top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 18.07.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Neges Diwedd Blwyddyn

Wrth i ni ddod at ddiwedd y flwyddyn, rydym mor ddiolchgar am eich holl gefnogaeth a’r berthynas rydym yn parhau i’w meithrin gyda chi fel teuluoedd.


Mae wedi bod yn flwyddyn o dwf, dysgu, ac adeiladu atgofion annwyl, ac ni allem fod yn fwy balch o gymuned ein hysgol.


Nid yw cyflawniadau ein plant wedi bod yn ddim llai na rhagorol. Cymeradwywn bob un ohonynt am eu hymroddiad, eu gwaith caled, a’u brwdfrydedd yn eu hastudiaethau. O ragoriaeth academaidd i weithgareddau creadigol, rydych chi i gyd wedi arddangos eich doniau a'n gwneud ni'n falch. Y peth pwysicaf i ni yn Ysgol Panteg yw bod yr ymdrech mae pob person yn ei (g)wneud i'w (d)dysgu - ac mae’r plant wir wedi rhoi eu gorau.


Y tu hwnt i ddatblygiad academaidd, rydym wedi ymdrechu i barhau i adeiladu amgylchedd sy'n meithrin twf personol a datblygiad cymeriad. Trwy amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, chwaraeon, a mentrau cymunedol, mae ein plant wedi dangos arweinyddiaeth, gwaith tîm a thosturi.


Mae’r celfyddydau wedi bod yn rhan annatod o’n hysgol, a doedd eleni ddim yn eithriad. O sioeau Nadolig a sioeau cerdd diwedd blwyddyn, gwersi ffidil, gwersi drymio samba (a llawer mwy), mae ein plant wedi gwirioneddol cofleidio eu creadigrwydd, gan ychwanegu lliw i'n hysgol.


Mae ein timau chwaraeon wedi dangos gwaith caled tu hwnt trwy gydol y flwyddyn. Maent wedi cynrychioli'r ysgol gyda balchder ac wedi cael llwyddiant rhyfeddol mewn amrywiol gystadlaethau. Cymeradwywn ein plant am eu hymroddiad a’u hangerdd i chwaraeon mewn cymaint o ddigwyddiadau ar draws y flwyddyn gyda’r Urdd, rhwng ysgolion lleol ac mewn twrnameintiau rhanbarthol.


Mae ein hysgol yn parhau i fod yn ymroddedig i hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd. Trwy fentrau amrywiol, rydym wedi annog arferion cyfrifol ac wedi meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at ein planed yn ein plant. Ond, rydw i’n falch iawn o’r ffaith bod ein plant wedi arwain wrth sefydlu ein Siop Gyfnewid Eco ar gyfer cyfnewid gwisg ysgol! (Peidiwch ag anghofio dod i gyfnewid yn barod ar gyfer mis Medi!)


Estynnwn ein diolch o galon i’n rhieni ac aelodau’r teulu am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad diwyro. Mae eich cysulltiad ag addysg eich plentyn yn amhrisiadwy ac yn cyfrannu'n fawr at ei lwyddiant.


I'n staff ymroddedig, diolch i chi am eich ymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu meithringar a deniadol. Mae eich angerdd a’ch ymroddiad wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol ein plant.


Wrth i ni baratoi i ffarwelio â'n dosbarth Blwyddyn 6, rydyn ni'n gyffrous am y dyfodol disglair sydd o'u blaenau i bob un ohonyn nhw. Rydym yn hyderus y byddant yn cario’r gwerthoedd o fod yn garedig, bod yn deulu, bod yn angerddol a bod yn uchelgeisiol sydd wedi’u meithrin ynddynt yn ein hysgol ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar y byd.


Disgwyliwn yn eiddgar am y daith academaidd newydd o fis Medi. Mae gennym gynlluniau a chyfleoedd cyffrous ar y gweill ar gyfer ein holl ddisgyblion.


Edrychwn at groesawu plant a theuloedd newydd i Deulu Panteg. Mae gennym sawl plentyn ar gyfer y Meithrin ac sawl un yn symud i mewn ar draws yr ysgol.


Wrth i wyliau’r haf agosáu, dymunwn amser diogel a phleserus i bawb gyda theulu a ffrindiau. Gorffwyswch, ailwefrwch, a dychwelwch gyda brwdfrydedd o'r newydd am yr anturiaethau sy'n aros amdanynt yn y flwyddyn academaidd nesaf.


