top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 03.02.2023 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,


PAWB

Clybiau Ar Ôl Ysgol Wythnos Nesaf

Cofiwch nad oes clybiau sydd wedi rhedeg gan yr ysgol wythnos nesaf gan fod Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion.

PAWB

Teimlo'n Dda yn Chwefror

Mae yna lawer o resymau pam mae gweithgaredd corfforol yn dda i’ch corff – dau rheswm amlwg yw cael calon iach a gwella’ch cymalau a’ch esgyrn, ond oeddech chi’n gwybod bod gweithgaredd corfforol hefyd o fudd i’ch iechyd meddwl a’ch lles?


Ar lefel sylfaenol iawn, mae gweithgaredd corfforol yn golygu unrhyw symudiad yn eich corff sy'n defnyddio'ch cyhyrau ac yn defnyddio egni. Un o’r pethau gwych am weithgarwch corfforol yw bod posibiliadau diddiwedd a bydd gweithgaredd at ddant bron pawb! Argymhellir y dylai oedolyn cyffredin wneud rhwng 75 a 150 munud o ymarfer corff yr wythnos. Argymhellir bod plant a phobl ifanc yn eu harddegau (6 i 17 oed) yn gwneud 60 munud o weithgaredd bob dydd.


Nid oes gan les meddwl un diffiniad cyffredinol, ond mae’n cwmpasu ffactorau fel:


-Y teimlad o deimlo'n dda amdanom ein hunain a gallu gweithredu'n dda yn unigol neu mewn perthnasoedd -Y gallu i ddelio â helyntion bywyd, megis ymdopi â heriau a gwneud y gorau o gyfleoedd

-Y teimlad o gysylltiad â'n cymuned a'r cyffiniau

-Cael rheolaeth a rhyddid dros ein bywydau

-Meddu ar ymdeimlad o bwrpas a theimlo'n werthfawr


Wrth gwrs, nid yw lles meddyliol yn golygu bod yn hapus drwy’r amser, ac nid yw’n golygu na fyddwch chi’n profi emosiynau negyddol neu boenus, fel galar, colled neu fethiant, sy’n rhan o fywyd normal. Fodd bynnag, beth bynnag yw ein hoedran, gall bod yn actif ein helpu i fyw bywyd iachach yn feddyliol a gall wella ein lles.


Beth am ymuno yn ein ras am fywyd ar ddydd Gwener, 10fed o Chwefror!

PAWB

Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion

Diolch i bawb sydd wedi bwcio ar gyfer ein 'Cyfarfodydd Cynnydd a Lles Disgyblion' yr wythnos nesaf.


Cofiwch nad oes unrhyw glybiau ar ôl ysgol sydd yn cael ei rhedeg gan yr ysgol wythnos nesaf fel y cyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd clybiau’r Urdd a chlybiau Chwarae Torfaen yn rhedeg fel arfer. Mae hyn oherwydd bod angen i'n staff gynnal y cyfarfodydd gyda theuluoedd.


Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn neges trwy ClassDojo yn nodi dyddiad ac amser mwy manwl gywir ar gyfer y cyfarfod. Dewch i flaen yr ysgol a thrwy'r prif gyntedd. Bydd y drysau yn cael eu hagor cyn gynted ag y byddwn wedi sicrhau bod pob plentyn yng ngofal eu teuluoedd yn ddiogel neu ar y bysiau ysgol.


PAWB

Ras am Fywyd - 1 Wythnos Heddiw! Cyfri i Lawr y Dyddiau!

Dyma nodyn sydyn i’ch atgoffa ein bod ni yn Ysgol Panteg am fod yn cynnal ein ‘Ras am Fywyd’ ein hunain i godi ymwybyddiaeth er budd ymchwil cancr! Rydym yn bwriadu cynnal ein ‘Ras am Fywyd’ ar ddydd Gwener, 10fed o Chwefror. (Os bydd hi'n bwrw glaw, mae gennym ni ddau ddyddiad wrth gefn hefyd - 14eg a 17eg o Chwefror). Ar hyn o bryd, mae'r rhagolygon tywydd yn dangos y bydd hi'n gymylog ond yn sych!


Mae digwyddiadau Race For Life yn gwbl anghystadleuol, sy'n golygu y gall pawb eu mwynhau i'r eithaf, heb unrhyw bwysau i orffen mewn amser penodol. Cymryd rhan sy’n bwysig!


Rydym wedi anfon ffurflenni nawdd i'r teuluoedd hynny sy'n dymuno codi arian ar gyfer Ymchwil Cancr. Deallwn fod hwn yn gyfnod anodd i lawer o deuluoedd gyda’r ‘Argyfwng Cost Byw’ a dyna pam nad yw’r digwyddiad hwn yn seiliedig ar nawdd yn unig. Gall y rhai sy'n dymuno cael aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau i'w noddi wneud hynny. Ac, ni fydd y rhai na allant noddi ar hyn o bryd yn cael eu heithrio o'r digwyddiad. Rydym yn gwahodd rhieni, modrybedd, ewythrod, mam-gu a thad-cuod i gymryd rhan hefyd ar ein ‘Trac Milltir y Dydd’.


