SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
PAWB
Ffair Nadolig
Mae ein Ffair Nadolig yfory! Rydym mor gyffrous i fod yn croesawu pawb ddydd Sadwrn. Mae’r drysau yn agor am 11yb. Dewch â phawb y gallwch chi! Aelodau'r teulu, ffrindiau, cymdogion... dewch â phawb!
Mae mynediad yn costio £1.50 yr un ac yn cynnwys mins pei i’r oedolion ac anrheg gan Siôn Corn i’r plant. Bydd Siôn Corn yn ymddangos rhwng 11.30 a 1.30; mae'n edrych ymlaen at ddosbarthu rhai anrhegion a chael lluniau wedi tynnu.
Mae llawer o stondinau gwych ar gael. Nid yn unig mae yna 16 o stondinwyr gwych yn gwerthu eitemau wedi’u gwneud â llaw i’ch helpu gyda’ch siopa Nadolig, mae yna gemau hwyliog i’r plant (a phlant mawr fel ei gilydd), tombola a raffl anhygoel.
Dewch â digon o newid gyda chi oherwydd efallai na fydd gan bob stondinwr ddarllenwyr cardiau. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
PAWB
Diwrnod Siwmper Nadolig
Mae wedi bod yn hyfryd gweld pawb mor hapus yn eu siwmperi Nadolig neu wisgoedd Nadoligaidd heddiw. Mae ‘Achub y Plant’ yn sefydliad gwych sydd wedi helpu 45 miliwn o blant yn y DU a ledled y byd i gael y bwyd, y feddyginiaeth a’r addysg sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu. Mae'n canolbwyntio ar roi cyfleoedd a thegwch i blant. Cododd ein hysgol ni heddiw £151.48 tuag at eu gwaith. Diolch i bawb sydd wedi rhoi.
BLYNYDDOEDD 4, 5 & 6
Cam Cynnydd 3 Ffotograffau Sioe Nadolig
Diolch am eich amynedd wrth aros am y lluniau ar gyfer sioe’r wythnos ddiwethaf yn Theatr y Congress. Dyma ddolen i’r ffotograffau er mwyn i chi allu gweld, lawrlwytho a rhannu gyda theulu a ffrindiau.
BLYNYDDOEDD 1, 2 & 3
Cam Cynnydd 2 Cyngerdd Carolau'r Nadolig
Braf oedd cael cynulleidfa yn ôl yn yr adeilad ddoe i weld ein plant yn perfformio. Fe weithion nhw mor galed yn dysgu’r holl eiriau i’r caneuon – dwi’n gwybod y byddwch chi mor falch ag ydw I ohonyn nhw. Diolch am ddod a dangos eich cefnogaeth mor frwdfrydig.
Bydd dolenni ar gyfer lluniau Cam Cynnydd 2 yn dod yr wythnos nesaf pan fyddwn wedi mynd drwy’r holl ffotograffau!
PAWB
Llongyfarchiadau Enfawr
Mae datblygiad staff yn rhan allweddol o'r hyn rydym yn ei wneud yn Ysgol Panteg. Felly, mae’n bleser cyhoeddi bod Miss Katie Bowen a Miss Bethan Roberts wedi astudio a phasio eu Cymhwyster Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch! Rydym mor falch o gael y ddau aelod yma o staff yn rhan o’n hysgol ac rydym yn gwybod cymaint yr ydych chi, fel teuluoedd, yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i addysg eich plant.
PAWB
Do Re Mi Show
Heddiw, diolch i rodd hael Ffrindiau Panteg, cawsom y fraint o gael Do Re Mi i mewn i berfformio sioe Gymraeg i’r plant.
