top of page
Search
  • headysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 21.04.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Mae wedi bod yn wych cael pawb yn ôl yr wythnos hon yn dilyn y gwyliau!


PAWB

Dyddiadau ar gyfer Eich Dyddiadur

Dyma rai dyddiadau pwysig ar gyfer eich dyddiadur. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn agosach at yr amser - ond mae hyn fel y gall teuluoedd gynllunio yn unol â hynny. Mae digwyddiadau llai hefyd ar gyfer grwpiau llai o faint (fel cystadlaethau chwaraeon), fodd bynnag, bydd y rhain yn cael eu cyfleu i deuluoedd y grwpiau hynny yn uniongyrchol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

  • Gwyl y Banc – 01/05/2023

  • Blwyddyn 6 - Diwrnod Trosglwyddo i Gwynllyw - 04/05/2023

  • Diwrnod Dathlu ar gyfer y Coroni - 05/05/2023

  • Gwyl y Banc (Coroni) – 08/05/2023

  • Teithiau Pwll Mawr ar gyfer Cam Cynnydd 2-09/05/2023-11/05/2023 (rhoddir mwy o fanylion isod)

  • Ffotograffau Dosbarth - 11/05/2023

  • Gwyl y Banc – 29/05/2023

  • Diwrnod Hyfforddiant Staff - 05/06/2023 (Dim Ysgol i Blant)

  • Blwyddyn 5 - Diwrnod Trosglwyddo i Gwynllyw - 14/06/2023

  • Blwyddyn 6 - Diwrnod Trosglwyddo i Gwynllyw - 28/06/2023

  • Diwrnodau Mabolgampau’r Ysgol

    • Cam Cynnydd 1 - 03/07/2023 (Dyddiad Wrth-Gefn: 10/07/2023)

    • Cam Cynnydd 2 - 04/07/2023 (Dyddiad Wrth-Gefn: 11/07/2023)

    • Cam Cynnydd 3 - 05/07/2023 (Dyddiad Wrth-Gefn: 12/07/2023)

  • Dewin yr Os - Ymarferion Gwisg: 13/07/2023 a 14/07/2023

  • Dewin yr Os - Sioeau (Sioe Bore a Sioe Cynnar gyda'r nos): 17/07/2023

  • Seremoni Raddio Blwyddyn 6: 19/07/2023 (1:45yp)

PAWB

Hyfforddiant ASD

Nos Fercher, cafodd ein staff sesiwn hyfforddi wych yn edrych ar anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) gyda Cheryl Deneen, arbenigwraig mewn deall, gofalu a chefnogi dysgu plant. Mae hyn i gyd yn rhan o'n hymrwymiad i wella ein hysgol, ein darpariaeth a'n gofal yn gyson.




PAWB

Datganiad Carreg Lam i'r Wasg

Prynhawn ddoe, roedd rhaglen ‘Post Prynhawn’ ar BBC Radio Cymru wedi recordio cyfweliad gyda ni am y ganolfan drochi a’r ymdrech i roi mwy o fynediad i’r iaith! Gwrandewch ar y clip drwy ddilyn y ddolen:


Ni allwn gredu ei fod wedi bod yn wythnos gyfan ers dechreuodd ein plant newydd gyda ni yn Carreg Lam! Mae gennym ni blant fydd yn setlo i Ysgol Panteg yn y pen draw ond hefyd plant fydd yn setlo yn Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Ac, am wythnos mae hi wedi bod! Rydyn ni wedi gwneud cymaint ac mae'r plant wedi dod mor bell! Maen nhw wedi setlo’n dda iawn ac rydyn ni nawr yn dechrau ar y gwaith go iawn o ddifrif.


Er y byddaf yn rhoi diweddariadau byr i’n teulu ysgol yma yn ein bwletin, mae gan y ganolfan drochi hefyd ei chylchlythyr wythnosol ei hun y gallwch ddod o hyd iddo trwy ddilyn y ddolen hon:

Mae’r cylchlythyr wythnosol hwn yn sôn am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd drwy’r wythnos, gwybodaeth bwysig am raglen y ganolfan a phatrymau iaith a fydd yn cael eu haddysgu yr wythnos nesaf.





