top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 24.10.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Llywodraethwyr Newydd

Rydym yn wirioneddol falch o gyhoeddi bod yr etholiad a gafodd ei gyfrif ddydd Gwener yn golygu eich bod wedi ethol dau riant lywodraethwr. Bydd Vicky Horlor yn dychwelyd fel rhiant lywodraethwr ar ôl cael ei hail-ethol am ail dymor. Yn ogystal, bydd Gavin Davies yn ymuno â’r corff llywodraethu fel cynrychiolydd rhieni newydd.


Llongyfarchiadau i'r ddau ar eu hetholiad. Dymunwn ddiolch hefyd i’r rhai na chawsant eu hethol y tro hwn. Mae’n dda gweld bod gennym unigolion yn barod i gamu i fyny at y marc i gyflawni rôl bwysig llywodraethwyr.


Mae gan bob bwrdd llywodraethu dair swyddogaeth graidd:

-sicrhau gweledigaeth, ethos a chyfeiriad strategol eglur

-dal y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol yr ysgol a'i disgyblion, a rheoli perfformiad staff

-goruchwylio perfformiad ariannol yr ysgol a sicrhau bod ei harian yn cael ei wario'n dda.


Mae ein llywodraethwyr wir yn tîm anhygoel sy’n cefnogi datblygiad yr ysgol yn wych. Rwy’n diolch yn wirioneddol ac yn ddiffuant iddynt am eu holl waith caled – mae’n rôl sy’n cymryd llawer o amser ac yn heriol.

PAWB

Parth Gollwng

Diolch i bawb am helpu i sefydlu ein parth gollwng. Fel y gwyddoch, mae hwn o dan gyfnod prawf ac, ar hyn o bryd, mae adborth gan deuluoedd yn dweud ei fod yn help mawr.


Helpwch ni drwy sicrhau eich bod yn cynnal hwn fel parth nad yw'n faes parcio pryd bynnag y bydd yr arwydd allan. Mae hyn yn golygu os oes angen i chi adael eich cerbyd, mae maes parcio yn angenrheidiol ar gyfer eich anghenion yn hytrach na'r parth gollwng.


O yfory ymlaen, rydym yn mynd i fod yn ymestyn y parth gollwng i gynnwys amseroedd clybiau brecwast hefyd. (Mae drysau clwb brecwast yn agor am 8:15 ac yn cau am 8:30 yn brydlon.)

PAWB

Casgliad Cynhaeaf - Nodyn Atgoffa Terfynol

Fel rydym wedi ei wneud mewn blynyddoedd blaenorol, pan fyddwn yn casglu ar gyfer ein dathliadau Cynhaeaf, gofynnwn i deuluoedd ddod ag eitemau nad ydynt yn ddarfodus i mewn i'w rhoi i ‘Panteg Food Share’.


Sefydliad sy’n gweithio’n lleol ac a sefydlwyd gan bobl leol yw’r Panteg Food Share. Er bod y Panteg Food Share yn hapus i dderbyn unrhyw roddion, rydym wedi siarad â’r tîm ac maent wedi rhoi rhestr i ni o eitemau y maent yn mynd drwyddynt yn gyflym iawn ac angen mwy o’r canlynol bob amser:


Llaeth UHT

Bara

Menyn

Ffa pob

Sbageti tun

Tomatos tun

Cig tun

Jam

Bisgedi

Grawnfwyd

Te

Reis


Nid oes pwysau i'w roi i'r casgliad Cynhaeaf hwn. Ac, gofynnwn i chi roi dim ond os na fydd yn niweidiol i'ch teulu.


Os ydych yn gallu ac eisiau rhoi i'r casgliad hwn, gofynnwn yn garedig i chi anfon yr eitemau erbyn dydd Mercher, 25ain o Hydref (wythnos nesaf). Ar y diwrnod hwnnw, byddwn yn cynnal gwasanaeth arbennig yn canolbwyntio ar ddiolchgarwch a bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym.


Diolchwn ymlaen llaw i chi am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.

PAWB

Nodyn atgoffa am Ddiwrnod Hyfforddiant

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, sylwch nad oes ysgol i ddisgyblion ar ddydd Llun, 6ed o Dachwedd. Mae hyn oherwydd ein bod yn cynnal diwrnod hyfforddi arbennig i staff. (Os ydych yn rhiant i ddisgybl o Garreg Lam, disgwylir iddynt ddod i mewn ar y dydd Llun hwnnw.)