PAWB
Iechyd Meddwl Amser y Nadolig
Os ydych chi'n gweld y Nadolig yn amser anodd o'r flwyddyn, mae gan y rhan hon o'n bwletin rai awgrymiadau i'ch helpu i ymdopi. Mae llawer o unigolion wedi siarad â mi yn ddiweddar am sut maen nhw'n teimlo - felly, rydw i'n rhannu yma gyda phawb bethau a allai helpu. Gall pethau gwahanol ein helpu ar wahanol adegau, yn dibynnu ar ein sefyllfa a sut rydym yn teimlo. Efallai na fydd rhai o'r awgrymiadau hyn yn teimlo'n ddefnyddiol neu'n berthnasol i chi ar hyn o bryd. Rhowch gynnig ar rai pethau gwahanol a gweld beth sy'n gweithio orau i chi.
Ymdopi â Phryderon Ariannol
Gall fod yn anodd ymdopi â phwysau ariannol y Nadolig. Gall hyn fod yn arbennig o anodd os ydych eisoes yn cael trafferth gydag arian. Ac, i lawer o deuluoedd, bydd y cynnydd diweddar mewn costau byw wedi gwneud pethau'n anoddach fyth.
Bydd sut y byddwch yn ymdopi â chostau’r Nadolig yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Felly, efallai na fydd rhai o'r awgrymiadau hyn yn realistig ar gyfer eich sefyllfa. Ond gall fod o gymorth i roi cynnig ar y syniadau hyn:
-Cefnogaeth o Sefydliadau: Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio unrhyw arian ychwanegol neu gymorth y mae gennych hawl iddo. Gallech ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2Us i gyfrifo beth y gallech fod â hawl iddo. (https://benefits-calculator.turn2us.org.uk/). Mae gan ‘Cyngor ar Bopeth’ wybodaeth ar sut i gael help os ydych yn cael trafferth talu eich biliau. A gallech ffonio llinell gymorth rhad ac am ddim Ymddiriedolaeth Trussell i gael cyngor ar gael cymorth ariannol (08082082138).
-Gwnewch restrau, cynlluniau neu gyllideb. Gall nodi pethau weithiau wneud i bethau deimlo ychydig yn haws eu rheoli neu ein helpu i feddwl yn gliriach. Gallai creu cyllideb hefyd eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros yr hyn y gallwch ei wario. Gallech hefyd ddefnyddio cynllunydd cyllideb ar-lein rhad ac am ddim Money Helper (https://www.moneyhelper.org.uk/cy/everyday-money/budgeting/budget-planner).
- Byddwch yn agored gydag eraill. Gall fod yn anodd siarad am arian. Ond, gall bod yn onest ag eraill helpu. Efallai y gallwch gytuno ar ffyrdd y gallwch wneud cynlluniau Nadolig am ddim neu am gost isel. Neu, efallai y gallant gynnig mathau eraill o gymorth. Mae gan gefnogaeth Nadoligaidd Step Change wybodaeth am siarad â phobl eraill am bryderon ariannol. (https://www.stepchange.org/christmas-festive-season.aspx)
-Chwiliwch am gynigion neu ddigwyddiadau lleol. Mae sefydliadau lleol, megis elusennau a chanolfannau cymunedol, yn cynnal digwyddiadau rhad ac am ddim neu gost isel ar gyfer y Nadolig. Mae lleoedd fel Tŷ Panteg yn gallu cynnig cymorth gyda phethau fel anrhegion neu fwyd. Fel y gwyddoch, rydym hefyd yn helpu gydag anrhegion ac mae gennym bentwr ohonynt yr ydym am eu rhoi allan! Cysylltwch gyda fi heddiw i weld sut allwn helpu (head.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk).
-Chwiliwch am eitemau rhad ac am ddim neu gost isel ar-lein. Efallai y gallwch ddod o hyd i eitemau am ddim i'w defnyddio fel anrhegion neu addurniadau ar-lein, trwy gyfryngau cymdeithasol a gwefannau fel Freecycle, Gumtree neu Facebook Marketplace.
