top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 12.04.2024 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Annwyl Deuluoedd, 

 

PAWB

Diwrnodau Hyfforddiant y Flwyddyn Academaidd nesaf

Fel bob amser, rwy'n hoffi rhoi cymaint o rybudd ag y gallaf i deuluoedd o ddiwrnodau hyfforddiant staff ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, oherwydd gall helpu i ostwng prisiau gwyliau. Mae'r rhan fwyaf yn dilyn ymlaen o wyliau. Fe sylwch fod un yng nghanol y tymor, ond ar ddydd Gwener, mae hyn oherwydd ein bod yn rhannu hyfforddiant gyda 5 ysgol arall. Dylai hyn ganiatáu penwythnos hir!

 

  • 02/09/2024 (yn syth ar ôl y gwyliau Haf)

  • 11/10/2024 (Hyfforddiant Clwstwr Gwynllyw)

  • 06/01/2025 (yn syth ar ôl y Nadolig)

  • 03/03/2025 (yn syth ar ôl y gwyliau Hanner Tymor Chwefror)

  • 28/04/2025 (yn syth ar ôl y gwyliau’r Pasg)

  • 02/06/2025 (yn syth ar ôl y gwyliau’r Sulgwyn)

 


PAWB

Hyfforddiant Diogelu Teuluoedd a’r Gymuned

Yn rheolaidd, mae ein hysgol yn cynnig hyfforddiant diogelu i aelodau'r teulu. Mae unigolion sydd wedi mynychu yn y gorffennol wedi cael yr hyfforddiant hwn yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd ei fod yn cynnwys y mathau o gam-drin, sut i adnabod arwyddion o gam-drin, y protocolau y dylem eu dilyn, sut i wneud atgyfeiriad ac amser ar gyfer trafodaethau.

 

Mae hwn yn agored i bob aelod o'n cymuned Panteg a'n cymuned estynedig.

 

Byddwn yn cynnig dwy sesiwn y tymor hwn:

-Dydd Gwener, 19eg o Ebrill (dros Microsoft Teams), 10-11:15am

-Dydd Mawrth, 23ain o Ebrill (yn bersonol, yn yr ysgol), 4:30-5:45pm

 

Plis rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau ac aelodau o'r teulu.

 

I archebu eich lle, cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:

 


BLYNYDDOEDD 4 & 5

Trip Sain Ffagan

Diolch i’r holl deuluoedd sydd wedi mewngofnodi i Civica Pay i gadarnhau presenoldeb eich plentyn ar gyfer tripiau’r wythnos nesaf. Eto, ymddiheurwn am y rhybudd hwyr ar gyfer y daith yma, daeth cyfle nad oeddem am i’r plant golli allan arno.

 

Bydd cyfle i flwyddyn 4 fynychu ar y 15fed o Ebrill.

Bydd cyfle i flwyddyn 5 fynychu ar yr 17eg o Ebrill.

 

Darperir cinio i'r plant.

 

BLYNYDDOEDD 1, 2 & 3

Taith i Sain Ffagan

Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd ein plant Cam Cynnydd 2 yn mynd ar drip Sain Ffagan ar ddydd Gwener, 26ain o Ebrill.

 

Darperir cinio am ddim ar gyfer y daith hon.

 

Cost y daith hon yw £7 y plentyn. Bydd gostyngiad o 10% i'r rhai sy'n derbyn Grant Datblygu Disgyblion. Y dyddiad cau ar gyfer talu yw dydd Mawrth 23ain o Ebrill am 10yb.

 

Mewngofnodwch i CivicaPay i gofrestru eich plentyn. Os ydych chi'n cael trafferth talu, naill ai'n dechnegol neu fel arall, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

 

PAWB

Dim Diwrnod Pen

Am ddiwrnod gawson ni ddydd Mawrth! Cymaint o wahanol weithgareddau yn hyrwyddo gwahanol fathau o ddysgu ar ein ‘Diwrnod Dim Pen’! O weithgareddau gwaith tîm, dilyn cyfarwyddiadau, celf greadigol, plannu a phypedau i ddrymio Affricanaidd, gwyddbwyll, sgiliau peirianneg a gwneud smwddis…dyma rai o uchafbwyntiau! Cymerwch olwg ar y lluniau! Da iawn bawb!

 




BLWYDDYN 1 I BLWYDDYN 6

Clybiau Allgyrsiol

Diolch i bawb a gofrestrodd ar gyfer clybiau. Byddwch yn derbyn llythyr heddiw yn amlinellu os yw eich cais am glwb wedi bod yn llwyddiannus. Yn achos rhai clybiau, mae gennym restr aros.

 

Fel yr eglurwyd i'r rhai y dyrannwyd lle iddynt, mae'n bwysig, os bydd eich amgylchiadau'n newid, eich bod yn dweud wrthym cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddyrannu lleoedd i blentyn ar ein rhestr aros. Yn ogystal, os na fydd plentyn yn mynychu am 3 wythnos, gellir rhoi ei le i rywun ar y rhestr aros.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn y swyddfa. Neu, cysylltwch â'ch athro dosbarth trwy ClassDojo sydd wedi cael y rhestrau.

