top of page
Search
officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 21.06.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,

Dathliadau'r Urdd Dydd Gwener!

Peidiwch ag anghofio bod gennym ni ein dathliadau Urdd ddydd Gwener yma. I ddathlu 100 mlynedd o Urdd Gobaith Cymru, rydym yn cynnal gweithgareddau i ddathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Rydym yn gofyn i bawb wisgo coch am y diwrnod. Nid oes tâl ar gyfer hyn.


Mae'r gegin hefyd yn paratoi cinio Cymreig y diwrnod hwnnw. Y fwydlen fydd:

Selsig Cymreig Porc a Chennin, Sglodion, Pice ar y Maen, Llysiau Tymhorol a Chacen Cymreig.


Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Gall eich plentyn archebu ar y diwrnod.


Mae hyn yn golygu nad oes opsiwn arall ar gael ar y diwrnod hwn. Fodd bynnag, darperir ar gyfer y rhai ag alergeddau a darperir ar gyfer y rhai sydd â dietau penodol hefyd.


Noson Olaf Cwis Eco

Rydym mor falch o'r ffaith bod ein tîm Eco-Cwis neithiwr wedi dod yn drydydd yn y gystadleuaeth. Roedd rhai cwestiynau caled iawn a gwnaethant yn rhyfeddol o dda - gan sgorio marciau llawn mewn llawer o'r rowndiau! Dim ond 4 pwynt oedd rhwng ein tîm ni a’r tîm buddugol.


Enillon nhw £40 ar gyfer ein hysgol, tystysgrifau a medalau.


Diolch i Miss Sibthorpe am drefnu a hyfforddi'r tîm!

Da iawn Ophelia

Rydym yn falch iawn o Ophelia yn ein dosbarth Derbyn a redodd y 5k ‘Ras for Life’. I rywun mor ifanc, mae hwn yn gyflawniad gwych yn ogystal â bod er budd achos da!


Twrnament Rygbi

Ddydd Iau, bydd ein tîm rygbi yn mynd i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni er mwyn cymryd rhan yn nhwrnamaint rygbi Urdd. Maen nhw wedi bod yn hyfforddi'n galed! Mae Teulu Panteg yn dymuno'r gorau i chi!


Proffil Llywodraethwyr


Rydym yn parhau heddiw i gyflwyno rhai o'n Corff Llywodraethol trwy fywgraffiad byr! Tro Huw Coburn yw hi heddiw.


Fy enw i yw Huw Coburn ac ar hyn o bryd fi yw cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Panteg, rôl rwyf wedi ei dal ers Ionawr 2020. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn llywodraethwr yn yr ysgol ers 2014. Mae gennyf ddau fachgen, un sydd bellach wedi symud ymlaen i ysgol uwchradd ac un arall ym mlwyddyn pump ar hyn o bryd. Rwy'n gweithio fel rheolwr risg yn un o'r pedwar cwmni gwasanaeth proffesiynol mawr, Deloitte LLP. Mae fy ngwaith fel arfer yn ymwneud â delio â’r annisgwyl, datrys problemau a chamu i’r adwy pan fydd pethau wedi mynd o chwith felly mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol. Rwy'n siarad Cymraeg yn rhugl ar ôl mynychu Ysgol Gyfun Gwynllyw, ond mae fy Nghymraeg angen fach o ymarfer. Tu allan i’r gwaith dwi’n mwynhau canu’r piano, rhedeg (yn araf ar hyd y gamlas!) a chefnogi Morgannwg yn y criced.


Tîm Diagnostig ADY Ysgol Panteg

Rydym mor falch ein bod wedi sefydlu tîm o staff o fewn ein hysgol er mwyn helpu i amlygu rhwystrau posibl i ddysgu a allai fod gan blant. Rydym yn sylweddoli y gall rhestrau aros am brofion fel sgrinio am ddyslecsia a materion cyfathrebu cymdeithasol gymryd amser hir. Yn Ysgol Panteg, rydym bellach wedi sefydlu tîm sy’n gallu chwilio am rwystrau i ddysgu i blant, cwblhau asesiadau cychwynnol gan ddefnyddio profion o ansawdd da a chynhyrchu rhestr o strategaethau defnyddiol i gefnogi plant.


Mae ymyrraeth gynnar ar gyfer plant sydd ag un rhwystr neu fwy i ddysgu yn allweddol.


Mae hyn yn rhan o’n gweledigaeth fel ysgol i feithrin plant mewn amgylchedd caredig, uchelgeisiol, angerddol a theuluol.


Fel Pennaeth, rwy’n falch ein bod wedi sefydlu’r tîm cyntaf o’i fath o staff ymroddedig. I mi, mae'n gwneud i mi chwyddo gyda balchder oherwydd mae gennym staff sy'n gofalu'n fawr am ein plant ac eisiau rhoi'r cyfle gorau iddynt yn eu dysgu.


Noson Agored Blwyddyn 5 yng Ngwynllyw

Nos Fercher nesaf, 29ain o Fehefin, mae Ysgol Gwynllyw yn cynnal noson agored i ddisgyblion Blwyddyn 5 a’u rhieni. Unrhyw bryd o 15:30 ymlaen mae cyfle i fynd i gwrdd â staff, edrych o gwmpas yr ysgol a gofyn cwestiynau. Yna am 17:30 mae cyflwyniad a fydd yn nodi sut rydym yn trosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd. Mae hwn yn werth ei fynychu.