Diolch, unwaith eto, am fod yn rhan hanfodol o gymuned ein hysgol. Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud ein hysgol yn lle bywiog a meithringar i ddysgu a thyfu.


BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6

Dewin yr Os

Am ddiwrnod ffantastig gawson ni ddoe! Cynhaliwyd dau berfformiad o ‘Ddewin yr Os’ a gwnaeth y plant yn wych. Maen nhw wedi gweithio mor galed gyda'i gilydd fel tîm - a dyna beth yw peth pwysicaf!


Fel yr addawyd, rydym wedi creu oriel o luniau o ansawdd uchel! O'r porth hwn, gallwch lawrlwytho lluniau o'ch plentyn. Mae dros 300 o luniau yn yr oriel!



PAWB

Nodiadau Atgoffa Cyflym

-Peidiwch ag anghofio dod â bag siopa i mewn yfory er mwyn dod â llyfrau ysgol adref.

-Peidiwch ag anghofio mynychu ein siop cyfnewid eco i gyfnewid neu brynu gwisg ysgol. Mae gennym ni lawer iawn ohono - ac mae cyfran sylweddol sy'n newydd sbon ac yn dal i fod â'r labeli ymlaen!

-Os ydych ym Mlynyddoedd 3, 4 neu 5, peidiwch ag anghofio prynu eich tocynnau i ‘Goodnight Mister Tom’ fel yr amlinellwyd yn fy nau fwletin diwethaf.


BLWYDDYN 4

Llangrannog

Y flwyddyn nesaf, pan fydd ein Blwyddyn 4 presennol ym Mlwyddyn 5, rydym wedi archebu lle iddynt fynd ar drip penwythnos i Langrannog. Dyma un o uchafbwyntiau bywyd ysgol ac mae plant yn caru eu hamser yn y ganolfan addysg awyr agored hon.


Dyddiadau’r daith yw dydd Gwener, 6ed o Hydref i ddydd Sul, 8fed o Hydref.


Rydym bellach wedi llwyddo i drefnu bysiau a phris terfynol y daith i Langrannog. Cost y penwythnos hwn yw £162 sy'n cynnwys yr holl weithgareddau, cludiant ac arlwyo. Mae gostyngiad o 10% i'r rhai sy'n derbyn Grant Datblygu Disgyblion (Cinio Ysgol Am Ddim).


Bydd angen blaendal o £30 erbyn Medi 4ydd a thaliad llawn wythnos cyn y daith (29ain o Fedi).


Bydd hwn yn fyw ar Civica Pay erbyn diwedd y dydd yfory. Os ydych yn cael unrhyw anhawster talu, technegol neu fel arall, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.


PAWB

Datblygiad yr Ysgol - Atgof

Fel cyhoeddais eisioes, ar ddydd Iau, 7fed o Fedi, am 4:00-5:00, rydym yn bwriadu cynnal sesiwn gyda’r nos lle byddwn yn casglu syniadau gennych chi, fel teuluoedd, o amgylch ein cynllun datblygu ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024. Bydd y sesiwn yn un rhyngweithiol lle byddaf yn cyflwyno rhai penawdau ac yna byddwn yn gofyn i deuluoedd symud i mewn i grwpiau i roi cymaint o syniadau ag y gallant ar gyfer sut y gallwn gydweithio i wella addysg i’n plant. Bydd arweinwyr wedyn yn defnyddio eich syniadau fel rhan o’n hymchwil i ddatblygu ein cynlluniau gweithredu ysgol ar gyfer gwelliant am y flwyddyn.


Mae hyn yn rhan allweddol o gael eich llais fel teuluoedd i'n helpu i gynllunio ar gyfer datblygiad. Ac, er mwyn i ni baratoi, rhowch wybod i ni eich bod yn dod trwy ddilyn y ddolen hon: https://forms.gle/RYf6PZwyParKVmFw7

 

EVERYONE

End of Year Message

As we come to the end of the year, we are so grateful for all your support and the relationship we continue to build with you as families.


It has been a year of growth, learning, and building cherished memories, and we couldn't be prouder of our school community.


