SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Mae wythnos wych arall yn Ysgol Panteg wedi dod i ben! Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos hyfryd!
Yn y bwletin heddiw, soniaf am Langrannog, ymweliad syrpreis cyffrous a ddigwyddodd ddoe, ein hwythnos NSPCC, gweithgareddau hanner tymor mis Hydref yn yr ysgol a’n Pasbort i Bobman.
BLWYDDYN 5
Llangrannog
Gadawodd ein disgyblion Blwyddyn 5 i fynd i Langrannog bore ma! Mae ganddyn nhw amser cyffrous iawn o'u blaenau. Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n rhoi fyny eu penwythnosau i sicrhau bod ein plant yn cael cyfleoedd cyffrous. Nid yw'r staff yn cael eu talu ac eto maent bob amser mor barod ac awyddus. Felly, diolchiadau enfawr i'r staff.
DERBYN A MEITHRIN
Ymweliad Sypreis Cyffrous
Roedd ddoe yn ddiwrnod cyffrous iawn i'n dosbarth meithrin a derbyn oherwydd cawsom lawer o anifeiliaid yn yr ysgol. Roedd gennym nadroedd, tylluanod, chameleons, llwynog a llawer mwy! Roedd y plant wrth eu bodd yn dysgu am yr holl anifeiliaid gwahanol!
NEWYDDION
Pasbort i Bobman
Mae ein pasbort sgiliau bywyd yn gweithio'n rhyfeddol o dda. Llawer o weithgareddau dysgu gwych yr wythnos hon fel brwsio dannedd, creu pitsas a choginio cawl. Roedd hi mor hyfryd bod rhai o ferched Blwyddyn 5 wedi gwneud cawl i mi o'r dechrau! Roedd yn flasus! Mae ein ffocws sgiliau bywyd mor bwysig i ni oherwydd ein bod yn benderfynol o gefnogi plant i ddod yn unigolion cyflawn yn barod ar gyfer eu dyfodol.
PAWB
Wythnos yr NSPCC
Dros yr wythnos nesaf rydym yn cynnal wythnos arbennig yn canolbwyntio ar ddiogelwch plant. Bob dydd bydd gennym ffocws gwahanol. Fel teuluoedd, byddwch yn cael e-bost bob dydd yn amlinellu pethau ymarferol y gallwn eu gwneud i gefnogi ein plant a'u cadw'n ddiogel.
Ddydd Mercher nesaf, rydym yn annog pawb i wisgo rhywbeth gwyrdd! Gallai hwn fod yn grys T gwyrdd, sanau gwyrdd, neu loncwyr gwyrdd. I'r rhai sydd â gwallt hir, gall fod yn sgrunchy neu bobbl werdd. Nid ydym yn casglu arian ar gyfer hyn; ond rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn cael ychydig o hwyl yn ei wneud. Peidiwch â mynd allan i brynu dillad newydd - nid dyna'r nod! Gyda chostau byw yn cynyddu, y peth olaf sydd ei angen arnom yw teuluoedd yn poeni am hyn.
PAWB
Boreau Hwyl Hanner Tymor Hydref
Rydyn ni wedi trefnu diwrnodau hwyl yn ystod y gwyliau gyda Menter Iaith. Rydyn ni’n gwneud hyn am ddau reswm: yn gyntaf, er mwyn cefnogi teuluoedd sy’n gorfod gweithio yn ystod y gwyliau a chael gofal plant yn anodd ac, yn ail, helpu i roi profiadau Cymraeg i blant mewn cyd-destunau hwyliog, cymdeithasol.
Felly, bydd Menter Iaith yn cynnal tri bore llawn hwyl yn Ysgol Panteg. Bydd llawer i'w wneud gan gynnwys sesiwn gerddorol gan Halibalw, Celf a Chrefft a llawer o gemau. Mae pob diwrnod yn sesiwn 2 awr (10am-12pm).
