top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 05.03.2024 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Annwyl Deuluoedd,

 

PAWB

Diwrnod y Llyfr

Fel sydd wedi cyhoeddi dros yr wythnosau dwethaf, bydd ein dathliad o Ddiwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu yr wythnos hon. Yn Ysgol Panteg, bydd hyn yn digwydd dydd Gwener nesaf, 8fed o Fawrth. Mae hyn ychydig yn wahanol i ysgolion eraill - ond wedi ei newid er mwyn i'n holl blant allu cymryd rhan. Fydden ni byth eisiau gadael pobl allan!

 

Rydym wedi gweld rhai syniadau gwych ar-lein ar gyfer Diwrnod y Llyfr - mae rhai ysgolion yn gwneud gwisgoedd a digwyddiadau gwisgo lan tra bod rhai yn gwneud diwrnodau pyjama. Yn Ysgol Panteg, rydyn ni’n mynd i roi’r opsiwn i deuluoedd os ydyn nhw’n dymuno i’w plentyn ddod wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr neu mewn dillad cyfforddus gyda llyfr i’w ddarllen. Eich dewis chi fel teuluoedd fydd hyn – dwi’n gwybod bod rhai teuluoedd wedi bod yn gweithio ar eu gwisgoedd ers tro a rhai plant ddim eisiau gwisgo lan. Felly, mae'r opsiwn yno fel bod hwn yn wirioneddol yn ddiwrnod i bawb ddathlu llenyddiaeth.

 

Nid oes unrhyw gost am y diwrnod hwn.

 


PAWB

Eisteddfod yr Urdd dydd Sadwrn

Am ddiwrnod yn yr Eisteddfod! Mae’n rhaid i mi ddweud, fel Pennaeth, fy mod mor falch o bob un plentyn a gymerodd ran dros y penwythnos yn Eisteddfod yr Urdd. Hyfryd oedd gweld teulu ein hysgol yn ymdrechu ac yn perfformio. Mae sefyll ar lwyfan o flaen cannoedd o bobl yn beth dewr iawn i'w wneud.

 

Llongyfarchiadau hefyd i'r rhai sydd bellach yn mynd drwodd i'r rownd nesaf mewn pythefnos!

 

Diolchiadau enfawr i'n CRhA a fu'n bwydo'r torfeydd yn yr Eisteddfod drwy gynnal caffi dros dro. Cododd hyn £180 tuag at offer chwarae awyr agored ar gyfer ein plant. Cofiwch fod holl weithgareddau’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon a’r arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at bethau sydd o fudd uniongyrchol ac yn cyfoethogi profiad dysgu’r plant.


 

BLWYDDYN 5

Cynhyrchiad Theatr ‘Mewn Cymeriad’

Byddwn yn mynd â’n plant Blwyddyn 5 i Ysgol Gymraeg Gwynllyw ar yr 20fed o Fawrth ar gyfer cynhyrchiad theatr o gwmpas bod yn falch o fod yn Gymry. Nid oes unrhyw gost am y daith hon. Gan fod gennym eich caniatâd i fynd â'r plant ar deithiau lleol, gofynnwn i chi gysylltu â ni os NAD YDYCH eisiau i'ch plentyn fynychu'r daith hon. Mae trefniadau cinio arferol yn parhau ar y diwrnod hwn.



 PAWB

Adroddiadau

Gyda’n hadroddiadau ysgol yn dod allan yr hanner tymor hwn, rydym yn cysylltu â phob teulu i wirio a fydd unrhyw un angen mwy nag un copi o adroddiad eu plentyn. Rydym yn deall y gallai amgylchiadau rhai teuluoedd fod wedi newid, felly, rydym yn rhoi cyfle i deuluoedd roi gwybod i athrawon trwy ClassDojo am unrhyw ail gopïau y gallai fod eu hangen arnoch. Rhowch wybod i ni erbyn dydd Mercher, 13eg o Fawrth am 4pm.

 


PAWB

Diwrnod Trwyn Coch - Gwallt Gwallgof

Yn dod i fyny ar ddydd Gwener, 15fed o Fawrth mae Diwrnod Trwynau Coch. Byddwn yn codi arian ar gyfer yr elusen hon sy'n sefyll yn erbyn tlodi. Mae Comic Relief yn cefnogi prosiectau a sefydliadau anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl ledled y DU a ledled y byd.

 

Ar y diwrnod hwn, rydym yn gofyn i blant ddod i'r ysgol gyda gwallt gwallgof! Gall plant hefyd wisgo eu dewis eu hun ar y diwrnod hwn. Os ydych yn gallu ac yn dymuno cyfrannu, byddwn yn casglu rhoddion gwirfoddol o £1.

 

 

EVERYONE

World Book Day

As has been been announced over the last fortnight, our celebration of World Book Day will be celebrated this week. At Ysgol Panteg, this will take place next Friday, 8th of March. This is slightly different to other schools - but has been changed in order that all our children can take part. We’d never want to leave people out!

 

We’ve seen online some great ideas for World Book Day - some schools are doing costumes and dress up events whilst some are doing pyjama days. At Ysgol Panteg, we are going to give the option to families whether they wish for their child to come dressed as a character from a book or in comfy clothes with a book to read. This will be your choice as families - I know some families have been working on their outfits for some time and some children don’t want to dress up. So, the option is there so that this truly is a day for everyone to celebrate literature.

 

There is no cost for this day.

 

 

EVERYONE

Saturday’s Urdd Eisteddfod

What a day at the Eisteddfod! I have to say, as Headteacher, that I am so proud of every single child who participated over the weekend at the Urdd Eisteddfod. It was wonderful to see our school family strive and perform. Standing on a stage in front of hundreds of people is a very brave thing to do.

 

Congratulations also to those who are now going through to the next round in two weeks!

 

Huge shout out to our PTA who fed the multitudes at the Eisteddfod by holding a pop-up café. This raised £180 towards outdoor play equipment for our children. Remember all of the PTA activities and money that is raised goes towards things that directly benefit and enhance the children’s learning experience.

 

 

YEAR 5

Theatre Production ‘In Character’

We will be taking our Year 5 children to Ysgol Gymraeg Gwynllyw on the 20th of March for a theatre production around being proud to be Welsh. There is no cost for this trip. Since we have your permission to take the children on local trips, we ask that you contact us if you DO NOT want your child to attend this trip. Normal dinner arrangements continue on this day.

 


EVERYONE

Reports

With our school reports coming out this half term, we are contacting each family to check if anyone will require more than one copy of their child’s report. We understand that some families’ circumstances may have changed, therefore, we are giving an opportunity for families to let teachers know via ClassDojo about any second copies that you might need. Please let us know by Wednesday, 13th of March at 4pm.

 

 

EVERYONE

Red Nose Day - Crazy Hair Day

Coming up on Friday, 15th of March is Red Nose Day. We will be raising money for this charity which stands against poverty. Comic Relief supports incredible projects and organisations that are making a difference for people across the UK and around the world.

 

On this day, we asking children to come to school with crazy hair! Children can also wear their own choice of clothes on this day. If you are able and wish to donate, we will be collecting voluntary donations of £1.



 


66 views0 comments

Comments


bottom of page