BLYNYDDOEDD 4, 5 A 6

Ein Diwrnod Ysbrydoliaeth

Mae Cam Cynnydd 3 yn paratoi ar gyfer tymor hynod llawn gweithgareddau cyffrous wrth i ni osod eu golygon ar y sêr gyda'r thema, "Anelu at y Sêr!" Mae’r cyffro yn amlwg gan ein bod eisoes wedi gweld lansiad syfrdanol y roced Space X ac wedi ymchwilio i hanes hynod ddiddorol archwilio’r gofod. Ond, dim ond newydd ddechrau mae ein hantur! Heddiw, cychwynnodd ein plant ar daith o greadigrwydd a dysgu wrth iddynt ddylunio modiwlau glanio a rocedi, archwilio dirgelion y cytserau, creu logos ar gyfer cenhadaeth ar y blaned Mawrth, ac ymchwilio i effeithiau nwyon tŷ gwydr. I goroni’r cyfan, fe wnaethon ni hyd yn oed goginio bwyd sy’n gyfeillgar i’r gofod!








MEITHRIN A DERBYN

Ein Diwrnod Ysbrydoliaeth

I ddathlu ein thema newydd, mwynhaodd Cam Cynnydd 1 (ein dosbarthiadau Derbyn a Meithrin) nifer o weithgareddau cyffrous! Ein thema newydd yw ‘Dewch i archwilio … gofod!’ a dyna’n union a wnaethom ddydd Iau!


Gyda Miss Browning, cwblhawyd cwrs antur hyfforddi gofodwyr NASA; gyda Miss Harper fe wnaethon ni greu gwaith celf estron lliwgar cyn gorffen blasu rhywfaint o fwyd y byd hwn gyda Mrs Johnson! Am ddiwrnod llawn hwyl i blant a staff fel ei gilydd!





PAWB

Clybiau sy'n cael eu Rhedeg gan yr Ysgol

Heddiw, os gwnaethoch gofrestru eich plentyn ar gyfer clybiau, rydym wedi anfon llythyr adref yn cadarnhau eu lle. Os nad yw hyn yn eich cyrraedd (gan ein bod yn gwybod bod dwylo bach yn gallu gadael pethau ym mhobman!) peidiwch â phoeni, cysylltwch â'r swyddfa ar fore ddydd Llun trwy e-bost (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) a byddwn yn cadarnhau.


MEITHRIN

Sesiwn Dod i'ch Adnabod

Wrth i ni groesawu mwy o deuluoedd i’n hysgol ddydd Mawrth, rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y byddwn yn cynnal sesiwn ‘dod i’ch adnabod’ byr. Cyfnod byr yw hwn - yn syth ar ôl ein hamser codi yn y prynhawn er mwyn i deuluoedd ddod i adnabod ei gilydd. Nid oes cyflwyniad ffurfiol na dim byd felly. Mae hwn yn amser lle gall teuluoedd ddod i adnabod ei gilydd ychydig ac i chi ddod i adnabod y staff. Bydd cacen!


Rydym yn bwriadu cynnal y digwyddiad hwn ddydd Mawrth, 9fed o Fai am 3yp. Mae hwn ar agor i unrhyw deuluoedd Meithrin - hyd yn oed os ydych wedi bod i un o'r blaen neu wedi bod gyda ni ers peth amser.





BLWYDDYN 6

Hwdis Gadael

Wythnos nesaf, rydym yn bwriadu cael plant i drio hwdis ymlaen o wahanol feintiau yn barod i ni eu harchebu. Byddwn wedyn mewn cysylltiad â chi trwy ClassDojo i gadarnhau pa faint mae eich plentyn wedi ei ddewis. Yna, byddwn yn rhoi allan sut y gallwch dalu am hwdi ymadawyr trwy CivicaPay. Rydym wedi darganfod bod y ffordd hon yn gweithio orau i ni oherwydd nid yw gweld cod maint ar bapur bob amser yn golygu y byddant yn ffitio! Yn aml, byddwn yn cynghori teulu i brynu un maint yn fwy i'w plentyn oherwydd eu bod yn saethu i fyny rhwng nawr a diwedd y flwyddyn!