-Llun 31/10/21: Parti Gwisg Ffansi Calan Gaeaf a sesiwn llawn hwyl gyda Cherddoriaeth Halibalw.
-Dydd Mawrth 1/11/22
-Dydd Mercher 2/11/22
Mae'r clwb hwn yn addas ar gyfer plant 5 oed a hŷn. Y gost yw £3 y sesiwn a delir yn uniongyrchol i Fenter Iaith drwy Eventbrite. Mae niferoedd yn gyfyngedig felly bwciwch eich lle cyn gynted â phosibl trwy ddilyn y ddolen hon:
PAWB
Mabolgampau Hanner Tymor gyda'r Urdd
Yn yr un modd, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Urdd i drefnu diwrnod chwaraeon yn ystod hanner tymor mis Hydref.
Felly, ar ddydd Iau, 3/10/22, gallwch bwcio eich plentyn ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn yr ysgol o 9yb tan 3yp. £16 fydd y gost i’w dalu’n uniongyrchol i'r Urdd trwy eu system archebu gwefan.
Unwaith eto, caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Another great week at Ysgol Panteg has come to an end! We hope you all have a lovely weekend!
In today’s bulletin, we talk about Llangrannog, an exciting surprise visit that happened yesterday, our NSPCC week, October half term activities at the school and our Passport to Everywhere.
YEAR 5
Llangrannog
Our Year 5 pupils set off to Llangrannog this morning! They have a really exciting time ahead of them. At this point, I would like to thank the staff who are giving up their weekend to ensure our children get exciting opportunities. The staff do not get paid and yet they always are so willing and eager. So, one huge thank you to the staff.
RECEPTION AND NURSERY
Exciting Surprise Visit
Yesterday was a really exciting day for our nursery and reception as we had lots of animals come into surprise them. We saw snakes, owls, chameleons, a fox and many more! The children loved learning about all the different animals!
NEWS
Passport to Everywhere
Our life skills passport is working amazingly well. Lots of great learning activities this week such as teeth brushing, pizza making and soup making. I was so touched that some of the Year 5 girls made me soup from scratch! It was delicious! Our life skills focus is so important to us because we are determined to support children to become fully rounded individuals ready for their future.
EVERYONE
NSPCC Week
Next week we are holding a special week focusing on children’s safety. Each day we will have a different focus. As families, you will get an email every day outlining practical things we can do to support our children and keep them safe.
On Wednesday, we’re encouraging everyone to wear something green! This could be a green T shirt, green socks, or green joggers. For those with longer hair it might be a green scrunchy or bobble. We’re not collecting money for this; but we are raising awareness and having a little fun doing it. Please don’t go out and buy new clothing - that is not the aim! With the cost of living increasing, the last thing we need is families worried.
EVERYONE
October Half Term Fun Mornings
We’ve arranged with Menter Iaith some fun days in the holidays. We do this for two reasons: firstly, to support families who have to work during the holidays and find childcare difficult and, secondly, to help give children Welsh language experiences in fun, social contexts.
So, Menter Iaith will be running a three fun mornings at Ysgol Panteg. There will be lots to do including a musical session from Halibalw, Arts and Crafts and lots of games. Each day is a 2 hour session (10am-12pm).
-Monday 31/10/21: Halloween Fancy Dress Party and a session full of fun with Halibalw Music.
-Tuesday 1/11/22
-Wednesday 2/11/22
This club is suitable for children 5 years old and older. The cost is £3 a session paid direct to Menter Iaith through Eventbrite. Numbers are limited so please book your place as soon as possible by following this link:
EVERYONE
Half Term Sports with the Urdd
Similarly, we have been working with the Urdd to arrange a sports activity day during October half term.
Therefore, on Thursday, 3/11/22, you can book your child into sports activities at the school from 9am until 3pm. Cost will be £16 payable directly to the Urdd through their website booking system.
Again, spaces are allocated on a first come, first served basis.
Comentários