-Ceisiwch osgoi cymariaethau â'r Nadolig a welwch mewn hysbysebion a chyfryngau cymdeithasol. Yn aml nid yw'r rhain yn adlewyrchu realiti a gallant wneud i ni deimlo'n ddrwg amdanom ein hunain. Gall fod o gymorth i gymryd seibiannau o gyfryngau cymdeithasol.
-Byddwch yn garedig i chi'ch hun. Gall pryderon ariannol gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl. Efallai y byddan nhw'n gwneud i ni deimlo'n bryderus, yn embaras neu'n grac. A gallant effeithio ar ein hunan-barch. Ceisiwch beidio â beio'ch hun am eich sefyllfa na sut rydych chi'n teimlo amdani.
Gofalu Amdanoch Eich Hun
-Byddwch yn garedig ac yn amyneddgar gyda chi'ch hun. Efallai y byddai’n ddefnyddiol meddwl am yr hyn sydd orau i’ch lles yn ystod y Nadolig, a blaenoriaethu’r hyn sydd ei angen arnoch.
-Atgoffwch eich hun na fydd yn para am byth. Gallech chi osod amser 'dechrau' a 'gorffen' ar gyfer yr hyn rydych chi'n ei gyfrif yn amser y Nadolig.
-Gosodwch eich ffiniau. Ceisiwch ddweud na wrth bethau nad ydynt yn ddefnyddiol i chi.
-Gadewch i chi'ch hun brofi eich teimladau eich hun. Hyd yn oed os nad ydynt yn cyfateb i'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas, maent yn dal yn ddilys. Er enghraifft, os nad ydych chi'n teimlo fel dathlu'r Nadolig pan fydd pawb arall yn gwneud hynny.
-Cymerwch amser i ffwrdd. Gwnewch rywbeth i anghofio ei bod hi'n Nadolig. Er enghraifft, fe allech chi wylio ffilm neu ddarllen llyfr sydd wedi'i osod yn yr Haf. Neu, fe allech chi geisio dysgu sgil newydd.
-Gadewch i chi'ch hun gael y pethau sydd eu hangen arnoch chi. Er enghraifft, os oes angen i chi gymryd brêc yn lle gwneud gweithgaredd, neu os oes angen ychydig o amser tawel arnoch.
-Os na allwch osgoi gwneud rhywbeth anodd, cynlluniwch rywbeth i chi'ch hun wedyn i helpu i leihau'r straen neu'r trallod y gallech ei deimlo.
Siarad â Phobl Eraill
-Rhowch wybod i bobl eich bod yn cael trafferth. Gall helpu i siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am sut rydych chi'n teimlo. Mae gan Mind dudalen wych a all helpu gyda hyn:
-Nid oes rhaid iddo fod yn bobl sydd eisoes yn eich bywyd. Gallech ymuno â chymuned ar-lein i siarad ag eraill sydd â phrofiadau tebyg i'ch rhai chi. Mae cymuned ar-lein Mind Side by Side yn lle diogel i gysylltu ag eraill sy'n deall yr hyn rydych chi'n mynd drwyddo. https://www.mind.org.uk/information-support/side-by-side-our-online-community/
-Dywedwch wrth bobl beth y gallant ei wneud i helpu a rhowch wybod iddynt os oes unrhyw beth y gallent osgoi ei wneud. Er enghraifft, gallech roi gwybod iddynt am unrhyw weithgareddau yr hoffech gymryd rhan ynddynt, a beth y gallant ei wneud i'ch cefnogi yn ystod y Nadolig. Gallech chi ddweud wrthyn nhw unrhyw gwestiynau neu bynciau rydych chi'n ei chael hi'n anodd eu trafod, fel y gallan nhw osgoi gofyn amdanyn nhw.
-Does dim rhaid i chi gyfiawnhau eich hun i eraill. Ond efallai y byddwch yn teimlo pwysau i wneud hynny, yn enwedig os bydd rhywun yn gofyn llawer o gwestiynau. Gallai helpu i roi gwybod iddynt fod rhai sefyllfaoedd yn anodd i chi, a dweud wrthynt beth y gallant ei wneud i helpu. Gallai hefyd fod o gymorth i ddweud wrthynt eich bod yn deall y gallent weld pethau mewn ffordd wahanol.