Our children’s achievements have been nothing short of outstanding. We applaud each and every one of them for their dedication, hard work, and enthusiasm in their studies. From academic excellence to creative pursuits, you have all showcased your talents and made us proud. The most important thing for us at Ysgol Panteg is that the effort that each person puts in to their learning - and the children have truly given their best.


Beyond academics, we have strived to continue to build an environment that fosters personal growth and character development. Through various extracurricular activities, sports, and community initiatives, our children have demonstrated leadership, teamwork, and compassion.


The arts have been an integral part of our school, and this year was no exception. From Christmas shows and end of year musicals, violin lessons, samba drumming lessons (and so much more), our children have truly embraced their creativity, adding colour and expression to our school.


Our sports teams have shown incredible determination throughout the year. They have represented the school with pride and achieved remarkable success in various competitions. We commend our children for their dedication and passion to sports at so many events across the year with the Urdd, between local schools and at regional tournaments.


Our school continues to be dedicated to promoting environmental awareness and sustainability. Through various initiatives, we have encouraged responsible practices and instilled a sense of responsibility towards our planet in our children. But, I am most proud of our children’s leading in setting up our Eco Swap Shop for uniform exchange! (Don’t forget to come and swap ready for September!)


We extend our deepest gratitude to our parents and family members for their unwavering support and collaboration. Your involvement in your child's education is invaluable and greatly contributes to their success.


To our devoted staff, thank you for your commitment to providing a nurturing and engaging learning environment. Your passion and dedication have played a pivotal role in shaping our children’s futures.


As we prepare to bid farewell to our Year 6 class, we are excited about the bright future that lies ahead for each of them. We are confident that they will carry the values of being kind, being a family, being fired-up and being ambitious that have instilled in them at our school and make a positive impact on the world.


We eagerly await the new year’s journey from September. We have exciting plans and opportunities in store for all our pupils.


We look forward to welcoming new children and families to Teulu Panteg (the Panteg Family). We have many children for the Nursery and several moving in across the school.


As the summer break approaches, we wish everyone a safe and enjoyable time with family and friends. Rest, recharge, and return with renewed enthusiasm for the adventures that await us in the next academic year.


Thank you, once again, for being an essential part of our school community. Together, we make our school a vibrant and nurturing place to learn and grow.


YEARS 4, 5 AND 6

The Wizard of Oz

What a fantastic day we had yesterday! We held two performances of ‘The Wizard of Oz’ and the children did brilliantly. They have worked so hard together as a team - and that is what it is all about!


As promised, we have created a gallery of high quality photos! From this portal, you can download photos of your child. There are over 300 photos in the gallery!


EVERYONE

Quick Reminders

-Don’t forget to bring in a carrier bag tomorrow in order to bring school books home.

-Don’t forget to attend our eco swap shop to exchange or purchase uniform. We have lots and lots of it - and there is a significant proportion that is brand new and still has the labels on!

-If you are in Years 3, 4 or 5, don’t forget to purchase your tickets to ‘Goodnight Mister Tom’ as outlined in my last two bulletins. It’s live on Civica pay now.

YEAR 4

Llangrannog

Next year, when our current Year 4 are in Year 5, we have booked for them to go on a weekend trip to Llangrannog. This is one of the highlights of school life and children adore their time at this outdoor education centre.


The dates of the trip are Friday, 6th of October to Sunday, 8th of October.


We have now managed to get buses sorted and a final price from Llangrannog. The cost of this weekend is £162 which includes all activities, transport and catering. There is a 10% discount for those in receipt of Pupil Development Grant (Free School Meals).


We will require a deposit of £30 by September 4th and full payment by a week before the trip (29th of September).


This will be live on Civica Pay by end of day tomorrow. If you are having any difficulty paying , technical or otherwise, please let us know as soon as possible.


EVERYONE

School Development Evening - Reminder

As previously announced, on Thursday, 7th of September, at 4:00-5:00, we plan on holding an evening session where we collect ideas from you, as families, around our school development plan for 2023-2024’s academic year. The session will be an interactive one where I will present some headlines and then we will ask families to move into groups to give as many ideas as they can for how we can work together to improve education for our children. Leaders will then use your ideas part of our research into developing our school action plans for improvement for the year.


This is a key part of getting your voice as families to help us plan for development. And, in order for us to prepare, please let us know you are coming by following this link: https://forms.gle/RYf6PZwyParKVmFw7


153 views0 comments

Comments


bottom of page