top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 29.04.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,


Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r Pasg. Rydyn ni nawr yn ôl gyda stêm o'n blaenau ar gyfer tymor yr Haf! Dydd Mercher, braf oedd cael ein Teulu Panteg yn ôl!


Croeso

Croeso mawr i'n 8 disgybl newydd a ddechreuodd dydd Mercher! Croeso i ‘Teulu Panteg’! Mae ein hysgol wedi’i hadeiladu mewn pedwar gwerth allweddol: bod yn garedig, bod yn deulu, bod yn uchelgeisiol a angerddol. Rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n ffitio'n iawn!


Themâu

Wrth i ni symud i mewn i'n tymor newydd rydym yn dechrau ein set newydd o themâu. Rydyn ni bob amser yn cychwyn themâu gyda ‘diwrnod ysbrydoliaeth’. Mae Cam Cynnydd 1 yn ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow, mae Cam Cynnydd 2 yn ymweld â ‘Chastell Fonmon’ ac mae Cam Cynnydd 3 wedi cael ymweliad gan y Welsh Whisperer.


Yng Ngham Cynnydd 1 (Meithrin a Derbyn) y thema ar gyfer eu hanner tymor yw ‘Blas, Blasus!’ lle byddant yn edrych ar ffynonellau bwyd, bwyta’n iach a ffyrdd iach o fyw. Byddant, yn cymryd rhan fel bob amser mewn gweithgareddau o bob maes o'r cwricwlwm.


Yng Ngham Cynnydd 2 (Blwyddyn 1 i Flwyddyn 3) y thema am y tymor cyfan yw ‘Gyflym fel y Gwynt!’. Byddant yn edrych ar fathau o drafnidiaeth, symudiad, teithio o amgylch y byd, athletau a straeon am bethau sy'n symud yn gyflym iawn!


Yng Ngham Cynnydd 3 (Blwyddyn 4 i 6) y thema am y tymor cyfan yw ‘Gwlad y Gân’. Byddant yn edrych ar bopeth Cymreig ac yn dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru.


Bydd bwletin dydd Mawrth nesaf yn cael ei ddefnyddio i roi mwy o wybodaeth i chi am y cwricwlwm ar gyfer y tymor. Felly, cadwch olwg am hynny! Mae’r rheswm pam yr ydym yn gwneud hyn yn ddeublyg: yn gyntaf, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y mathau o bethau y mae’r plant yn eu dysgu ac, yn ail, rhoi gwybodaeth ichi er mwyn ichi allu ymgysylltu â’ch plentyn yn yr hyn y mae wedi bod yn ei ddysgu.


Clybiau Ysgol

Diolch am gofrestru ar gyfer ein clybiau ar ôl ysgol gan ddefnyddio'r dolenni a roddwyd cyn y Pasg. Rydym bellach wedi neilltuo plant i’r clybiau gan ddefnyddio dull y cyntaf i’r felin. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod pawb a ofynnodd am gael mynychu clwb wedi derbyn lle. Mae rhai clybiau yn llawn nawr a dim lle pellach. Fodd bynnag, mae lle o hyd yn y clybiau canlynol:

- Dydd Llun: Côr Ysgol gyda CerddTorfaenMusic i Flynyddoedd 4, 5 a 6

- Dydd Mawrth: Clwb Pêl-rwyd i Flynyddoedd 4, 5 a 6

- Dydd Mawrth: Clwb Dawns i Flynyddoedd 4, 5 a 6

- Dydd Iau: Clwb Criced i Flynyddoedd 4, 5 a 6

Os hoffech i'ch plentyn fynychu un o'r clybiau hyn, anfonwch e-bost at y swyddfa.


Mae lle o hyd yn y clybiau sy'n cael eu rhedeg gan yr Urdd a Menter Iaith hefyd.

