top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 01.09.2022 - Heads Bulletin

Annwyl Deuluoedd,

Rydym wir yn edrych ymlaen at ein plant yn dychwelyd ddydd Llun! Helo mawr i bob un o'n plant newydd yn y Dosbarth Derbyn a Meithrin! Nid ydym yn gallu aros i ddod i nabod chi!


Ein 5 Awgrym ar gyfer yr Wythnos Gyntaf! Dyma ni…. Heb drefn penodol! 1. Anogwch eich plant i osod eu dillad ysgol allan cyn mynd i'r gwely a dechreuwch osod y larwm dros y penwythnos fel eu bod wedi arfer â'r amser y bydd yn rhaid iddynt godi a pharatoi. 2. Gofynnwch i'ch plant bacio'u bagiau ysgol (gyda help os ydynt ifanc). Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofio potel ddŵr a byrbryd iach ar gyfer ganol bore (fel afal neu ffrwythau ffres eraill). Mae gan bob un o'n hystafelloedd dosbarth tap dŵr yfed, felly byddant yn gallu ail-lenwi eu poteli fel y mae angen. Sicrhewch fod eich plant yn gwybod a ydynt cael cinio ysgol neu frechdanau. Mae pob plentyn o’r Derbyn hyd at Flwyddyn 2 nawr yn cael cinio rhad ac am ddim. 3. Treuliwch ychydig o amser gyda ‘sharpie’ neu yn gwnïo enw eich plant yn eu dillad. (Tip Gorau: ar ôl golchi siwmper neu gardigan eich plentyn, gwiriwch nad yw'r enw wedi golchi allan ar ôl ychydig wythnosau!) 4. I'r rhai iau yn enwedig, gall dod i'r ysgol am y tro cyntaf neu fod nôl ar ôl gwyliau hir fod yn amser bryderus. Bydd rhai plant a fydd yn cofleidio'r profiad cyfan yn llawn. Ond, bydd eraill yn crio bach. Mae hyn yn normal yn enwedig os ydyn nhw wedi bod gyda chi am y rhan fwyaf o'r gwyliau. Ein cyngor ni yw trosglwyddo'ch plentyn i staff a gadael iddyn nhw ddelio â'r dagrau. Gallaf ddweud wrthych o brofiad, eu bod fel arfer yn chwarae'n hapus o fewn 3 i 4 munud. Byddwn yn anfon neges atoch neu'n rhoi galwad i chi i adael i chi wybod eu bod yn iawn. Yn y Blymyddoedd Cynnar, rwyf wedi trefnu staff ychwanegol am yr wythnos gyntaf i helpu i setlo'r plant. 5. Felly, rydych chi wedi llwyddo cael nhw i'r ysgol ac rydych chi'n ôl yn y maes parcio; cymerwch anadl a chymerwch 5 i wneud rhywbeth i chi'ch hun! Os nad oes rhaid i chi ruthro i ffwrdd i’r gwaith, mae Starbucks, Costa Coffee neu gaffi lleol yn opsiwn da ar gyfer bwced o goffi!


Atgof am Amseroedd

Cofiwch fod gennym amseroedd penodol gollwng a chasglu:

  • Byddwn yn agor gât yr ysgol yn y bore am 8.45yb ac yn ei chau am 9.00yb. Bydd athrawon dosbarth yn eu hystafelloedd ar yr adeg hon yn cwblhau cofrestru wrth i blant ddod i mewn. Mae hyn yn golygu bod gennym ffenestr gollwng i chi ddod â'ch plant i'r ysgol. Mae'r gwersi'n dechrau am 9.00yb ac, felly, dylai pob plentyn fod ar y safle erbyn 9.00yb ar y man hwyrach. (Fe fydd Clwb Brecwast yn dechrau dydd Llun am 8.15yb gyda’r mynediad olaf am 8.30yb).

  • Rhwng 3.15yh a 3.25yh, byddwn yn gwahodd rhieni'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 i gasglu eu plant. Er mwyn gwneud casglu yn haws i deuluoedd, byddwch hefyd yn gallu codi unrhyw frodyr a chwiorydd hŷn wrth i chi gerdded o gwmpas yr adeilad.

  • Rhwng 3.25yh a 3.35yh, byddwn yn gwahodd rhieni plant Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6 sydd ar ôl i gael eu casglu.


Lleoliad Dosbarthiadau

Dyma fap syml o'r ysgol wedi'i labelu fel eich bod chi'n gwybod yn union ble mae'ch dosbarthiadau newydd wedi'u lleoli.


Dyddiau Addysg Gorfforol

Ar ein diwrnod cyntaf, ni fydd angen gwisg ymarfer corff ar y plant. Felly, dylent ddod i'r ysgol mewn gwisg ysgol. Ond o ddydd Mawrth, gofynnwn i chi anfon eich plentyn i’r ysgol mewn cit (crys-t gyda joggers neu legins du) ar y dyddiau cywir.