-Efallai na fyddwch chi'n gallu gwneud i eraill ddeall. Mae hynny’n iawn. Nid eich cyfrifoldeb chi yw perswadio pobl eraill, na chael eu caniatâd i ofalu amdanoch eich hun.
Cynllunio Ymlaen
Meddyliwch am yr hyn a allai fod yn anodd am y Nadolig i chi, ac a oes unrhyw beth a allai eich helpu i ymdopi. Efallai y byddai'n ddefnyddiol ysgrifennu hwn lawr. Er enghraifft:
-Os ydych chi weithiau'n profi ôl-fflachiau, pyliau o banig neu ddaduniad, gwnewch nodyn o'r hyn sy'n helpu yn ystod yr eiliadau hyn, a'i gadw gyda chi.
-Os ydych chi'n mynd i fod yn rhywle anghyfarwydd ar gyfer y Nadolig, meddyliwch am yr hyn sydd ei angen arnoch i'ch helpu i ymdopi. A oes yna bethau y gallwch chi ddod â nhw i wneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus? Neu a oes rhywle y gallwch chi fynd i gymryd hoe?
-Gall rhai lleoedd deimlo'n anghyfforddus iawn i chi, er enghraifft os ydynt yn dod ag atgofion anodd yn ôl. A allech chi gynllunio i dreulio llai o amser mewn lleoedd anodd, neu beidio â mynd o gwbl? A oes unrhyw resymau y gallech chi gadw draw?
-Meddyliwch a oes gwir angen i chi wneud pethau os nad ydych yn edrych ymlaen atynt. Allwch chi eu gwneud yn wahanol neu am lai o amser?
-Gwnewch restr o unrhyw wasanaethau y gallech fod eu hangen a'u horiau agor dros y Nadolig.
-Os ydych chi'n poeni am deimlo'n unig neu'n ynysig y Nadolig hwn, meddyliwch am rai ffyrdd o helpu i basio'r amser. Er enghraifft, gallai hyn olygu gwneud rhywbeth creadigol neu dreulio amser ym myd natur.
-Os na allwch chi fod gyda'r bobl rydych chi am eu gweld yn bersonol, fe allech chi drefnu galwad ffôn neu fideo i ddal i fyny â nhw ar ddiwrnod Nadolig. Neu geisiwch drefnu ymweliad o gwmpas y Nadolig, os oes amser pan fydd yn bosibl cyfarfod.
-Ceisiwch gynllunio rhywbeth neis i wneud ar ôl y Nadolig. Gallai cael rhywbeth i edrych ymlaen ato'r flwyddyn nesaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cael Cefnogaeth
Os ydych chi'n cael trafferth y Nadolig hwn, efallai yr hoffech chi ddod o hyd i gefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl. Mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn:
-Ffoniwch y Samariaid ar 116 123 (rhadffôn). Mae eu llinell Saesneg bob amser ar agor. Mae ganddyn nhw linell Gymraeg hefyd (0808 164 0123) sydd ar agor bob dydd o 7pm tan 11pm.
-Tecstiwch SHOUT i 85258. Mae hwn yn wasanaeth neges destun argyfwng 24/7 am ddim sy'n cael ei redeg gan Shout.
-Ffoniwch Mind ar 0300 123 3393 i ofyn am broblemau iechyd meddwl, ble i gael cymorth yn agos atoch chi, a gwasanaethau cymorth ac eiriolaeth.
EVERYONE
Christmas Fete
Our Christmas Fete is tomorrow! We are so excited to be welcoming everyone on Saturday. Doors open at 11am. Bring everyone you can! Family members, friends, neighbours… bring everyone!