Bydd Cam Cynnydd 1 (Derbyn a Meithrin Bore) yn gwneud eu ras gyda staff a theulu o 9:30. Disgwyliwn i'r digwyddiad cyfan bara tua 30 munud ar gyfer y grŵp oedran hwn.


Bydd Cam Cynnydd 2 (Blynyddoedd 1, 2 a 3) yn gwneud eu ras o 11:00. Disgwyliwn i'r digwyddiad cyfan bara tua 45 munud ar gyfer y grŵp oedran hwn.


Bydd ein Meithrinfa Prynhawn yn gwneud eu ras o 12:30. Disgwyliwn i'r digwyddiad cyfan bara tua 30 munud ar gyfer y grŵp oedran hwn.


Bydd Cam Cynnydd 3 (Blynyddoedd 4, 5 a 6) yn gwneud eu ras o 1:45. Disgwyliwn i'r digwyddiad cyfan bara tua 60 munud ar gyfer y grŵp oedran hwn.


PAWB

Dydd Gŵyl Dewi a Diwrnod y Llyfr

Unwaith eto, yn swyddogol, mae'r ddau ddyddiad hyn yn codi yn yr un wythnos. Felly, ar ddydd Mercher, 1af o Fawrth, rydym yn mynd i gynnal ein dathliad Dydd Gŵyl Dewi lle gall y plant wisgo i fyny mewn gwisg draddodiadol neu mewn crys rygbi neu wisgo cenhinen neu gennin Pedr. Byddwn yn cynnal Eisteddfod ysgol ar y diwrnod hwn a gweithgareddau cyffrous i ddathlu ein treftadaeth a’n hiaith.


Yna byddwn yn symud ein dathliadau Diwrnod y Llyfr i ddydd Iau, 9fed o Fawrth. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn annog plant i ddod naill ai mewn gwisg ffansi fel cymeriad o un o’u hoff lyfrau neu’n syml dod â chopi o’r llyfr gyda nhw. Felly, bydd hyn wythnos ar ôl y diwrnod swyddogol - mae hyn oherwydd dydw i ddim yn meddwl ei fod yn deg gofyn i deuluoedd wisgo eu plant mewn gwisg gwahanol ar ddau ddiwrnod yn olynol.

PAWB

Rhesymu Mathemategol

Diolch i'r rhai a ddaeth neithiwr i'n gweithdy teuluol yn edrych ar resymu mathemategol. Cawsom amser cynhyrchiol iawn gyda’n gilydd yn edrych ar ddull pedwar cam ein hysgol ar gyfer datrys problemau.

DERBYN

Noson Dod i'ch Adnabod - Atgof i Arwyddo Fyny

Ar Ddydd Iau, 16eg o Chwefror, am 3:30 (ar ôl amser codi’r prynhawn) hoffem wahodd rhieni’r Derbyn i ddod ynghyd i holl rieni’r dosbarth derbyn er mwyn i chi ddod i adnabod eich gilydd. Rhowch wybod i ni os ydych yn dod trwy lenwi'r ddolen hon fel ein bod yn gwybod faint o gacen i fynd i mewn!



PAWB

Ein Rhaglen Pasbort i Bobman

Fel y gwyddoch, mae ein rhaglen ‘Pasbort i Bobman’ yn fenter gyffrous yr ydym wedi’i sefydlu eleni. Mae'n rhaglen o addysgu a gadael i blant brofi sgiliau bywyd. Yr wythnos hon, mae Miss Harper, sy'n rhedeg y rhaglen, wedi bod yn gweithio gyda llawer o blant o wahanol oedran yn gwneud gweithgareddau gwerth chweil. Cawson ni profiad o wneud bwyd adar i gynnal bywyd gwyllt yn ystod yr amser llwm iawn hwn o’r flwyddyn. Rydyn ni wedi bod yn dysgu sut i wneud pryd o fwyd pasta a gofalu am amgylchedd ein hysgol drwy godi sbwriel. Dysgon ni sut i glymu careiau esgidiau hefyd! Rydym mor falch o’r rhaglen hon oherwydd ei bod yn rhoi lles plant yn gyntaf ac mae’n rhaglen unigryw – nid oes unrhyw ysgol arall yn rhedeg rhaglenni fel hyn yn yr un ffordd ag yr ydym ni.

 

EVERYONE

After School Clubs Next Week

Gentle reminder that school run clubs will not take place next week due to our Pupil Progress and Wellbeing meetings.


EVERYONE

Feel Good February

There are many reasons why physical activity is good for your body – having a healthy heart and improving your joints and bones are just two, but did you know that physical activity is also beneficial for your mental health and wellbeing?


