top of page
Search
  • officeysgolpanteg

Bwletin y Pennaeth - 13.05.2022 - Heads Bulletin

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION


Annwyl Deuluoedd,



Pasbort i Bobman

Diolch i'r rhai a gyfrannodd eu syniadau ychydig wythnosau yn ôl i egluro pa fathau o sgiliau bywyd y dylai ein plant fod yn eu datblygu. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar ddatblygu rhaglen o weithgareddau sgiliau bywyd ar gyfer pob oedran o’r Meithrin i Flwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd. Rydym wedi cydweithio ag Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg y Fenni ac Ysgol Bro Helyg i ddatblygu hyn. Rydym yn hynod gyffrous am y posibilrwydd ac wedi bod yn gweithio i droi'r sgiliau hyn yn basbort ar gyfer dysgu. Wrth addysgu'r pasbort hwn, byddwn yn ymdrin â naw maes allweddol bob blwyddyn gyda'n plant. Y meysydd hynny yw:

-Coginio a Diogelwch yn y Gegin

-Hunan-Ofal (gan gynnwys gofalu am y cartref)

-Ffitrwydd a Chadw'n Heini

-Cyfathrebu a Sgiliau Cymdeithasol

-Ymgysylltu â'r Gymuned Leol

-Gofalu Am Ein Byd

-Gyrfaoedd

-Cymorth Cyntaf

-Cyllido a Delio ag Arian


Llwyddiant Sgïo i Marco

Rydym mor falch o Marco sydd wedi cymryd lle yng nghystadleuaeth sgïo Cymru gyfan. Fe gafodd ei sgorio fel y cyflymaf o dan 12 (gan ennill aur). Enillodd hefyd arian ar gyfer y categori bechgyn ysgol gynradd gyfan. Da iawn ti!


Taith Rygbi

Rydym hefyd mor falch o Hedd ac Arwel sydd ar hyn o bryd yn yr Eidal ar eu taith rygbi gyntaf erioed!


Diwrnod Aml Chwaraeon yr Urdd

Mae diwrnod Aml-Chwaraeon yr Urdd nôl am wyliau’r Sulgwyn, yn ardal Gwent.


Gweler dyddiadau amseroedd a lleoliadau isod:

Y Fenni (Canolfan Hamdden y Fenni) – 30/05/22 (9yb-3yp)

Torfaen (Ysgol Panteg)- 31/05/22 (9yb-3yp)

Casnewydd (Ysgol Gwent Is Coed) 1/06/22 (9.yb-3yp)



Cost diwrnod yw £19. Gweler pamffled wedi atodi ar gyfer fwy o wybodaeth.


Swyddi i ddod yn Ysgol Panteg

Ydych chi'n addas ar gyfer un o'r swyddi hyn yn Ysgol Panteg? Gwnewch gais heddiw! Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n addas i weithio yn un o'r rolau hyn? Anogwch nhw i wneud cais!


-Swyddog Cefnogi Ysgol Llawn Amser, Lefel 2 / Derbynnydd (37 awr yr wythnos)


-NEWYDD!!! Swyddogol Cefnogi Ysgol Rhan Amser, Lefel 2 (12.5 awr)


-Cynorthwyydd Addysgu Cynllun Prosiect Blwyddyn Allan


Cyfarfodydd Cynnydd a Lles

Gan ein bod ni bellach yn nhymor yr Haf, rydym unwaith eto yn cynnig y cyfle i chi gwrdd ag athro eich plentyn. Nid yw hwn yn gyfarfod gorfodol, gan y byddwn yn cael adroddiad interim byr, un dudalen unwaith eto cyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, rydym wedi neilltuo 3:30pm-5:30pm ar y 6ed a’r 7fed o Fehefin os hoffech gysylltu gydag athro/athrawes eich plentyn, trafod pontio, gofyn cwestiynau am y camau nesaf neu ddim ond cael gwybod am gynnydd eich plentyn ers yr adroddiad a gawsoch cyn y Pasg.