Entry costs £1.50 each and includes a mince pie for the adults and a gift from Santa for the children. Santa will be appearing between 11.30 and 1.30; he is looking forward to handing out some gifts and having a picture taken.
There are lots of fantastic stalls on offer. Not only are there 16 fabulous stall holders selling handmade items to help you with your Christmas shopping, there’s fun games for the kids (and big kids alike), tombola and an awesome raffle.
Please bring plenty of change with you as not all stall holders may have card readers. Look forward to seeing you there!
EVERYONE
Christmas Jumper Day
It’s been so lovely to see everyone so happy in their Christmas jumpers or festive outfits today. ‘Save the Children’ is a great organisation that has helped 45 million children in the UK and across the world get the food, medicine and education they need and deserve. It focuses on giving chances and fairness to children. Our school, today, raised £151.48 towards their work. Thank you to all who have given.
YEARS 4, 5 & 6
Progress Step 3 Christmas Show Photographs
Thank you for your patience in waiting for the photographs for last week’s show at the Congress Theatre. Here is a link to the photographs so that you can see, download and share with family and friends.
YEARS 1, 2 & 3
Progress Step 2 Christmas Carol Concert
It was lovely to have an audience back in the building yesterday to see our children perform. They worked so hard in learning all the words to the songs - I know that you will be as proud as I am of them. Thank you for coming along and enthusiastically showing your support.
Links for Progress Step 2 photographs will be coming next week when we’ve gone through all the photographs!
EVERYONE
Huge Congratulations
Staff development is a key part of what we do at Ysgol Panteg. Therefore, it is a pleasure to announce that Miss Katie Bowen and Miss Bethan Roberts have studied and passed their Higher Level Teaching Assistant Qualification! We are so proud to have both of these members of staff as part of our school and we know how much you, as families, value their contribution to your children’s education.
EVERYONE
Do Re Mi Show
Today, thanks to the generous donation of Ffrindiau Panteg, we were privileged to have Do Re Mi in to perform a Welsh language show for the children.
EVERYONE
Christmas Mental Health
If you find Christmas a difficult time of year, this part of our bulletin has some tips to help you cope. Many individuals have spoken to me recently about how they are feeling - so, I’m sharing here with everyone things that might help. Different things can help us at different times, depending on our situation and how we're feeling. Some of these tips may not feel helpful or relevant for you right now. Try some different things and see what works best for you.
Coping with Money Worries
It can be tough to cope with the financial pressures of Christmas. This can be especially difficult if you're already struggling with money. And for many of families, the recent rises in costs of living will have made things even harder.
How you cope with the costs of Christmas will depend on your circumstances. So, some of these tips might not be realistic for your situation. But it may help to try these ideas:
-Access Support: Make sure you’re claiming any extra money or support you’re entitled to. You could use the Turn2Us benefits calculator to work out what you might be entitled to. (https://benefits-calculator.turn2us.org.uk/). Citizens Advice has information on how to get help if you’re struggling to pay your bills. And you could call Trussell Trust's free helpline for advice on accessing financial support (08082082138).
-Make lists, plans or a budget. Noting things down can sometimes make things feel a bit more manageable or help us think more clearly. Creating a budget could also help you feel more in control of what you can spend. You could also use Money Helper's free online budget planner (https://www.moneyhelper.org.uk/en/everyday-money/budgeting/budget-planner).
-Be open with others. It can be hard to talk about money. But, being honest with others can help. You may be able to agree on ways you can make Christmas plans free or low cost. Or, they might be able to offer other kinds of support. Step Change's festive support has information on talking to other people about money worries. (https://www.stepchange.org/christmas-festive-season.aspx)
-Look for local offers or events. Local organisations, such as charities and community centres, have free or low-cost events for Christmas. Places like Panteg House are able to offer support with things like gifts or food. As you know, we also help out with gifts and we have stacks of them we want to give out!
-Look for free or low-cost items online. You may be able to find free items to use as gifts or decorations online, through social media and websites like Freecycle, Gumtree or Facebook Marketplace.