At a very basic level, physical activity means any movement of your body that uses your muscles and expends energy. One of the great things about physical activity is that there are endless possibilities and there will be an activity to suit almost everyone! It is recommended that the average adult should do between 75 and 150 minutes of exercise a week. Children and teenagers (ages 6 to 17 years are recommended to do 60 minutes activity daily.


Mental wellbeing does not have a single universal definition, but it does encompass factors such as:


-The sense of feeling good about ourselves and being able to function well individually or in relationships

-The ability to deal with the ups and downs of life, such as coping with challenges and making the most of opportunities

-The feeling of connection to our community and surroundings

-Having control and freedom over our lives

-Having a sense of purpose and feeling valued


Of course, mental wellbeing does not mean being happy all the time, and it does not mean that you won’t experience negative or painful emotions, such as grief, loss, or failure, which are a part of normal life. However, whatever our ages, being physically active can help us to lead a mentally healthier life and can improve our wellbeing.


Why not join in with our race for life on Friday, 10th of February!

EVERYONE

Pupil Progress and Wellbeing Meetings

Thank you to all who have signed up to our 'Pupil Progress and Wellbeing Meetings' for next week.


Please remember that there are no school-run after-school clubs next week as previously announced. The Urdd and Torfaen Play clubs will run as normal. This is due to our staff being required to run the meetings with families.


By now, you should have received a message via ClassDojo stating a more precise date and time for the meeting. Please come to the front of the school and through the main foyer. The doors will be opened as soon as we have ensured that all children are in the safe care of their families or on the school buses.


Race for Life - 1 Week Today! Counting Down!

This is just a quick reminder that at Ysgol Panteg, we are going to be holding our own ‘Race for Life’ to raise awareness in aid of cancer research! We are planning our ‘Race for Life’ on Friday, 10th of February. (If it rains, we have two back up dates too - 14th and 17th of February). At present, the forecast shows that it will be cloudy but dry!


Race For Life events are strictly non-competitive, meaning everyone can enjoy them to the full, with no pressure to finish in a certain time. It’s the taking part that’s important!


We have sent out sponsorship forms for those families who wish to raise money for Cancer Research. We understand that this is a difficult time for many families with the ‘Cost of Living Crisis’ that is why this event is not solely based on sponsorship. Those who wish to get families members, neighbours and friends to sponsor can do. And, those who can’t sponsor at this time will not be excluded from the event. We are inviting inviting parents, aunties, uncles, grannies and grandads to take part too on our ‘Mile a Day Track’.


Progress Step 1 (Reception and Morning Nursery) will do their race with staff and family from 9:30. We expect the whole event to last around 30 mins for this age group.


Progress Step 2 (Years 1, 2 & 3) will be doing their race from 11:00. We expect the whole event to last around 45 mins for this age group.


Our Afternoon Nursery will be doing their race from 12:30. We expect the whole event to last around 30 mins for this age group.


Progress Step 3 (Years 4, 5 and 6) will be doing their race from 1:45. We expect the whole event to last around 60 mins for this age group.


EVERYONE

St David’s Day and World Book Day

Yet again, officially, these two dates crop up in the same week. So, on Wednesday, 1st of March, we are going to hold our St David’s Day celebration where the children can dress up in traditional costume or in rugby jerseys or simply wear a leek or daffodil. We will be holding a mini Eisteddfod on this day and exciting activities to celebrate our heritage and language.


We will then move our World Book Day celebrations to Thursday, 9th of March. On this day, we will encourage children to come either in fancy dress as a character from one of their favourite books or simply bring a copy of the book with them. So, this will be a week after the official day - this is because I don’t think it is fair to ask families to dress up their children in costume on two consecutive days.

EVERYONE

Mathematical Reasoning

Thank you to those who came last night to our family workshop looking at mathematical reasoning. We had a really productive time together looking at our school’s four step method for problem solving.

RECEPTION

Getting to Know You Evening - Reminder to Sign Up

On Thursday, 16th of February, at 3:30 (after afternoon pick up) we’d like to invite Reception parents to a little get together for all reception parents so that you can get to know each other. Let us know if you are coming by filling in this link so we know how much cake to get in!



EVERYONE

Our Passport to Everywhere Programme

As you will know, our ‘Passport to Everywhere’ programme is an exciting venture that we have established this year. It is a programme of teaching and letting children experience life skills. This week, Miss Harper, who runs the programme, has been working with lots of children of different ages doing really worthwhile activities. We’ve been making bird food to support wildlife in this very bleak time of the year. We have been learning how to make a pasta dish. We’ve been looking after our school environment by litter picking. We’ve been learning how to tie shoe laces too! We are so proud of this programme because it puts children’s wellbeing first and is a unique programme - no other school runs programmes like this in the same way we do.



56 views0 comments

Comments


bottom of page