Er mwyn trefnu sgwrs ffôn neu gyfarfod Timau Microsoft gydag athro eich plentyn, llenwch y ffurflen hon isod. Y cyntaf i’r felin caiff falu! Dyddiad cau bwcio fydd Ddydd Llun, 23ain o Fai am 12:00yp.



Wythnos Cerdded i'r Ysgol

Cofiwch, os yw’n bosib i’ch teulu, ein bod yn hyrwyddo wythnos ‘Cerdded i’r Ysgol’ yr wythnos nesaf!

Cinio’r Jiwbilî Platinwm

Ddydd Gwener, 27ain o Fai, bydd cyfle i’r plant cael cinio arbennig i ddathlu’r Jiwbili Platinwm. Mae’r adran arlwyo wedi trefnu bwydlen ar gyfer y diwrnod. Yr wythnos nesaf, byddwn yn casglu gwybodaeth am bwy fydd eisiau’r cinio hyn.

 

Pasbort i Bobman (Passport to Everywhere)

Thank you to those who contributed their ideas a few weeks ago to explain what types of life skills our children should be developing. Since then, we have been working hard on developing a programme of life skills activities for all ages from Nursery to Year 9 in high school. We’ve worked together with Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg Y Fenni and Ysgol Bro Helyg in order develop this. We are incredibly excited at the prospect and have been working to turn these skills into a passport for learning. In teaching this passport, we will be covering nine key areas every year with our children. Those areas are:

-Cooking and Safety in the Kitchen

-Self-Care (including looking after the home)

-Fitness and Keeping Healthy

-Communication and Social Skills

-Engaging with the Local Community

-Looking After Our World

-Careers

-First Aid

-Budgeting and Dealing with Money


Skiing Success for Marco

We are so proud of Marco who has taken place in a whole Wales skiing competition. He was scored as the fastest under 12 (winning gold). He also won silver for the entire primary school boys category. Da iawn ti!


Rugby Tour

We are also so proud of Hedd and Arwel who are currently in Italy on their first ever rugby tour!


Urdd Multi-Sports Days

Urdd multi-sport activity day are back for the Whitsun week in the Gwent area.


See timetable and locations below:

Abergavenny (Abergavenny Leisure Center) - 30/05/22 (9 am-3pm)

Torfaen (Ysgol Panteg) - 31/05/22 (9 am-3pm)

Newport (Ysgol Gwent Is Coed) 1/06/22 (9.am-3pm)


To register to attend one of these sports activity days, follow this link:


The cost of a day is £19. See attached leaflet for more information.


Upcoming Jobs at Ysgol Panteg

Are you suitable for one of these jobs at Ysgol Panteg? Apply today! Do you know someone who would be suitable to work in one of these roles? Urge them to apply!


-Full Time School Support Officer, Level 2 / Receptionist (37 hours per week)


-NEW!!! Part Time School Support Officer, Level 2 (12.5 hours per week)


-Gap Year Teaching Assistant


Pupil Progress and Wellbeing Meetings

Now that we are in the Summer term, we are once again offering you the opportunity to meet with your child’s teacher. This is not a compulsory meeting, since we will be having short, one page interim report once again before the end of the year. However, we have allocated 3:30pm-5:30pm on the 6th and 7th of June if you would like to touch base with your child’s teacher, discuss transition, ask questions about next steps or simply find out about your child’s progress since the report before Easter.


In order to book a telephone conversation or Microsoft Teams meeting with your child’s teacher, simply fill out this form below. First come first served with regards to time slots! The booking deadline will be Monday, May 23rd at 12:00pm.



Walk to School Week

Remember, if it is possible for your family, that we are promoting ‘Walk to School’ week next week!


Platinum Jubilee Lunch

On Friday, May 27th, the children will have the opportunity to have a special dinner celebrating the Platinum Jubilee. The catering department has organized a menu for the day. Next week, we'll be collecting information on who will want this lunch.

101 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page