PAWB

Rhai Newyddion Personol

Mae llawer ohonoch eisoes yn gwybod y byddaf yn priodi yn ystod gwyliau hanner tymor y Sulgwyn oherwydd i chi weld y cyfweliad a roddais i a fy mhartner ar BBC Wales Today ychydig wythnosau yn ôl a'r erthygl a ysgrifennwyd amdanom ar wefan Newyddion y BBC. Bydd David a minnau yn priodi yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd, ar y 30ain o Fai, 2023 am 12:00pm. Mae gennym lawer o westeion yn mynychu'r briodas o bell ac agos - teulu a ffrindiau gan gynnwys dau esgob! Gan fy mod i'n ystyried plant ein hysgol yn rhan o fy nheulu a thrwy estyniad chi fel oedolion, hoffem wahodd teuluoedd i’r gwasanaeth hwn. Does dim pwysau i fynychu – ond mae gwahoddiad agored. Dyma ychydig o hanes yn cael ei greu gan mai dyma’r tro cyntaf erioed i Eglwys Gadeiriol Llandaf gynnal bendith priodas o’r un-rhyw ers ei sefydlu yn 1120 (sef 903 o flynyddoedd!)


Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych yn dod er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn argraffu digon o raglenni gwasanaeth! https://forms.gle/fWtUXJLd1uB5AR4J7





MEITHRIN A DERBYN

Cymraeg i’r Teulu - GALWAD OLAF

Ar ôl cyfres lwyddiannus iawn arall o sesiynau Cymraeg i’r Teulu dan ofal Mrs Redwood, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gennym gwrs newydd o ‘Cymraeg i’r Teulu’ yn dechrau ar ddydd Mawrth, 25ain o Ebrill. Dyma raglen lle mae aelodau’r teulu yn dod i’r ysgol am sesiwn 45 munud yn ein neuadd lle byddwch yn dysgu iaith Gymraeg cychwynnol gyda’ch plentyn.


Rydym yn amrywio amseriadau’r cwrs hwn fel y gallwn geisio cyd-fynd ag amserlenni a phatrymau gwaith gwahanol bobl lle gallwn. Felly, byddwn yn cynnal y rhaglen 6 wythnos yma ar ddydd Mawrth am 12:30 (ar ôl gollwng prynhawn yn ein Meithrin).


Mae dau deulu wedi cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Er mwyn caniatáu i eraill gofrestru, byddwn yn cadw'r ffurflen archebu ar agor tan ddiwedd y dydd ddydd Llun. Dilynwch y ddolen hon er mwyn bwcio lle ar y cwrs hwn:





BLYNYDDOEDD 1, 2 A 3

Trip Pwll Mawr - ATGOF

Peidiwch ag anghofio mewngofnodi i CivicaPay i archebu lle eich plentyn ar y daith.

• Bydd Blwyddyn 2 yn mynd ar ddydd Mawrth 9fed o Fai,

• Blwyddyn 3 ar ddydd Mercher 10fed o Fai

• Blwyddyn 1 ar ddydd Iau yr 11eg o Fai.


Cost y bws yw £3.55. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Hefyd, os ydych yn cael trafferth talu am y daith am unrhyw reswm (megis amgylchiadau technegol neu deuluol) cysylltwch â mi neu Mrs. Tudball cyn gynted â phosibl fel y gallwn drafod y ffordd orau ymlaen.





PAWB

Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgybl Ychwanegol Dewisol

Fel rhan o’n hymrwymiad i gadw mewn cysylltiad agos â chi fel teuluoedd am gynnydd a lles eich plentyn, rydym wedi amserlennu ‘Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion’ dewisol ar gyfer dydd Mawrth, 9fed o Fai i ddydd Mercher, 10fed o Fai ar ôl ysgol. Drwy gydol y flwyddyn, rydych eisoes wedi mynychu dau o’r cyfarfodydd hyn ac wedi derbyn adroddiad interim ym mis Rhagfyr ac adroddiad llawn eich plentyn ar ddiwedd mis Mawrth. Felly, os hoffech gwrdd ag athro eich plentyn i drafod unrhyw bryderon rydym wedi neilltuo peth amser i chi gyfarfod. I drefnu cyfarfod, galwad ffôn neu alwad fideo, cysylltwch â'ch athro dosbarth trwy ClassDojo.