Linc

Datblygu Maes Dysgu Awyr Agored

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod gennym bellach amgylcheddau dysgu awyr agored addas i’r diben a fydd yn parhau i esblygu a datblygu. Bellach mae gan ein gardd welyau plannu wedi'u codi, mae ardaloedd y tu allan i Gam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2 wedi'u trawsnewid ar gyfer dysgu. Mae ein canolfan dysgu awyr agored, ‘Caban y Coed’ bellach yn dechrau cael ei defnyddio ac rydym yn cynllunio agoriad swyddogol yn fuan iawn!


Gan eich bod wedi cerdded o amgylch yr ysgol yr wythnos hon, byddwch wedi gweld datblygiad aruthrol yn yr ardaloedd dysgu awyr agored. Fel un o flaenoriaethau ein hysgol, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar gynyddu dysgu yn yr awyr agored a phrofiadau dysgu naturiol. Mae ein staff wedi bod yn derbyn hyfforddiant trwy gydol y flwyddyn ac mae'r diwrnodau hyfforddi diwethaf wedi'u neilltuo i gynllunio ar gyfer defnydd effeithiol o'n gofod awyr agored a sicrhau ymdriniaeth effeithiol o'r cwricwlwm yn yr awyr agored. Mae dysgu yn yr awyr agored yn cyfoethogi profiad dysgu plant gymaint heb sôn am eu lles.


Welsh Whisperer

Ddoe, buon ni’n ddigon ffodus i gael ‘The Welsh Whisperer’ sy’n gantorwr-gyfansoddydd o Gymru i ddod i weithio gyda’r plant. Fe wnaethon nhw ysgrifennu cân wych gydag ef a chawsant gymaint o hwyl yn y broses. Mae perfformiad cynnar o'r gân ar gael ar ein cyfrif Twitter!


Trip Castell Fonmon i Flwyddyn 1 Heddiw

Heddiw, mae Blwyddyn 1 wedi cael trip gwych i Gastell Fonmon. O ddeinosoriaid i ddreigiau, teithiau cerdded coetir i anturiaethau canoloesol a gweithgareddau gwaith tîm i chwarae, rwy’n siŵr y byddant yn dweud popeth wrthych pan fyddant yn dod adref! Peidiwch ag anghofio edrych am luniau ar ClassDojo!





Teithiau Wythnos Nesaf

Mawrth, 03/05 – Taith Meithrinfa’r Bore i Fferm Greenmeadow (Dim ysgol i blant Meithrin Prynhawn ar y diwrnod yma)

Mercher, 04/05 – Taith Dosbarthiadau Derbyn i Fferm Greenmeadow

Dydd Iau, 06/05 - Taith Prynhawn Meithrinfa i Fferm Greenmeadow (Dim ysgol i blant Meithrin y Bore ar y diwrnod yma)

Gwener, 07/05 – Taith Dosbarthiadau Blwyddyn 2 i Gastell Fonmon


Mabolgampau

Rydym yn gyffrous unwaith eto i hysbysebu y byddwn yn cynnal mabolgampau y gall rhieni eu mynychu! Dyma ddyddiadau eich dyddiadur. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn nes at yr amser. Gan y gall y digwyddiadau hyn ddibynnu ar y tywydd, dyma'r dyddiadau a roddir ar gyfer ein dyddiad arfaethedig a'r dyddiadau wrth gefn. Rydyn ni'n rhoi'r dyddiadau hyn i chi nawr rhag ofn y byddwch chi'n dymuno archebu amser i ffwrdd o'r gwaith i fynychu. (Gwelir yr ebost.)


Y Disgybl Cudd – Rhandaliad Terfynol!

Cyn hanner tymor, roeddwn yn rhannu rhai o'r pethau hyfryd a doniol y mae plant wedi'u dweud am ein staff yn ystod arsylwadau gwersi. Dyma'r rhandaliad olaf!


