top of page
Hands.jpg

Cefndir Yr Academi | Yr Academi's Background

Yr Academi Logo (Dark Background) Version 2.png

Yn Ysgol Panteg, mae disgyblion wrth galon popeth a wnawn, gan sicrhau eu bod yn gadael ein hysgol gyda’r hyder i ffynnu mewn bywyd. Mae gennym ddealltwriaeth ddofn o anghenion dysgu ychwanegol ein disgyblion ac yn ymfalchïo mewn adnabod ein plant yn dda. Ein cenhadaeth yw darparu'r cymorth gorau posibl i'w helpu i lwyddo. Mae ein holl ddisgyblion yn cael eu meithrin i ddod yn unigolion caredig, uchelgeisiol, tosturiol a gwydn. Mae cynhwysiant yn ganolog i’n hysgol, ac rydym yn cofleidio’n llawn ein gwerth o fod yn deulu.

 

I gyfoethogi’r ymrwymiad hwn, rydym wedi datblygu darpariaethau dysgu ymhellach a dosbarth anghenion dysgu ychwanegol, ‘Yr Academi’. Mae hyn yn rhan annatod o'n hymateb graddedig anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r dosbarth hwn yn darparu haen ychwanegol o gefnogaeth i blant ag anghenion mwy cymhleth yn ein lleoliad prif ffrwd.

 

Mae 'Yr Academi' yn cynnig cwricwlwm pwrpasol wedi'i gynllunio ar gyfer uchafswm o 12 disgybl, dan arweiniad staff profiadol. Mae’n gwasanaethu plant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6, gan ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at y cwricwlwm prif ffrwd, hyd yn oed gyda chymorth ychwanegol.

 

Yn dilyn yr arweiniad gorau gan Lywodraeth Cymru ac ymchwil y DU, mae disgyblion 'Yr Academi' yn cymryd rhan mewn hanner diwrnod o ddarpariaeth pwrpasol ac yn ailymuno â'u dosbarthiadau prif ffrwd ar gyfer gwersi priodol a hygyrch. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod wedi'u hintegreiddio'n gymdeithasol, yn cynnal perthnasau, ac nad ydynt yn ynysig, tra’n parhau i barhau i wneud cynnydd yn erbyn eu targedau personol unigol.

 

I hwyluso’r ddarpariaeth hon, rydym wedi buddsoddi mewn addasu adeilad yr ysgol i greu amgylchedd dysgu addas i’r pwrpas, gan gynnwys dodrefn addasol a thechnoleg gynorthwyol.

 

Bydd hyn yn grymuso pob plentyn hyd eithaf ei (g)allu.

 

 

Dr. Matthew James Williamson-Dicken,

MA(Ed), PGCert, BA(Hons), CMgr FCMI

Pennaeth

Children coloring
Children Playing
Happy children

At Ysgol Panteg, pupils are at the heart of everything we do, ensuring they leave our school with the confidence to thrive in life. We have a deep understanding of our pupils' additional learning needs and take pride in knowing our children well. Our mission is to provide the best possible support to help them succeed. All our pupils are nurtured to become kind, ambitious, compassionate, and resilient individuals. Inclusion is central to our school, and we fully embrace our value of being a family.

 

To enhance this commitment, we have developed learning provisions further and an additional learning needs class, ‘Yr Academi’. This is as an integral part of our additional learning needs graduated response. This class provides an extra layer of support for children with more complex needs within our mainstream setting.

 

'Yr Academi' offers a bespoke curriculum designed for a maximum of 12 pupils, led by experienced staff. It serves children from Year 2 to Year 6, providing a supportive learning environment for those who find it difficult to access the mainstream curriculum, even with additional support.

 

Following the best guidance from the Welsh Government and UK research, pupils in 'Yr Academi' participate in a half-day of bespoke provision and rejoin their mainstream classes for appropriate and accessible lessons. This ensures that they remain socially integrated, maintain friendships, and are not isolated, whilst also progressing against their individual targets.

 

To facilitate this provision, we have invested in modifying the school building to create a fit-for-purpose learning environment, including adaptive furniture and assistive technology.

 

This will empower every child to the fullest of their abilities.

Dr. Matthew James Williamson-Dicken,

MA(Ed), PGCert, BA(Hons), CMgr FCMI

Head

Girls Learning.jpg
bottom of page