 

Prynhawn da!


It been fantastic to have everyone back this week after the holidays!


EVERYONE

Upcoming Dates for Your Diary

Here are some important dates for your diary. More information will be released closer to the time – but this is just so that families can plan accordingly. There are also smaller events for smaller groups (such as sporting competitions), however, these will be communicated to those groups’ families directly to avoid any confusion.

  • Bank Holiday – 01/05/2023

  • Year 6 Transition Day to Gwynllyw – 04/05/2023

  • Celebration Day for the Coronation – 05/05/2023

  • Coronation Bank Holiday – 08/05/2023

  • Big Pit Trips for Progress Step 2 – 09/05/2023-11/05/2023 (More details given below)

  • Class Photographs – 11/05/2023

  • Bank Holiday – 29/05/2023

  • Staff Training Day – 05/06/2023 (School is Closed to Pupils)

  • Year 5 Transition Day to Gwynllyw – 14/06/2023

  • Year 6 Transition Day to Gwynllyw – 28/06/2023

  • School Sports Days

    • Progress Step 1 – 03/07/2023 (Back Up Date: 10/07/2023)

    • Progress Step 2 – 04/07/2023 (Back Up Date: 11/07/2023)

    • Progress Step 3 – 05/07/2023 (Back Up Date: 12/07/2023)

  • Dewin yr Os (Wizard of Oz) Dress Rehearsals: 13/07/2023 & 14/07/2023

  • Dewin yr Os (Wizard of Oz) Shows (Morning and Early Evening): 17/07/2023

  • Year 6 Graduation Ceremony: 19/07/2023 (1:45pm)

EVERYONE

ASD Training

On Wednesday evening, our staff had a great training session looking at autism spectrum disorder (ASD) with Cheryl Deneen, a specialist in understanding, caring and supporting the learning of children. This is all part of our commitment to be constantly improving our school, our provision and care.





EVERYONE

Carreg Lam Press Release

Yesterday afternoon, the ‘Post Prynhawn’ program on BBC Radio Cymru recorded an interview with us about the immersion centre and the drive to give more access to the language! Listen to the clip by following the link:


We can’t believe it has been one whole week our new children started with us at Carreg Lam! We have children who will eventually settle into Ysgol Panteg but also children who will settle into Ysgol Bryn Onnen and Ysgol Gymraeg Cwmbran. And, what a week its been! We’ve done so much and the children have come so far! They’ve settled really well and we now start the real work in earnest.


Whilst I will give our school family short updates here in our bulletin, the immersion centre also has its own weekly newsletter which you can find by following this link:

This weekly newsletter covers what has been happening throughout the week, important information about the centre’s programme and language patterns that will be taught the next week.





YEARS 4, 5 AND 6

Our Inspiration Day

Progress Step 3 is gearing up for an extraordinary term filled with exciting activities as we set our sights on the stars with the theme, "Aiming for the Stars!" The excitement is palpable as we have already witnessed the awe-inspiring launch of the Space X rocket and delved into the fascinating history of space exploration. But, our adventure has only just begun! Today, our children embarked on a journey of creativity and learning as they design landing modules and rockets, explore the mysteries of the constellations, create logos for a Mars mission, and investigate the effects of greenhouse gases. To top it all off, we even cooked up space-friendly cuisine!









NURSERY AND RECEPTION

Our Inspiration Day

To celebrate our new theme, Progress Step 1 (our Reception and Nursery classes) enjoyed a number of exciting activities! Our new theme is ‘Come and explore … space!’ and that’s precisely what we did on Thursday!


With Miss Browning, we completed a NASA astronaut training assault course; with Miss Harper we created colourful alien artwork before finishing off tasting some out of this world food with Mrs Johnson! What a fun filled day for children and staff alike!





EVERYONE

School-Run Clubs

Today, if you signed your child up for clubs, we have sent home a letter confirming their booking. If this doesn’t reach you (because we know how little hands can leave them everywhere!) don’t panic, please contact the office on Monday morning via email (office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk) and we will confirm via email.


NURSERY

Getting to Know You Session

As we welcomed more families to our school on Tuesday, we are really excited to announce that we will be holding a short 'getting to know you' session. This is a short time - straight after our afternoon pick up time so that families can get to know each other. There is no formal presentation or anything like that. This is a time where families can get to know each other a little and for you to get to know the staff. There will be cake!