PAWB

Dim ond Un Goeden - Nodyn Atgoffa

Mae ein Cyngor Eco a phlant eraill wedi gwneud cais i ni gael diwrnod di-wisg ysgol dydd Gwener yma (27ain o Hydref) er mwyn codi arian i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Ymddiheuriadau bod camgymeriad yn fy mwletin blaenorol - yn bendant dydd Gwener yma ydy hi nid ym mis Tachwedd.


Os gallwch, gofynnwn yn garedig i blant ddod â £1 i mewn ar y dyddiad hwnnw. Mae’r plant eisiau cefnogi sylfaen o’r enw ‘Just One Tree’. Mae syniad y sylfaen yn syml: am bob £1 a roddwn, byddant yn plannu coeden i amsugno CO2, yn adfer bioamrywiaeth ac yn gwneud y byd yn lle gwell.


PAWB

Apêl y Pabi

Fel rydym wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol, mae gennym flwch apêl pabi gyda bathodynnau, bandiau snap ac eitemau eraill Sul y Cofio yn ein cyntedd. Mae croeso i chi alw i mewn i’r Dderbynfa er mwyn prynu unrhyw un o’r eitemau hyn. Y rhodd a awgrymir ar yr eitemau yw £2. Mae'r arian yn mynd yn syth i'r Lleng Brydeinig Frenhinol.


BLWYDDYN 3

Sesiwn Teulu Read Write Inc - Nodyn Atgoffa

Rwy’n siŵr bod eich plant yn hynod gyffrous eu bod wedi dechrau dysgu Saesneg yn yr ysgol. Y rhaglen rydym yn ei defnyddio i ddechrau addysgu Saesneg ym Mlwyddyn 3 yw rhaglen ffoneg o’r enw ‘Read Write Inc’. Bob blwyddyn, rydym yn cynnal sesiwn agored gyda’r nos ar gyfer ein teuluoedd sy’n esbonio’r rhaglen hon er mwyn i chi ddeall y dulliau a ddefnyddiwn i ddysgu ffoneg Saesneg a sut y gallwch chi helpu gartref.


Cynhelir y sesiwn ar ddydd Iau, 16fed o Dachwedd am 4:30pm yn neuadd ein hysgol.


Rhowch wybod i ni os ydych yn dod trwy gofrestru ar y ddolen ganlynol:

DERBYN A MEITHRIN

Sesiwn Teulu Tric a Chlic - Nodyn Atgoffa

Mae wedi bod yn hyfryd gweld ein holl blant Derbyn a Meithrin yn ymgartrefu mor dda dros yr wythnosau diwethaf. Nawr bod plant wedi setlo a’n bod ni wedi cwblhau camau cyntaf ein hasesiadau gwaelodlin, rydyn ni’n falch iawn o gynnig cyfle i deuluoedd ddod i mewn am sesiwn i ddysgu sut rydyn ni’n addysgu ffoneg Gymraeg. Yn y gorffennol, mae teuluoedd wedi gweld y sesiwn hon yn amhrisiadwy o ran dysgu sut y gallant gefnogi eu plentyn i gaffael y Gymraeg.


Cynhelir y sesiwn hon ar ddydd Mawrth, 14eg o Dachwedd am 4:30pm yn neuadd ein hysgol.


Rhowch wybod i ni os ydych yn dod trwy gofrestru ar y ddolen ganlynol:

BLWYDDYN 5 A 6

Sesiwn Holi ac Ateb Gwynllyw - Nodyn Atgoffa

Ddydd Mercher, 15fed o Dachwedd, bydd Gwynllyw yn ymweld â’r ysgol i wneud ychydig o waith gyda phlant. Yna, byddant yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda theuluoedd am 15:30 yn neuadd yr ysgol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad byr.


Rhowch wybod i ni os ydych yn dod trwy gofrestru ar y ddolen ganlynol:

 

EVERYONE

New Governors

We are really proud to announce that the election that was counted on Friday means that you have elected two parent governors. Vicky Horlor will return as a parent governor after being re-elected for a second term. In addition, Gavin Davies will join the governing body as a new parent representative.


