top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 16.05.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Diogelwch Haul yr Haf

Dwi'n meddwl ein bod ni o'r diwedd yn gweld sibrwd yr Haf a thywydd braf o'r diwedd! Gobeithio na wnaf ei jincsio! Ond, rwyf am gymryd peth amser i amlinellu ein cyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod ein plant yn ddiogel dros yr Haf hwn. Gadewch i ni i gyd fod yn barod ar gyfer yr haul!


Eli Haul

Gofynnwn yn garedig i chi roi eli haul gartref cyn ysgol yn y lle cyntaf. Yna, gofynnwn i chi anfon eli haul i'r ysgol. Dylid labelu eli haul gydag enw a dosbarth eich plentyn, a bydd yn cadw hwn yn eu bagiau. Nid ydym yn caniatáu i blant rannu eli haul oherwydd alergeddau ac ati. Gall plant rhoi eli haul ymlane yn ystod y dydd ond bydd disgwyl iddynt roi’r eli haul arnynt eu hunain, gyda goruchwyliaeth gan oedolyn os oes angen. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd eli yn cael ei roi ar eu cyfer gan ein bod yn gweld hyn fel gofal personol (intimate care). Felly, gofynnwn yn garedig i chi ymarfer gyda’ch plentyn gartref.

Dŵr

Cofiwch hefyd anfon potel o ddŵr i'ch plentyn i'w gadw yn y dosbarth. Mae tapiau pob dosbarth yn ddiogel i yfed ohonynt a byddwn yn annog plant i ail-lenwi eu poteli yn ystod y dydd.


Hetiau

Mae hetiau haul yn syniad da iawn. Gofynnwn yn garedig i chi labelu neu ysgrifennu enw eich plentyn mewn marciwr ar ymyl tu fewn yr het.

Dillad

Os yw’ch plentyn yn arbennig o dueddol o losgi, ac rydyn ni’n gwybod bod croen rhai pobl yn llawer mwy tebygol o losgi, ystyriwch dopiau llewys hir cŵl. Nid yw topiau gyda strapiau bach yn addas.


Mae llawer o'r plant yn gwisgo ffrogiau haf ac, mewn llawer o achosion, byddant yn gwisgo siorts ysgafn steil legins oddi tanynt. Wrth gwrs, caniateir siorts.


Wrth i'r tywydd gynhesu, mae plant yn llawer mwy tebygol o dynnu eu siwmper ysgol. Gall hyn achosi problemau os na chânt eu labelu. Rydym yn annog pob teulu i fynd trwy eu siwmperi a'u cardigans i'w hail-labelu. Bydd hyn yn cymryd 5 munud - ond bydd yn sicrhau eich bod yn cael y siwmper neu gardigan yn ôl ac yn helpu ni’n fawr.

Esgidiau

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwisgo esgidiau call ar gyfer yr ysgol. Nid yw sandalau heb gefn (e.e. fflip-fflops, ‘sliders’ neu debyg) yn addas ar gyfer plant yn yr ysgol.


Yr hyn y byddwn yn ei wneud i helpu hefyd:

Yn yr ysgol, byddwn yn cyfyngu ar yr amser mae plant allan mewn tywydd poeth iawn a byddwn yn gosod gweithgareddau yn y cysgod. Bydd ffenestri ac agoriadau awyru eraill yn cael eu hagor yn gynnar yn y bore er mwyn caniatáu i wres wedi'i storio ddianc o'r adeilad. Bydd y defnydd o oleuadau trydan yn cael ei gadw cyn lleied â phosibl yn ystod tywydd poeth. Bydd yr holl offer trydanol, gan gynnwys cyfrifiaduron a monitorau yn cael eu diffodd pan na fyddant yn cael eu defnyddio ac ni fyddant yn cael eu gadael yn y modd segur. Bydd cynllun ystafelloedd dosbarth yn cael eu haddasu os oes angen i osgoi golau haul uniongyrchol ar ddisgyblion gan fod gennym lawer, llawer o ffenestri!

PAWB

Cystadleuaeth Poster Diogelwch Haul

Er mwyn annog ein plant i feddwl am ddiogelwch haul rydym am arddangos posteri o amgylch yr ysgol ac ym mhob dosbarth. Felly, rydym yn cyhoeddi cystadleuaeth creu poster! Bydd y Wobr Gyntaf yn gerdyn rhodd gwerth £15, yr Ail Wobr yn gerdyn rhodd gwerth £10 a'r Drydedd Wobr yn gerdyn rhodd gwerth £5.


