top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 24.03.2023 - Head's Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

PAWB

Eisteddfod Pont-y-Pŵl

Yr wythnos hon, cawsom y fraint o fynd i Eisteddfod Pont-y-pŵl a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Pont-y-pŵl. Gwnaeth y plant yn arbennig o dda ac ennill llawer o fedalau. Enillon ni’r tlws am y côr gorau ar y ddau ddiwrnod hefyd! Da iawn i bawb! Gwyliwch fidio o’n côr hŷn!

PAWB

Taith Pontio Blwyddyn 5 i Gwynllyw

Cafodd ein plant Blwyddyn 5 lawer o hwyl yng Ngwynllyw yn cael blas ar sut beth yw addysg uwchradd! Roedden nhw'n hoff iawn o'r arbrofion gwyddoniaeth! Dechreuon nhw gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd o ysgolion eraill sy'n bwydo Gwynllyw.

PAWB

Llwyddiant Pêl-Rwyd

Rydym mor falch o'n tîm pêl-rwyd. Maen nhw wedi dod ymlaen yn aruthrol! Ddoe, fe aethon nhw i bencampwriaethau pêl-rwyd Torfaen. Gwnaethant yn arbennig o dda a dod yn 3ydd yn eu categori!


DERBYN I FLWYDDYN 6

Boreau Hwyl y Pasg Menter Iaith

Mae croeso mawr i blant 5-11 oed ymuno â Menter Iaith am foreau hwyliog dros wyliau’r Pasg. Byddant yn cael ei cynnal ar y 12/04/23 a 13/04/23 (10yb-12yp) yn neuadd ein hysgol. Y gost yw £3 y plentyn. Mae bwcio lle gyda Menter Iaith yn hanfodol:



PAWB

Llywodraethwr Newydd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym lywodraethwr newydd. Daw Matthew Jones yn wreiddiol o Bont-y-pŵl, ond mae bellach yn byw yng Nghwmbrân. Mae ganddo ddwy nith yn Ysgol Panteg. Bu Matthew yn gweithio am rai blynyddoedd gydag Arad Goch, cwmni theatr Cymraeg i blant a phobl ifanc, ac mae bellach yn gweithio fel swyddog cyfathrebu yn y Senedd (Llywodraeth Cymru). Mae Matthew yn angerddol iawn am addysg Gymraeg ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm Llywodraethwyr.


PAWB

Cymorth Ariannol

Wrth i gostau byw godi, ni ddylai unrhyw blentyn fynd hebddo. Dysgwch am 2 fath o gymorth y gallech fod â hawl iddynt:

-Cinio Ysgol Am Ddim

-Help gyda Hanfodion Ysgol (fel gwisg ysgol ac offer).


Mae Llywodraeth Cymru yn darparu prydau am ddim i bob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 ar hyn o bryd. Mae hyn i fod i gael ei ymestyn y flwyddyn nesaf yr holl ffordd i Flwyddyn 6. Fodd bynnag, mae’n dal yn bwysig eich bod yn gwirio a ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn trefnu taliadau gwyliau yn lle prydau bwyd ac mae’r ysgol yn cael mwy o arian i gefnogi disgyblion.


Dilynwch y ddolen hon i ddarganfod mwy:

PAWB

Dosbarth Derbyn ar gyfer mis Medi

Mae gennym ni lle yn ein dosbarthiadau derbyn o hyd ar gyfer mis Medi. Ydych chi'n adnabod rhywun sydd â phlentyn sy'n nesáu at oedran cynradd? Anfonwch nhw atyn ni! Oes gennych chi blentyn yn y Meithrin a heb wneud cais am le eto? Cysylltwch â Gwasanaeth Derbyniadau Torfaen heddiw! (kath.worwood@torfaen.gov.uk)


Rydyn ni eisiau ein dosbarthiadau Derbyn yn llawn ar gyfer mis Medi, felly helpwch i ledaenu'r gair!


PAWB

Diwrnodau Hyfforddiant 2022-2023

Byddwch yn gwybod eisoes o fwletinau blaenorol bod gennym 2 hyfforddiant ar y gweill:

-Dydd Llun, 17eg o Ebrill (yn syth ar ôl gwyliau’r Pasg)

-Dydd Llun, 5ed o Fehefin (yn syth ar ôl gwyliau Hanner Tymor y Sulgwyn)


Ar y dyddiau hyn, bydd yr ysgol ar gau i Ddisgyblion Ysgol Panteg. Fodd bynnag, bydd ar agor i ddisgyblion Carreg Lam.


PAWB

Gwyliau a Diwrnodau Hyfforddiant ar gyfer y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Rydym yn hoffi rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi am ddiwrnodau hyfforddi a dyddiadau gwyliau ysgol i'ch helpu chi fel rhieni. Byddwch yn gwybod ein bod yn ceisio ychwanegu ein diwrnodau hyfforddi o amgylch y dyddiadau gwyliau fel y gallwch chi fel teuluoedd weithio gyda'r dyddiadau mewn golwg i gael gwyliau ychydig yn rhatach. Gall olygu ychydig gannoedd o bunnoedd o wahaniaeth! Mae cael ein diwrnodau hyfforddi fel hyn bob amser o fudd i’r staff oherwydd eu bod yn cael eu hadfywio ar ôl gwyliau a gallwn baratoi’n llawn ar gyfer y tymor sydd i ddod!