We plan on holding this event on Tuesday, 9th of May at 3pm. This is open for any Nursery families - even if you have been to one before or have been with us for some time.





YEAR 6

Leaver’s Hoodies

Next week, we plan on getting children to try on different sizes of hoodies ready for us to order. We will then be in contact with you via ClassDojo to confirm what size your child has chosen. Then, we will be putting out the method by which you can pay for a leavers’ hoodie via CivicaPay. We have found that this way works best for us because seeing a size code on paper doesn’t always mean they will fit! Often, we will advise a family to buy one-size bigger for their child because they shoot up between now and the end of the year!


EVERYONE

Some Personal News

Many of you already know that I will be getting married during Whitsun half term break because you saw the interview my partner and I gave on BBC Wales Today a few weeks ago and the article written about us on the BBC News website. David and I will be getting married at Llandaff Cathedral, Cardiff, on the 30th of May, 2023 at 12:00pm. We have many guests attending the wedding from near and far – family and friends including two bishops! As I consider the children of our school part of my family and by extension you as adults, we would like to invite families to this service. There is no pressure to attend – but there is an open invitation. This is a little bit of history since this will be the first time Llandaff Cathedral has ever held a same-sex wedding blessing since its founding in 1120 (that 903 years!)


All we ask is that you let us know if you are coming so that we can ensure that we print enough orders of service out! https://forms.gle/fWtUXJLd1uB5AR4J7



NURSERY AND RECEPTION

Cymraeg i’r Teulu - LAST CALL

After another very successful set of Welsh for the Family sessions run by Mrs Redwood, we are pleased to announce that we have a new course of ‘Cymraeg i’r Teulu’ beginning on Tuesday, 25th of April. This is a programme where family members come to school for a 45 minute session in our hall where you will learn the Welsh language basics with your child.


We vary the timings of this course so that we can attempt to fit in with different people’s work schedules and patterns where we can. Therefore, we will be holding this 6-week programme on Tuesdays at 12:30 (after afternoon drop off at our Meithrin).


We have had two families sign up for this course. To allow others to sign up, we will keep the booking form open until end of the day on Monday. Follow this link to book on to this course:




YEARS 1, 2 AND 3

Big Pit Trip - REMINDER

Please don’t forget to log on to CivicaPay to book your child’s place on the trip.

• Year 2 will be going on Tuesday 9th of May,

• Year 3 on Wednesday 10th of May

• Year 1 on Thursday the 11th of May.


The cost of the bus is £3.55. If you have any questions around the trip, please don’t hesitate to get in touch. Also, if for any reason you have trouble paying for the trip (such as technical or family circumstances) please get in contact with myself or Mrs. Tudball as soon as possible so we can discuss the best way forward.



EVERYONE

Optional Extra Pupil Progress and Wellbeing Meetings

As part of our commitment to keeping in close contact with you as families about the progress and wellbeing of your child, we have scheduled optional 'Pupil Progress and Wellbeing Meetings' for Tuesday, 9th of May and Wednesday, 10th of May after school. Throughout the year, you have already attended two of these meetings and received an interim report in December and your child's full report at the end of March. Therefore, if you would like to meet with your child's teacher to discuss any concerns or just to touch base we have set aside some time for you to meet. To arrange a meeting, phone call or video call, please contact your class teacher through ClassDojo.

Yr eiddoch yn gywir,

Dr. Matthew James Dicken

Pennaeth Ysgol Panteg a Charreg Lam

Heol Yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH

01495 762581


Cysylltiadau pwysig a all fod o ddefnydd i chi / Important contact details that could be of use to you:

Samaritans: 116 123 (24 awr y dydd / 24 hours a day)

Wales Domestic Abuse Helpline: 0808 80 10 800 (8.00am-2.00pm & 8.00pm-2.00am pob dydd / every day).

Mind Cymru: 0300 123 3393

Childline: 0800 1111 (24 awr y dydd / 24 hours a day)

Women’s Aid: 01495 742061 (24 awr y dydd / 24 hours a day)

Eastern Valley Food Bank: 01495 760605

196 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page