. Popular times slots are limited - so get in today! Don’t leave it until the weekend!
The meetings will be be held on Monday 6th, Tuesday 7th and Wednesday 8th of February after school. It is our expectation that all families will attend these meetings (either in-person or virtually). We will be putting out the children's books for you to look through too.
YEARS 1 TO 6
February Half Term Multi Sport Camps
In partnership with Urdd Gobaith Cymru, remember that we will be hosting fun days at Ysgol Panteg to help promote healthy, active lifestyles and support families with half term childcare. At Ysgol Panteg, the Urdd will be running activities on two days (Monday 20th of February and Thursday 23rd of February). There are also other locations which you might want to utilise on other days – such as Ysgol Gymraeg Ifor Hael and Crickhowell Community Sports Centre. Here is the link to sign up!
RECEPTION
Getting to Know You Evening
On Thursday, 16th of February, at 3:30 (after afternoon pick up) we’d like to invite Reception parents to a little get together for all reception parents so that you can get to know each other. Parents can really be a support to one another during a child’s school career. So, if you have a child in one of our Reception classes, whether they are new or have been with us for some time and in our Nursery, come along for some cake and get to know other families! Let us know if you are coming by filling in this link so we know how much cake to get in!
EVERYONE
Nuts and Nut Produce
Since Christmas, we’ve seen a rise in children bringing in products that contain nuts. Most of these are quite innocent, such as snack/nutella bars. Please be reminded that we have a number of children with very severe nut allergies on site across our age groups. Nut allergies can be extremely potent and for some of our children the airborne smell or touching the hand of someone who has touched or eaten a product containing nuts can result in life threatening anaphylaxis. Please help us care for all of our Panteg family by checking ingredients of items before they are sent in as snacks or within children’s lunchboxes.
EVERYONE
Race for Life
We are really looking forward to our Race for Life event due next Friday (10th of February) as part of our ‘feel good February’. By next Tuesday, we will know if the weather is due to good enough for us to hold the event - therefore, I will let you know whether we are sticking to 10/01/2023 or pushing it back to one of our back-up dates.
We are so encouraged by children who are collecting sponsors for the event. If you can, we encourage you to get sponsors to raise money for Cancer Research UK. But, as previously explained, please don’t feel obligated if this is something that you can’t do at this time.
EVERYONE
Feel Good February
After the hustle and bustle of Christmas, February can be a really hard month for many people. It can still seem a dark month and we know that it can seem a long way until the sunny days of Summer. At Ysgol Panteg, with staff, pupils and families alike, we are promoting a ‘feel good February’. This is a month to focus on self-care. Here are some simple suggestions of things you might be able to do to help this February:
1. Take time outside everyday to notice the changing season. Notice the bulbs coming up, the light changing, the leaf buds on the trees.
2. Move your body daily. It could be a walk, a stretch, a dance, a run, a cycle. Something that gets the joints moving and heart pumping. If you’re stuck at home, just a few squats while the kettle boils or going up and down stairs a couple of times is a great start.
3. Hydrate. It’s so simple and so effective it’s easy to forget. Have a glass of water by the bed to drink as soon as you wake up. Fill a large glass or bottle with water when you sit down to work.
4. Notice your posture. Sit up tall, lift your head and look around as you walk. It makes a huge difference to how you feel.
5. Add in nourishment. Try one different food each week. Or try and get more than your ‘5 a day’ of fruit and veg. Try a new veg-packed recipe.
6. Rest more. Give yourself a set bedtime. Set the wifi to turn off at 10pm so you can’t binge watch another Netflix series. Create a good bed time ritual.
7. Find joy in the small things. Seek out what makes you laugh or what fills you with happiness. Find a new joke to tell a friend, relish the first cup of tea of the day, start a new notebook, or re-read a well loved book.
8. Appreciate yourself. Seriously. You’re amazing. Look at you. Look at your feet and legs that carry you around all day. Your arms and hands that do all those important tasks all day long. Your eyes reading this text right now. What a seriously incredible body you have. Show it some appreciation and love.
9. Show gratitude. I’m sure you’ve heard this before but gratitude is a powerful tool for our wellbeing. Before I get up, I like to lie in bed and think of three things I’m grateful for. Writing it down is more powerful. Write a thank you note to someone who makes a difference in your life or your child's life.
10. Try something new. Get the brain firing up in new ways. Learn a new skill, try a new recipe, borrow some rollerskates for a laugh, find a random ‘how to’ video on youtube. My friend has taken up playing guitar in this way and finds it very therapeutic!
Don’t make it hard for yourself. One or all of these things can help improve your feel-good-factor. But you’ll need to find the right way, one that suits you and your life right now.
תגובות