SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Mabolgampau
Rydym yn gyffrous ac yn parhau gyda ein mabolgampau wythnos nesaf! Mae'r tywydd yn argoeli i fod yn dda. Ar 19-20 gradd celsius ac ychydig yn gymylog, ni ragwelir y bydd yn boeth iawn. Serch hynny, cofiwch hetiau a hufen amddiffyn rhag yr haul oherwydd gall plant losgi hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog.
Ni allaf aros i'ch gweld chi i gyd ar y dyddiau hynny! Mae gen i fy nghit chwaraeon yn barod!
Ffair Ysgol Yfory
Mae'r diwrnod bron â chyrraedd! Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers ein ffair ddiwethaf – felly rydym yn hen bryd i’r math hwn o ddigwyddiad gael ei gynnal. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am drefnu’r stondinau a’r digwyddiad.
Gobeithio gweld chi rhwng 11 a 3!
Ymweliad Ddoe
Yn ystod ddoe, cawsom ymweliad gan ein Partner Gwella Ysgolion a’i fos, ein Prif Bartner Gwella Ysgolion. Rydym mor falch o roi gwybod ichi eu bod mor hapus i weld y newid a’r gwelliant cyflym yn ein hysgol dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma amser i ddathlu pa mor bell yr ydym wedi dod fel ysgol. Yn ogystal, mae’n amser i ddathlu pwysigrwydd Teulu Panteg oherwydd cyfraniadau pob un sydd wedi gwneud gwahaniaeth – o staff a theuluoedd, i blant ac arweinwyr, mae pawb wedi cymryd eu rôl wrth wella ein gwasanaethau ysgol er budd lles a dysgu ein plant.
Diwrnod Symud i Fyny
Braf oedd gweld rhai o’n plant newydd yn cyrraedd heddiw i gael amser yn eu dosbarthiadau newydd. Mae hefyd wedi bod yn amser anhygoel i weld y plant yn treulio amser gyda’u hathro dosbarth newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwyf mor falch ein bod yn gallu cynnal y dyddiau pontio hyn unwaith eto.
Credaf fod yr holl ddysgu yn dibynnu ar adeiladu perthnasoedd cryf. Felly, dyna pam rydym yn gwneud cymaint o ymdrech i sicrhau bod plant a staff yn gallu meithrin perthnasoedd cyn yr Haf ac edrych ymlaen at y flwyddyn ysgol newydd.
Dyma'r ail o'n diwrnodau pontio. Ddydd Iau, 14eg o Orffennaf, byddwn yn cynnal ein trydydd diwrnod pontio, sef y diwrnod olaf.
Hwdis Blwyddyn 6
Os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 6, peidiwch ag anghofio archebu eich Hwdis Ymadawyr trwy Civica Pay. Os ydych yn cael problem, cysylltwch â'r swyddfa cyn gynted â phosibl.
Arian Cinio
Sicrhewch eich bod yn cadw ar ben taliadau arian cinio trwy Civica Pay. Nid yw'r gegin i fod i ddarparu ciniawau i unigolion sydd â dyled. Os ydych yn meddwl y byddwch yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim, dilynwch y ddolen hon i ddarganfod mwy:
O fis Medi ymlaen, rydym yn rhagweld y bydd Torfaen mewn sefyllfa i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2.
Parcio
Sicrhewch eich bod yn parcio'n synhwyrol ac yn ddiogel wrth ddefnyddio ein maes parcio. Os ydym i gyd yn meddwl am eraill, bydd yn gwneud i'r maes parcio lifo a bydd yn fwy diogel i bawb. Hoffwn ofyn i chi diffodd eich injans tra byddwch wedi parcio ac yn aros yn y maes parcio.
Rwy'n dymuno penwythnos hyfryd i chi i gyd!
Sports Days
It’s full steam ahead for our sports days next week! The weather promises to be good. At around 19-20 degrees celsius and slightly over cast, it’s not forecast to be extremely hot. Nevertheless, please remember hats and sun protection cream because children can burn even on a cloudy day.
I can’t wait to see you all on those days! I have my sports kit ready!
School Fete Tomorrow
The day is nearly upon us! It’s been three years since our last fete - so we are well overdue this type of event. I am really thankful to the PTA for arranging the stalls and the fate.
I hope to see you between 11 and 3!
Yesterday’s Visit
During the course of yesterday, we had a visit from our School Improvement Partner and his superior, our Principle School Improvement Partner. We are so pleased to let you know that they were so happy to see the rapid change and improvement within our school over the last year. This is a time to celebrate how far we have come as a school. In addition, it is a time to celebrate the importance of Teulu Panteg (the Panteg Family) because it is each and everyone’s contributions that has made the difference - from staff and families, to children and leaders, everyone has taken their role in improving our school for the benefit of our children’s wellbeing and learning.
Moving Up Day
It was so great to see some of our new children arriving today to have time in their new classes. It has also been an amazing time to see the children spend time with their new class teacher for next year. I am so pleased that once again we are able to hold these transition days.
I believe that all learning relies on the strong building of relationships. So, that is why we put so much effort into ensuring that children and staff can build relationships before the Summer and look forward to the new school year.
This has been the second of our transition days. On Thursday, 14th of July, we will hold our third and final transition day.
Year 6 Hoodies
If your child is in Year 6, don’t forget to order your Leavers’ Hoodies via Civica Pay. If you are having a problem, please contact the office asap.
Dinner Money
Please ensure that you keep on top of dinner money payments via Civica Pay. The kitchen are not meant to provide dinners to individuals with debt. If you think you will be eligible for free school dinners, follow this link to find out more:
From September, we anticipate that Torfaen will be in a position to provide free school meals to all children from Reception to Year 2.
Parking
Please ensure that you park sensibly and safely when using our car park. If we all think about others, it will make the car park flow and be safer for all. I also make a plea that you turn off your engines while parked and waiting in the car park.
I wish you all a lovely weekend!
Comments