top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 02.12.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Mae'r Nadolig yn prysur agosáu! Ac, mae gennym ni ychydig o gorachod drwg yn ein hysgol - wel, a dweud y gwir, mae gennym ni lawer o gorachod bach o gwmpas ein hysgol! Edrychwch lle daethon ni o hyd i'r gorachen bore ma! Roedd y Corachen yn cuddio yn y piano - yn barod i'r plant ymarfer eu cyngherddau Nadolig!


BLYNYDDOEDD 1, 2 & 3

Y Bachgen Bach Gwyrdd

Mwynhaodd ein plant Blwyddyn 1, 2 a 3 eu hamser yn sioe 'Bachgen Bach Gwyrdd' yn Y Barri yn fawr. Roedd hwn yn achlysur mor gyffrous i'r plant oedd yn ymweld â'r theatr. Ond, yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy cyffrous i ni yw eu bod yn dysgu mwy am oddefgarwch o bobl sy'n wahanol a sut mae amrywiaeth yn ein gwneud ni'n gyfoethocach fel cymdeithas.


BLYNYDDOEDD 4, 5 & 6

Sioe Nadolig Theatr y Congress

Mae wedi bod mor anhygoel gallu mynd i berfformio mewn theatr go iawn! Ddoe, roedd y plant wedi synnu pan gyrhaeddon nhw i berfformio ar y llwyfan! Maent wedi gwneud mor dda wrth ddysgu geiriau, symudiadau dawns a'u holl rannau ar gyfer y sioe. Rydyn ni mor ddiolchgar bod cymaint wedi gallu dod i weld y sioe - a dwi'n gwybod, fel fi, byddech chi wedi mwynhau yn aruthrol.


Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r staff sydd wedi trefnu'r sioe hon i'r plant. Mae'n dasg anodd iawn ysgrifennu a threfnu drama. Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino i roi’r cyfle hwn i’r plant roi drama ymlaen ar ôl blynyddoedd o fethu â pherfformio o flaen cynulleidfa. Pan fyddaf yn meddwl yn ôl i fideo digidol y llynedd ac rwy'n edrych ar yr hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni - gyda'n gilydd - eleni, rwyf mor falch o ymdrechion pawb.


PAWB

Calendr Nadolig yr Wythnos Nesaf - Atgof Olaf

Dyma nodyn atgoffa am ddigwyddiadau Nadolig yr wythnos nesaf.


Dydd Llun, 5ed o Ragfyr

PAWB: Adroddiad Interim ar Gynnydd Plant (1 Dudalen) yn mynd allan i Deuluoedd.

BLWYDDYN 1: Parti Dolig a Gemau (3:30-4:30; gall y plant yma ddod mewn gwisg anffurfiol; dim cost ychwanegol).


Dydd Mawrth, 6ed o Ragfyr

BLWYDDYN 6: Cyngerdd Ysgol Gymraeg Gwynllyw i Ddisgyblion 6. Gweler Civica Pay ar gyfer rhoi caniatâd a chyfrannu tuag at cost y bws. Mae gwahoddiad i bawb - hyd yn oed y rhai sydd ddim wedi dewis Gwynllyw fel eu hysgol uwchradd. Cost o £3. Bydd plant angen pecyn bwyd.

BLWYDDYN 2: Parti Dolig a Gemau (3:30-4.30; gall y plant yma ddod mewn gwisg anffurfiol; dim cost ychwanegol).


Dydd Mercher, 7fed o Ragfyr

BLWYDDYN 1, 2 A 3: Ymarfer Gwisgoedd Cam Cynnydd 2 yn Ysgol Panteg.


Dydd Iau, 8fed o Ragfyr

BLWYDDYN 1, 2 A 3: Gwasanaeth Carolau Cam Cynnydd 2 yn Neuadd yr Ysgol. Mae tocynnau'n ar werth trwy Civica Pay ac maent yn gyfyngedig i 2 y teulu i ddechrau yna bydd y gweddill yn cael ei roi ar sail y cyntaf i'r felin o dydd Llun 5ed o Rhagfyr. Cost o £3 yr un. Mae sioe bore a phrynhawn.