Dyma ein diwrnodau hyfforddi ar gyfer 2023-2024:

-Dydd Gwener, 1af o Fedi (cyn i'r plant ddod yn ôl ar ôl gwyliau'r Haf)

-Dydd Llun, 6ed o Dachwedd (Yn syth ar ôl gwyliau hanner tymor mis Hydref)

-Dydd Llun, 8fed o Ionawr a dydd Mawrth, 9fed o Ionawr (Yn syth ar ôl gwyliau'r Nadolig)

-Dydd Llun, 8fed o Ebrill (Yn syth ar ôl gwyliau'r Pasg)

-Dydd Llun, 3ydd o Fehefin (Yn syth ar ôl gwyliau'r Sulgwyn)


PAWB

Newyddion Carreg Lam!

Rydym mor falch o gyhoeddi y byddwn yn croesawu 10 disgybl i’n canolfan drochi Cymraeg yn syth ar ôl y Pasg. Mae hyn yn ffantastig! Mae hyn yn golygu y bydd 10 disgybl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i addysg cyfrwng Cymraeg neu aros ynddi. Mae ein hymrwymiad i gefnogi plant ynghyd â’n hangerdd dros y Gymraeg wedi golygu ein bod yn agor y ganolfan drochi hon mewn cyfnod byr iawn o amser.


Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod Miss Megan Stokes wedi'i phenodi'n gynorthwyydd addysgu i'r ganolfan iaith hon. Ynghyd â Mrs. Carys Soper, bydd yn cefnogi disgyblion trwy gyfnod dwys o ddysgu iaith yn ein canolfan ac yna’n eu cefnogi wrth drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg.


Dyma beth arall yr ydym yn ei wneud i fod y gorau y gallwn fod i ddiwallu anghenion pob plentyn.


 

EVERYONE

Pontypool Eisteddfod

This week, we were privileged to go to the Pontypool Eisteddfod held in Pontypool Leisure Centre. The children did really well and won lots of medals. We also won the trophy for the best choir on both days! Well done to all! Watch this video of our older choir!

EVERYONE

Year 5 Transition Trip to Gwynllyw

Our Year 5 children had lots of fun at Gwynllyw having a taste of what secondary education is like! They particularly liked the science experiments! They began to meet and make new friends from other schools who feed Gwynllyw.


EVERYONE

Netball Success

We are so proud of our netball team. They have come on tremendously! Yesterday, they attended the Torfaen netball championships. They did really well and came 3rd in their category!


RECEPTION TO YEAR 6

Menter Iaith Easter Fun Mornings

Children aged 5-11 are very welcome to join Menter Iaith for fun mornings over the Easter break. They will be held on the 12/04/23 and 13/04/23 (10am-12pm) at our school hall. The cost is £3 per child. Booking with Menter Iaith is essential: https://www.eventbrite.co.uk/e/haner-tymor-pasg-pantegpanteg-easter-half-term-tickets-585036187987

EVERYONE

New Governor

We are really pleased to announce that we have a new governor. Matthew Jones is originally from Pontypool, but now lives in Cwmbran. He has two nieces in Ysgol Panteg. Matthew worked for a few years with Arad Goch, a Welsh language theatre company for children and young people, and now works as a communications officer in the Senedd (Welsh Parliament). Matthew is very passionate about Welsh language education and is looking forward to being a part of the Governor team.

EVERYONE

Financial Support

As the cost of living rises, no child should go without. Find out about 2 types of support you may be entitled to:

-Free School Meals

-Help with School Essentials (such as uniform and equipment).


The Welsh Government provide free meals for every child from Reception to Year 2 at present. This is due to be extended next year all the way to Year 6. However, it is still important that you check your eligibility for free school meals because the Welsh Government sort out holiday payments in lieu of meals and the school gets more money to support pupils.


Follow this link to find out more:

EVERYONE

Reception Spaces for September

We still have reception spaces for September. Do you know someone who has a child nearing primary age? Send them our way! Do you have a child in the nursery and have not yet applied for a space? Contact Torfaen Afmissions today! (kath.worwood@torfaen.gov.uk)


We want our reception full for September, so please help spread the word!

EVERYONE

Training Days 2022-2023

You will know already from previous bulletins that we have 2 trainings coming up:

-Monday, 17th of April (straight after the Easter holidays)

-Monday, 5th of June (straight after the Whitsun Half Term holiday)


On these days, school will be closed for Ysgol Panteg Pupils. However, it will be open for pupils of Carreg Lam.


EVERYONE

Holidays and Training Days for the Next Academic Year

We like to give you advance warning of training days and school holiday dates to help you as parents. You will know that we try to add our training days around the holiday dates so that you as families can work with the dates in mind to get slightly cheaper holidays. It can mean a few hundred pound difference! Having our training days this way always benefits the staff because they are refreshed after a break and we can fully prepare for the term ahead!


Here are our training days for 2023-2024:

-Friday, 1st September (before the children come back after the Summer holidays)

-Monday, 6th of November (Straight after the October Half Term break)

-Monday, 8th of January & Tuesday, 9th of January (Straight after the Christmas break)

-Monday, 8th of April (Straight after the Easter break)

-Monday, 3rd of June (Straight after the Whitsun break)


EVERYONE

Carreg Lam News!

We are so proud to announce that we will be welcoming 10 pupils to our Welsh language immersion centre straight after Easter. This is fantastic! This means that 10 pupils will get the support they need to move to Welsh medium education or stay in it. Our commitment to supporting children along with our passion for the Welsh language has meant that we are opening up this immersion centre in a very short space of time.


I am also proud to announce that miss Megan Stokes has been appointed to as the teaching assistant to this language centre. Along with Mrs. Carys Soper, she will support pupils through an intensive language learning period at our centre and then support them as the transfer to Welsh medium education.


This is just another thing we are doing to be the best we can possibly be to meet the needs of all children.


171 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page