Dylai posteri fod yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. Dylent fod yn maint A4 a gallwch ddefnyddio'r dudalen a ddarperir os dymunwch.


Dylai ceisiadau fod i mewn erbyn dydd Mawrth, 23ain o Fai a chyhoeddir yr enillwyr yr un diwrnod i'r plant ac yn y bwletin.

MEITHRIN A DERBYN

Trip Diwedd Blwyddyn

Ar gyfer ein taith diwedd tymor rydym yn gyffrous i fod yn cynllunio taith i Cheeky Monkeys.


-Bydd ein Meithrin Bore yn mynd dydd Mawrth, Mehefin 13eg – 9:30yb – 12yp

-Bydd ein Meithrin Prynhawn yn mynd dydd Mawrth, Mehefin 13eg – 12:30yp – 3yp

-Bydd ein Dosbarthiadau Derbyn (Tŷ Coch a Glas Coed) yn mynd dydd Mawrth, Mehefin 20fed.


Am resymau diogelwch teithio, rydym yn gofyn i blant meithrin gael eu gollwng a’u casglu o Cheeky Monkeys. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod y plant yn gallu gwneud y mwyaf o’u sesiynau yn Cheeky Monkeys. O ganlyniad, gwyddom fod gan rai teuluoedd blant mewn grwpiau blwyddyn eraill. Felly, ar ddydd Mawrth, 13eg o Fehefin, byddwn yn darparu rhywfaint o ofal plant ychwanegol i'r teuluoedd hynny fydd yn gorfod gollwng ac yna mynd i Cheeky Monkeys yn y bore (byddwn yn agor am 8.30 i'r teuluoedd hyn). Byddwn hefyd yn cadw plant ar ôl tan 4.00pm os ydych yn codi o Cheeky Monkeys. Bydd hyn yn golygu y gallwch deithio'n ddiogel a pheidio â rhuthro o un lle i'r llall yn ystod oriau prysur yr hewlydd. Bydd hefyd yn gymorth i reoli traffig ein meysydd parcio ar gyfer y diwrnod hwnnw. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud, os oes angen y cyfleuster hwn arnoch, yw cysylltu ag athro eich plentyn trwy ClassDojo i drefnu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Bydd y Dosbarth Derbyn yn teithio ar y bws i Cheeky Monkeys, yn gadael yr ysgol am 9:15yb ac yn dychwelyd i’r ysgol mewn pryd ar gyfer cinio.


I wneud y mwyaf o'r cyfle gwych hwn, gall y plant wisgo eu gwisg ymarfer corff ar y diwrnod, bydd gennym ddefnydd cyfan o'r cyfleuster felly rydym yn gyffrous i'r plant allu rhedeg yn rhydd!


Cost y daith fydd £5 y plentyn, a bydd yn daladwy trwy Civica Pay. Os ydych yn derbyn Grant Datblygu Disgyblion, y pris fydd £4.50. Os cewch unrhyw drafferth talu am y daith (megis amgylchiadau technegol neu deuluol) cysylltwch â mi neu Mrs Tudball cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau ymlaen.


Mae'r ysgol yn sybsideiddio cost y bws i'n plant Derbyn er tegwch.

PAWB

Dyddiadau Pwysig i Ddod - Atgof

-Diwrnod HMS (Ysgol Ar Gau i Ddisgyblion) - Dydd Llun, 5ed o Fehefin

-Noson Agored Plant Dosbarth Derbyn Newydd Mis Medi - Dydd Iau, 8fed o Fehefin am 4:30.

-Teithiau’r Meithrin i Cheeky Monkeys - Dydd Mawrth, 13eg o Fehefin.

-Noson Agored Plant Meithrin Newydd Mis Medi- Dydd Iau, 15fed o Fehefin am 4:30.

-Taith Derbyn i Cheeky Monkeys - Dydd Mawrth, 20fed o Fehefin.

-Diwrnod Pontio Blwyddyn 5 i Wynllyw – 14/06/2023

-Mabolgampau Pontio Blwyddyn 6 i Wynllyw – 27/06/2023 (Noder fod Gwynllyw wedi newid y dyddiad hwn o 28/06/2023 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol).