Dydd Gwener, 9fed o Ragfyr

PAWB: Diwrnod Siwmper Nadolig (cyfraniad o £1 tuag at elusen; os nad oes gan eich plentyn siwmper Nadolig gallwch addurno crys-t plaen neu wisgo ychydig o dunsel yn lle!)

PAWB: Cardiau Nadolig o Staff yn mynd at Blant a Theuluoedd

PAWB: Sioe Do Re Mi yn Ymweld gyda’r Ysgol (i dim cost ychwanegol oherwydd rhoddiad hael Ffrindiau Panteg)


Dydd Sadwrn, 10fed o Ragfyr

PAWB: Ffair Gaeaf Ffrindiau Panteg, 11:00yb-3:00yp.


BLWYDDYN 1-6

Clybiau Allgyrsiol

Bydd clybiau sydd wedi rhedeg gan yr ysgol wedi gorffen er mwyn i ni gynnal partiau. Mae'r clybiau sydd wedi rhedeg gan Urdd Gobaith Cymru yn parhau fel arfer. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleuster. Yn y flwyddyn newydd, fe fyddwn yn gofyn i chi ailgofrestri ar gyfer clybiau newydd.


PAWB

Sefydlu Canolfan Iaith Gymraeg Newydd

Fel awdurdod lleol, mae Torfaen wedi cael y dasg o sefydlu canolfan drochi iaith Gymraeg newydd. Mae unedau darpariaeth drochi hwyr yn helpu dysgwyr sy’n dechrau addysg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach (fel arfer ar ôl saith oed) a disgyblion nad oedd y Gymraeg efallai’n rhan o’u trefn feunyddiol, i ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i barhau â’u dysgu trwy Cymraeg. Yn gyffredinol, bydd plant yn ymuno â’r uned am gyfnod dysgu dwys o tua 12 wythnos cyn mynd trwy gyfnod o integreiddio a phontio i leoliadau prif ffrwd cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes gan Dorfaen ddull systematig a strategol o ganiatáu mynediad hwyr i addysg cyfrwng Cymraeg i ddarpariaeth. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd a goresgyn heriau i hyrwyddo sgiliau iaith Gymraeg a chefnogi dwyieithrwydd mewn amgylchedd cadarnhaol a ategir gan egwyddorion cynhwysiant a chyfle cyfartal. Mae, felly, yn rhan o Gynllun Strategol Addysg Gymraeg Torfaen (WESP). Bydd yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chynyddu defnydd dyddiol o’n hiaith. Mae’r weledigaeth i ehangu’r rhaglen drochi disgyblion yn ymrwymiad maniffesto ac yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.


Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd Ysgol Panteg yn cynnal y ganolfan iaith newydd hon a bydd yn cael ei galw’n ‘Carreg Lam’. ‘Carreg Lam’ yw’r ymadrodd Cymraeg sy’n golygu ‘stepping stone’. Dyma fydd enw’r uned sy’n cael ei sefydlu i gyflwyno cwricwlwm pwrpasol i hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg. Bydd yr canolfan yn gallu cynnal uchafswm o 12 disgybl gyda mynediad bob tymor. Bydd yn rhedeg ar gyfer disgyblion o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6.


Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am arweinydd ac am gynorthwyydd addysgu! Dyma'r dolenni i'r hysbysebion! Rwyf hefyd wedi atodi'r hysbysebion â'r e -bost hwn!

 

Christmas is rapidly approaching us! And, we have a little naughty elf at our school - well, in fact, we have a lot of little elves around our school! Look where we found the elf this morning! The elf was hiding in the piano - ready for the children to practice their Christmas concerts!


YEARS 1, 2 & 3

Y Bachgen Bach Gwyrdd

Our Year 1, 2 and 3 children really enjoyed their time at the 'Bachgen Bach Gwyrdd' show in Barry. This was such an exciting time for the children visiting the theatre. But, what is even more exciting for us is that they were learning more about tolerance of people who are different and how diversity makes us richer as a society.


YEARS 4, 5 & 6

Congress Theatre Christmas Show

It has been so amazing to be able to go to perform in a real theatre! Yesterday, the children were truly in awe when the arrived to perform on the stage! They have done so well in learning words and lyrics, dance moves and all their parts for the show. We are so grateful that so many were able to come to see the show - and I know, like me you would have enjoyed it immensely.