 

 

PAWB

Llwyddiant Tiana

Mae un o’n disgyblion blwyddyn 6, Tiana, wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth dros y Pasg. Yn y gystadleuaeth hon, enillodd y wobr am y Llefarydd Gorau am ei Araith, gwobr am ‘I am a Difference Maker’ ac yn ail yn y gystadleuaeth gyfan. Bydd Tiana nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth ryngwladol yn America. Da iawn ti!

 

Os oes gennych chi stori newyddion da yr hoffech ei rhannu, rhowch wybod i ni!

 

BLWYDDYN 6

Y Cwsg Mawr

Am wythnos mae hi wedi bod! Dyw ein Blwyddyn 6 ddim wedi stopio! Ac, byddan nhw'n cysgu heno! O raffau uchel, saethyddiaeth a thrampolinio, i dripiau theatr, ymweld â Stadiwm Principality a bowlio, maen nhw wedi cael amser gwych wrth gysgu drosodd.

 



DERBYN I FLWYDDYN 2

Clwb Gymnasteg - Atgof

Mae’r Urdd yn rhedeg clwb gymnasteg yn yr ysgol yn dechrau dydd Mercher, 24/04/2024. Gweler y manylion isod a dilynwch y ddolen i gofrestru eich plentyn!

 


 

EVERYONE

Next Academic Year’s Training Days

As always, I like to give families as much notice as I can of training days for the next academic year, because it can help reduce prices of holidays. Most follow on from holidays. You will notice that one is in the middle of the term, but on a Friday, this is due to us sharing training with 5 other schools. This should allow for a long weekend!

 

  • 02/09/2024 (straight after the Summer Holidays)

  • 11/10/2024 (Gwynllyw cluster training)

  • 06/01/2025 (straight after Christmas)

  • 03/03/2025 (straight after February Half Term)

  • 28/04/2025 (straight after the Easter break)

  • 02/06/2025 (straight after the Whitsun break)

 


EVERYONE

Family and Community Safeguarding Training

At regular intervals, our school offers safeguarding training for family members. Individuals who have attended in the past have found this training particularly helpful because it covers the types of abuse, how to spot signs of abuse, the protocols that we should follow, how to make a referral and time for discussion.

 

This is open to all members of our Panteg community and our extended community.

 

We will be offering two sessions this term:

-Friday, 19th of April (over Microsoft Teams), 10-11:15am

-Tuesday, 23rd of April (in person, at the school), 4:30-5:45pm

 

Please share this information with friends and family members.

 

To book your space, please sign up using the following link:

 


YEARS 4 & 5

Trip St Fagans

Thank you to all of the families who have logged on to Civica Pay to confirm your child’s attendance for the trips for next week. Again, we apologise for the late notice for this trip, an opportunity arose that we didn’t want the children to miss out on.

 

Year 4 will have the opportunity to attend on the 15th of April.

Year 5 will have the opportunity to attend on the 17th of April.

 

Lunch is being provided for the children.

 

YEARS 1, 2 & 3

Trip to St Fagans

We are pleased to announce that our Progress Step 2 children will be going on a trip St Fagans on Friday, 26th of April.

 

Lunches will be provided for this trip free of charge.

 

The cost of this trip is £7 per child. There will be a 10% discount for those in receipt of Pupil Development Grant. Closing date for payment is Tuesday 23rd of April at 10am.

 

Please log into CivicaPay to register your child. If you are having trouble paying, either technical or otherwise, please get in contact with us as soon as possible.

 

EVERYONE

No Pen Day

What a day we had on Tuesday! So many different activities championing different types of learning on our ‘No Pen Day’! From team work activities, following instructions, creative art, planting and puppeteering to African drumming, chess, engineering skills and smoothie making… here are just a few of the highlights! Take a look at the photos! Da iawn bawb!




 

YEAR 1 TO YEAR 6

Extra-Curricular Clubs

Thank you to all who registered for clubs. You will receive a letter today outlining whether your application for a club has been successful. In the case of some clubs, we have a waiting list.

 

As explained to those who have been allocated a space, it is important that if your circumstances change that you tell us as soon as possible so that we can allocate spaces to a child on our waiting list. In addition, if a child does not attend for 3 weeks, their space may be given to someone on the waiting list.

 

If you have any questions, please don’t hesitate to contact us at the office. Or, contact your class teacher via ClassDojo who has been provided with the lists.

 


EVERYONE

Tiana’s Success

One of our year 6 pupils, Tiana, has taken part in a competition over Easter. In this competition, she won the award for Best Spokesperson for her Speech, an award for ‘I am a Difference Maker’ and 1st runner up over the whole competition. Tiana will now be going on to represent Wales in the international competition in America. Da iawn ti!

 

If you have a a good news story you’d like to share, please let us know!

 

YEAR 6

The Big Sleep

What a week it’s been! Our Year 6 haven’t stopped! And, they will sleep tonight! From high ropes, archery and trampolining, to theatre trips, visiting the Principality Stadium and bowling, they have had a great time at their sleepover.

 


 

RECEPTION TO YEAR 2

Clwb Gymnasteg - Reminder

The Urdd runs a gymnastics club at the school starting on Wednesday, 24/04/2024. Please see details below and follow the link to sign your child up!

 

63 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page