top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 10.01.2023 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Blwyddyn Newydd Dda! Rydyn ni'n mawr obeithio eich bod chi wedi cael amser da dros y gwyliau ac wedi llwyddo i gael ychydig o amser teulu da. Dydyn ni methu aros i gael y plant yn ôl i mewn i’r ysgol yfory – rydym wedi methu pob un yn gwenu!

Clybiau Ysgol

Rydym yn gyffrous i allu cynnig nifer o glybiau ysgol yn dechrau wythnos nesaf! Edrychwch ar y tablau isod i weld pa glybiau sydd ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a sut i archebu pob un.


Fe welwch fod rhai clybiau yn cael eu rhedeg gan yr ysgol ac eraill gan Urdd Gobaith Cymru.


Ar gyfer clybiau sy'n cael eu rhedeg gan yr ysgol, mae bwcio yn cau ar ddydd Iau (12fed o Ionawr) am 3pm er mwyn i ni allu trefnu'r clybiau i gychwyn ar ddydd Llun (16eg o Ionawr). Cofrestrwch heddiw oherwydd mae cofrestru ar sail y cyntaf i'r felin. Mae lleoedd yn gyfyngedig, fodd bynnag, byddwn yn cadw rhestr aros ar gyfer unrhyw un nad yw'n cael y clybiau y maent wedi gofyn amdanynt.


(Gwelir yr e-bost am y linciau i'r clybiau)


Hyfforddiant Staff

Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, mae ein staff wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar ein diwrnodau hyfforddi staff. Dydd Llun, roeddem wedi canolbwyntio ar ein cynllun datblygu ysgol, gan ddatblygu meddwl beirniadol trwy dacsonomeg Bloom, datblygu rhesymu mathemategol a datrys problemau. Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar theori caffael iaith, strategaethau ymarferol ac yn ei gwneud yn hwyl!

 

Happy New Year! We truly hope that you had a good time over the holiday and managed to get some quality family time. We can’t wait to have the children back in to school tomorrow – we’ve missed their smiles!

School Clubs

We are excited to be able to offer a number of school clubs starting next week! Please look at the tables below to see which clubs are available for different age groups and how to book each one.


You will see that some clubs are run by the school and others by Urdd Gobaith Cymru.


For clubs run by the school, booking closes on Thursday (12th of January) at 3pm in order for us to be able to organise the clubs to start on Monday (16th of January). Please register today because registration is on a first come, first served basis. Places are limited, however, we will keep a waiting list for anyone who does not get the clubs they have requested.


(Please see the email for the links to book clubs)


Staff Training

Over the last two days, our staff have been working really hard on our staff training days. On Monday, we had focused on our School Development Plan, developing critical thinking through Bloom’s Taxonomy, developing Mathematical reasoning and problem solving. Today, we are focusing on language acquisition theory, practical strategies and making it fun!



124 views0 comments

Comments


bottom of page