-Try to avoid comparisons with the Christmas you see in adverts and social media. These often do not reflect reality and can make us feel bad about ourselves. It may help to take breaks from social media.
-Be kind to yourself. Money worries can have a big impact on our mental health. They might make us feel worried, embarrassed or angry. And they can affect our self-esteem. Try not to blame yourself for your situation or how you're feeling about it.
Looking After Yourself
-Be gentle and patient with yourself. It might help to think about what is best for your wellbeing during Christmas, and prioritise what you need.
-Remind yourself that it won't last forever. You could set a 'start' and 'finish' time for what you count as Christmas.
-Set your boundaries. Try to say no to things that aren't helpful for you.
-Let yourself experience your own feelings. Even if they don't match what's going on around you, they're still valid. For example, if you don't feel like celebrating Christmas when everyone else does.
-Take time out. Do something to forget that it's Christmas or distract yourself. For example, you could watch a film or read a book that's set in the summer. Or, you could try learning a new skill.
-Let yourself have the things you need. For example, if you need to take a break instead of doing an activity, or need a little bit of quiet time.
-If you can't avoid doing something difficult, plan something for yourself afterwards to help reduce the stress or distress you might feel.
Talking to Other People
-Let people know you're struggling. It can help to talk to someone you trust about how you're feeling. Mind have a great page that can help with this: https://www.mind.org.uk/information-support/guides-to-support-and-services/seeking-help-for-a-mental-health-problem/talking-to-friends-family/
-It doesn't have to be people who are already in your life. You could join an online community to talk others who have similar experiences to yours. Mind's online community Side by Side is a safe place to connect with others who understand what you're going through. https://www.mind.org.uk/information-support/side-by-side-our-online-community/
-Tell people what they can do to help and let them know if there's anything they could avoid doing. For example, you could let them know any activities you'd like to be involved in, and what they can do to support you during Christmas. You could tell them any questions or topics that you find hard to discuss, so they can avoid asking about them.
-You don't have to justify yourself to others. But you might feel pressure to, especially if someone asks a lot of questions. It could help to let them know that certain situations are difficult for you, and tell them what they can do to help. It might also help to tell them that you understand they may see things in a different way.
-You might not be able to make others understand. That's OK. It's not your responsibility to convince other people, or get their permission to look after yourself.
Planning Ahead
Think about what might be difficult about Christmas for you, and if there's anything that might help you cope. It might be useful to write this down. For example:
-If you sometimes experience flashbacks, panic attacks or dissociation, make a note of what helps during these moments, and keep it with you.
-If you're going to be somewhere unfamiliar for Christmas, think about what you need to help you cope. Are there things you can bring to make you feel more comfortable? Or is there somewhere you can go to take a break?
-Certain places may feel very uncomfortable for you, for example if they bring back difficult memories. Could you plan to spend less time in difficult places, or not go at all? Are there any reasons that you could stay away?
-Think about whether you really need to do things if you're not looking forward to them. Can you do them differently or for less time?
-Make a list of any services that you might need and their Christmas opening hours.
-If you're worried about feeling lonely or isolated this Christmas, think of some ways to help pass the time. For example, this might be doing something creative or spending time in nature.
-If you can't be with the people you want to see in person, you could arrange a phone or video call to catch up with them on Christmas day. Or try to arrange a visit around Christmas, if there's a time when it's possible to meet.
-Try to plan something nice to do after Christmas. Having something to look forward to next year could make a real difference.
Getting Support
If you're struggling this Christmas, you may want to find support for your mental health. There are a few ways that you can do this:
-Call Samaritans on 116 123 (freephone). Their English language line is always open. They have a Welsh language line too (0808 164 0123) which is open daily from 7pm to 11pm.
-Text SHOUT to 85258. This is a free 24/7 crisis text service run by Shout.
-Call Mind on 0300 123 3393 to ask about mental health problems, where to get help near you, support and advocacy services.
Comments