I'd like to thank the staff personally who have organised this show for the children. It is a really hard task to write and organise a play. The staff have worked tirelessly to give the children this opportunity of putting on a play after years of not being able to perform in front of an audience. When I think back to last year's digital video and I look at what we've been able to achieve - together - this year, I am so proud of everyone's efforts.


EVERYONE

Next Week’s Christmas Calendar - Final Reminder

This is a reminder about next week’s Christmas events.


Monday, 5th of December

EVERYONE: Interim Report on Children's Progress (1 page) going out to families.

YEAR 1: Christmas Party and Games (3:30-4:30; children can come to school in their party clothes; no additional cost) Bus Children: please let us know if your child will be staying for the party office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk if we do not hear from you, we will assume that your child will be going home on the bus as normal.


Tuesday, 6th of December

YEAR 6: Ysgol Gymraeg Gwynllyw Concert for pupils 6. See Civica Pay for granting permission and contributing to the cost of the bus. Everyone is invited - including those who have not chosen Gwynllyw as their secondary school. Cost of £3. Children will need a packed lunch.

YEAR 2: Christmas Party and Games (3:30-4:30; children can come to school in their party clothes, no additional cost.) Bus Children: please let us know if your child will be staying for the party office.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk if we do not hear from you, we will assume that your child will be going home on the bus as normal.


Wednesday, 7th of December

YEARS 1, 2 AND 3: Progress Step 2 Dress Rehearsal at Ysgol Panteg.


Thursday, 8th of December

YEARS 1, 2 AND 3: Progress Step 2 Carol Service at Ysgol Panteg’s school hall. Tickets are on sale through Civica Pay and are limited to 2 per family to start then the rest will be put on a first come, first served basis from Monday 5th December. Cost of £3 each. There will be a morning and afternoon performance.


Friday, 9th of December

EVERYONE: Christmas Jumper Day (with a cash donation of £1 for charity; if your child doesn't have a Christmas jumper you can decorate a plain t-shirt or just wear some tinsel!)

EVERYONE: Christmas Cards from Staff going out to Children and Families

EVERYONE: Do Re Mi Show visiting school (for everyone; no additional cost since this has kindly been paid for by Ffrindiau Panteg.


Saturday, 10th of December

EVERYONE: Ffrindiau Panteg (PTA) Winter Fete, 11:00am-3:00pm.


YEARS 1-6

Extracurricular After-School Clubs

Clubs that are being run by the school have now finished so that we can hold parties. The clubs that are been run by Urdd Gobaith Cymru continue as usual. Apologies for any inconvenience. In the new year, we will ask you to re-register for new clubs.


EVERYONE

Establishing a New Welsh Language Centre

As a Local Authority, Torfaen has been tasked with setting up a new Welsh language immersion centre. Late immersion provision units help learners entering Welsh-medium education at a later stage (typically after the age of seven) and pupils for whom Welsh may not have been part of their daily routine, to gain the skills and confidence needed to continue their learning through Welsh. Children generally will join the unit for an intense learning period of approximately 12 weeks before then undergoing a period of transitioned integration into Welsh-language main stream settings. Currently, Torfaen does not a have a systematic and strategic method of allowing late-comers to Welsh-medium education access to provision. The Council is committed to seeking opportunities and overcoming challenges to promote Welsh language skills and support bilingualism in a positive environment underpinned by the principles of inclusion and equal opportunity. It is, therefore, part of Torfaen’s Welsh Education Strategic Plan (WESP). It will contribute towards the aim of reaching one million Welsh speakers by 2050, and increasing the daily use of our language. The vision to expand the pupil immersion programme is a manifesto commitment and part of the Welsh Government’s Programme for Government.


I am proud to announce that Ysgol Panteg will be hosting this new language centre and it will be called ‘Carreg Lam’. Carreg Lam’ is the Welsh phrase meaning ‘stepping stone’. This will be the name of the unit that is being established to deliver a bespoke curriculum to late-comers to Welsh education. It will be able to hold a maximum of 12 pupils with admission on a termly basis. It will run for pupils from Year 2 to Year 6.

We are currently advertising for a leader and for a teaching assistant! Here are the links to the advertisements! I’ve also attached the advertisements to this email!

84 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page