top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 12.07.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,


Rhagolygon Tywydd Poeth ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth

Mae disgwyl i'r dydd Llun a dydd Mawrth nesaf fod yn boeth iawn. Mae angen i ni gyd fod yn synhwyrol iawn ar y diwrnod hwn gan fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren gan ei fod i fod i fod yn 32/33 gradd celsius. I’r perwyl hwnnw, rwy’n eich annog i anfon eich plant i’r ysgol mewn dillad llac sy’n synhwyrol. Am y ddau ddiwrnod hyn, nid oes rhaid iddi fod yn wisg ysgol. Gofynnaf yn garedig ichi ymatal rhag anfon plant mewn topiau strappy oherwydd bod hynny’n cynyddu eu risg o losg haul i’r ysgwyddau. Cofiwch am boteli dŵr, eli haul a hetiau. Byddwn yn rhoi cyfle i blant ymroi eli haul yn ystod y dydd 30 munud cyn mynd allan (fel sy’n cael ei argymell).


Mae rhai rhieni wedi rhoi gwybod i ni na fyddant yn defnyddio cludiant ysgol y dyddiau hynny oherwydd y gwres ar fysiau. Os ydych wedi trefnu i’ch plentyn ddod i’r ysgol neu adael gyda rhiant arall yn eu car – rhowch wybod i’r swyddfa erbyn 2.00pm fan bellaf er mwyn i ni allu sicrhau dosbarthiad amserol o negeseuon i’r staff a’r plant.

Nodyn i’ch atgoffa am Wasanaeth Gadael Blwyddyn 6

I deuluoedd Blwyddyn 6, edrychwn ymlaen at eich croesawu ddydd Llun nesaf er mwyn dathlu taith ein plant yn Ysgol Panteg. Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 2.00pm yn brydlon. Bydd y drysau'n agor am 1.40pm.


Parti Blwyddyn 6

Mae teuluoedd Blwyddyn 6 wedi derbyn e-bost ar wahân yn manylu ar y digwyddiadau cyffrous rydym yn eu cynnal ar eu cyfer yr wythnos nesaf. Ni allant aros am eu Gwyl Hawaiaidd ddydd Mercher a’r ymladd dŵr ddydd Iau!


Clybiau Wythnos Nesaf

Hoffwn eich hysbysu bod dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos nesaf. Ym mis Medi, fe fyddwn mewn cyswllt i ddweud am ein cynnig i ddisgyblion a rhoi’r dolenni er mwyn i chi bwcio lle i’ch plentyn.

Ciniawau ar gyfer Mis Medi

O fis Medi 2022, mi fydd plant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yr ysgol hon yn cael prydau ysgol am ddim yn awtomatig. Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd gwladol yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd angen i chi hysbysu’r ysgol os ydych am i’ch plentyn dderbyn pryd o fwyd yn yr ysgol amser cinio o fis Medi ymlaen. Dylech wneud hyn drwy ddilyn y ddolen canlynol: https://iweb.itouchvision.com/portal/itouchvision/r/customer/category_link?cuid=FDF363242619D121B744E0543185A401A8C00D05&lang=CY&P_LANG=cy.


Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a amlinellir isod, efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol a chitiau Addysg Gorfforol.


Os byddwch yn cofrestru, efallai y byddwn hefyd yn medru cael arian ychwanegol y gellir ei wario ar gefnogi dysgu yn ein hysgol.


Mae buddion cymhwyso yn cynnwys;


• Cymhorthdal Incwm

• Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

• Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

• yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn

• Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190)

• Credyd Treth Gwaith dilynol - a delir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith

• Credyd Cynhwysol - os gwnewch gais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau a gewch)


Dyledion Cinio

Gofynwn i chi sicrhau eich bod chi wedi talu am bob cinio cyn gynted ag sy’n bosib. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn gyfoes – diolch am hyn. Mae hyn yn holl bwysig ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 sy’n ein gadael ni oherwydd mae’n achosi problemau mawr talu os nad ydych chi wedi talu cyn diwedd y tymor.

 

We are rapidly drawing closer to the end of the school year. Today, is the last Friday!


Hot Weather Forecast for Monday and Tuesday

This coming Monday and Tuesday are due to be very hot. We all need to be very sensible on this day since the Met Office have issued an amber warning since it is due to be 32/33 degrees celsius. To that end, I encourage you to send your children into school in loose fitting clothing that is sensible. For these two days, it does not have to be school uniform. I ask kindly that you refrain from sending children in strappy tops because that increases their risk of sunburn to the shoulders. Please remember water bottles, sun cream and hats. We will give children the opportunity to reapply suncream during the day, 30 minutes before going outside (as is the recommendation).


Some parents have let us know that they will not be using the school transport those days due to the heat on coaches and buses. If you have arranged for your child to leave with another parent in their car – please let the office know by 2.00pm at the latest in order that we can ensure a timely distribution of messages to staff and children.


A reminder about the Year 6 Leavers Assembly

For Year 6 families, we look forward to welcoming you next Monday to celebrate our children's journey at Ysgol Panteg. The service will start at 2.00pm promptly. The doors will open at 1.40pm.


Year 6 Party

Year 6 families have recevied a separate email detailing the exciting events we are holding for them next week. They can’t wait for their ‘Hawaiian Festival’ on Wednesday and waterfight on Thursday!


Clubs Next Week

I would like to inform you that there are no after-school clubs next week. In September, we will be in touch to tell you about our offer for pupils and give the links so that you can book a place for your child.


September Meals

From September 2022 children in Reception, year one and year two in this school will automatically be entitled to free school meals. By 2024, all primary school children in state schools in Wales will get free school meals.


You will need to inform Torfaen if you want your child to receive a meal in school at lunchtimes from September. As previously sent out, you should do this by following this link: https://iweb.itouchvision.com/portal/itouchvision/r/customer/category_link?cuid=FDF363242619D121B744E0543185A401A8C00D05&lang=EN&P_LANG=en


If you receive any of the benefits outlined below, you may also be entitled to grants such as school uniform and PE kits.

If you register, we may also get additional money which can be spent on supporting learning in our school.


Qualifying benefits include:


• Income Support

• Income-based Jobseeker’s Allowance

• Income-related Employment and Support Allowance

• Support under Part VI of the Immigration and Asylum Act 1999

• The guaranteed element of Pension Credit

• Child Tax Credit (provided not also entitled to Working Tax Credit and have an annual gross income of no more than £16,190)

• Working Tax Credit run-on - paid for 4 weeks after you stop qualifying for Working Tax Credit

• Universal Credit - if you apply on or after 1 April 2018 your household income must be less than £7,400 a year (after tax and not including any benefits you get)


Lunch Debts

We kindly ask you to ensure that you have paid for each school lunch as soon as possible. Most families are up to date – thank you for this. This is very important for Year 6 pupils who leave us because it causes major payment problems if you have not paid before the end of the term. Any outstanding balance to our year 6, will be refunded.

61 views0 comments

Comments


bottom of page