Mrs. Claire Roberts Lloyd: “Mae Mrs Roberts-Lloyd yn sbesial. Mae hi’n calm-o fi lawr.”

Mr. Simon Alexander, Blwyddyn 4: “Mae Mr Alexander yn ffyni! Mae’n gwneud lleisiau ffyni sy’n neud i fi gofio pethau rydyn ni’n dysgu.”

Mr. Dafydd Evans, Blwyddyn 6: “Gyda Mr Evans ni’n gwybod beth fi’n gorfod neud i lwyddo. Fi eisiau bod yn gwell a mae e’n helpu fi.”

Miss Jessica Couzens, Cynorthwyydd: “Mae Miss Couzens yn newydd. Mae hi’n caredig ac yn dawel. Fi’n hoffi hi coz of that.”

Miss Natasha Sawday, Cynorthwyydd Cam Cynnydd 1: “Miss Sawday… she helps all the teacherings… like Miss Brown.”

Miss Bethan Roberts, Cynorthwyydd Derbyn: “Miss Roberts yn helpu fi wif my llythrennau and my rhifau. She helpu Miss Brown yn y dosbarth.”

Mr. Joseph Masterton, Cynorthwyydd Blwyddyn 2: “Mae Mr Masterton yn gwneud lots o gwaith gyda ni. Mae e’n helpu ni bod yn well. Mmm… ble mae e? Fi dim wedi gweld e this week.”

Mrs. Melanie Tudball, Swyddfa: “Mae Mrs Tudball yn gweithio yn y swyddfa. Fi eisiau bod fel hi yn y swyddfa yn tap tapio.”

Mrs. Angharad Jones, Blwyddyn 3: “Mae Mrs Jones yn gwenu trwy’r amser. Mae hi’n bybli iawn!”

Miss Nadine Williams, Blwyddyn 4: “Rwy’n hoffi Miss Williams. Mae hi yn helpu ni gyd gwneud y gwaith yn gwell. Fi’n hoffi gwaith cyfrifiadur gyda hi.”


 

We hope that you enjoyed the Easter break. We are now back with full steam ahead for the Summer term! On Wednesday, it was great to have our Panteg Family back!


Welcome

A big welcome to our 8 new pupils who began on Wednesday! Welcome to ‘Teulu Panteg’! Our school is built in four key values: being kind, being a family, being ambitious and being fired-up. We know you will fit right in!


Themes

As we move into our new term we begin our new set of themes. We always start out themes with a ‘spark inspiration day’. Progress Step 1 are visiting Greenmeadow Community Farm, Progress Step 2 are visiting ‘Fonmon Castle’ and Progress Step 3 have had a visit from the Welsh Whisperer.


In Progress Step 1 (Nursery and Reception) the theme for their half term is ‘Tasty, Tasty!’ where they will be looking at sources of food, healthy eating and healthy lifestyles. They will be, as always, taking part as always in activities from all areas of the curriculum.


In Progress Step 2 (Year 1 to Year 3) the theme for the whole term is ‘As Fast as the Wind!’. They will be looking at types of transport, movement, travelling around the world, athletics and stories about things that move really fast!


In Progress Step 3 (Year 4 to 6) the theme for the whole term is ‘The Land of Song’. They will be looking at all things Welsh and celebrating the heritage and culture of Wales.


Next Tuesday’s bulletin will be given over to providing you with more information about the curriculum for the term. So, keep a look out for that! The reason we do this is two-fold: firstly, it is to keep you informed of the types of things the children are learning and, secondly, to provide you with information for you to engage with your child in what they have been learning.


School Clubs

Thank you for signing up for our after-school clubs using the links given before Easter. We have now assigned children to the clubs using a first come, first served method. We are pleased to announce that everyone who asked to attend a club has received a space. Some clubs are full now and have no further space. However, there is still space at the following clubs:

- Mondays: School Choir with CerddTorfaenMusic for Years 4, 5 and 6

- Tuesdays: Netball Club for Years 4, 5 and 6

- Tuesdays: Dance Club for Years 4, 5 and 6

- Thursdays: Cricket Club for Years 4, 5 and 6

If you wish your child to attend one of these clubs, please email the office.