-Diwrnod Mabolgampau Cam Cynnydd 1 – 03/07/2023 (Dyddiad Wrth Gefn: 10/07/2023)

-Diwrnod Mabolgampau Cam Cynnydd 2 – 04/07/2023 (Dyddiad Wrth Gefn: 11/07/2023)

-Diwrnod Mabolgampau Cam Cynnydd 3 – 05/07/2023 (Dyddiad Wrth Gefn: 12/07/2023)

-Dewin yr Os (Wizard of Oz) Ymarferion Gwisg - 13/07/2023 & 14/07/2023

-Sioeau Dewin yr Os (Wizard of Oz) (Bore a Noson Gynnar) - 17/07/2023

-Seremoni Raddio Blwyddyn 6 - 19/07/2023 (1:45pm)

-Disgo Ymadawyr Blwyddyn 6 - 20/07/2023 (3:30pm - 5:00pm)

PAWB

Llefydd Derbyn a Meithrin

Mae gennym lefydd o hyd yn ein dosbarthiadau Meithrin a Derbyn ar gyfer mis Medi. A wyddoch chi am unrhyw un â phlant sydd ar fin dechrau addysg ym mis Medi sydd heb ystyried addysg Gymraeg i’w plentyn? Rhowch nhw mewn cysylltiad â ni am sgwrs anffurfiol ac ymweliad!


Helpwch ni i recriwtio mwy o blant i'n Dosbarth Derbyn a Meithrin!


PAWB

Carreg Lam

Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ein carfan Carreg Lam gyntaf, rydym nawr yn chwilio am ein carfan mis Medi. Mae Carreg Lam, ein huned trochi Cymraeg, yn derbyn 12 o blant y tymor sy’n hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg neu’r rhai sydd angen cymorth Cymraeg ychwanegol. Gall y plant fod o Flwyddyn 2 oed i Flwyddyn 6. Ydych chi'n gwybod am unrhyw un yn y categori hwnnw? Helpwch ni i recriwtio ar gyfer mis Medi! Rydym yn cynnig ymweliadau a sgyrsiau anffurfiol i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngharfan mis Medi.

 

EVERYONE

Summer Sun Safety

I think we are finally seeing the whisper of Summer and some nice weather at last! I hope I don’t jinx it! But, I want to take some time to outline our shared responsibility to ensure that our children are safe over this Summer. Let’s all be prepared!


Sun Lotion

We kindly ask that you apply sun lotion at home before school in the first instance. Then we ask that you send sun lotion into school. Sun lotion should be labelled with your child’s name and class, and they will keep this in their bag. We don’t allow children to share lotions due to allergies etc. Children may ‘top up’ during the day but they will be expected to put the sun cream on themselves, with supervision from an adult if needed. Only in exceptional circumstances will cream be put on for them as we class this as intimate care. Therefore, we kindly ask that you practice with your child at home.

Water

Please also remember to send in a bottle of water for your child to keep in the classroom. All classroom taps are safe to drink from and we will encourage children to refill their bottles during the day.

Hats

Sun hats are an extremely good idea. We kindly ask that you label or write your child’s name in marker on the inside brim of the hat.

Clothing

If your child is particularly prone to burning, and we know that some people’s skin is far more likely to burn, please consider cool, long sleeve tops. Strappy tops are not suitable.


Many of the children wear summer dresses and, in many cases, they will wear light leggings-style shorts underneath. Of course, shorts are permitted.


As the weather heats up, children are far more likely to take their school jumper off. This can cause problems if they are not labelled. We encourage every family to go through their jumpers and cardigans to relabel them. This will take 5 minutes - but will ensure that you get the jumper or cardigan back. This will helps us immensely!

Shoes

Please make sure your child is wearing sensible shoes for school. Backless sandals (e.g. flip flops, sliders or similar) are not suitable for children in school.

What we will do to help too:

In school, we will limit the time children are outside in very hot weather and will set activities in the shade. Windows and other ventilation openings will be opened during the cool of early morning to allow stored heat to escape from the building. The use of electric lighting will be kept to a minimum during heatwaves. All electrical equipment, including computers and monitors will be switched off when not in use and will not be left in standby mode. Classroom layouts will be adjusted if necessary to avoid direct sunlight on pupils since we have many, many windows!

EVERYONE

Sun Safety Poster Competition

To encourage our children to think about sun safety we want to display posters around the school and in each classroom. So, we’re announcing a poster competition! First Prize will be a £15 gift card, Second Prize a £10 gift card and Third Prize a £5 gift card.


