Rolau Staff | Staff Roles
Mae llwyddiant 'Yr Academi' yn dibynnu ar dîm ymroddedig o staff addysgu, cynorthwywyr addysgu, ac arbenigwyr, oll yn cydweithio i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae pob aelod o’r tîm yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod disgyblion yn derbyn addysg gyflawn, unigolyddol wedi’i theilwra i’w hanghenion penodol.
Staff Addysgu
Yr athro dosbarth yn 'Yr Academi' sydd â'r prif gyfrifoldeb am gyflwyno'r cwricwlwm pwrpasol a chreu amgylchedd dysgu cadarnhaol, strwythuredig. Wedi’i hyfforddi mewn strategaethau anghenion dysgu ychwanegol penodol, mae’r athro yn gweithio’n agos gyda disgyblion, gan addasu gwersi i gyd-fynd ag arddull dysgu a galluoedd pob plentyn. Mae rôl yr athro yn ymestyn y tu hwnt i gyfarwyddyd academaidd, gan eu bod hefyd yn helpu i ddatblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion. Maent yn monitro cynnydd pob disgybl trwy gynlluniau datblygu unigol (CDU) ac yn sicrhau bod disgyblion yn parhau i fod yn ymroddedig ac yn llawn cymhelliant, gan feithrin ymdeimlad o gyflawniad. Mae cydweithio gydag athrawon eraill yn sicrhau dilyniant yn nysgu’r plant pan fyddant yn mynychu dosbarthiadau prif ffrwd am ran o’r diwrnod.
Cynorthwyydd Addysgu
Mae ein cynorthwyydd dysgu yn 'Yr Academi' yn darparu cymorth ymarferol hanfodol. Gan weithio’n agos gyda’r athrawes, mae ein cynorthwyydd addysgu yn helpu gweithredu strategaethau dysgu unigol ac yn cynorthwyo disgyblion i reoli tasgau o ddydd i ddydd. Mae eu rôl yn hanfodol o ran cynnal amgylchedd dysgu tawel, â ffocws, gan gynnig cymorth un-i-un neu grŵp bach yn aml i ddisgyblion y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i barhau i ymgysylltu neu reoli eu hemosiynau. Mae ein cynorthwyydd addysgu wedi’i hyfforddi i ddeall anghenion unigryw pob disgybl, gan eu helpu gyda phopeth o dasgau academaidd i heriau synhwyraidd neu ymddygiadol.
Arbenigwyr
Mae arbenigwyr, gan gynnwys therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, a seicolegwyr addysg, yn darparu cymorth wedi'i dargedu a chyngor i’r 'Yr Academi.' Mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn cydweithio â'r tîm addysgu i asesu anghenion penodol disgyblion a datblygu ymyriadau wedi'u teilwra. Gall arbenigwyr gynnal asesiadau, arwain sesiynau therapiwtig, neu roi arweiniad ar ddefnyddio technoleg gynorthwyol neu strategaethau synhwyraidd. Mae eu harbenigedd yn sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth cyfannol sydd ei angen arnynt i ffynnu yn academaidd ac yn emosiynol.
The success of 'Yr Academi' relies on a dedicated team of teaching staff, teaching assistants, and specialists, all working together to support pupils with additional learning needs (ALN). Each member of the team plays a crucial role in ensuring that pupils receive a well-rounded, individualised education tailored to their specific needs.
Teaching Staff
The class teacher in 'Yr Academi' holds primary responsibility for delivering the bespoke curriculum and creating a positive, structured learning environment. Trained in additional learning needs specific strategies, the teacher works closely with pupils, adapting lessons to match each child’s learning style and abilities. The teacher's role extends beyond academic instruction, as they also help develop pupils’ social and emotional skills. They monitor each pupil's progress through individualised development plans (IDPs) and ensure that pupils remain engaged and motivated, fostering a sense of achievement. Collaboration with other teachers ensures continuity in the children’s learning when they attend mainstream classes for part of the day.
Teaching Assistant
Our teaching assistant in 'Yr Academi' provides essential hands-on support. Working closely with the teacher, our teaching assistant helps implement individual learning strategies and assist pupils in managing day-to-day tasks. Their role is vital in maintaining a calm, focused learning environment, often offering one-on-one or small-group support for pupils who may need extra help to stay engaged or manage their emotions. Our teaching assistant is trained to understand the unique needs of each pupil, helping them with everything from academic tasks to sensory or behavioural challenges.
Specialists
Specialists, including speech and language therapists, occupational therapists, and educational psychologists, provide targeted support and advice to 'Yr Academi.' These professionals collaborate with the teaching team to assess pupils' specific needs and develop tailored interventions. Specialists may conduct assessments, lead therapeutic sessions, or provide guidance on using assistive technology or sensory strategies. Their expertise ensures that pupils receive the holistic support they need to thrive both academically and emotionally.