There is also still place at the clubs run by the Urdd and Menter Iaith. Here are the links:


Outdoor Learning Area Development

I am pleased to announce that we now have fit for purpose outdoor learning environments which will continue to evolve and develop. Our garden now has raised planting beds, areas outside Progress Step 1 and Progress Step 2 have been transformed for learning. Our outdoor learning centre, ‘Caban y Coed’ is now beginning to be used and we are planning an official opening very soon!


As you have walked around the school this week, you will have seen a huge development in the outdoor learning areas. As one of our school priorities, we have been focusing on increasing learning outdoors and natural learning experiences. Our staff have been receiving training throughout the year and the last training days have been given over to planning for the effective use of our outdoor space and ensuring effective coverage of the curriculum in the outdoors. Outdoor learning enhances children’s learning experience so much not to mention their wellbeing.


Welsh Whisperer

Yesterday, we were fortunate enough to have ‘The Welsh Whisperer’ who is a Welsh singer-songwriter to come and work with the children. They wrote a great song with him and had so much fun in the process. An early performance of the song is available on our Twitter account!


Fonmon Castle Trip for Year 1 Today

Today, Year 1 have had a fantastic trip to Fonmon Castle. From dinosaurs to dragons, woodland walks to Medieval adventures and team work activities to playing, I’m sure they will tell you all about when they come home! Don’t forget to look out for photos on ClassDojo!





Next Week’s Trips

Tuesday, 03/05 – Morning Nursery’s Trip to Greenmeadow Farm (No school for Afternoon Nursery children on this day)

Wednesday, 04/05 – Reception Classes’ Trip to Greenmeadow Farm

Thursday, 06/05 - Afternoon Nursery’s Trip to Greenmeadow Farm (No school for Morning Nursery children on this day)

Friday, 07/05 – Year 2 Classes’ Trip to Fonmon Castle


Sports Days

We are excited once again to advertise that we will be holding sports days which can be attended by parents! Here are the dates for your diary. More information will be released closer to the time. Since these events can be weather dependent, below find dates given for our intended date and back up dates. We are giving these dates to you now in case you wish to book time off work to attend. (Please see email for dates)


The Secret Pupil – Final Installment!

Before half term, I was sharing some of the lovely and funny things children have said about our staff during lesson observations. Here is the final installment!


Mrs. Claire Roberts Lloyd, Assistant: “Mrs Roberts-Lloyd is special. She calms me down.”

Mr. Simon Alexander, Year 4: “Mr Alexander is funny. He does lots of funny voices that helps me remember what we are learning.”

Mr. Dafydd Evans, Year 6: “With Mr Evans, I know what I have to do to succeed. I want to be better and he helps me.”

Miss Jessica Couzens, Assistant: “Miss Couzens is new. She is kind and quiet. I like her because of that.”

Miss Natasha Sawday, Assistant for Progress Step 1: “Miss Sawday… she helps all the teacherings… like Miss Brown.”

Miss Bethan Roberts, Reception Assistant: “Miss Roberts helps me with my numbers and letters. She helps Miss Brown in the class.”

Mr. Joseph Masterton, Year 2 Teaching Assistant: “Mr Masterton does lots of work with us. He helps us be better. Mmm… where is he? I haven’t seen him this week!”

Mrs. Melanie Tudball, Office: “Mrs Tudball works in the office. I want to be like her tap-taping away!”

Mrs. Angharad Jones, Year 3: “Mrs. Jones smiles all the time. She is very bubbly!”

Miss Nadine Williams, Year 4: “I like Miss Williams. She helps us to the work better. I like computer work with her.”

58 views0 comments

コメント


bottom of page