Congratulations to them both on their election. We also wish to thank those who weren’t elected this time. It is good to see that we have individuals ready to step up to the mark to fulfil the important role of governors.


All governing boards have three core functions:

-ensuring clarity of vision, ethos and strategic direction

-holding the headteacher to account for the educational performance of the school and its pupils, and the performance management of staff

-overseeing the financial performance of the school and making sure its money is well spent.


Our governing body are an outstanding group of people who support the development of the school extremely well. I truly and sincerely thank them for all their hard work – it is a time-consuming and challenging role.


EVERYONE

Drop Off Zone

Thank you to everyone for helping to set up our drop off zone. As you know, this is under a trial period and, at present, feedback from families is that it is really helping.


Please help us by ensuring that you maintain this as a non-parking zone whenever the sign is out. This means if you need to leave your vehicle, a car park space is necessary for your needs rather than the drop off zone.


From tomorrow, we are going to be extending the drop off zone to include breakfast club timings too. (Breakfast club doors open at 8:15 and shut at 8:30 promptly.)

EVERYONE

Harvest Collection - Final Reminder

As we have done in previous years, when we collect for our Harvest celebrations, we ask families to bring in non-perishable items to donate to the Panteg Food Share.


The Panteg Food Share are an organisation working locally and set up by local people. Although the Panteg Food Share are happy to receive any donations, we have spoken to the team and they have given us a list of items that they go through very quick and always need more of:


UHT milk

Bread

Butter / spread

Baked beans

Tinned spaghetti

Tinned tomatoes

Tinned meat

Jam

Biscuits

Cereal

Tea

Rice


There is no pressure to give to this Harvest collection. And, we ask that you only give if it won’t be at a detriment to your family.


If you are able and want to give to this collection, we kindly ask that you send in the items by Wednesday, 25th of October (tomorrow). On that day, we will be holding a special assembly focusing on gratefulness and being thankful for what we have.


We thank you in advance for your support with this matter.

EVERYONE

Reminder about Training Day

As previously announced, please note that there is no school for pupils on Monday, 6th of November. This is because we are holding a special training day for staff. (If you are a parent of a Carreg Lam pupil, they are expected in on that Monday.)

EVERYONE

Just One Tree - Reminder

Our Eco Council and other children have made the request that we have a non-uniform day this Friday (27th of October) in order to raise money to combat climate change. Apologies that there was a typo in my previous bulletin - it definitely is this Friday not in November.


If you are able to, we kindly ask that children bring in £1 on that date. The children want to support a foundation known as ‘Just One Tree’. The foundation’s idea is simple: for every £1 we give, they will plant a tree to absorb CO2, restore biodiversity and makes the world a better place.


EVERYONE

Poppy Appeal

As we have done in previous years, we have a poppy appeal box with badges, snap bands and other Remembrance Day items in our foyer. You are welcome to pop in to Reception in order to purchase any of these items. The suggested donation on the items is £2. The money goes directly to the Royal British Legion.


YEAR 3

Read Write Inc Family Session - Reminder

I’m sure that your children are extremely excited that they have begun learning English at school. The programme we use initially for teaching English in Year 3 is a phonics programme called ‘Read Write Inc’. Every year, we hold an open evening session for our families that explains this programme so that you can understand the methods we use to teach English phonics and how you can help at home.


The session will be held on Thursday, 16th of November at 4:30pm in our school hall.


Please let us know if you are coming by signing up on the following link:

RECEPTION AND NURSERY

Tric a Chlic Family Session - Reminder

It’s been lovely to see all of our Reception and Nursery children settle in so well over the last few weeks. Now that children are settled and we have completed the first stages of our baseline assessments, we are delighted to offer families the chance to come in for a session to learn how we teach Welsh phonics. In the past, families have found this session invaluable to learning how they can support their child with their Welsh language acquisition.


This session will be held on Tuesday, 14th of November at 4:30pm in our school hall.


Please let us know if you are coming by signing up on the following link:

YEAR 5 AND 6

Gwynllyw Q and A Session - Reminder

On Wednesday, 15th of November, Gwynllyw will be visiting the school to do some work with children. Then, they will be holding a Q and A session with families at 15:30 in the school hall. This will include a short presentation.


Please let us know if you are coming by signing up on the following link:



88 views0 comments

Comments


bottom of page