Yn sgîl hyn, os hoffech chi gasglu eich plentyn yn gynnar ar y diwrnod hyn, am 3 o’r gloch, rhowch wybod i’r swyddfa. Gofynwn yn garedig eich bod chi ddim yn troi lan heb rybudd, mae diwedd y dydd yn brysur iawn ac rydyn ni eisiau sicrhau bod pawb yn ddiogel.


Mae mor wych, nawr bod cyfyngiadau ar Covid-19 wedi lleddfu, y gallwn wneud y pethau pwysig hyn eto!


Nodyn i'ch atgoffa o Ddiwrnodau Symud i Fyny

Dyma nodyn cyflym i'ch atgoffa ein bod yn cynnal ein diwrnodau symud i fyny nesaf ar Ddydd Gwener 1af o Fehefin, a Dydd Iau, 14eg o Fehefin.


Tywydd Poeth

Cofiwch anfon hetiau, poteli dŵr ac eli haul at eich plentyn gyda sgôr SPF addas. Yng ngwersi addysg gorfforol ein plant, maent yn ymarfer eu mabolgampau yn yr awyr agored.

 

Urdd Celebrations on Friday!

Don’t forget that this Friday, we have our Urdd celebrations. To celebrate 100 years of Urdd Gobaith Cymru, we are holding activities to celebrate the Welsh language and culture. We are asking everyone to wear red for the day. There is no charge.


The kitchen is also preparing a Welsh lunch on that day. The menu will be:

Welsh Pork and Leek Sausages, Chips, Welsh Cakes, Seasonal Vegetables and Welsh Cupcakes.

There is no need to pre-book. Your child can order on the day.


This means that there is no other option available on this day. However, those with allergies and those with specific diets will be catered for.


Eco-Quiz Last Evening

We are so proud of the fact that last night our Eco-Quiz team came third place at the contest. There were some really hard questions and they did amazingly well - scoring full marks in many of the rounds! There was only 4 points between our team and the winning team.


They won £40 for our school, certificates and medals.


Thank you to Miss Sibthorpe for arranging and training the team!


Da iawn Ophelia

We are really proud of Ophelia in our Reception class who ran the 5k ‘Race for Life’. For someone so young, this is a fantastic achievement as well as being in aid of a good cause!


Rugby Tournament

On Thursday, our rugby team will be going to Ysgol Gyfun Cwm Rhymni in order to take part in the Urdd’s rugby tournament. They have been training hard! Teulu Panteg wishes you the best!


Governor Profile

We continue today to introduce some of our Governing Body though a short biography! Today it’s Huw Coburn’s turn.


My name is Huw Coburn and am currently the chair of governors at Ysgol Panteg, a position I’ve held since January 2020. However, I have been a governor at the school since 2014. I have two boys, one who has now moved onto secondary school and another currently in year five. I work as a risk manager at one of the big four professional service firms, Deloitte LLP. My work usually involves dealing with the unexpected, solving problems and stepping in when things have gone wrong so the last few years have been particularly challenging. I am a fluent Welsh speaker having attended Ysgol Gyfun Gwynllyw, but after all this time am a little rusty. Outside of work I enjoy playing the piano, running (slowly along the canal!) and supporting Glamorgan in the cricket.


Ysgol Panteg’s ALN Diagnostic Team

We are so proud to have set up a team of staff within our school in order to help flag potential barriers to learning that children might have. We realise that waiting lists for tests such as screening for dyslexia and social communication issues can take a long time. At Ysgol Panteg, we have now established a team who can look for barriers to learning for children, complete initial assessments using good quality tests and produce a list of useful strategies to support them.


Early intervention for children who have one or more barrier to learning is key.


This is all part of our vision as a school to nurture children in kind, ambitious, fired-up and family environment.


As Headteacher, I am proud that we have established this first of its kind team of dedicated staff. For me, it makes me swell with pride because we have staff who care deeply for our children and what to give them the best chance in their learning.


Year 5 Open Evening at Gwynllyw

Next Wednesday, 29th of June, Ysgol Gwynllyw are holding an open evening for Year 5 pupils and their parents. Anytime from 15:30 there is a chance to go and meet with staff, look around the school and ask questions. Then at 17:30 there is a presentation which will set out how we transition from primary schools to secondary. This is well worth attending.


As a result, if you would like to collect your child early on this day, at 3 o'clock, please let the office know. We kindly ask that you do not turn up without warning, the end of the day is very busy and we want to make sure everyone is safe and calm.


It is so wonderful, now that restrictions on Covid-19 have eased, that we can do these important things again!


Reminder of Moving Up Days

This is just a quick reminder that we have our next moving up days on Friday 1st of June, and Thursday, 14th of June.


Hot Weather

Please remember to send your child with hats, water bottles and sun cream with a suitable SPF rating. In our children’s physical education lessons, they are practising their sports day activities outside.

80 views0 comments

Comments


bottom of page