Newyddion Cyffrous

Dymunwn longyfarchiadau mawr i Mrs. Kaysha Wulder a roddodd enedigaeth i fachgen hyfryd yn ystod gwyliau'r Haf. Ganed Billy David Wulder yn 8 pwys 6 owns. Llongyfarchiadau hefyd i ŵr Mrs Wulder, Chris, a’i dau fab, Ellis ac Ernie!

Ein Teulu Panteg

Fel cymuned, rydyn ni fel ysgol yn byw ac yn adnadlu ein gwerthoedd craidd sef caredigrwydd, angerdd, bod yn deuluol a bod yn uchelgeisiol. Yn yr wythnos gyntaf, yn enwedig, mae’n holl bwysig i ni edrych ar ôl ein gilydd. Pob flwyddyn rwy’n rhannu’r rhestr bach yma sy’n helpu ni wireddu bod yn deulu clos.

I bob un o'n plant: Os ydych chi'n gweld plentyn arall yn stryglo i wneud ffrindiau... Os ydych chi'n blentyn arall sy'n newydd, yn swil neu ddim yn hoffi torfeydd... Os ydych chi'n gweld plentyn arall sy'n chwarae neu'n bwyta ar ei ben ei hun... Os ydych chi'n gweld plentyn arall sy'n drist... Byddwch yn arweinydd. Byddwch yn ddewr! Dywedwch helo. Gwenwch arnyn nhw. Gofynnwch a allwch chi eistedd gyda nhw. Gofynnwch a allwch chi chwarae gyda nhw. Gwneud yn siwr eich bod chi’n cynnwys nhw. Siaradwch ag oedolyn os ydych chi'n poeni am rywun arall.

 

We are really looking forward to having the children back with us on Monday! A big hello to all of our new children in Reception and Nursery! We can’t wait to get to know you!


Our Top 5 First Week Tips! Here goes, in no particular order! 1. Encourage your children to lay out their school clothes before going to bed and start setting the alarm over the weekend so that they are used to the time they will have to get up and get ready. 2. Have your child pack their school bags (with help if they are young). Make sure to remember a water bottle mid-morning healthy snack like an apple or other fresh fruit. All our classrooms have running drinking water, so they will be able to refill their bottles as an when they need to. Make sure that your child knows whether they are having school lunches or sandwiches. All children from Reception to Year 2 now have free school meals! 3. Spend some time with a sharpie or sewing in your child’s name into their clothes. (Star Tip: after washing your child’s jumper or cardigan check the name hasn’t washed out after a few weeks!) 4. For younger ones especially it can be quite daunting coming to school for the first time. There will be some children who will run in fully embracing the whole experience. But, there will be others who will have a little cry. This is normal especially if they have been with you for most of the holidays. Our advice is to pass your child over to staff and let them deal with the tears. I can tell you from experience, that within 3 to 4 minutes they are normally happily playing. We will send you a message or give you a call to let you know they are okay. In Reception and Nursery, I have organised extra staff for the first week to help settle the children. 5. So, you’ve got them into school and you are back in the car park; take a breath and take 5 to do something for yourself! If you haven’t got to rush off to work, Starbucks, Costa Coffee or a local café is a good option for a bucket of coffee!


A Reminder of Timings

Please remember that we have a drop off and collection windows:

  • We will be opening the school gate in the morning at 8.45am and closing it at 9.00am. Class teachers will be in their rooms at this time completing registration as children enter. This means we have a drop-off window for you to bring your children to school. Lessons start at 9.00am and, therefore, all children should be on site no later than 9.00am. (Breakfast Club starts Monday with entry from 8.15am and last admittance at 8.30am).

  • Between 3.15pm and 3.25pm, we will invite parents of Reception to Year 2 to pick up their children. In order to make this easier for families, you will also be able to pick up any older siblings as you walk around.

  • Between 3.25pm and 3.35pm, we will invite parents of Year 3 to Year 6 children who are left to be picked up.


Location of Classes

Here is a simple bird’s eye view of the school labelled so that you know exactly where your new classes are located.

PE Days

On our first day, the children won't need an their PE kit. So, they should come to school in school uniform. But from Tuesday, we ask you to send your child to school in a kit (a t-shirt with black joggers or leggings) on the correct days.

Exciting News

We wish a huge congratulations to Mrs. Kaysha Wulder who gave birth to a beautiful baby boy in the Summer holidays. Billy David Wulder was born 8lbs 6oz. Congratulations also to Mrs. Wulder’s husband, Chris, and her two sons, Ellis and Ernie!

Our Panteg Family

As a community, we as a school live and breathe our core values ​​which are kindness, being fired-up, being family and being ambitious. In the first week, especially, it is very important for us to look after each other. Every year I share this little list that helps us realize being a close family.

To all of our children: If you see another child struggling to make friends… If you another child who is new, shy or doesn’t like crowds… If you see another child who is playing or eating alone… If you see another child who is sad… Be a leader. Be a warrior for good! Say hi. Smile at them. Ask if you can sit with them. Ask if you can play with them. Include them. Speak to an adult if you are concerned about someone else.


126 views0 comments

Comments


bottom of page