Posters should be bilingual or in Welsh. They should be A4 in size and you may use the sheet provided if you wish.


Here are some key vocabulary and phrases to help!

Diogelwch = Safety

Haul = Sun

Diogelwch yn yr Haul = Safety in the Sun

Eli Haul = Sun Lotion

Het = Hat

Pelydrau = Rays

Dŵr = Water

Cysgod = Shade


Entries should be in by Tuesday, 23rd of May and the winners will be announced that same day to the children and in the bulletin.

NURSERY AND RECEPTION

End of Year Trip

For our end of term trip we are excited to be planning a trip to Cheeky Monkeys.


-Our Morning Nursery will be going Tuesday, 13th June – 9:30am – 12pm

-Our Afternoon Nursery will be going Tuesday, 13th June – 12:30pm – 3pm

-Our Reception Classes (Tŷ Coch & Glas Coed) will be going on Tuesday, 20th June.


For travel safety reasons, we are asking meithrin children to be dropped off and collected from Cheeky Monkeys. This will also ensure that the children can make the most of their sessions in Cheeky Monkeys. As a result, we know that some families have children in other year groups. So, on Tuesday, 13th of June, we will provide some additional childcare for those families who will have to drop off then go to Cheeky Monkeys in the morning (we will open at 8.30 for these families). We will also keep children behind until 4.00pm if you are picking up from Cheeky Monkeys. This will mean that you can travel safely and not rush from one place to another at peak time. It will also aid our car park traffic management for that day. All you need to do, if you need this facility, is to contact your child’s teacher via ClassDojo to arrange. If you have any queries regarding this please don’t hesitate to contact us.


Reception class will be travelling on the bus to Cheeky Monkeys, leaving school at 9:15 am and returning to school in time for lunch.


To make the most of the great opportunity the children can wear their PE kit on the day, we will have exclusive use of the facility so are excited for the children to be able to really let their hair down!


The cost of the trip will be £5 per child, and will be payable through Civica Pay. If you are in receipt of the Pupil Development Grant, the price will be £4.50. If you have any trouble paying for the trip (such as technical or family circumstances) please get in contact with myself or Mrs Tudball as soon as possible so we can discuss the best way forward.


The school is subsidising the cost of the bus for our Reception children for fairness.

EVERYONE

Upcoming Important Dates Reminders

-Inset Day (School Closed for Pupils) - Monday, 5th of June

-September New Reception Children Open Evening - Thursday, 8th of June at 4:30.

-Nursery Trips to Cheeky Monkeys - Tuesday, 13th of June.

-September New Nursery Children Open Evening - Thursday, 15th of June.

-Reception Trip to Cheeky Monkeys - Tuesday, 20th of June.

-Year 5 Transition Day to Gwynllyw – 14/06/2023

-Year 6 Transition Sports Day to Gwynllyw– 27/06/2023 (Please note that Gwynllyw has changed this date from the 28/06/2023 as previously announced).

-Progress Step 1 Sports Day – 03/07/2023 (Back Up Date: 10/07/2023)

-Progress Step 2 Sports Day – 04/07/2023 (Back Up Date: 11/07/2023)

-Progress Step 3 Sports Day – 05/07/2023 (Back Up Date: 12/07/2023)

-Dewin yr Os (Wizard of Oz) Dress Rehearsals - 13/07/2023 & 14/07/2023

-Dewin yr Os (Wizard of Oz) Shows (Morning and Early Evening) - 17/07/2023

-Year 6 Graduation Ceremony - 19/07/2023 (1:45pm)

-Year 6 Leavers Disco - 20/07/2023 (3:30pm - 5:00pm)

EVERYONE

Reception and Nursery Spaces

We still have spaces in our Nursery and Reception classes for September. Do you know of any one with children who are due to enter education in September who haven’t considered Welsh education for their child? Put them in touch with us for an informal chat and visit!


Help us to recruit more children to our Reception and Nursery!


EVERYONE

Carreg Lam

Following on from the success of our first Carreg Lam cohort, we are now seeking our September cohort. Carreg Lam, our Welsh immersion unit, takes 12 children per term who are late-comers to the Welsh language or those who need additional Welsh support. The children can be from Year 2 age to Year 6. Do you know of anyone in that category? Help us to recruit for September! We are offering visits and informal chats for anyone with an interest in September’s cohort.

114 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page